Search Legislation

Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3

YR ATODLENArbedion a darpariaethau trosiannol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “CGC” (“the CCW”) yw Cyngor Gofal Cymru(1);

ystyr “cofrestr CGC” (“the CCW register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan CGC o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “cofrestr GCC” (“the SCW register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan GCC o dan adran 80 o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru(2);

mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yr ystyr a roddir yn adran 79 o’r Ddeddf;

mae i “person a drosglwyddir” (“transferred person”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3.

Cyffredinol

2.  Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae unrhyw beth a wneir gan CGC, neu mewn perthynas ag ef, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn statudol (pan fo’n briodol), i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan GCC neu mewn perthynas ag ef.

Trosglwyddo cofrestr CGC

3.—(1Mae pob person sydd yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei gofrestru ar un o rannau cofrestr CGC(3) a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei gofrestru, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC(4).

(2Y rhannau o’r gofrestr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)y brif ran;

(b)y rhan ychwanegol;

(c)y rhan ymwelwyr Ewropeaidd.

(3Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo person—

(a)wedi ei gofrestru yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC, a

(b)yn dod o fewn y naill neu’r llall o’r disgrifiadau a ganlyn—

(i)gweithiwr cartref gofal i oedolion, neu

(ii)gweithiwr gofal cartref.

(4Mae person y mae ei enw yn ymddangos ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni, neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, ac y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro, yn cael ei ystyried at ddibenion is-baragraffau (1) i (3) fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr, ond mae paragraff 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y personau hynny.

(5Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at gofnod yn y gofrestr sydd wedi ei gynnwys ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i gael eu trin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel pe baent yn cynnwys cofnodion blaenorol yng nghofrestr CGC sy’n ymwneud â phersonau a drosglwyddir.

(6Cyfeirir at berson, sy’n dod yn gofrestredig yng nghofrestr GCC yn rhinwedd y paragraff hwn, yn yr Atodlen hon yn “person a drosglwyddir”.

Cofrestriad sy’n ddarostyngedig i amodau

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os oedd cofrestriad person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn ddarostyngedig i amodau a osodir—

(a)wrth ganiatáu cais y person a drosglwyddir i CGC ar gyfer cofrestru neu adnewyddu cofrestriad gan CGC, y Pwyllgor Cofrestru(5) neu’r Pwyllgor Adfer(6), neu

(b)yn ystod achos, neu ar ddiwedd achos, mewn perthynas ag ymddygiad person gan y Pwyllgor Ymchwilio neu’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer.

(2Per bai’r amodau wedi parhau mewn grym ar 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person hwnnw yng nghofrestr GCC yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r amodau hynny fel pe baent wedi eu gosod yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd mewn gorchymyn cofrestru amodol a wneir gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer(7) (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i osod yr amodau hynny).

Cofrestriad sy’n ddarostyngedig i gerydd

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, oedd cofnod o gerydd(8) ar gofnod person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC, a

(b)pe bai’r cofnod o’r cerydd wedi parhau ar 3 Ebrill 2017.

(2Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person hwnnw yng nghofrestr GCC i gael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i rybudd o ran ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol, yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd â’r cerydd, a ddyroddir gan GCC neu banel addasrwydd i ymarfer(9) (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i ddyroddi’r rhybudd hwnnw).

Cofrestriad sydd wedi ei atal dros dro

6.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd cofrestriad person a drosglwyddir yng nghofrestr CGC yn union cyn 3 Ebrill 2017 wedi ei atal dros dro yn rhinwedd gorchymyn atal dros dro a osodir gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC neu orchymyn atal dros dro interim a osodir gan ei Bwyllgor Ymchwilio, a

(b)pe bai’r ataliad dros dro wedi parhau ar 3 Ebrill 2017.

(2Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cofrestriad y person yng nghofrestr GCC i gael ei drin fel pe bai wedi ei atal dros dro yn unol â’r un telerau ac ar gyfer yr un hyd drwy orchymyn panel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer GCC (sydd i gael ei ystyried a chanddo’r pŵer i wneud y gorchymyn hwnnw).

(3Yn unol â hynny, a chyhyd ag y mae’r ataliad dros dro yn cael ei drin fel pe bai’n parhau, bydd adran 163 o’r Ddeddf yn gymwys i gofrestriad y person yng nghofrestr GCC(10).

Gorchmynion gwahardd

7.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, oedd person a drosglwyddir yn ddarostyngedig i orchymyn gwahardd a osodir gan Bwyllgor Adfer CGC(11).

(2Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae hawl y person i wneud cais i gael ei adfer i gofrestr GCC(12) i gael ei thrin fel pe bai wedi ei atal am gyfnod amhenodol gan gyfarwyddyd a wneir, ar yr un dyddiad â’r gorchymyn gwahardd, gan banel apelau cofrestru i GCC o dan adran 98(4) o’r Ddeddf (achosion adfer)(13).

Achosion presennol CGC

8.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, mae person a drosglwyddir—

(a)yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC, neu

(b)yn berson y mae CGC wedi cael gwybodaeth amdano a allai arwain at achos o’r fath.

(2Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae achosion o’r fath neu ddarpar achosion o’r fath i gael eu diweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014(14).

Ceisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu sydd heb eu penderfynu

9.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw cais wedi ei wneud i CGC ond nad yw wedi ei benderfynu ganddo, ar gyfer—

(a)cofrestru ym mhrif ran cofrestr CGC, yn y rhan ychwanegol ohoni neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni, neu

(b)adnewyddu cofrestriad o’r fath.

(2Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae cais o’r fath i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud i GCC ar gyfer cofrestru yn y rhan gyfatebol o gofrestr GCC, neu ar gyfer adnewyddu cofrestriad o’r fath.

(3Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw cais yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Cofrestru CGC, mae’r achos i gael ei ddiweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b)(15).

(4Ond nid yw is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys—

(a)i gais ar gyfer cofrestru fel gweithiwr cartref gofal i oedolion neu weithiwr gofal cartref yn y rhan ychwanegol o gofrestr CGC,

(b)i adnewyddu cais o’r fath, neu

(c)i achos mewn cysylltiad â chais o’r fath(16).

Ceisiadau i adfer

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 7 ac is-baragraff (2), caiff person yr oedd gorchymyn dileu wedi ei wneud mewn perthynas ag ef yn unol â Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Ymddygiad) 2011 neu Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 cyn 3 Ebrill 2017, ac nad yw erbyn y diwrnod hwnnw wedi ei adfer i gofrestr CGC, wneud cais i GCC i gael ei adfer i gofrestr GCC.

(2Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae cais o’r fath i gael ei benderfynu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.

(3Mae cais a wneir cyn 3 Ebrill 2017 i adfer i brif ran cofrestr CGC, i’r rhan ychwanegol ohoni neu i’r rhan ymwelwyr Ewropeaidd ohoni i gael ei drin, ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud i GCC i adfer i’r rhan gyfatebol o gofrestr GCC.

(4Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yw achos gerbron Pwyllgor Adfer CGC wedi dechrau yn unol â chais o’r fath, mae’r achos i gael ei ddiweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.

(5Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)i gais a wneir gan weithiwr cartref gofal i oedolion neu weithiwr gofal cartref i gael ei adfer i’r rhan ychwanegol o’r gofrestr, neu

(b)i achos mewn cysylltiad â chais o’r fath.

Apelau

11.—(1Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae adran 68 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (apelau i’r Tribiwnlys) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phenderfyniad CGC a wneir cyn 3 Ebrill 2017 mewn perthynas â pherson a drosglwyddir neu berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu.

(2Ond ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017—

(a)mae ymatebydd i apêl a wneir neu a barheir yn rhinwedd is-baragraff (1) i gael ei drin fel GCC yn hytrach na CGC, a

(b)mae GCC (neu banel a sefydlir o dan adran 174 o’r Ddeddf) i gael ei drin—

(i)fel pe bai wedi gwneud y penderfyniad o dan sylw, a

(ii)fel pe bai ganddo’r pŵer i weithredu penderfyniad y Tribiwnlys (neu unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl bellach gan y Tribiwnlys).

Cwestiynau sy’n ymwneud ag ymddygiad

12.—(1Mae unrhyw gwestiwn o ran ymddygiad neu ymarfer, cyn 3 Ebrill 2017, person a drosglwyddir neu berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu, i gael ei benderfynu ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel y byddai wedi ei benderfynu cyn y diwrnod hwnnw.

(2Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, mae cod ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a fyddai wedi bod yn gymwys yn union cyn 3 Ebrill 2017 mewn cysylltiad â’r ymddygiad neu’r ymarfer o dan sylw i barhau i fod yn gymwys ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw mewn cysylltiad â’r ymddygiad hwnnw neu’r ymarfer hwnnw.

Cymeradwyo safonau, cyrsiau, etc.

13.—(1Mae’r safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith cymdeithasol perthnasol(17) a ddisgrifir yn union cyn 3 Ebrill 2017 mewn rheolau a wneir gan CGC o dan adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (cymeradwyo cyrsiau etc.) yn cael effaith ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel pe bai wedi ei sefydlu o dan adran 114 o’r Ddeddf (cymeradwyo cyrsiau etc.) fel y safon o hyfedredd sy’n ofynnol i berson gael ei dderbyn i gofrestr GCC.

(2Ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae’r canlynol i gael eu trin fel cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion adran 84 o’r Ddeddf (“wedi ei gymhwyso’n briodol”)—

(a)cwblhau cwrs yn llwyddiannus mewn gwaith cymdeithasol perthnasol a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, wedi ei gymeradwyo gan CGC yn rhinwedd adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)bodloni gofynion o ran hyfforddiant a osodir cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 58(2)(a)(iii) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (sy’n ymwneud ag amod ar gyfer caniatáu cofrestriad o dan y Ddeddf honno fel gweithiwr cymdeithasol);

(c)bodloni gofynion o ran hyfforddiant a osodir cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 58(2)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (sy’n ymwneud â gofynion hyfforddiant ar gyfer caniatáu cofrestriad o dan y Ddeddf honno, ar gyfer personau ac eithrio gweithwyr cymdeithasol, fel gweithiwr gofal cymdeithasol).

(3Mae is-baragraff (2)(a) hefyd yn gymwys i gyrsiau a oedd yn cael eu trin yn union cyn 3 Ebrill 2017 fel cyrsiau a gymeradwyir gan CGC yn rhinwedd erthygl 5(2)(a) o Orchymyn Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol (Cynllun Trosglwyddo) 2001(18) fel y mae’n gymwys i gyrsiau a gymeradwyir gan CGC yn rhinwedd adran 63 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(4Mae cyfnod addasu neu brawf tueddfryd y mae CGC yn ei gwneud yn ofynnol i geisydd ei wneud cyn 3 Ebrill 2017 yn rhinwedd adran 64(A1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (cymwysterau a geir y tu allan i ardal Cyngor Cymru, pan fo’r ceisydd yn berson esempt o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)(19) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw yn ofynnol yn rhinwedd adran 85 o’r Ddeddf (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru).

(5Mae cwblhau’n llwyddiannus hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol perthnasol a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn cael ei gydnabod gan CGC fel bod o safon ddigonol ar gyfer cofrestru ym mhrif ran cofrestr CGC at ddibenion adran 64(2)(b)(i) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(20) (cymwysterau a geir y tu allan i ardal Cyngor Cymru) i gael ei drin ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 fel cymhwyster y mae GCC wedi ei fodloni yn ei gylch at ddibenion adran 85(2)(b)(i) o’r Ddeddf.

(6Mae cwblhau’n llwyddiannus hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol cyn 3 Ebrill 2017 gan CGC o dan adran 64(2)(b)(ii) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol pan nad yw CGC wedi ei fodloni o ran safon hyfforddiant) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel hyfforddiant ychwanegol sy’n bodloni GCC at ddibenion adran 85(2)(b)(ii) o’r Ddeddf.

(7Mae hyfforddiant pellach a oedd, yn union cyn 3 Ebrill 2017, yn ofynnol gan CGC yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(21) (hyfforddiant ar ôl cofrestru) i gael ei drin ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw fel pe bai—

(a)yn ddatblygiad proffesiynol parhaus a bennir gan GCC yn rhinwedd adran 113(1) o’r Ddeddf (datblygiad proffesiynol parhaus), oni bai bod yr hyfforddiant yn ymwneud â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd, neu

(b)yn gwrs a gymeradwyir gan GCC yn rhinwedd adran 114A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (cymeradwyo cyrsiau: Cymru)(22), yn achos gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd.

(8Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal GCC ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017 rhag arfer ei bwerau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw safon, cymhwyster, cwrs, hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol parhaus a grybwyllir yn y paragraff hwn.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

14.—(1Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, caiff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) barhau i ymchwilio i gŵyn a wneir iddo mewn perthynas â CGC cyn 3 Ebrill 2017 o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(23), ond fel pe bai’r gŵyn wedi ei gwneud mewn cysylltiad â GCC.

(2Pan fo’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad yn unol â’r paragraff hwn, rhaid i’r Ombwdsmon anfon adroddiad o ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw at Weinidogion Cymru ac i GCC(24).

(1)

Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru gan adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (“Deddf 2000”).

(2)

Mae adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn diddymu adran 54 o Ddeddf 2000; ond mae’r corff corfforaethol a sefydlwyd ganddi, sef Cyngor Gofal Cymru, wedi ei ailenwi’n Ofal Cymdeithasol Cymru ac mae’r Ddeddf yn ailddatgan ei swyddogaethau gwreiddiol, yn eu haddasu ac yn ychwanegu atynt.

(3)

Gweler adran 56(2A) o Ddeddf 2000.

(4)

Gweler adran 80(3) o’r Ddeddf; y rhannau hyn yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol”, y “rhan ychwanegol” a’r “rhan ymwelwyr Ewropeaidd”.

(5)

Mae’r Pwyllgor Cofrestru wedi ei sefydlu gan reol 14 o Reolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b), sydd wedi eu gwneud gan CGC o dan bwerau yn Rhan 4 o Ddeddf 2000 a chyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(6)

Mae’r Pwyllgor Adfer, y Pwyllgor Ymchwilio a’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer wedi eu sefydlu gan reol 4 o Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014, sydd wedi eu gwneud gan CGC o dan bwerau yn Rhan 4 o Ddeddf 2000 a chyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(7)

Mae adran 174 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i GCC sefydlu panel apelau cofrestru, panel addasrwydd i ymarfer a phanel gorchmynion interim.

(8)

Gweler Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014.

(9)

Caniateir i rybuddion gael eu dyroddi gan GCC o dan adran 126(3)(c) o’r Ddeddf, a chan banel addasrwydd i ymarfer o dan adrannau 137(5), 138(6), 152(3)(b)(ii) ac (8)(b), 153(3)(b)(ii) a (9)(b), 154(3)(b)(ii) ac (8)(b) a 155(6)(b)(ii).

(10)

Mae adran 163 o’r Ddeddf (sy’n gwneud darpariaeth atodol ynghylch atal dros dro) yn gwneud darpariaeth nad yw person, yn ddarostyngedig i is-adran (3), i gael ei drin fel person cofrestredig os yw’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro er gwaethaf bod ei enw yn dal i ymddangos yn y gofrestr. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff gweithwyr cymdeithasol sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro eu galw eu hunain yn weithwyr cymdeithasol cofrestredig neu honni eu bod wedi eu cofrestru, ond caiff achosion addasrwydd i ymarfer, achosion o dan adran 94 o’r Ddeddf (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol), neu gais i ddileu cofnod o’r gofrestr drwy gytundeb (gan reolau a wneir o dan adran 92) barhau.

(11)

Caniateir i orchymyn gwahardd gael ei wneud gan Bwyllgor Adfer CGC yn unol â Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 o dan amgylchiadau pan fo person wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr ac wedi gwneud cais blaenorol i gael ei adfer i gofrestr CGC sydd wedi ei wrthod.

(12)

Gweler adran 97 o’r Ddeddf (adfer yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer).

(13)

Mae adran 98(4) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i banel apelau cofrestru i gyfarwyddo na chaiff person wneud unrhyw geisiadau pellach i gael ei adfer i gofrestr GCC. Mae adran 97 yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi person i wneud cais am i gyfarwyddyd o’r fath gael ei adolygu ar ôl cyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn cael ei roi.

(14)

Mae Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 wedi eu gwneud o dan adrannau 59 ac 71 o Ddeddf 2000. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig ac i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) a hefyd adran 185 a Rhan 2 o Atodlen 3, sy’n diddymu darpariaethau penodol yn Neddf 2000. Mae’r ddarpariaeth hon yn arbed y Rheolau at y dibenion a bennir yn y paragraff.

(15)

Gwnaed Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Cofrestru) 2015(b) o dan bwerau yn adrannau 57 i 60, 63 i 65 ac 71 o Ddeddf 2000. Mae erthygl 2 yn cychwyn Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig ac i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) a hefyd adran 185 a’r Atodlen sy’n diddymu darpariaethau penodol yn Neddf 2000. Mae’r ddarpariaeth hon yn arbed y Rheolau at y dibenion a bennir yn y paragraff.

(16)

Gallai gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr gofal cartref wneud cais ar gyfer cofrestriad gwirfoddol yn y rhan ychwanegol o’r gofrestr a gynhelir gan CGC o dan adran 56 o Ddeddf 2000. Nid yw’r gofrestr a gynhelir gan GCC o dan adran 80 o’r Ddeddf yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cofrestriad gwirfoddol gan bersonau o’r fath. Gweler paragraff 3 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo cofnodion ar y gofrestr a gynhelir gan CGC. Bydd ceisiadau ac achosion y cyfeirir atynt ym mharagraff 9(4) yn darfod.

(17)

Gweler adran 63(3) o Ddeddf 2000.

(18)

O.S. 2001/2561. Mae erthygl 5(2)(a) yn trin cyrsiau penodol a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol yn gyrsiau a gymeradwyir gan CGC (a chyrff eraill) hyd nes y mae CGC etc. yn penderfynu nad yw’r cyrsiau hynny yn cael eu cydnabod ganddo.

(19)

Gweler adran 55(6) o Ddeddf 2000 ac adran 90(8) o’r Ddeddf am y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”.

(20)

Amnewidiwyd pennawd adran 64 o Ddeddf 2000 gan baragraff 12(c) o Atodlen 15 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), a chan reoliad 106(2) o Ran 7(1) o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 2016 (O.S. 2016/1030). Ychwanegwyd is-adran (A1) gan reoliad 238(a) o Ran 18 o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 2007 (O.S. 2007/3101).

(21)

Diwygiwyd adran 65 gan O.S. 2007/3101.

(22)

1983 p. 20, mewnosodwyd adran 114A gan adran 19 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p. 12), mae hefyd wedi ei diwygio gan adran 217 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, a chan adran 185 o’r Ddeddf a Rhan 2 o Atodlen 3 iddi.

(23)

2005 p. 10 (“Deddf 2005”).

(24)

Mae adran 16 o Ddeddf 2005 yn gwneud darpariaeth am adroddiadau ymchwiliadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources