Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dehongli cyffredinolLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);

mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 2007(1);

[F1ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;] ;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(2).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)(3).

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae i—

“yr ardal deithio gyffredin”(4);

“awyren”(5);

“llong”(6);

“porthladd”(7),

yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.

[F2(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—

(a)bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu

(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.]

RHAN 2LL+CGofyniad i ddarparu gwybodaeth

Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredinLL+C

3.—(1Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at—

(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac

(ii)sydd wedi bod mewn man y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod pan fo’r person yn cyrraedd.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys [F3

(a)person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2,

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(b) o Atodlen 2 (gweithwyr gweithredol, cynnal a chadw a diogelwch sy’n gweithio ar Dwnnel y Sianel), neu

(c)person a ddisgrifir ym mharagraff (3), y mae’r amod ym mharagraff (4) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef.]

[F4(3) Y disgrifiadau o bersonau yw—

(a)person sy’n weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd, o fewn ystyr paragraff 6 o Atodlen 2;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 (meistri a morwyr);

(c)person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (peilotiaid ar longau masnach);

(d)person a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 2 (arolygwyr a syrfewyr llongau);

(e)person a ddisgrifir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 (criw awyren);

(f)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(a) neu (c) o Atodlen 2 (gyrwyr, criw a phersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cysylltiad â Thwnnel y Sianel).

(4) Mae’r amod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson os nad yw’r person, ar ei daith i Gymru, ond wedi teithio—

(a)ar long neu awyren nad yw’n cludo teithwyr;

(b)mewn rhan o long neu awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.]

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwrLL+C

4.—(1Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted â bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—

(a)gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a

(b)pan fo P yn cyrraedd Cymru yng nghwmni plentyn y mae gan P gyfrifoldeb amdano, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn,

(2Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd--

(a)rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a

(b)rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).

(3Nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (1) os yw’r wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu’n electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw, cyn i P gyrraedd Cymru.

(4Ond pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i P ddarparu tystiolaeth i swyddog mewnfudo bod y wybodaeth am deithiwr wedi ei ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.

(5Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb am P, yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i hysbysu ynghylch newidiadau i wybodaeth am deithiwrLL+C

5.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8 i P breswylio mewn mangre (ac i beidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 12), a

(b)pan fo gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P yn newid cyn diwedd y diwrnod hwnnw.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru cyn gynted ag y bo’n resymol ymarferol, gan ddefnyddio’r cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(3Pan fo P yn blentyn y mae gan berson arall gyfrifoldeb amdano—

(a)nid yw’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru o dan baragraff (2), a

(b)mae’n ofynnol i’r person arall, ar ran P, ddarparu’r wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei [F5diweddaru] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant neu o dan reolaeth personLL+C

6.  Nid oes dim yn rheoliad 4 neu 5 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CGofyniad i ynysu etc.

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas UnedigLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F6wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] , neu

(b)sydd —

(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F7wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig] , a

F8(ii)[F9sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2Rhaid i P—

(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu

(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.

(3Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu

(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—

(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F10... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);

(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—

(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu

(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,

mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;

(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);

(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.

(5Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—

(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru [F11sy’n addas i breswylio ynddi] tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(6Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.

(7Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas UnedigLL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a

(b)sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi [F12bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] ;

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F137(3); a]

(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);

(b)person—

(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,

(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a

(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

(3O ran P—

(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F14(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu

(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4Rhaid i P hefyd—

(a)cyn cyrraedd Cymru, neu

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

Gofynion ynysu: esemptiadauLL+C

9.[F15(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—

(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;

(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;

ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.]

[F16(2)]  Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym [F17mharagraff 1(2)] o’r Atodlen honno;

(b)ym mharagraffau 2 i [F1838] o Atodlen 2.

Gofynion ynysu: eithriadauLL+C

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.

(2Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—

(a)rheoliad 7(3);

(b)rheoliad 8(3)(b).

(3Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan [F19i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).]

(4Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);

(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—

(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu

(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;

(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;

(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;

(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;

(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;

(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a

(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;

(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;

(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;

(jc)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;

(jd)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;

F20(je). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20(jf). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20(jg). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F21(jh)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—

(i)bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,

(ii)bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a

(iii)bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(ji)pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;

(jj)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;]

(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)aelod o deulu P;

(ii)ffrind agos.

(5O ran P—

(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu

(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,

caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.

(6Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(7Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—

(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(8);

(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.

(8At ddibenion y rheoliad hwn—

[F22mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2]

[F22mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2]

[F23(a)] ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture) yw tyfu—

(i)

llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,

(ii)

llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,

(iii)

ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,

(iv)

coed sy’n dwyn ffrwyth,

(v)

gwinwydd a choesynnau, neu

(vi)

madarch;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)

atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu

(ii)

hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(9) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—

(i)

cynnal a chadw cnydau,

(ii)

cynaeafu cnydau,

(iii)

codi twneli a’u datgymalu,

(iv)

gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,

(v)

hwsmonaeth cnydau,

(vi)

pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,

(vii)

paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,

(viii)

gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,

(ix)

gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.

F24(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F24(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F24(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F24(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad ar bersonau sydd â chyfrifoldeb am blentynLL+C

11.  Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwrnod olaf yr ynysuLL+C

12.  At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod [F25yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Rhan 4LL+CGorfodi a Throseddau

Gorfodi gofyniad i ynysuLL+C

13.—(1Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 7(3) neu 8(3)(b), caiff y cwnstabl—

(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi,

(b)symud P ymaith i’r fangre, neu

(c)pan na fo’n ymarferol neu’n briodol cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b) o dan yr amgylchiadau, symud P ymaith i fangre wedi’i threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).

(2Caiff cwnstabl sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(3Pan fo P yn blentyn yng nghwmni person sydd â chyfrifoldeb am y plentyn—

(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo’r person â’r cyfrifoldeb hwnnw i fynd â’r plentyn i’r fangre y mae’r plentyn yn preswylio ynddi, a

(b)rhaid i’r person, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i’r plentyn.

(4Caiff cwnstabl gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn.

(5Ni chaiff cwnstabl arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn oni fo’r cwnstabl yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

TroseddauLL+C

14.—(1Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —

(a)4(1) neu (4),

(b)5(2),

(c)7(2), (3) neu (5),

(d)8(3) neu (4),

(e)10(6), neu

(f)11

yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—

(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(3Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.

(4Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y [F26Rheoliadau hyn] yn cyflawni trosedd.

(5Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(7Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(10) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

ErlynLL+C

15.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

16.—(1Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—

(a)o dan reoliad 14(1) neu (2)—

(i)mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 4(1) neu (4), 5(2), neu 7(5), neu

(ii)mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11 sy’n ymwneud â’r gofyniad yn rheoliad 7(5), neu

(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.

(2Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y [F27Rheoliadau] hyn.

(3Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(4Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(6Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd—

(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 7(2), neu (3), 8(3) neu 11,

(b)o dan reoliad 14(3), neu

(c)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â rheoliad 7(2) neu (3), 8(3) neu 11,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £1000.

(7Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”) —

(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 4(1) neu (4), 5(2), 7(5), 8(4) neu 10(6), neu

(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).

(8Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(9Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—

(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a

(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig fydd—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.

(10Pa bynnag ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(11Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (10), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(12Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CRhannu gwybodaeth

Defnyddio a datgelu gwybodaethLL+C

17.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 18, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;

(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—

(i)gwybodaeth am deithiwr a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 4 neu 5;

(ii)gwybodaeth a ddarparwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn hysbysiad a wnaed o dan reoliad 7(5)(b), 8(4) neu 10(6);

(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a roddir i berson o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—

(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5).

(4Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (y “derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—

(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan —

(i)y Rheoliadau hyn, neu

(ii)Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb â’r Rheoliadau yma;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws, neu

(iii)rhoi effaith i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â’r diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â‘r diben hwnnw

(5Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ei ddatgelu i berson arall (“y derbynnydd”) mewn amgylchiadau lle ei bod hi’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael y wybodaeth—

(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan y Rheoliadau yma;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws yng Nghymru, neu

(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b) neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(6Ni all deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—

(a)at ddiben arfer swyddogaeth y deiliad o dan y Rheoliadau hyn;

(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);

(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);

(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(7Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu’r amgylchiadau lle y gellir fel arall ddatgelu’r wybodaeth yn gyfreithiol, neu lle y gellir defnyddio’r wybodaeth o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.

(8Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).

(9Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(10Ym [F28mharagraff (9)] , mae i “ddeddfwriaeth diogelu data” [F29a “data personol”] yr ystyr a roddir i “data protection legislation” [F30 rhodder “a] ” yr ystyr a roddir i “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(11).

HunanargyhuddoLL+C

18.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

(2Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(12) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—

(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CAdolygu a dod i ben

Adolygu’r gofynionLL+C

19.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, ac a yw’r gofynion hynny’n gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)erbyn 29 Mehefin 2020,

[F31(b)erbyn 27 Gorffennaf 2020;

(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;

(d)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Y Rheoliadau’n dod i benLL+C

20.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2020

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources