Search Legislation

Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 196 (Cy. 45)

Enillion Troseddau, Cymru

Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018

Gwnaed

20 Chwefror 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Chwefror 2018

Yn dod i rym

1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 453(1A) a (2) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Enillion Troseddau 2002.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

Cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededigLL+C

3.  Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

4.  Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

20 Chwefror 2018

Erthyglau 3 a 4

ATODLENLL+CCyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig

RHAN 1LL+C

1.  Adran 42(2)(c) (cais am orchymyn atal o dan Ran 2 – yn ddarostyngedig i awdurdodiad o dan adran 68(3)(c)).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

2.  Adrannau 47A(1)(c)(2) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”) a 47M(3)(c) (cadwad pellach gan lys ynadon).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

3.  Pennod 3 o Ran 5 (ar wahân i’r ail gyfeiriad yn adran 290(4)(c) (3) [F1a’r cyfeiriad yn adran 297A(6)(c)]).LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

[F23A.  Adran 303C(9)(d)(4) (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaelwyd ynddo) ac adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo).LL+C

3B.  Adran 303Z1(6)(5) (swyddog gorfodi at ddibenion Pennod 3B) ac adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif).]LL+C

4.  Adran 352(5)(c)(4) [F3, (ca) ac (cb)] (y person priodol at ddibenion gwarantau chwilio ac ymafael o dan Bennod 2 o Ran 8).LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

5.  Adran 353(10)(c)(5) [F4, (ca) ac (cb)] (y person priodol ar gyfer sicrhau mynediad ar unwaith i fangre pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael).LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

6.  Adran 378(1)(b) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu o dan Ran 8).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

7.  Adran 378(3A)(ab)(6) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad o dan Ran 8).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 7 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

[F57A.  Adran 378(3C)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).LL+C

7B.  Adran 378(3E)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).]LL+C

8.  Adran 378(4)(a) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian o dan Ran 8).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

RHAN 2LL+C

9.  Adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

10.  Adran 68(3)(c) (awdurdodiad ar gyfer ceisiadau ac apelau o dan Ran 2).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

11.  Adran 290(4)(c) (cymeradwyaeth ymlaen llaw gan uwch-swyddog i gynnal chwiliad arian parod o dan Bennod 3 o Ran 5).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

[F611A.  Adran 297A(6)(c) (uwch-swyddog at ddiben rhoi hysbysiad fforffedu).LL+C

11B.  Adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau).LL+C

11C.  Adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B).LL+C

11D.  Adran 336D(7)(h) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)).]LL+C

12.  Adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

13.  Adran 378(3AA)(b)(7) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

[F713A.  Adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).LL+C

13B.  Adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).]LL+C

14.  Adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig yn Neddf Enillion Troseddau 2002 (“y Ddeddf”) i’w darllen fel cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n aelodau o staff Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn nodi’r pwerau y gall ymchwilydd ariannol achrededig eu harfer o dan y Ddeddf.

Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig wneud cais am orchmynion atal o dan Ran 2 o’r Ddeddf a chânt ymafael mewn eiddo y mae unrhyw orchymyn atal o’r fath yn gymwys iddo. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd chwilio am arian parod, ymafael ynddo, ei gadw a gwneud cais i’w fforffedu o dan Bennod 3 o Ran 5 o’r Ddeddf. Cyn arfer pwerau chwilio, rhaid iddynt (oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau) gael cymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth naill ai ynad heddwch neu uwch-swyddog y mae’n rhaid iddo hefyd fod yn ymchwilydd ariannol achrededig. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd wneud cais am orchmynion a gwarantau mewn perthynas ag ymchwiliadau atafaelu, gwyngalchu arian ac arian parod dan gadwad o dan Ran 8 o’r Ddeddf at ddibenion, ymysg pethau eraill, ei gwneud yn ofynnol i berson penodedig gyflwyno deunyddiau penodol; caniatáu chwiliad o fangre benodedig ac ymafael mewn deunyddiau ynddi a’i gwneud yn ofynnol i sefydliad ariannol ddarparu gwybodaeth cwsmeriaid sy’n ymwneud â pherson penodedig. Ymchwilydd ariannol achrededig yn unig, sydd, gan ddibynnu ar natur y gorchymyn neu’r warant, naill ai’n berson priodol, yn swyddog priodol neu’n uwch-swyddog priodol, gaiff wneud cais am y pwerau o dan orchmynion neu warantau o’r fath a/neu eu harfer.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2002 p. 29. Mewnosodwyd adran 453(1A) gan adran 186(4) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).

(2)

Mewnosodwyd adrannau 47A i 47S gan adran 55(1) a (2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(3)

Mewnosodwyd adran 290(4)(c) gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007 (p. 27), a pharagraffau 1 a 3(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.

(4)

Mewnosodwyd adran 352(5)(c) gan adran 77 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 7(1) a (3) o Atodlen 10 iddi. Fe’i diwygiwyd gan adran 80(1)(b) o’r Ddeddf honno.

(5)

Mewnosodwyd adran 353(10)(c) gan adran 77 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 ac 8(1) a (3) o Atodlen 10 iddi. Fe’i diwygiwyd gan adran 80(3)(b) o’r Ddeddf honno.

(6)

Mewnosodwyd adran 378(3A) gan adran 77 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 10 iddi. Mewnosodwyd paragraff (ab) gan adran 80(7) o’r Ddeddf honno.

(7)

Mewnosodwyd adran 378(3AA)(b) gan adran 49(b) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), a pharagraffau 24 a 27(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 19 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources