- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru
Gwnaed
29 Mawrth 2017
Yn dod i rym
1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 108 o’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer(2).
3. Mae rheoliad 3 (apelau yn erbyn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol) o Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan—
(a)adran 72A(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd pellach a godir os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod codi taliadau priodol); neu
(b)adran 107A(4) o Ddeddf 2009 (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);
apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.”;
(b)ym mharagraff (2) ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “neu baragraff (1A)”;
(c)ym mharagraff (3) ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “neu baragraff (1A)”.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/923 (Cy. 132)) (“y Prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiadau penodol a ddyroddir o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiadau sy’n amrywio, yn atal dros dro neu’n dirymu trwydded forol a ddyroddir o dan adrannau 72A(7) a 107A(4) o Ddeddf 2009.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o’r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) o’r Ddeddf honno i gael diffiniad o “Welsh inshore region”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: