- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
19 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
20 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
21 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 59, 60(1) a (3), 61(1) a 333(4B) a (7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac, mewn perthynas ag erthygl 4(8), gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1070(4) ar bennu priodweddau pwyntiau mynediad di-wifr ardal fach yn unol â pharagraff 2 o Erthygl 57 o Gyfarwyddeb EU 2018/1972 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu’r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd(5), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”), a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Amnewidiwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(3) o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60(1), 61(1) a (3) a 333(7), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac Atodlen 3 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.
Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi, ac O.S. 2007/1388.
OJ Rhif L 234, 21.7.2020, t. 11.
OJ Rhif L 321, 17.12.2018, t. 36.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: