Search Legislation

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 128 (Cy. 32)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

Gwnaed

Ionawr 2018

Yn dod i rym

1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi(1).

Yn unol ag adran 25(1) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

CymhwysoLL+C

2.[F1(1)] [F2Yn ddarostyngedig i baragraff (2),] mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy(2) y mae’r dyddiad y mae’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.

[F3(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy sy’n ddarostyngedig i Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.]

Bandiau treth a chyfraddau treth canrannolLL+C

3.  Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol at ddibenion adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi—

(a)mae Tabl 1 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl;

(b)mae Tabl 2 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;

(c)mae Tabl 3 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo amhreswyl; a

(d)mae Tabl 4 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

31 Ionawr 2018

Rheoliad 3

YR ATODLENLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F4Tabl 1

Trafodiadau eiddo preswyl

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd seroNid mwy na £225,0000%
Y band treth cyntafMwy na £225,000 ond nid mwy na £400,0006%
Yr ail fand trethMwy na £400,000 ond nid mwy na £750,0007.5%
Y trydydd band trethMwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,00010%
Y pedwerydd band trethMwy na £1,500,00012%]

[F5Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntafNid mwy na £180,0005%
Yr ail fand trethMwy na £180,000 ond nid mwy na £250,0008.5%
Y trydydd band trethMwy na £250,000 ond nid mwy na £400,00010%
Y pedwerydd band trethMwy na £400,000 ond nid mwy na £750,00012.5%
Y pumed band trethMwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,00015%
Y chweched band trethMwy na £1,500,00017%]

[F6Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd seroNid mwy na £225,0000%
Y band treth cyntafMwy na £225,000 ond nid mwy na £250,0001%
Yr ail fand trethMwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,0005%
Y trydydd band trethMwy na £1,000,0006%]

Diwygiadau Testunol

F6Atod. Tabl 3 wedi ei amnewid (yn effeithiol yn unol ag rhlau. 3-5 o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1618), rhlau. 1, 6(3)

[F7Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LANid mwy na £225,0000%
Y band treth cyntafMwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,0001%
Yr ail fand trethMwy na £2,000,0002%]

Diwygiadau Testunol

F7Atod. Tabl 4 wedi ei amnewid (yn effeithiol yn unol ag rhlau. 3-5 o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1618), rhlau. 1, 6(4)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol cyntaf ar gyfer treth trafodiadau tir, a gyflwynir gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”).

Mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau trethadwy y mae’r dyddiad y mae’r trafodiadau hynny’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.

Mae bandiau treth a chyfraddau treth canrannol ar wahân yn gymwys i:

  • Trafodiadau eiddo preswyl (Tabl 1);

  • Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch (Tabl 2);

  • Trafodiadau eiddo amhreswyl (Tabl 3); a

  • Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent (ac sydd felly ond yn berthnasol yn achos lesoedd) (Tabl 4).

Mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol ag adrannau 27 a 28 o’r Ddeddf TTT ac eithrio pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent. Yn yr achosion hynny, mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.

Yn rhinwedd adran 24(8) o’r Ddeddf TTT, mae trafodiadau sy’n cynnwys cymysgedd o eiddo preswyl ac eiddo amhreswyl i’w trin fel trafodiadau eiddo amhreswyl (ac mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn Nhabl 3 yn gymwys).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 17 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 i gael y diffiniad o “trafodiad trethadwy”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources