Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
Yn unol ag adran 25(1) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Cymhwyso2.
F1(1)
F3(2)
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy sy’n ddarostyngedig i Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.
Bandiau treth a chyfraddau treth canrannol3.
Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol at ddibenion adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi—
(a)
mae Tabl 1 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl;
(b)
mae Tabl 2 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;
(c)
mae Tabl 3 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo amhreswyl; a
(d)
mae Tabl 4 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent.
YR ATODLEN
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
|---|---|---|
Band cyfradd sero | Nid mwy na £225,000 | 0% |
Y band treth cyntaf | Mwy na £225,000 ond nid mwy na £400,000 | 6% |
Yr ail fand treth | Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 | 7.5% |
Y trydydd band treth | Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 | 10% |
Y pedwerydd band treth | Mwy na £1,500,000 | 12% |
F5Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
|---|---|---|
Y band treth cyntaf | Nid mwy na £180,000 | 5% |
Yr ail fand treth | Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 | 8.5% |
Y trydydd band treth | Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 | 10% |
Y pedwerydd band treth | Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 | 12.5% |
Y pumed band treth | Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 | 15% |
Y chweched band treth | Mwy na £1,500,000 | 17% |
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
|---|---|---|
Band cyfradd sero | Nid mwy na £225,000 | 0% |
Y band treth cyntaf | Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000 | 1% |
Yr ail fand treth | Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000 | 5% |
Y trydydd band treth | Mwy na £1,000,000 | 6% |
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
|---|---|---|
Band cyfradd sero LA | Nid mwy na £225,000 | 0% |
Y band treth cyntaf | Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000 | 1% |
Yr ail fand treth | Mwy na £2,000,000 | 2% |
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol cyntaf ar gyfer treth trafodiadau tir, a gyflwynir gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”).
Mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau trethadwy y mae’r dyddiad y mae’r trafodiadau hynny’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
Mae bandiau treth a chyfraddau treth canrannol ar wahân yn gymwys i:
Trafodiadau eiddo preswyl (Tabl 1);
Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch (Tabl 2);
Trafodiadau eiddo amhreswyl (Tabl 3); a
Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent (ac sydd felly ond yn berthnasol yn achos lesoedd) (Tabl 4).
Mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol ag adrannau 27 a 28 o’r Ddeddf TTT ac eithrio pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent. Yn yr achosion hynny, mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.
Yn rhinwedd adran 24(8) o’r Ddeddf TTT, mae trafodiadau sy’n cynnwys cymysgedd o eiddo preswyl ac eiddo amhreswyl i’w trin fel trafodiadau eiddo amhreswyl (ac mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn Nhabl 3 yn gymwys).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.