Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);

ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae’r plentyn wedi ei leoli ynddi, neu i’w leoli ynddi, pan fo hyn yn wahanol i’r awdurdod lleoli;

ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

(a)

cyngor sir yn Lloegr,

(b)

cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,

(c)

cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

(d)

Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”), mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yw’r awdurdod lleol hwnnw;

ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol, ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol—

(a)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn,

(b)

bod person yn cael ei dwyllo,

(c)

bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, neu

(d)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw—

(a)

y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu

(b)

y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;

mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(2);

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 83 o Ddeddf 2014(3);

ystyr “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yw’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r materion a bennir yn Atodlen 3 i Reoliadau 2018;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn unol â rheoliad 3(c) o Reoliadau Cofrestru 2017 ac Atodlen 2 iddynt ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn perthynas ag ef(4);

ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(5);

mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y gofrestr a gynhelir gan GCC(6) o dan adran 80 o Ddeddf 2016, yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(7) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81(5), (6)(a) a (b) o Ddeddf 2014;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(8);

ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018(9);

ystyr “Rheoliadau Cofrestru 2017” (“the 2017 Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(10);

mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi cael ei gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â Rheoliadau 2018, ac mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth);

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)

personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)

personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr;

ystyr “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yw gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(11);

ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn a ddynodir gan ddarparwr gwasanaeth wrth wneud cais i gofrestru o dan adran 6 o Ddeddf 2016;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig(12) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(13), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.

RHAN 2Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

3.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

4.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth gan y darparwr gwasanaeth, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,

(c)rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

(d)rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(e)personau sy’n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu,

(f)yr awdurdod lleoli.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

5.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r trefniadau gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth gan y darparwr gwasanaeth,

(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)rhieni maeth,

(d)personau sy’n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu,

(e)yr awdurdod lleoli, ac

(f)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw,

ar ansawdd y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i ddarparwr gwasanaeth—

(a)ystyried safbwyntiau’r rheini yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)rhoi sylw i’r adroddiad a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 63(4) (adolygiad o ansawdd y gofal).

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol

6.—(1Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol(14)

(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(3Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 12 i 16, rhaid i’r darparwr—

(a)cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru.

(4Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y Rheoliadau hyn, a

(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(5Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru, a

(b)rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am y trefniadau interim.

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr yn unigolyn

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.

(3Yn ystod unrhyw adeg pan yw’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y Rheoliadau hyn, a

(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(4Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol, a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru, a

(b)rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am y trefniadau interim.

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth

8.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

9.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)lleoli a chychwyn y gwasanaeth (gweler rheoliad 11 (addasrwydd y gwasanaeth)),

(b)diogelu (gweler rheoliad 21),

(c)defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 22),

(d)bwlio (gweler rheoliad 25),

(e)absenoldeb (gweler rheoliad 26),

(f)meddyginiaeth (gweler rheoliad 27 (mynediad i wasanaethau iechyd)),

(g)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 31),

(h)disgyblu staff (gweler rheoliad 34),

(i)cwynion (gweler rheoliad 42),

(j)chwythu’r chwiban (gweler rheoliad 43),

(k)cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 48).

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (c), (d) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.

Dyletswydd gonestrwydd

10.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(b)rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

(c)rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(d)yr awdurdod lleoli,

(e)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw.

RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn darparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaeth

11.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gytuno i leoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai bod y darparwr wedi penderfynu bod lleoliad addas a all ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth a galluogi’r plentyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth y plentyn,

(b)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(c)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn,

(d)unrhyw risgiau i lesiant y plentyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant unrhyw blentyn arall y gall y lleoliad sydd i’w wneud effeithio arno,

(f)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn, ynghyd â’i gyfeiriadedd rhywiol a’i hunaniaeth o ran rhywedd,

(g)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth y plentyn gael eu diwallu,

(h)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.

(4Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys—

(a)y plentyn, pan fo’n ymarferol,

(b)rhieni’r plentyn, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)yr awdurdod lleoli.

RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu gofal a chymorth

Gwybodaeth am y gwasanaeth

12.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2Rhaid iʼr canllaw—

(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn aʼi ddiweddaru fel y bo angen,

(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant (o bob oedran a dealltwriaeth) ac oedolion,

(c)cael ei roi i—

(i)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(ii)unrhyw rieni maeth a darpar rieni maeth,

(iii)yr awdurdod lleoli, a

(d)cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddaiʼn anghyson â llesiant y plentyn.

(3Rhaid iʼr canllaw gynnwys y canlynol—

(a)crynodeb o’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid i’r darparwr gwasanaeth eu rhoi yn eu lle o dan reoliad 9(1)(a), (b), (c), (d), (e), (f), (i) a (k),

(b)gwybodaeth am sut i wneud cwyn,

(c)gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli i blant syʼn derbyn gofal gan awdurdod lleol,

(d)gwybodaeth am rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu

Safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol

13.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn rhoi gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy—

(a)yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn, a

(b)mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn.

Addasrwydd parhaus y lleoliad

14.  Os nad yw’r lleoliad sydd wedi ei wneud gan y darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn anghenion asesedig y plentyn, yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth mwyach, hyd yn oed ar ôl i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r awdurdod lleoli ar unwaith.

Gwybodaeth ar gyfer plant

15.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud a chymryd rhan mewn penderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

(2Rhaid iʼr wybodaeth a ddarperir fod ar gael mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant o bob oedran.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

Iaith a chyfathrebu

16.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith plant.

(2Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar syʼn angenrheidiol i blant i hwylusoʼr ffordd y maent yn cyfathrebu ag eraill.

Parch a sensitifrwydd

17.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—

(a)parchu preifatrwydd ac urddas y plentyn,

(b)parchu hawliauʼr plentyn i gyfrinachedd,

(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth y plentyn, a

(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel yʼu diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) y plentyn.

Cydymffurfedd â’r cytundeb gofal maeth

18.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth fonitro cydymffurfedd y rhieni maeth â gofynion y cytundeb gofal maeth.

Dyletswydd i hybu cyswllt

19.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt.

RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu

Diogelu – gofynion cyffredinol

20.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli ganddo yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Polisïau a gweithdrefnau diogelu

21.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,

(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,

(c)gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a

(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol

22.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.

(2Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu mewn ffordd syʼn cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal plentyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir iʼr plentyn neu i bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a

(b)yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.

(3Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth gael eu hyfforddi mewn unrhyw ddulliau rheoli neu atal sydd iʼw defnyddio.

(4Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth—

(a)gwneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad pan ddefnyddir rheolaeth neu ataliaeth, a

(b)hysbysu’r darparwr gwasanaeth am unrhyw ddigwyddiad o’r fath o fewn 24 awr.

(5Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan rieni maeth yn cael ei chyflawni yn unol âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau hyn.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neuʼn atal plentyn os ywʼr person hwnnw—

(a)yn defnyddio, neuʼn bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y maeʼr plentyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)yn cyfyngu ar ryddid symud y plentyn, pa un a ywʼr plentyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “niwed” yr un ystyr ag yn adran 22(10) o Ddeddf 2016.

Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol

23.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw rhieni maeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn.

Amddifadu o ryddid

24.  Ni chaniateir amddifadu plentyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Polisi a gweithdrefnau ar fwlio

25.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael yn eu lle bolisi ar atal bwlio a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd

26.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gweithdrefn i’w dilyn pan yw unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth gan y darparwr yn absennol heb ganiatâd.

RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill

Mynediad i wasanaethau iechyd

27.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(2Yn benodol, rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod rhieni maeth—

(a)yn cofrestru pob plentyn ag ymarferydd cyffredinol,

(b)yn darparu i bob plentyn fynediad i unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, optegol, nyrsio, seicolegol a seiciatrig y mae eu hangen ar y plentyn,

(c)yn cefnogi pob plentyn i gael unrhyw gymorth, cymhorthion a chyfarpar unigol y mae eu hangen ar y plentyn o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd ganddo, a

(d)yn darparu i bob plentyn ganllawiau, cymorth a chyngor ynghylch iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd syʼn briodol i anghenion a dymuniadauʼr plentyn.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â rhoi meddyginiaethau gan rieni maeth.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

28.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod cyrhaeddiad addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth yn cael ei hybu.

(2Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)sefydlu gweithdrefn ar gyfer monitro cyrhaeddiad addysgol, cynnydd a phresenoldeb yn yr ysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth,

(b)mewn perthynas â phlant oedran ysgol sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth, sicrhau bod rhieni maeth yn hybu presenoldeb rheolaidd y plant yn yr ysgol aʼu cyfranogiad mewn gweithgareddau ysgol, ac

(c)darparu i rieni maeth unrhyw wybodaeth a chynhorthwy, gan gynnwys cyfarpar, syʼn angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu diddordebau hamdden plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy ac yn eu cefnogi i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i’w hoedran ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau(15).

(4Pan fo unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyrraedd yr oedran pan na foʼn ofynnol iddo gael addysg lawnamser orfodol mwyach, rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gynorthwyo i wneud trefniadau a wneir ar gyfer y plentyn mewn cysylltiad âʼi addysg, ei hyfforddiant aʼi gyflogaeth, a rhoi effaith iʼr trefniadau hynny.

RHAN 8Staffio

Staffio - gofynion cyffredinol

29.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(b)i anghenion gofal a chymorth plant,

(c)iʼr angen i gefnogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol,

(d)iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac

(e)i ofynion y Rheoliadau hyn.

Addasrwydd staff

30.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,

(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,

(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 1, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac

(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol(16) â GCC.

(3Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).

(4Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a

(b)pan fo’n briodol, hysbysu—

(i)GCC,

(ii)y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cefnogi a datblygu staff

31.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,

(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,

(c)yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,

(d)yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,

(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac

(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â GCC.

Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr

32.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i GCC ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o Ddeddf 2016.

Gwybodaeth ar gyfer staff

33.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n ofynnol i GCC eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.

Gweithdrefnau disgyblu

34.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogeion er budd diogelwch neu lesiant plant sy’n cael gofal a chymorth gan y gwasanaeth, a

(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)un o swyddogion Gweinidogion Cymru,

(b)y darparwr gwasanaeth,

(c)yr unigolyn cyfrifol,

(d)swyddog i’r awdurdod lleol,

(e)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog iʼr Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(f)swyddog heddlu,

yn ôl y digwydd.

Cyfyngiadau ar gyflogaeth

35.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gyflogi i weithio, at ddibenion y gwasanaeth maethu, mewn swydd y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, berson sydd—

(a)yn rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth maethu, neu

(b)yn aelod o aelwyd rhiant maeth oʼr fath.

(2Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, neu am ddim mwy na 5 awr mewn unrhyw wythnos, yn achos swydd nad yw’n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol.

RHAN 9Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - darparwyr gwasanaethau

36.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithreduʼr gwasanaeth yn addas, gan roi sylw iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Digonolrwydd cyfleusterau

37.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y fangre a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)goruchwylio staff, a

(b)storio cofnodion yn ddiogel.

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - rhieni maeth

38.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir gan rieni maeth ar gyfer darparu gofal a chymorth i blant—

(a)yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato,

(b)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel,

(c)yn cael eu cynnal aʼu cadwʼn briodol, a

(d)yn cael eu cadwʼn lân yn unol â safon syʼn briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato.

(2Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu hyfforddiʼn briodol ynghylch sut i weithredu unrhyw gyfarpar y maent yn ei ddefnyddio wrth ddarparu gofal a chymorth i blentyn.

RHAN 10Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu

39.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 am 15 mlynedd.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol,

(b)cadw’r cofnodion yn ddiogel,

(c)sicrhau bod y cofnodion yn cael eu danfon i’r awdurdod lleoli pan fydd y gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef,

(d)gwneud trefniadau addas er mwyn iʼr cofnodion barhau i gael eu cadwʼn ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau,

(e)rhoiʼr cofnodion ar gael i Weinidogion Cymru ar gais,

(f)sicrhau bod plant syʼn defnyddioʼr gwasanaeth—

(i)yn cael eu gwneud yn ymwybodol oʼu hawliau i gael mynediad iʼw cofnodion, a

(ii)yn cael mynediad iʼw cofnodion fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.

Hysbysiadau

40.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r plentyn wedi ei leoli yn ei ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r heddlu am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3.

(6Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(7Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(8Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

Gwrthdaro buddiannau

41.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

Polisi a gweithdrefnau cwyno

42.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan neu ar ran plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr ynghylch—

(a)y darparwr,

(b)rhieni maeth, ac

(c)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(3Rhaid i’r polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r darparwr gwasanaeth gan neu ar ran unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(4Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan rieni maeth ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(5Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan rieni unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(6Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,

(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a

(d)cadw cofnodion syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(7Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(8Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)dadansoddi gwybodaeth syʼn ymwneud â chwynion a phryderon, a

(b)gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

Chwythu’r chwiban

43.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am y gwasanaeth.

(2Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

(a)cael polisi chwythuʼr chwiban yn ei le a gweithredu yn unol âʼr polisi hwnnw, a

(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl syʼn gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon oʼr fath.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

(a)yr ymchwilir iʼr pryder,

(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).

RHAN 11Cefnogi a goruchwylio rhieni maeth

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer rhieni maeth

44.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan rieni maeth yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddarparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn.

(2Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, cyngor a chymorth, gan gynnwys cymorth y tu allan i oriau swyddfa, y maeʼn ymddangos eu bod yn angenrheidiol er budd plant sydd wedi eu lleoli gydaʼr rhieni maeth ac iʼw galluogi i ddarparu gofal a chymorth i blant yn unol â chynllun gofal a chymorth pob plentyn.

(3Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod darpar rieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

(4Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth fonitro ac adolyguʼr wybodaeth, yr hyfforddiant, y cyngor aʼr cymorth a ddarperir i rieni maeth a darpar rieni maeth a gwneud unrhyw welliannau syʼn angenrheidiol.

Polisïau a gweithdrefnau i rieni maeth

45.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â’r polisïau a’r gweithdrefnau a sefydlir o dan reoliadau 11, 21, 22, 25, 26, 27, 42 ac 48 ac yn gweithredu yn unol â hwy.

Goruchwylio

46.  Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu goruchwylioʼn briodol.

Perthnasoedd gwaith effeithiol

47.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cynnal perthnasoedd proffesiynol da â rhieni maeth, a

(b)annog a chynorthwyo rhieni maeth i gynnal perthnasoedd personol da â phlant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

Cefnogi plant i reoli eu harian

48.—(1Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle i alluogi rhieni maeth i ddarparu cymorth a chynhorthwy i blant o ran sut i reoli eu harian.

(2Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodiʼr camau sydd iʼw cymryd gan rieni maeth i alluogi a chefnogi plant i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn plant rhag camdriniaeth ariannol.

(3Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod y darparwr gwasanaeth yn goruchwylio ac yn monitro’n ddigonol y cynilion a wneir gan rieni maeth ar ran plant.

(4Pan foʼr rhieni maeth yn dal arian plentyn at unrhyw ddiben, rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau syʼn ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enwʼr plentyn neu mewn cyfrif syʼn ei gwneud yn bosibl darnodi arian y plentyn yn glir.

(5Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod rhieni maeth yn trosglwyddo’r holl gofnodion o gynilion (gan gynnwys gwariant o gynilion) i’r darparwr gwasanaeth pan ddaw lleoliad y plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef i ben.

RHAN 12Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

49.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth.

Dyletswydd i benodi rheolwr

50.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (6), bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, a

(d)bod Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig, yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth,

(b)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (6), bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, a

(d)bod Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4At ddibenion paragraff (2)(b), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 30(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

(6Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(c) a (3)(c) ond yn gymwys o 1 Ebrill 2022.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

51.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 30(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

52.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(i)na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y gofal a’r cymorth a ddarperir i blant, a

(ii)y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

53.  Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 50(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth o—

(a)enw’r person a benodir, a

(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru

54.—(1Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 50(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i GCC a Gweinidogion Cymru o—

(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a

(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(2Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn i reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r unigolyn hwnnw roi hysbysiad i GCC o—

(a)ei enw, ei ddyddiad geni a’i rif cofrestru GCC, a

(b)y dyddiad y bydd yn rheoli’r gwasanaeth ohono.

Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol

55.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.

(2Os nad oes rheolwr neu os yw’r rheolwr yn absennol am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a Gweinidogion Cymru, a

(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Ymweliadau

56.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni,

(b)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth o bob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ac

(c)cwrdd â phlant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr gwasanaeth a’u rhieni maeth.

(2Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben, ond rhaid i’r rhain gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.

RHAN 13Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

57.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

(3Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

58.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

(a)am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth,

(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac

(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

(2Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Ymgysylltu â phlant ac eraill

59.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)rhieni maeth,

(d)yr awdurdod lleoli, ac

(e)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir i blant a sut y gellir gwella hyn.

(2Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

RHAN 14Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

60.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch o dan reoliadau 40 a 67.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

61.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod y cofnodion y mae rhaid iddynt gael eu cadw o dan reoliad 39 yn gywir ac yn gyflawn.

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

62.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

RHAN 15Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth

Adolygiad o ansawdd y gofal

63.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol, ond o leiaf bob chwe mis.

(3Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau addas ar gyfer—

(a)ystyried canlyniad yr ymgysylltiad â phlant ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 59 (ymgysylltu â phlant ac eraill),

(b)dadansoddi data cyfanredol ar hysbysiadau, materion diogelu, pryderon chwythu’r chwiban a chwynion,

(c)adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion, a

(d)ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

(4Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gwasanaeth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a

(b)argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

(5Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth

64.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o Ddeddf 2016.

(2Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir yn yr adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 63(4).

RHAN 16Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon

65.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Dyletswydd gonestrwydd

66.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(b)rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

(c)rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(d)yr awdurdod lleoli.

Hysbysiadau

67.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.

(2Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(4Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

RHAN 17Troseddau

Troseddau – darparwyr gwasanaethau

68.—(1Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(17).

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau—

(a)4(3) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),

(b)4(4) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),

(c)8(3) (gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth),

(d)9(1) (gofyniad i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau),

(e)12(1) (gwybodaeth am y gwasanaeth),

(f)12(2) (gwybodaeth am y gwasanaeth),

(g)12(3) (gwybodaeth am y gwasanaeth),

(h)25 (polisi a gweithdrefnau ar fwlio),

(i)26 (y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd),

(j)30(1) (addasrwydd staff),

(k)33(1) (gwybodaeth ar gyfer staff),

(l)39(1) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu),

(m)39(2) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu),

(n)40(1) (hysbysiadau),

(o)40(2) (hysbysiadau),

(p)40(3) (hysbysiadau),

(q)40(4) (hysbysiadau),

(r)40(5) (hysbysiadau),

(s)40(8) (hysbysiadau).

(3Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—

(a)niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i blentyn,

(b)plentyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu

(c)yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan blentyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

(4Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau—

(a)3 (gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth),

(b)4(1) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),

(c)9(5) (gofyniad i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau),

(d)11(1) (addasrwydd y gwasanaeth),

(e)11(3) (addasrwydd y gwasanaeth),

(f)13 (safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol),

(g)20 (diogelu),

(h)27(3) (mynediad i wasanaethau iechyd),

(i)29 (staffio – gofynion cyffredinol).

Troseddau – unigolion cyfrifol

69.—(1Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(18).

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau—

(a)50(1) (dyletswydd i benodi rheolwr),

(b)51(1) (gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr),

(c)54(1) (dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru),

(d)54(2) (dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru),

(e)56(1) (ymweliadau),

(f)56(2) (ymweliadau),

(g)57(1) (goruchwylio digonolrwydd adnoddau),

(h)57(2) (goruchwylio digonolrwydd adnoddau),

(i)58(1) (adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth),

(j)63(4) (adolygiad o ansawdd y gofal),

(k)64(1) (datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth),

(l)67(1) (hysbysiadau), ac

(m)67(4) (hysbysiadau).

RHAN 18Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Penodi datodwyr etc.

70.  Rhaid i berson a benodir(19)

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu Gweinidogion Cymru am ei fwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Marwolaeth y darparwr gwasanaeth

71.—(1Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i Weinidogion Cymru, a

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu Gweinidogion Cymru am eu bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am unrhyw gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)mae adran 21(2) (unigolion cyfrifol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—

(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth maethu yr oedd y darparwr unigol sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu ar adeg ei farwolaeth.

RHAN 19Rheoliadau o dan adran 21(5) o Ddeddf 2016

Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru

72.  Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o Ddeddf 2016 wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o Ddeddf 2016;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu Gweinidogion Cymru—

(i)na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a

(ii)y rhesymau dros hyn;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu Gweinidogion Cymru—

(i)nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,

(ii)y rhesymau dros hyn, a

(iii)nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

31 Ionawr 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources