Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;

ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 84(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “darparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol” (“provider of initial school teacher training”) yw darparwr cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017(1);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(3);

ystyr “fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg” (“Welsh in education planning forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, y mae ei aelodau yn swyddogion i’r awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “SAB” (“FEI”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru fel y diffinnir “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4).

Ffurf a chynnwys

3.  Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.

Cyfnod para cynlluniau deng mlynedd

4.—(1Mae cynllun awdurdod lleol yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Medi 2021 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2031 (“y cynllun deng mlynedd cyntaf”).

(2Mae pob cynllun deng mlynedd dilynol yn cael effaith am y cyfnod o ddeng mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fydd y cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(3Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau 6 (cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi) ac 8 (diwygio cynlluniau).

Cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun deng mlynedd cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr 2021.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun deng mlynedd dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cymryd effaith.

Cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi

6.—(1Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun deng mlynedd erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y mae’r cynllun hwnnw i gael effaith ynddi, yna mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun.

(2Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar y dyddiad y bydd y cynllun deng mlynedd yn dod i ben arno (fel y’i hamlinellir o dan reoliad 4), oni bai bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan gynllun diwygiedig yn unol â rheoliad 8.

Adroddiad adolygu blynyddol

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2022, gyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r targedau sydd wedi eu cynnwys yn ei gynllun a’r camau y mae wedi eu cymryd o ganlyniad i’r datganiadau yn ei gynllun.

(2Rhaid cyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 a bydd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r cynllun deng mlynedd cyntaf gael effaith.

(3Rhaid cyflwyno adroddiadau adolygu dilynol i Weinidogion Cymru fesul ysbaid nad yw’n hwy na 12 mis ers cyflwyno yr adroddiad blaenorol a byddant yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno.

Diwygio cynlluniau

8.—(1Wrth lunio’r adroddiad neu ar ôl llunio’r adroddiad adolygu o dan reoliad 7, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 6 mis calendr ar ôl i’r adroddiad adolygu gael ei gyflwyno.

(2Mae’r cynllun sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun diwygiedig yn peidio â chael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig.

(3Mae’r cynllun diwygiedig yn cael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig, ac yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y cynllun sy’n cael ei ddisodli ganddo yn cael effaith yn wreiddiol.

Llunio ac ymgynghori

9.  Y personau rhagnodedig at ddibenion adran 84(4)(f) o Ddeddf 2013 (personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun deng mlynedd neu gynllun diwygiedig(5)) yw—

(a)Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(6));

(b)Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr “Early Years Development and Childcare Partnership” yn adran 119 o Ddeddf 1998);

(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(d)darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;

(e)unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol; ac

(f)unrhyw bersonau neu gyrff eraill yr ymddengys i’r awdurdod lleol eu bod yn briodol.

Amseriad cyhoeddi

10.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) ar neu cyn y dyddiad y mae’r cynllun yn cymryd effaith.

Dull cyhoeddi

11.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) drwy—

(a)ei roi ar ei wefan; a

(b)rhoi copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—

(i)pob un o’i swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd;

(ii)unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Dirymu ac arbedion

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(7) wedi eu dirymu.

(2Bydd cynllun awdurdod lleol sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd cynllun deng mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn cael effaith.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources