- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Gwnaed
28 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 81(2) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ddod i rym yw 18 Hydref 2017—
(a)adran 9(6) (tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr);
(b)adran 24 (rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan is-adrannau (1) ac (11);
(c)adran 25 (gweithdrefn ar gyfer rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth);
(d)adran 30(1) (rhyddhadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall) y cyfeirir atynt ym mharagraff (e);
(e)yn Atodlen 11—
(i)paragraff 2 (dehongli);
(ii)paragraff 9(1) (amod 4) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(iii)paragraff 16 (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(iv)paragraff 18(4)(a) a (5) (disodli ased) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(f)adran 32(2) (lesoedd) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 28 a 36(1)(b) o Atodlen 6 (lesoedd);
(g)yn Atodlen 6—
(i)paragraff 28 (cyfraddau treth a bandiau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg);
(ii)paragraff 36(1)(b) (y rhent perthnasol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(h)adran 65(5), (6) a (7)(b) (cofrestru trafodiadau tir);
(i)adran 76 (diwygiadau i DCRhT) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 8 o Atodlen 23 (diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(2)); a
(j)paragraff 8 o Atodlen 23.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 18 Hydref 2017. Mae’r darpariaethau perthnasol yn ei gwneud yn bosibl paratoi ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig. Yn benodol, mae’r darpariaethau perthnasol—
(a)yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth;
(b)yn rhoi pŵer i’r Prif Gofrestrydd Tir ymrwymo i drefniadau gydag Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) at ddibenion galluogi ACC i wirio y cydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf; ac
(c)yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: