- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
(a)gweithredu gwrit neu warant meddiant;
(b)gweithredu gwrit neu warant adfer; neu
(c)danfon hysbysiad troi allan.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hysbysiad, y writ neu’r warant yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
(a)yn erbyn tresmaswyr yn unol â hawliad y mae rheol 55.6 (cyflwyno hawliadau yn erbyn tresmaswyr) o Reolau’r Drefniadaeth Sifil 1998(1) yn gymwys iddo;
(b)yn llwyr neu’n rhannol o dan adran 84A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol) o Ddeddf Tai 1985(2);
(c)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 2 neu Sail 2A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel) i Ddeddf Tai 1985(3);
(d)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7A, Sail 14 neu Sail 14A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr) i Ddeddf Tai 1988(4);
(e)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7 yn Atodlen 2 (sail ar gyfer meddiannu pan fo tenant yn marw ac na cheir hawl olyniaeth) i Ddeddf Tai 1988(5); neu
(f)yn llwyr neu’n rhannol o dan achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 1977(6).
(3) Pan fo paragraff 2(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir yn rheoliad 2(1)(a), (b) neu (c).
O.S. 1998/3132. Mewnosodwyd rheol 55.6 gan O.S. 2001/256 rh 17, Atodlen 1.
1985 p. 68, mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (“Deddf 2014”).
Amnewidiwyd Sail 2 gan adran 144 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 98(1) o Ddeddf 2014 ac Atodlen 7 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) (“Deddf 2005”). Mewnosodwyd Sail 2A gan adran 145 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan Atodlen 8 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (“Deddf 2004”) a chan Atodlen 3 i O.S. 2019/1458.
1988 p. 50. Mewnosodwyd Sail 7A gan adran 97(1) o Ddeddf 2014. Amnewidiwyd Sail 14 gan adran 148 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan adran 98(2) o Ddeddf 2014 ac Atodlen 7 i Ddeddf 2005. Mewnosodwyd Sail 14A gan adran 149 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan Atodlen 8 i Ddeddf 2004, O.S. 2019/1458, O.S. 2010/866 ac O.S. 2011/1396.
Diwygiwyd Sail 7 gan adran 162 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac Atodlen 25 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: