- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001;
ystyr “ymchwiliad perthnasol” (“relevant investigation”) yw ymchwiliad troseddol sy’n ymwneud â mater y mae gan ACC swyddogaethau mewn perthynas ag ef.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, mae darpariaethau Deddf 1984 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (“y swyddogaethau PACE cymwys”) yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, pan fo ACC yn arfer unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau PACE cymwys, mae’r darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 2 o Ddeddf 2001 yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001 a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “WRA” yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at “constable”, “police officer” a “the police” (sut bynnag y’u mynegir), ac mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â hynny.
(4) Mae darpariaethau eraill Deddf 1984, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r swyddogaethau PACE cymwys, yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.
4. Caiff person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y swyddogaeth honno.
5. Caiff ACC chwilio person—
(a)pan ganfyddir y person mewn mangre sy’n cael ei chwilio gan ACC drwy ddibynnu ar warant a ddyroddwyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984, neu baragraff 12 o Atodlen 1 iddi; a
(b)pan fo gan ACC achos rhesymol i gredu bod y person hwnnw yn meddu ar ddeunydd sy’n debygol o fod o werth sylweddol (pa un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â deunydd arall) i ymchwiliad perthnasol.
6. Mae adran 16 o Ddeddf 1984(1) (gweithredu gwarantau) wedi ei haddasu fel a ganlyn—
(a)yn lle is-adran (3A) rhodder—
“(3A) If the warrant is an all premises warrant, no premises which are not specified in it may be entered or searched by a person exercising WRA functions unless that person has been authorised in writing by another person exercising WRA functions of at least Grade 7 (or equivalent).”;
(b)yn lle is-adran (3B) rhodder—
“(3B) No premises may be entered or searched by a person exercising WRA functions for the second or any subsequent time under a warrant which authorises multiple entries unless that person has been authorised in writing by another person exercising WRA functions of at least Grade 7 (or equivalent).”
7. Mae adran 77(3) o Ddeddf 1984(2) (diffiniad o “independent person”) wedi ei haddasu i’r graddau bod y diffiniad o “independent person” yn cynnwys person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn.
8. Nid yw’r swyddogaethau a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ond yn arferadwy gan bersonau sydd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan ACC i gynnal ymchwiliadau perthnasol.
Mark Darkeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2018
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: