Search Legislation

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 645 (Cy. 119)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018

Gwnaed

22 Mai 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mai 2018

Yn dod i rym

30 Mehefin 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018. Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler ergl. 1

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre lle caiff anifeiliaid eu casglu i’w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr;

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi at un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—

(a)

gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)

casglu i draddodi anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;

(c)

arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;

ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010(2);

ystyr “mangre drwyddedig” (“licensed premises”) yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5(1) o Orchymyn 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler ergl. 1

Ffioedd sy’n daladwyLL+C

3.—(1Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddyroddi, diwygio neu adnewyddu trwydded o dan Orchymyn 2010 i’w pennu yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen.

(2Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddyroddi ac adnewyddu trwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd o dan Orchymyn 2010 i’w pennu yn unol â Thabl 2 o’r Atodlen.

(3Mae ffioedd atodol mewn perthynas ag amser teithio ac ymweliadau milfeddygol ychwanegol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru i’w pennu yn unol â Thabl 3 o’r Atodlen.

(4Mae person wedi ei eithrio rhag ffi trwydded—

(a)pan fo’r crynhoad anifeiliaid mewn mangre, neu mewn mangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi, yn sioe neu arddangosfa’n unig sydd ar agor i’r cyhoedd am ddim mwy nag un diwrnod ar y tro; a

(b)pan na fo gwerthiant cyhoeddus nac arwerthiant anifeiliaid yn digwydd mewn sioe neu arddangosfa o’r fath.

(5Mae person wedi ei eithrio rhag ffioedd o dan y Gorchymyn hwn pan fo’r drwydded yn ymwneud â mangre, neu ran o fangre, a ddefnyddir yn unig at ddiben crynhoad anifeiliaid er mwyn cynnal arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler ergl. 1

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Mai 2018

Erthygl 3

[F1YR ATODLENLL+C

[F2Tabl 1

Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1Colofn 2
GweithgareddFfi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu.433
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu.780
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu.387
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly gynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu.550]

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1Colofn 2
GweithgareddFfi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.283
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 munud o amser arolygu.467
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol.201
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.329
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.329

Tabl 3

Ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd

Colofn 1Colofn 2
GweithgareddFfi (£) am yr ymweliadau milfeddygol a gynhelir
Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.362
Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.362
Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon.24 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn.24 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 144]

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid mewn perthynas â thrwyddedu crynoadau anifeiliaid penodol yng Nghymru.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn casglu’r ffioedd ar ran Gweinidogion Cymru.

Pennir bod y ffioedd yn 50% o swm adennill cost lawn y costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yn y cyfnod rhwng y dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn dod i rym hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019, ac yna pennir eu bod yn 100% o’r swm adennill cost lawn wedi hynny. Yr eithriad yw amser teithio yn Nhabl 3, y pennir ei fod yn 100% o’r swm adennill cost lawn o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddir i “the Ministers” o dan adran 84 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

O.S. 2010/900 (Cy. 93), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources