- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Cadwraeth Pysgod Môr
Gwnaed
10 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym
15 Ionawr 2020
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 15 Ionawr 2020.
2.—(1) Mae Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 4, yn y testun Saesneg, yn lle “purpose” rhodder “purposes”.
(3) Yn lle erthygl 5 rhodder—
5.—(1) At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), ni chaniateir i gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gael eu cludo gan gwch pysgota Prydeinig sydd wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod taith bysgota gyfredol y cwch hwnnw.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “taith bysgota gyfredol” yw’r cyfnod o’r adeg y mae’r cwch pysgota yn gadael porthladd hyd at yr adeg y mae’n dychwelyd i borthladd.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1042 (Cy. 184)) (“y Prif Orchymyn”).
Mae erthygl 5 o’r Prif Orchymyn ar hyn o bryd yn gwahardd cludo cregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gan gychod pysgota Prydeinig ym mharth Cymru. Mae’r “maint lleiaf penodedig” ar gyfer cregyn moch wedi ei ddiffinio yn erthygl 2 o’r Prif Orchymyn.
Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn rhoi “purposes” yn lle “purpose” yn nhestun Saesneg erthygl 4 o’r Prif Orchymyn.
Mae erthygl 2(3) yn rhoi erthygl 5 newydd yn lle’r un sydd yn y Prif Orchymyn. Effaith yr amnewid hwn yw y caiff cwch pysgota Prydeinig gludo cregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig ym mharth Cymru os nad yw wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod y daith bysgota benodol honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1967 p. 84 (“Deddf 1967”). Amnewidiwyd adran 1 o Ddeddf 1967 gan adran 19(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29). Amnewidiwyd adran 1(3) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (4) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”). Gweler adran 1(9) o Ddeddf 1967 am ddiffiniad o “appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 1(9) gan adran 194(1) a (5) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 22(2) o Ddeddf 1967, sy’n cynnwys diffiniad o “the Ministers”, gan adrannau 19(2)(d) a (3), a 45 a 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), a Rhan 2 o Atodlen 5 iddi ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820, a pharagraff 43(1) a (12) o Ran 1, a Rhan 4, o Atodlen 2 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 1(3) a (6) i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)): gweler erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. I’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 1(3) a (6) o Ddeddf 1967 i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(b) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: