2018 Rhif 645 (Cy. 119)
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018. Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2018.

Annotations:
Commencement Information

I1Ergl. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler ergl. 1

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre lle caiff anifeiliaid eu casglu i’w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr;

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi at un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—

(a)

gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)

casglu i draddodi anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;

(c)

arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;

ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 20102;

ystyr “mangre drwyddedig” (“licensed premises”) yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5(1) o Orchymyn 2010.

Annotations:
Commencement Information

I2Ergl. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler ergl. 1

Ffioedd sy’n daladwy3.

(1)

Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddyroddi, diwygio neu adnewyddu trwydded o dan Orchymyn 2010 i’w pennu yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen.

(2)

Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddyroddi ac adnewyddu trwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd o dan Orchymyn 2010 i’w pennu yn unol â Thabl 2 o’r Atodlen.

(3)

Mae ffioedd atodol mewn perthynas ag amser teithio ac ymweliadau milfeddygol ychwanegol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru i’w pennu yn unol â Thabl 3 o’r Atodlen.

(4)

Mae person wedi ei eithrio rhag ffi trwydded—

(a)

pan fo’r crynhoad anifeiliaid mewn mangre, neu mewn mangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi, yn sioe neu arddangosfa’n unig sydd ar agor i’r cyhoedd am ddim mwy nag un diwrnod ar y tro; a

(b)

pan na fo gwerthiant cyhoeddus nac arwerthiant anifeiliaid yn digwydd mewn sioe neu arddangosfa o’r fath.

(5)

Mae person wedi ei eithrio rhag ffioedd o dan y Gorchymyn hwn pan fo’r drwydded yn ymwneud â mangre, neu ran o fangre, a ddefnyddir yn unig at ddiben crynhoad anifeiliaid er mwyn cynnal arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.

Annotations:
Commencement Information

I3Ergl. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler ergl. 1

Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

F1YR ATODLEN

Erthygl 3

F2Tabl 1

Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1

Colofn 2

Gweithgaredd

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir

Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu.

433

Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu.

780

Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu.

387

Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly gynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu.

550

Tabl 2Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn

Colofn 1

Colofn 2

Gweithgaredd

Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir

Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.

283

Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 munud o amser arolygu.

467

Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol.

201

Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.

329

Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu.

329

Tabl 3Ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd

Colofn 1

Colofn 2

Gweithgaredd

Ffi (£) am yr ymweliadau milfeddygol a gynhelir

Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.

362

Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw.

362

Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon.

24 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir

Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn.

24 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 144

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid mewn perthynas â thrwyddedu crynoadau anifeiliaid penodol yng Nghymru.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn casglu’r ffioedd ar ran Gweinidogion Cymru.

Pennir bod y ffioedd yn 50% o swm adennill cost lawn y costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yn y cyfnod rhwng y dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn dod i rym hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019, ac yna pennir eu bod yn 100% o’r swm adennill cost lawn wedi hynny. Yr eithriad yw amser teithio yn Nhabl 3, y pennir ei fod yn 100% o’r swm adennill cost lawn o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.