2018 Rhif 196 (Cy. 45)
Enillion Troseddau, Cymru

Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 453(1A) a (2) o Ddeddf Enillion Troseddau 20021.

Enwi a chychwyn

1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Annotations:
Commencement Information

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

Dehongli

2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Enillion Troseddau 2002.

Annotations:
Commencement Information

I2Ergl. 2 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

Cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig

3.

Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC.

Annotations:
Commencement Information

I3Ergl. 3 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

4.

Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol.

Annotations:
Commencement Information

I4Ergl. 4 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

ATODLENCyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig

Erthyglau 3 a 4

RHAN 1

1.

Adran 42(2)(c) (cais am orchymyn atal o dan Ran 2 – yn ddarostyngedig i awdurdodiad o dan adran 68(3)(c)).

Annotations:
Commencement Information

I5Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

2.

Adrannau 47A(1)(c)2 (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”) a 47M(3)(c) (cadwad pellach gan lys ynadon).
Annotations:
Commencement Information

I6Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

3.

Pennod 3 o Ran 5 (ar wahân i’r ail gyfeiriad yn adran 290(4)(c) 3 F1a’r cyfeiriad yn adran 297A(6)(c)).

F23A.

Adran 303C(9)(d)4 (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaelwyd ynddo) ac adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo).

3B.

Adran 303Z1(6)5 (swyddog gorfodi at ddibenion Pennod 3B) ac adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif).

4.

Adran 352(5)(c)4 F3, (ca) ac (cb) (y person priodol at ddibenion gwarantau chwilio ac ymafael o dan Bennod 2 o Ran 8).

5.

Adran 353(10)(c)5 F4, (ca) ac (cb) (y person priodol ar gyfer sicrhau mynediad ar unwaith i fangre pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael).

6.

Adran 378(1)(b) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu o dan Ran 8).

Annotations:
Commencement Information

I10Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

7.

Adran 378(3A)(ab)6 (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad o dan Ran 8).
Annotations:
Commencement Information

I11Atod. para. 7 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

F57A.

Adran 378(3C)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).

7B.

Adran 378(3E)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).

8.

Adran 378(4)(a) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian o dan Ran 8).

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

RHAN 2

9.

Adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol).

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

10.

Adran 68(3)(c) (awdurdodiad ar gyfer ceisiadau ac apelau o dan Ran 2).

Annotations:
Commencement Information

I14Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

11.

Adran 290(4)(c) (cymeradwyaeth ymlaen llaw gan uwch-swyddog i gynnal chwiliad arian parod o dan Bennod 3 o Ran 5).

Annotations:
Commencement Information

I15Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

F611A.

Adran 297A(6)(c) (uwch-swyddog at ddiben rhoi hysbysiad fforffedu).

11B.

Adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau).

11C.

Adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B).

11D.

Adran 336D(7)(h) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)).

12.

Adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu).

Annotations:
Commencement Information

I16Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

13.

Adran 378(3AA)(b)7 (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad).
Annotations:
Commencement Information

I17Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

F713A.

Adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).

13B.

Adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).

14.

Adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian).

Annotations:
Commencement Information

I18Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2018, gweler ergl. 1(2)

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig yn Neddf Enillion Troseddau 2002 (“y Ddeddf”) i’w darllen fel cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n aelodau o staff Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn nodi’r pwerau y gall ymchwilydd ariannol achrededig eu harfer o dan y Ddeddf.

Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig wneud cais am orchmynion atal o dan Ran 2 o’r Ddeddf a chânt ymafael mewn eiddo y mae unrhyw orchymyn atal o’r fath yn gymwys iddo. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd chwilio am arian parod, ymafael ynddo, ei gadw a gwneud cais i’w fforffedu o dan Bennod 3 o Ran 5 o’r Ddeddf. Cyn arfer pwerau chwilio, rhaid iddynt (oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau) gael cymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth naill ai ynad heddwch neu uwch-swyddog y mae’n rhaid iddo hefyd fod yn ymchwilydd ariannol achrededig. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd wneud cais am orchmynion a gwarantau mewn perthynas ag ymchwiliadau atafaelu, gwyngalchu arian ac arian parod dan gadwad o dan Ran 8 o’r Ddeddf at ddibenion, ymysg pethau eraill, ei gwneud yn ofynnol i berson penodedig gyflwyno deunyddiau penodol; caniatáu chwiliad o fangre benodedig ac ymafael mewn deunyddiau ynddi a’i gwneud yn ofynnol i sefydliad ariannol ddarparu gwybodaeth cwsmeriaid sy’n ymwneud â pherson penodedig. Ymchwilydd ariannol achrededig yn unig, sydd, gan ddibynnu ar natur y gorchymyn neu’r warant, naill ai’n berson priodol, yn swyddog priodol neu’n uwch-swyddog priodol, gaiff wneud cais am y pwerau o dan orchmynion neu warantau o’r fath a/neu eu harfer.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.