Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 No. 1130 (Cy. 257)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020

Gwnaed

am 11.40 a.m. ar 16 Hydref 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 1.00 p.m. ar 16 Hydref 2020

Yn dod i rym

am 6.00 p.m. ar 16 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 16 Hydref 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (r) mewnosoder—

(s)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed, ond yn rheoliadau 14(2)(ja), 14A(2)(ea) a 14D(3)(l) a pharagraffau 3(2)(la) a 4(2)(la) o Atodlen 4A, ei ystyr yw person a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020;

(t)ystyr “ardal diogelu iechyd leol” yw ardal a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 4A.;

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(8) At ddibenion rheoliadau 14, 14A a 14D ac Atodlen 4A, mae gweithgaredd neu ddigwyddiad “wedi ei drefnu”—

(a)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(3), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 12(2) a 13(1).

(9) At ddibenion paragraff (8)(b)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd neu’r digwyddiad yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai’r man lle y mae’r gweithgaredd neu’r digwyddiad yn digwydd yn fangre agored y mae’r person sy’n ei drefnu yn gyfrifol amdani.

(3Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan reoliad 14D, a pha un a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)erbyn 23 Hydref 2020;

(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 diwrnod sy’n dechrau ar 24 Hydref 2020;

(c)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod.

(4Yn rheoliad 14(2)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol” rhodder “darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol”;

(b)yn lle is-baragraff (ja) rhodder—

(ja)cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;.

(5Yn rheoliad 14A—

(a)ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (e) rhodder—

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal plant;

(ea)cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;;

(b)ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “ddigwyddiad awyr agored wedi ei drefnu” rhodder “ddigwyddiad wedi ei drefnu a gynhelir yn yr awyr agored”;

(c)hepgorer paragraffau (4) a (5).

(6Ar ôl rheoliad 14C mewnosoder—

RHAN 4BCyfyngiadau teithio

Cyfyngiadau ar deithio i ardaloedd ac o ardaloedd lle y mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel

14D.(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal a restrir yn Atodlen 4B, heb esgus rhesymol, fynd i ran o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol neu aros mewn rhan o Gymru o’r fath.

(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn rhan o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol, heb esgus rhesymol, adael Cymru at ddiben mynd i ardal a restrir yn Atodlen 4B.

(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol mewn rhan o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol neu mewn ardal a restrir yn Atodlen 4B (yn y drefn honno)—

(a)cael—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr un aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(b)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 6 neu 7 o Atodlen 4 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(c)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 4 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(4), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud y gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o’r tu allan i’r ardal;

(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi a chystadlu;

(g)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(h)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil —

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynychu, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

(i)mynd i angladd —

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(j)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(k)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(l)cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;

(m)cael gafael ar wasanaethau addysgol;

(n)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(o)symud cartref;

(p)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(q)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;

(r)teithio i gyrraedd man y tu allan i’r ardal.

(4) At ddibenion paragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i ran o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol, neu aros mewn rhan o Gymru o’r fath, i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i’r ardal

(5) At ddibenion paragraff (2), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael Cymru at ddiben mynd i ardal a restrir yn Atodlen 4B i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i’r ardal.

(7Yn rheoliad 18—

(a)ar ôl paragraff (4A) mewnosoder—

(4B) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 14D(1) neu (2), caiff y swyddog gyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw.;

(b)ym mharagraff (5)(a), yn lle “neu (4A)” rhodder “, (4A) neu (4B)”;

(c)ym mharagraff (6ZA), yn lle “paragraff” rhodder “rheoliad 14D(1) neu (2) neu baragraff”.

(8Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “neu 14B(1)” rhodder “, 14B(1) neu 14D(1) neu (2)”;

(b)ym mharagraff (3)(a), ar ôl “18(4A)(a),” mewnosoder “18(4B),”.

(9Yn Atodlen 4A—

(a)ym mharagraff 1(q)(viii), ar ôl “Menai” mewnosoder “(Bangor)”;

(b)ym mharagraff 3(2)—

(i)yn is-baragraff (d), yn lle “darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol,” rhodder “darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol”;

(ii)yn is-baragraff (l), yn lle “ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny” rhodder “wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny”;

(iii)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—

(la)cymryd rhan mewn gwasanaethau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gwasanaethau hynny;;

(c)ym mharagraff 4(2)—

(i)yn is-baragraff (d), yn lle “darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol,” rhodder “darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol”;

(ii)yn is-baragraff (l), yn lle “ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny” rhodder “wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny”;

(iii)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—

(la)cymryd rhan mewn gwasanaethau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;.

(10Ar ôl Atodlen 4A mewnosoder—

Rheoliad 14D

ATODLEN 4BArdaloedd cyfyngiadau teithio

Rhan 1: Lloegr

1.  Ardaloedd y canlynol, a ddynodir yn ardaloedd Haen 2 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Lefel Rhybudd COVID-19 Leol) (Uchel) (Lloegr) 2020(5) neu’n ardaloedd Haen 3 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Lefel Rhybudd COVID-19 Leol) (Uchel Iawn) (Lloegr) 2020(6)

Cumbria
  • Cyngor Bwrdeistref Barrow-in-Furness

De Swydd Efrog
  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Rotherham

  • Cyngor Dinas Sheffield

  • Cyngor Doncaster

Durham
  • Cyngor Sir Durham

Essex
  • Cyngor Basildon

  • Cyngor Bwrdeistref Brentwood

  • Cyngor Bwrdeistref Castle Point

  • Cyngor Bwrdeistref Colchester

  • Cyngor Dinas Chelmsford

  • Cyngor Dosbarth Braintree

  • Cyngor Dosbarth Epping Forest

  • Cyngor Dosbarth Maldon

  • Cyngor Dosbarth Rochford

  • Cyngor Dosbarth Tendring

  • Cyngor Dosbarth Uttlesford

  • Cyngor Harlow

Glannau Mersi
  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Knowsley

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wirral

  • Cyngor Bwrdeistref Halton

  • Cyngor Bwrdeistref Sefton

  • Cyngor Bwrdeistref St Helens

  • Cyngor Dinas Lerpwl

Gogledd Swydd Efrog
  • Cyngor Dinas Caerefrog

Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Sandwell

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Solihull

  • Cyngor Dinas Birmingham

  • Cyngor Dinas Wolverhampton

  • Cyngor Walsall

Gorllewin Swydd Efrog
  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Calderdale

  • Cyngor Dinas Leeds

  • Cyngor Dosbarth Metropolitanaidd Dinas Bradford

  • Cyngor Metropolitanaidd Kirklees

  • Cyngor Wakefield

Llundain Fwyaf
  • Cyngor Bwrdeistref Barking a Dagenham

  • Cyngor Bwrdeistref Barnet

  • Cyngor Bwrdeistref Bexley

  • Cyngor Bwrdeistref Brent

  • Cyngor Bwrdeistref Bromley

  • Cyngor Bwrdeistref Camden

  • Cyngor Bwrdeistref Croydon

  • Cyngor Bwrdeistref Ealing

  • Cyngor Bwrdeistref Enfield

  • Cyngor Bwrdeistref Greenwich

  • Cyngor Bwrdeistref Hackney

  • Cyngor Bwrdeistref Hammersmith a Fulham

  • Cyngor Bwrdeistref Haringey

  • Cyngor Bwrdeistref Harrow

  • Cyngor Bwrdeistref Havering

  • Cyngor Bwrdeistref Hillingdon

  • Cyngor Bwrdeistref Hounslow

  • Cyngor Bwrdeistref Islington

  • Cyngor Bwrdeistref Kensington a Chelsea

  • Cyngor Bwrdeistref Kingston upon Thames

  • Cyngor Bwrdeistref Lambeth

  • Cyngor Bwrdeistref Lewisham

  • Cyngor Bwrdeistref Merton

  • Cyngor Bwrdeistref Newham

  • Cyngor Bwrdeistref Redbridge

  • Cyngor Bwrdeistref Richmond upon Thames

  • Cyngor Bwrdeistref Southwark

  • Cyngor Bwrdeistref Sutton

  • Cyngor Bwrdeistref Tower Hamlets

  • Cyngor Bwrdeistref Waltham Forest

  • Cyngor Bwrdeistref Wandsworth

  • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain

  • Cyngor Dinas Westminster

Manceinion Fwyaf
  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Bolton

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Bury

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Oldham

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Stockport

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Tameside

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Trafford

  • Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wigan

  • Cyngor Bwrdeistref Rochdale

  • Cyngor Dinas Manceinion

  • Cyngor Dinas Salford

Northumberland
  • Cyngor Sir Northumberland

Surrey
  • Cyngor Bwrdeistref Elmbridge

Swydd Derby
  • Cyngor Bwrdeistref Chesterfield

  • Cyngor Bwrdeistref Erewash

  • Cyngor Dosbarth Gogledd-ddwyrain Swydd Derby

  • Yn ardal Cyngor Bwrdeistref High Peak, yr ardaloedd etholiadol (fel y diffinnir “electoral area” gan adran 203(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(7)) a ganlyn—

  • Dinting

  • Gamesley

  • Hadfield North

  • Hadfield South

  • Howard Town

  • Old Glossop

  • Padfield

  • Simmondley

  • St John’s

  • Tintwistle

  • Whitfield

Swydd Gaer
  • Cyngor Bwrdeistref Warrington

  • Cyngor Dwyrain Swydd Gaer

  • Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer

Swydd Gaerhirfryn
  • Cyngor Blackpool

  • Cyngor Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen

  • Cyngor Bwrdeistref Burnley

  • Cyngor Bwrdeistref Chorley

  • Cyngor Bwrdeistref De Ribble

  • Cyngor Bwrdeistref Fylde

  • Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn

  • Cyngor Bwrdeistref Hyndburn

  • Cyngor Bwrdeistref Pendle

  • Cyngor Bwrdeistref Ribble Valley

  • Cyngor Bwrdeistref Rossendale

  • Cyngor Bwrdeistref Wyre

  • Cyngor Dinas Caerhirfryn

  • Cyngor Dinas Preston

Swydd Gaerlŷr
  • Cyngor Bwrdeistref Oadby a Wigston

  • Cyngor Dinas Caerlŷr

Swydd Nottingham
  • Cyngor Bwrdeistref Broxtowe

  • Cyngor Bwrdeistref Gedling

  • Cyngor Bwrdeistref Rushcliffe

  • Cyngor Dinas Nottingham

  • Cyngor Dosbarth Ashfield

  • Cyngor Dosbarth Bassetlaw

  • Cyngor Dosbarth Mansfield

  • Cyngor Dosbarth Newark a Sherwood

Tees Valley
  • Cyngor Bwrdeistref Darlington

  • Cyngor Bwrdeistref Hartlepool

  • Cyngor Bwrdeistref Middlesbrough

  • Cyngor Bwrdeistref Redcar a Cleveland

  • Cyngor Bwrdeistref Stockton-on-Tees

Tyne a Wear
  • Cyngor De Tyneside

  • Cyngor Dinas Newcastle

  • Cyngor Dinas Sunderland

  • Cyngor Gateshead

  • Cyngor Gogledd Tyneside

Rhan 2: Yr Alban

2.  Yr ardal a ddynodir yn ardal wedi ei diogelu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Mesurau Ychwanegol Dros Dro) (Yr Alban) 2020(8), sydd wedi ei ffurfio o’r ardaloedd llywodraeth leol a ganlyn—

  • De Swydd Ayr

  • De Swydd Lanark

  • Dinas Caeredin

  • Dinas Glasgow

  • Dwyrain Lothian

  • Dwyrain Swydd Ayr

  • Dwyrain Swydd Dunbarton

  • Dwyrain Swydd Renfrew

  • Falkirk

  • Gogledd Swydd Ayr

  • Gogledd Swydd Lanark

  • Gorllewin Lothian

  • Gorllewin Swydd Dunbarton

  • Inverclyde

  • Midlothian

  • Stirling

  • Swydd Clackmannan

  • Swydd Renfrew

Rhan 3: Gogledd Iwerddon

3.  Gogledd Iwerddon yn ei chyfanrwydd.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 11.40 a.m. ar 16 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

(a)yn gosod cyfyngiadau ar bersonau sy’n teithio i Gymru o rannau o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â chyfraddau uwch o achosion o’r coronafeirws, a chyfyngiadau cyfatebol ar bobl sy’n teithio o Gymru i ardaloedd o’r fath (gwneir hyn drwy gyfeirio at y rhannau o Gymru nad ydynt wedi eu dynodi’n ardaloedd diogelu iechyd lleol oherwydd y cyfyngiadau sydd eisoes yn eu lle ar fynd i’r ardaloedd hyn neu eu gadael);

(b)yn darparu ei fod yn esgus rhesymol i fynd i ardal diogelu iechyd leol neu adael ardal o’r fath er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi eu trefnu, neu hwyluso gweithgareddau sydd wedi eu trefnu, er datblygiad neu lesiant plant, ac yn addasu’r esgusodion rhesymol ar gyfer ymgynnull ac ar gyfer mynd i ardal diogelu iechyd leol a gadael ardal o’r fath fel eu bod yn gyson;

(c)yn gwneud mân ddarpariaethau a darpariaethau canlyniadol eraill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1999/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.

(4)

2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(7)

p. 2. Diwygiwyd gan Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources