Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1264 (Cy. 295)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gwnaed

12 Rhagfyr 2017

Yn dod i rym

2 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46, 186(1) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o’r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j) a (k) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(2);

ystyr “asesiad darparwr” (“provider assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnal gan y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 18;

ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”) mewn perthynas â phlentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal neu wasanaeth llety diogel yw—

(a)

yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol hwnnw;

(b)

yn achos plentyn nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr—

(i)

os yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn gan sefydliad gwirfoddol, y sefydliad gwirfoddol hwnnw;

(ii)

os yw’r plentyn wedi ei letya mewn ysgol gymhwysol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol (pa un ai wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(3) neu fel arall), yr awdurdod lleol hwnnw;

(iii)

mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;

ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “ysgol gymhwysol” (“qualifying school”) yw ysgol sy’n wasanaeth cartref gofal yn rhinwedd cymhwyso paragraff 1(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”)—

(a)

mewn perthynas ag oedolyn, yw’r canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd;

(b)

mewn perthynas â phlentyn, yw—

(i)

y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu

(ii)

y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;

F1...

ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol neu’r corff GIG sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â’r darparwr er mwyn i ofal a chymorth gael eu darparu i unigolyn:

F1...

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;

ystyr “cynllun personol” (“personal plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 15(1);

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn i weithredu ar ran yr unigolyn;

mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;

ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth wedi ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodedig;

(b)

mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig.

At ddiben y diffiniad hwn—

(i)

ystyr “lleoliad penodedig” (“specified location”) yw lleoliad a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo(5);

(ii)

ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

Ond nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys i gyfeiriadau at “y gwasanaeth” (“the service”) yn Rhan 22;

[F2ystyr “gwasanaethau rheoleiddiedig” (“regulated services”) yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel neu wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;]

[F3“ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(7);”;]

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;

[F3“mae i “proffesiynolyn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered professional” ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(8);”.]

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(6) yn gymwys iddo;

ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol(7);

ystyr “rheoleiddiwr y gweithlu” (“the workforce regulator”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru;

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)

personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)

personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr.

At ddiben y diffiniad hwn, mae i “cyflogai” a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(8);

ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni noda’r cyd-destun yn wahanol, yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth;

mae i “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”) yr un ystyr ag yn adran 21(1) o’r Ddeddf;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig(9) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(10), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir o dan Ddeddf Deintyddion 1984(11) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.

RHAN 2LL+CEithriadau

Gwasanaethau cartrefi gofalLL+C

2.—(1Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—

(a)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—

(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

(b)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—

(i)yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(ii)mewn ymddiriedolaeth GIG;

(iii)mewn Bwrdd Iechyd Lleol.

(d)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—

(i)gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu

(ii)gan brifysgol.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.

At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(12);

(e)[F4y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan foʼr gofal a ddarperir yn gyfystyr â gwarchod plant o fewn ystyr adran 19(2), neu ofal dydd o fewn ystyr adran 19(3), o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ond nid ywʼr eithriad hwn yn gymwys—]

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—

(i)mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);

(ii)yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.

(f)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os [F5darperir gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl] ;

(g)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;

(h)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 1952(13);

(i)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant F6...at ddibenion—

(i)gwyliau;

(ii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—

(i)mewn unrhyw achos [F7pan fo gofal yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl oni bai bod y darparwr gwasanaeth yn gyntaf wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y trefniadau] ;

(ii)os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oed[F8;]

[F9(j)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, i un plentyn neu i grŵp o frodyr a chwiorydd gan berson yng nghartref y person hwnnw ei hunan a phan na fo gofal a llety yn cael eu darparu gan y person hwnnw am gyfanswm o fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis[F10.]]

F11(k). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F12(2) At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

(3) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

[F13(4) Yn is-baragraff (1)(j) oʼr rheoliad hwn, mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd.]]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwasanaethau cymorth cartrefLL+C

3.—(1Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—

(a)y ddarpariaeth o gymorth yn unig;

(b)y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;

(c)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—

(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

(d)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;

(e)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973(14)), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;

(f)trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;

(g)y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall[F14;]

[F15(h)y ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig;

(i)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwallu anghenion syʼn gysylltiedig ag anghenion unigolion am ofal nyrsio[F16.]]

F17(j). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

(3Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—

(a)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(15)) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

(b)unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

(c)grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;

(d)ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.

(4Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoeddLL+C

4.  Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, er gwaethaf paragraff 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd)—

(a)y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn ysbyty(16);

(b)y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn hostel neu mewn lloches rhag trais domestig;

(c)mewn unrhyw achos arall, y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni sydd â’r prif ddiben o ddarparu llety ynghyd â gwasanaethau a chyfleusterau eraill i unigolion sy’n oedolion ac mae’r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i’r prif ddiben o ddarparu’r llety.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Ystyr perthynas deuluol neu bersonolLL+C

5.  At ddibenion y Rhan hon—

(a)mae perthynas deuluol yn cynnwys perthynas rhwng dau berson sydd—

(i)yn byw yn yr un aelwyd, a

(ii)yn trin ei gilydd fel pe baent yn aelodau o’r un teulu;

(b)mae perthynas bersonol yn berthynas rhwng neu ymhlith ffrindiau;

(c)mae ffrind i berson (A) yn cynnwys person sy’n ffrind i aelod o deulu A.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CGofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaethLL+C

6.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddibenLL+C

7.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i gael ei wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.

(6Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—

(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau,

(b)yr unigolion,

(c)yr awdurdod lleoli (pan fo’n berthnasol), a

(d)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(7Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwellaLL+C

8.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unigolion,

(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,

(c)yn achos unigolyn sy’n blentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal, yr awdurdod lleoli,

(d)comisiynwyr gwasanaethau, ac

(e)staff,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 80(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifolLL+C

9.—(1Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—

(a)yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(3Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 16 i 20, rhaid i’r darparwr—

(a)cymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a

(b)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.

(4Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(5Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolynLL+C

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.

(3Yn ystod unrhyw adeg pan fo’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(4Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaethLL+C

11.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnauLL+C

12.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

  • Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth (gweler [F18Rhan 4] , rheoliad 14)

  • Diogelu (gweler Rhan 8, rheoliad 27)

  • Cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler Rhan 8, rheoliad 28)

  • Defnyddio rheolaeth neu ataliaeth (gweler Rhan 8, rheoliad 29)

  • Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 36)

  • Disgyblu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 39)

  • Rheoli heintiau (gweler Rhan 14, rheoliad 56)

  • Meddyginiaeth (gweler Rhan 14, rheoliad 58)

  • Cwynion (gweler Rhan 15, rheoliad 64)

  • Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 15, rheoliad 65)

(2Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar atal bwlio, gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio a gweithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd (gweler rheoliad 27(5)).

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth rheoleiddiedig a nodir yn y datganiad o ddiben.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) i (3)—

(a)yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadw’n gyfredol.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd gonestrwyddLL+C

13.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—

(a)ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth,

(b)ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny, ac

(c)yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaethLL+C

14.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu gofal a chymorth ar gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn ac i gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan baragraff (4),

(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,

(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt,

(g)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn gael eu diwallu, a

(h)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(4Mewn achos pan na fo gan yr unigolyn gynllun gofal a chymorth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)asesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a

(b)nodi ei ganlyniadau personol.

(5Rhaid i’r asesiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) gael ei gynnal gan berson sydd—

(a)â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(6Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

Cynllun personolLL+C

15.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi—

(a)sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,

(b)sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,

(c)y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a

(d)y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.

(2Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.

(3Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac nad oes amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.

(6Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(7Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4),

(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Adolygu cynllun personolLL+C

16.—(1Rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.

(2Yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, rhaid i unrhyw adolygiad o’r cynllun personol gael ei alinio â’r adolygiadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cynnal gan yr awdurdod lleol o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(17).

(3Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.

(4Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(5Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun yn ôl yr angen.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cofnodion o gynlluniau personolLL+C

17.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw cofnod—

(i)o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a

(ii)o ganlyniad unrhyw adolygiad, a

(b)rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig—

(i)i’r unigolyn,

(ii)i unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn, ac

(iii)pan fo llety wedi ei ddarparu i blentyn fel rhan o wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Asesiad darparwrLL+C

18.—(1O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer unigolyn gael ei chychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)asesu sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau,

(b)asesu sut y gall yr unigolyn gael ei gefnogi orau i gyflawni ei ganlyniadau personol,

(c)canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(d)asesu unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(e)asesu unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.

(2Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at yr asesiad o dan baragraff (1) fel asesiad darparwr.

(3Rhaid i asesiad darparwr gael ei gynnal gan berson sydd—

(a)â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(4Rhaid i asesiad darparwr ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, os oes un ar gael,

(b)asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4), os yw’n gymwys,

(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(f)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(5Wrth gynnal neu ddiwygio asesiad darparwr, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(6Rhaid i asesiad darparwr gael ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn ôl yr angen.

(7Ar ôl cwblhau asesiad y darparwr ac unrhyw asesiad diwygiedig, rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen.

(8Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw cofnod o asesiad darparwr a rhoi copi o’r asesiad i’r unigolyn, i unrhyw gynrychiolydd a, phan fo llety wedi ei ddarparu i’r plentyn gan wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

Gwybodaeth am y gwasanaethLL+C

19.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r canllaw—

(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru yn ôl yr angen,

(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(c)cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth,

(d)yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gael ei roi i’r awdurdod lleoli, ac

(e)cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.

(3Rhaid i’r canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;

(b)gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cytundeb gwasanaethLL+C

20.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y rhoddir i bob unigolyn gopi wedi ei lofnodi o unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â—

(a)y gofal a’r cymorth a ddarperir i’r unigolyn;

(b)unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i’r unigolyn.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu

Safonau gofal a chymorth - gofynion cyffredinolLL+C

21.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth mewn ffordd—

(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a

(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

(4Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid i anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd, comisiynydd y gwasanaeth a’r awdurdod lleoli ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Parhad gofalLL+C

22.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael parhad gofal sy’n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

GwybodaethLL+C

23.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

(2Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—

(a)natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;

(b)y lefel o ddealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;

(c)yn achos plentyn, oedran y plentyn.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Iaith a chyfathrebuLL+C

24.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith unigolion.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolyn i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Parch a sensitifrwyddLL+C

25.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i,—

(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;

(b)parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;

(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;

(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu

Diogelu - gofyniad cyffredinolLL+C

26.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Polisïau a gweithdrefnau diogeluLL+C

27.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,

(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth iddo,

(c)gwneud atgyfeiriadau priodol at asiantaethau eraill, a

(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

(5Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle—

(a)polisi ar atal bwlio;

(b)gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio;

(c)y weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fo unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cefnogi unigolion i reoli eu harianLL+C

28.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.

(2Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i gael eu cymryd i alluogi a chefnogi pobl i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ariannol.

[F19(2A) Pan fo gwasanaeth yn darparu llety ar gyfer plant, rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn nodi’r camau y bydd y darparwr gwasanaeth yn eu cymryd i sicrhau y caiff cynilion a wneir gan neu ar ran plant eu goruchwylio a’u monitro’n ddigonol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cadw cofnodion o gynilion (a gwariant o gynilion) a throsglwyddo’r cofnodion hyn pan ddaw lleoliad i ben.]

(3Pan fo arian unigolyn yn cael ei ddal gan y darparwr gwasanaeth at unrhyw ddiben (ac eithrio arian a ddelir at ddiben talu ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn yn unol ag unrhyw gytundeb â’r darparwr gwasanaeth), rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu—

(a)bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enw’r unigolyn neu mewn cyfrif sy’n golygu bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng arian pob unigolyn;

(b)nad yw unrhyw gyfrif o’r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â rheoli’r gwasanaeth.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau cyn belled ag y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gweithredu fel asiant i unigolyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Y defnydd priodol o reolaeth ac ataliaethLL+C

29.—(1Ni chaniateir darparu gofal a chymorth mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall, a

(b)yn ymateb cymesur i risg o’r fath.

(2Ni chaniateir defnyddio rheolaeth neu ataliaeth oni bai ei bod yn cael ei chyflawni gan staff sydd wedi eu hyfforddi yn y dull rheolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth a sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisi hwn.

(4Rhaid i gofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo gael ei wneud o fewn 24 awr.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—

(a)yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys defnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwaharddiad ar y defnydd o gosb gorfforolLL+C

30.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir llety iddo.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir gofal a chymorth iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Amddifadu o ryddidLL+C

31.  Ni chaniateir amddifadu unigolyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Rhan 8LL+C

32.  Yn y Rhan hon—

ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.

At ddibenion y diffiniad hwn—

(a)

mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—

(i)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

(ii)

bod person yn cael ei dwyllo;

(iii)

bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

(iv)

bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

(b)

mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(18).

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety yn cael ei ddarparu

Cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraillLL+C

33.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi trefniadau yn eu lle er mwyn i unigolion—

(a)cael eu cofrestru ag ymarferydd cyffredinol,

(b)cael eu rhoi o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig,

(c)gallu cael gafael ar driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd yn ôl yr angen, a

(d)cael eu cefnogi i gael gafael ar wasanaethau o’r fath.

(3Yn achos gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant neu yn achos gwasanaeth llety diogel, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddynodi aelod o staff i fod yn “gweithiwr cyswllt” ar gyfer pob plentyn a rhaid iddo sicrhau—

(a)bod gweithiwr cyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy’n ymwneud ag ystyried cynnydd addysgol y plentyn, pa un a yw’n cael ei gynnal o dan reoliadau a wneir o dan adran 102 o Ddeddf 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 neu fel arall;

(b)bod gweithiwr cyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy’n ymwneud ag ystyried unrhyw agwedd ar iechyd plentyn, pa un a yw’n cael ei gynnal o dan reoliadau a wneir o dan adran 102 o Ddeddf 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 neu fel arall.

(4Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “gweithiwr cyswllt” yw aelod o staff gwasanaeth cartref gofal ar gyfer plant sydd ar lefel briodol uchel a chanddo gyfrifoldeb penodol am amddiffyn a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol ac am gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 10LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Staffio - gofynion cyffredinolLL+C

34.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;

(b)i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

(c)i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;

(d)i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.

(2Yn achos gwasanaeth cartref gofal pan fo unrhyw unigolyn y darperir llety iddo wedi cael ei asesu yn rhywun y mae angen gofal nyrsio 24 awr arno, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod nifer digonol o nyrsys cofrestredig sydd â’r cymwysterau addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth ar bob adeg.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—

(a)y mathau o staff a ddefnyddir, a

(b)niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 22 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

(6Ym mharagraff (5) o’r rheoliad hwn, mae i “contract oriau heb eu gwarantu” yr un ystyr ag yn rheoliad 42.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Addasrwydd staffLL+C

35.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;

(c)bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

(d)F20... bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 i Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

(e)[F21yn ddarostyngedig i baragraff (10) oʼr rheoliad hwn,] pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru;

[F22(f)[F23yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);]

[F24(g)[F25yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).]

(3) Rhaid i gais gael ei wneud ar gyfer y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).

(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6) Pan nad yw person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7) Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

(b)pan fo’n briodol, roi gwybod—

(i)i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

(ii)i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

(8) Ym mharagraff (2)(f) o’r rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

(a)chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu

(b)dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

[F26(8A) Ym mharagraff (2)(g) oʼr rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

(a)6 mis oʼr dyddiad y cymerir person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal F27...,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, F28...

[F29(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, neu]

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.]

(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan [F30adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012] .

F31(9A) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F32(10) Tan 1 Ebrill 2020, nid yw’r gofyniad o dan baragraff (2)(e) i reolwr fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn gymwys i reolwr sydd wedi ei benodi i reoli ymgymeriad—

(a)y mae person wedi ei gofrestru, neu wedi gwneud cais i gofrestru, mewn cysylltiad ag ef, fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, a

(b)yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i gynnal asiantaeth nyrsys o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn union cyn 2 Ebrill 2018 ond nad oedd hefyd wedi ei gofrestru i gynnal asiantaeth gofal cartref.]

[F33(11) Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—

(a)nyrs, neu

(b)proffesiynolyn cofrestredig.]]]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cefnogi a datblygu staffLL+C

36.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;

(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill.

(c)yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;

(d)yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i gael ei wneud ganddo;

(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;

(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwrLL+C

37.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth ar gyfer staffLL+C

38.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefnau disgybluLL+C

39.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;

(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gamdriniaeth, neu ar amheuaeth o gamdriniaeth, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)y darparwr gwasanaeth,

(b)yr unigolyn cyfrifol,

(c)swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,

(d)swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,

(e)yn achos cam-drin neu o amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(f)swyddog heddlu.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 11LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref

Cymhwyso rheoliadau yn y Rhan honLL+C

40.  Nid yw’r rheoliadau yn y Rhan hon ond yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth cymorth cartref y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Amlinellu amser teithio ac amser gofalLL+C

41.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)llunio amserlen ymweliadau mewn cysylltiad â phob gweithiwr gofal cartref sy’n gweithio yn y gwasanaeth; a

(b)darparu copi o’r amserlen ymweliadau berthnasol i’r gweithiwr gofal cartref y mae’r amserlen honno yn ymwneud ag ef.

(2Rhaid i’r amserlen ymweliadau amlinellu’r amser a neilltuir ar gyfer amser teithio, yr amser a neilltuir ar gyfer pob ymweliad ac (os yw’n gymwys) yr amser a neilltuir ar gyfer seibiannau gorffwys.

(3Rhaid i’r amser a neilltuir ar gyfer amser teithio fod yn ddigonol gan roi sylw i—

(a)y pellter rhwng lleoliad un ymweliad sydd wedi ei amserlennu a’r ymweliad nesaf sydd wedi ei amserlennu; a

(b)unrhyw ffactorau eraill y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt effeithio ar amser teithio, megis tagfeydd traffig ac argaeledd cyfleusterau parcio yn lleoliad yr ymweliadau sydd wedi eu hamserlennu.

(4Rhaid i’r amser a neilltuir ar gyfer pob ymweliad—

(a)bod yn ddigonol i alluogi i ofal a chymorth gael eu darparu i’r unigolyn yn unol â’i gynllun personol; a

(b)peidio â bod yn llai na 30 munud oni bai y bodlonir naill ai amod A, B neu C, fel y’u disgrifir yn adran 8 o’r Ddeddf.

(5Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o’r amser a dreulir gan bob gweithiwr gofal cartref ar amser teithio, ymweliadau a seibiannau gorffwys.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

mae “amser teithio” (“travel time”) yn cynnwys yr amser a dreulir wrth deithio rhwng lleoliad un ymweliad sydd wedi ei amserlennu a lleoliad yr ymweliad nesaf sydd wedi ei amserlennu ond nid yw’n cynnwys unrhyw amser a dreulir wrth deithio o gartref y gweithiwr gofal cartref i leoliad yr ymweliad cyntaf sydd wedi ei amserlennu nac unrhyw amser a dreulir wrth deithio o leoliad yr ymweliad olaf sydd wedi ei amserlennu i gartref y gweithiwr gofal cartref;

ystyr “amserlen ymweliadau” (“schedule of visits”) yw amserlen o’r ymweliadau y mae’n ofynnol i weithiwr gofal cartref eu cyflawni yn ystod diwrnod neu wythnos;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys—

(a)

person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr; a

(b)

person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

At ddibenion y diffiniad hwn, mae i’r termau “a gyflogir”, “cyflogai”, a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employed”, “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

ystyr “ymweliad” (“visit”) yw ymweliad ag unigolyn at ddiben darparu gwasanaeth cymorth cartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cynnig y dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantuLL+C

42.—(1Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnig i weithiwr gofal cartref y dewis o barhau i gael ei gyflogi o dan y naill neu’r llall o’r mathau a ganlyn o drefniant contractiol—

(a)contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos o leiaf yn gyfwerth â nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol;

(b)contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos yn llai na nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol.

Ond nid yw’r gofyniad hwn yn atal y darparwr gwasanaeth rhag cyflogi gweithiwr gofal cartref ar unrhyw fath arall o drefniant contractiol y cytunwyd arno rhwng y darparwr a’r gweithiwr, gan gynnwys contract oriau heb eu gwarantu pellach.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod y gweithiwr gofal cartref wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract oriau heb eu gwarantu ar gyfer y cyfnod cymhwysol,

(b)bod y gweithiwr gofal cartref wedi gweithio oriau rheolaidd yn ystod y tri mis cyn diwedd y cyfnod cymhwysol,

(c)bod y darparwr wedi penderfynu bod angen o hyd i’r oriau gael eu gweithio ar sail barhaus, a

(d)bod y gweithiwr gofal cartref wedi perfformio’n foddhaol yn ystod y cyfnod cymhwysol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “contract oriau heb eu gwarantu” (“non-guaranteed hours contract”) yw contract cyflogaeth neu gontract gweithiwr arall—

(a)

y mae’r ymgymeriad i wneud gwaith neu i gyflawni gwasanaethau odano yn ymgymeriad i wneud hynny ar yr amod bod y cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i’r gweithiwr, a

(b)

nad oes unrhyw sicrwydd odano y bydd unrhyw waith o’r fath neu unrhyw wasanaethau o’r fath yn cael eu gwneud ar gael i’r gweithiwr.

At ddiben y diffiniad hwn, mae cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i weithiwr os yw’r cyflogwr yn gofyn i’r gweithiwr wneud y gwaith neu gyflawni’r gwasanaethau neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny;

“y cyfnod cymhwysol” (“the qualifying period”) yw—

(a)

mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi dechrau cyflogaeth ar ôl y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis o ddyddiad dechrau’r gyflogaeth;

(b)

mewn unrhyw achos pan ddechreuodd y gweithiwr gyflogaeth cyn y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis sy’n dod i ben gyda’r dyddiad cychwyn;

(c)

mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi, yn flaenorol, gael cynnig y dewis o drefniant contractiol arall yn unol â gofynion y rheoliad hwn ac wedi dewis aros ar gontract oriau heb eu gwarantu, y cyfnod o dri mis o ddyddiad gwneud unrhyw ddewis o’r fath.

At ddibenion y diffiniad hwn—

“y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r rheoliad hwn i rym;

“y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad sy’n dod dri mis cyn y dyddiad cychwyn;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr ond nid yw’n cynnwys person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae i’r termau “contract cyflogaeth”, “cyflogwr”, “cyflogai” a “cyflogaeth” yr un ystyron â “contract of employment”, “employer”, “employee” ac “employment” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 ac mae i’r termau “a gyflogir”, “cael ei gyflogi” ac “wedi ei gyflogi” yr un ystyr ag “employed” yn yr adran honno o’r Ddeddf honno;

(b)mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, ac eithrio nad yw person a gymerir ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau yn weithiwr at ddiben y rheoliad hwn. Mae unrhyw gyfeiriad at gontract gweithiwr i gael ei ddehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 12LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Gofyniad cyffredinolLL+C

43.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Mangreoedd – gwasanaethau llety yn unigLL+C

44.—(1Nid yw’r gofynion yn y rheoliad hwn ond yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod dyluniad ffisegol, cynllun a lleoliad y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn addas i—

(a)cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben;

(b)diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

(c)cefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

(3Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion paragraffau (4) i (6) o’r rheoliad hwn.

(4Rhaid i’r fangre—

(a)bod yn hygyrch ac wedi ei goleuo, ei gwresogi a’i hawyru’n ddigonol;

(b)bod yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig;

(c)bod wedi ei dodrefnu a’i chyfarparu’n addas;

(d)bod o adeiladwaith cadarn ac wedi ei chadw mewn cyflwr strwythurol da yn allanol ac yn fewnol;

(e)bod wedi ei ffitio a’i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu anghenion unigolion;

(f)bod wedi ei threfnu fel bod y cyfarpar a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth wedi ei leoli’n briodol;

(g)bod yn rhydd rhag peryglon i iechyd a diogelwch unigolion ac unrhyw bersonau eraill a all wynebu risg, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol;

(h)bod wedi ei chynnal a’i chadw’n briodol;

(i)bod wedi ei chadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y caiff ei defnyddio.

(5Rhaid i’r fangre gael ystafelloedd gwely sydd—

(a)yn cynnwys cyfleusterau priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu) sy’n meddiannu’r ystafell wely;

(b)o faint digonol, gan roi sylw i—

(i)a yw’r ystafell yn cael ei rhannu neu’n ystafell meddiannaeth sengl;

(ii)y cynllun a’r dodrefn;

(iii)y cyfarpar sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(iv)nifer y staff sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(c)yn gyfforddus ar gyfer yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell wedi ei rhannu):

(d)yn rhoi rhyddid symud a phreifatrwydd i’r unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu).

(6Rhaid i’r fangre gael lle eistedd, hamdden a bwyta a ddarperir ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun a rhaid i unrhyw le o’r fath fod—

(a)yn addas ac yn ddigonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben;

(b)wedi ei lleoli er mwyn galluogi pob person sy’n defnyddio’r lle i gael mynediad iddo yn hawdd ac yn ddiogel.

(7Rhaid i unrhyw le cymunedol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth fod yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy’n briodol i amgylchiadau’r unigolion.

(8Rhaid i gyfleusterau addas gael eu darparu er mwyn i unigolion gwrdd ag ymwelwyr yn breifat mewn lle sydd ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun.

(9Rhaid i’r fangre gael toiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd sydd—

(a)o nifer digonol ac o fath addas i ddiwallu anghenion yr unigolion;

(b)wedi eu cyfarparu’n briodol;

(c)wedi eu lleoli er mwyn galluogi pob person i gael mynediad iddynt yn hawdd ac yn ddiogel.

(10Rhaid i’r fangre gael tiroedd allanol sy’n hygyrch ac sy’n addas ac sy’n ddiogel i unigolion eu defnyddio a rhaid iddynt gael eu cynnal a’u cadw’n briodol.

(11Rhaid i’r fangre gael cyfleusterau addas ar gyfer staff y mae rhaid iddynt gynnwys—

(a)cyfleusterau storio addas, a

(b)pan fo’n briodol, llety cysgu a chyfleusterau newid addas.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolionLL+C

45.—(1Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n oedolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob oedolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys naill ai—

(a)os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, neu

(b)os yw paragraff (3) yn gymwys.

(2Yr amodau yw—

(a)bod oedolyn yn cytuno i rannu ystafell ag oedolyn arall;

(b)bod rhannu ystafell yn gyson â llesiant y ddau oedolyn;

(c)bod cynlluniau personol y ddau oedolyn wedi cael eu hadolygu a’u diwygio yn ôl yr angen;

(d)nad yw nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth.

F34(2A. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)roedd y gwasanaeth cartref gofal wedi ei gofrestru fel cartref gofal o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)roedd nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar yr adeg berthnasol yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth ar yr adeg berthnasol;

[F35(c)roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.]

(4Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf yn ddarparwr y gwasanaeth cartref gofal.

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – plantLL+C

46.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu—

(a)gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n blant, neu

(b)gwasanaeth llety diogel.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei letya mewn ystafell sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y llety yn cael ei ddarparu mewn gwasanaeth cartref gofal a oedd wedi ei gofrestru fel cartref plant o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000,

(b)bod y llety a ddarperir wedi ei feddiannu ar yr adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf,

(c)bod y plentyn yn rhannu ystafell â dim mwy nag un plentyn arall,

(d)(ac eithrio yn achos brodyr neu chwiorydd) nad yw’r plentyn arall o’r rhyw arall neu o oedran sylweddol gwahanol iddo, ac

(e)y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant y plentyn, y darperir ar ei gyfer yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn ac y cytunir arno pryd bynnag y bo’n ymarferol â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Mangreoedd – pob gwasanaethLL+C

47.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y fangre a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)goruchwylio staff;

(b)storio cofnodion yn ddiogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 47 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfleusterau a chyfarparLL+C

48.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth—

(a)yn addas ac yn ddiogel at y diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio;

(b)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;

(c)wedi eu cynnal a’u cadw’n briodol;

(d)wedi eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y cânt eu defnyddio;

(e)wedi eu storio’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 48 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 13LL+CGofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd

Cymhwyso Rhan 13LL+C

49.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety a bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2). Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys os yw’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.

(2Y categorïau yw—

  • Categori A: Mae’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi cael ei addasu at ddiben darparu’r gwasanaeth, ac, yn y naill achos neu’r llall, nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety.

  • Categori B: Mae’r fangre yn [F36adeilad neu adeiladau yr ychwanegir estyniad ato neu atynt ac maeʼr estyniad yn] cael ei ddefnyddio at ddiben darparu’r gwasanaeth mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth.

  • [F37Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—

    (a)

    at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall;

    (b)

    fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i ddarparu llety mewn cartref plant, cartref gofal, neu ganolfan breswyl i deuluoedd;

    (c)

    fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 neu 2 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 i ddarparu llety preswyl i bersonau y mae angen gofal personol arnynt (oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu anhwylder meddwl);

    (d)

    fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef mewn cofrestr a gedwir at ddibenion adran 60 o Ddeddf Plant 1989, neu o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno, i ddarparu llety preswyl i blant.]

(3Os yw’r Rhan hon yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadau 50 i 54 [F38ond yn achos mangre Categori B, nid ywʼr gofynion ond yn gymwys iʼr rhan oʼr fangre syʼn cynnwys yr estyniad (neu yn achos rheoliad 53, i unrhyw rannau oʼr tiroedd allanol sydd wedi eu datblygu ar y cyd âʼr estyniad)] .

[F39(4) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd;

(b)mae i “cartref plant”, “cartref gofal” a “canolfan breswyl i deuluoedd” yr ystyron a roddir i “children’s home”, “care home” a “residential family centre” yn ôl eu trefn yn adrannau 1, 3 a 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel yr oedd yn cael effaith yng Nghymru yn union cyn 1 Ebrill 2017.]

Gofynion ychwanegol – ystafelloedd ymolchi en-suiteLL+C

50.  Rhaid i bob ystafell wely a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael ystafell ymolchi en-suite sy’n cynnwys basn golchi dwylo, toiled a chawod hygyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 50 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion ychwanegol – maint ystafelloeddLL+C

51.—(1Rhaid i bob ystafell a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael o leiaf 12 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r person sy’n byw yn yr ystafell ddefnyddio cadair olwyn yn barhaol ac yn gyson oherwydd natur ei anabledd.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ystafell wely yn cael ei rhannu.

(4Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 13.5 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

(5Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 16 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 51 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion ychwanegol – lle cymunedolLL+C

52.—(1[F40 Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid] i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(6) fod o leiaf—

(a)4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;

(b)5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

[F41(2) Ar gyfer mangre Categori B, maeʼr rheoliad hwn yn gymwys fel bod rhaid iʼr gofyniad o ran lle gael ei fodloni mewn perthynas ag unrhyw ystafelloedd ychwanegol i unigolion.]

Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agoredLL+C

53.  Rhaid i’r tiroedd allanol [F42(neu, yn achos mangre Categori B, unrhyw ran oʼr tiroedd allanol a ddatblygir ar y cyd ag adeiladuʼr estyniad)] a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(10)—

(a)bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,

(b)bod â digon o seddi addas, ac

(c)wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd â namau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 53 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion ychwanegol – lifft i deithwyrLL+C

54.  Pan fo’r llety a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth ar fwy nag un llawr a bod hyn yn gyson â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i lifft i deithwyr fod ar gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 54 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 14LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau

CyflenwadauLL+C

55.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cyflenwadau ar gael o nifer digonol ac o fath addas i gyflenwi’r gwasanaeth yn effeithiol ac i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 55 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Hylendid a rheoli heintiauLL+C

56.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau—

(a)safonau hylendid boddhaol wrth gyflenwi’r gwasanaeth;

(b)bod gwastraff cyffredinol a chlinigol yn cael ei waredu’n briodol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer rheoli heintiau a lleihau heintiau rhag lledaenu a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisïau hyn a’r gweithdrefnau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 56 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Iechyd a diogelwchLL+C

57.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw risgiau i iechyd a diogelwch unigolion yn cael eu nodi a’u lleihau i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Rhl. 57 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

MeddyginiaethauLL+C

58.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio a’u gweinyddu’n ddiogel.

(2Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys y trefniadau ar gyfer—

(a)cynnal cyflenwad digonol o feddyginiaethau;

(b)archebu, ailarchebu, cofnodi, trin a gwaredu meddyginiaethau yn effeithiol;

(c)archwilio storio a gweinyddu meddyginiaethau yn rheolaidd.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â storio a gweinyddu meddyginiaethau yn ddiogel a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn a’r gweithdrefnau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 58 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 15LL+CGofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

CofnodionLL+C

59.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(2Pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth hwnnw ynddo.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion yn gywir ac yn gyfredol;

(b)cadw pob cofnod yn ddiogel;

(c)gwneud trefniadau er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;

(d)yn achos cofnodion am blentyn sy’n cael ei letya mewn gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, sicrhau bod y cofnodion yn cael eu dosbarthu i’r awdurdod lleoli pan fo’r gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef;

(e)gwneud y cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;

(f)cadw cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am dair blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(g)cadw cofnodion sy’n ymwneud â phlant am bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf, oni bai bod y cofnodion yn cael eu dychwelyd i’r awdurdod lleoli yn unol ag is-baragraff (d);

(h)sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—

(i)yn gallu cael mynediad i’w cofnodion; a

(ii)yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Rhl. 59 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

HysbysiadauLL+C

60.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.

(2Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal i blant, rhaid i’r darparwr—

(a)hysbysu’r awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;

(b)hysbysu’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r cartref ynddi am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;

(c)hysbysu’r swyddog heddlu priodol am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;

(d)hysbysu’r bwrdd iechyd y mae’r cartref yn ei ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3.

(3Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2) gynnwys manylion y digwyddiad.

(4Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(5Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 60 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu mewn cysylltiad â phlant sy’n cael eu derbyn i fan, neu ei ryddhau o fan, y darperir llety i blant ynddoLL+C

61.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu—

(a)gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety i blant (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth cartref gofal i blant”), neu

(b)gwasanaeth llety diogel.

(2Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “y llety” yn gyfeiriadau at y man y mae gwasanaeth cartref gofal i blant neu wasanaeth llety diogel wedi ei ddarparu ynddo.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu, yn ddi-oed, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety ynddi, am bob plentyn sy’n cael ei dderbyn i’r llety ac am bob plentyn sy’n cael ei ryddhau o’r llety.

(4Nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ym mharagraff (3) os yr awdurdod lleol hwnnw yw’r awdurdod lleoli ar gyfer y plentyn o dan sylw hefyd.

(5Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan—

(a)enw a dyddiad geni’r plentyn;

(b)a yw llety wedi ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 76 neu 77 o Ddeddf 2014 neu, yn achos plentyn a leolir gan awdurdod lleol yn Lloegr, a yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Plant 1989;

(c)a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal neu orchymyn goruchwylio o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989;

(d)manylion cyswllt—

(i)awdurdod lleoli’r plentyn; a

(ii)y swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos y plentyn; ac

(e)a oes gan y plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg, iechyd a gofal ac, os felly, fanylion yr awdurdod lleol a chanddo gyfrifoldeb am gynnal y datganiad anghenion addysgol arbennig neu’r cynllun addysg, iechyd a gofal.

(6Yn y rheoliad hwn, mae i “cynllun addysg, iechyd a gofal” yr ystyr a roddir i “EHC plan” yn adran 37(2) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014(19).

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 61 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Hysbysu mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blantLL+C

62.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn y darperir gwasanaeth llety diogel(20) iddo yn marw.

(2Mae unrhyw ofynion a osodir gan y rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth y gwasanaeth llety diogel a oedd yn darparu llety i’r plentyn ar adeg ei farwolaeth.

(3Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth yn ddi-oed hysbysu—

(a)swyddfa briodol y rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)yr awdurdod lleoli;

(c)yr awdurdod lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;

(d)y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;

(e)Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”); ac

(f)rhiant y plentyn neu’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy—

(a)rhoi i’r OCPh fynediad i—

(i)mangre’r gwasanaeth; a

(ii)dogfennau a chofnodion y gwasanaeth;

(b)caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau, o’r fangre, o unrhyw ddogfennau neu gofnodion y ceir mynediad iddynt o dan is-baragraff (a)(ii) ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel ar gyfer gwneud hynny; ac

(c)os byddant yn cydsynio, ganiatáu i’r OCPh gyf-weld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni (neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant) neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth.

(5Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn—

(a)cynnwys manylion—

(i)amgylchiadau’r farwolaeth;

(ii)y personau, y cyrff neu’r sefydliadau eraill (os oes rhai) y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu hysbysu neu’n bwriadu eu hysbysu; a

(iii)unrhyw gamau gweithredu y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r farwolaeth;

(b)cael ei wneud neu ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

(6Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr OCPh yn cynnwys person sydd wedi ei benodi gan, neu sy’n gweithio ar ran, yr OCPh at ddibenion ymchwiliad o dan baragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I62Rhl. 62 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwrthdaro buddiannau (gan gynnwys gwaharddiadau)LL+C

63.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw person a chanddo fuddiant ariannol ym mherchnogaeth gwasanaeth cartref gofal yn gweithredu fel ymarferydd meddygol ar gyfer unrhyw unigolyn y darperir y gwasanaeth hwnnw ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Rhl. 63 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Polisi a gweithdrefn gwynoLL+C

64.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt;

(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw;

(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad;

(d)cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion a chamau gweithredu dilynol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon; a

(b)rhoi sylw i’r dadansoddiad hwnnw, gan nodi unrhyw feysydd i’w gwella.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Rhl. 64 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Chwythu’r chwibanLL+C

65.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

(2Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—

(a)cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a

(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

(3Rhaid i’r darparwr sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

(a)yr ymchwilir i’r pryder;

(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;

(c)y cedwir cofnod o’r ddau bwynt uchod.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Rhl. 65 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 16LL+CGofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaethLL+C

66.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 64, 72 a 73.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Rhl. 66 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i benodi rheolwrLL+C

67.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(d)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;

(b)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn dim mwy na dau leoliad neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dwy ardal;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth;

(d)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(e)bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

(f)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion [F43rheoliad 35(2)] (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I67Rhl. 67 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwrLL+C

68.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 35(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Rhl. 68 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaethLL+C

69.—(1Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—

(a)yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau i gael caniatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a

(b)yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni o ran y trefniadau rheoli arfaethedig—

(i)na fyddant yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a

(ii)y byddant yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Rhl. 69 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaethLL+C

70.  Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth o—

(a)enw’r person a benodir, a

(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Rhl. 70 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethauLL+C

71.—(1Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau o—

(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y person a benodir, a

(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(2Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu o—

(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y darparwr gwasanaeth, a

(b)y dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Rhl. 71 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Y trefniadau pan fydd rheolwr yn absennolLL+C

72.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.

(2Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Rhl. 72 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

YmweliadauLL+C

73.—(1Yn achos gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd(21), rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a

(b)cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.

(2Yn achos [F44gwasanaeth cymorth cartref] (22), rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ym mhob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ohono neu mewn perthynas ag ef, a

(b)cwrdd ag unigolion y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ym mhob man o’r fath, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(3Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I73Rhl. 73 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 17LL+CGofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddauLL+C

74.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau yn Rhannau 3 i 15 o’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

(3Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Rhl. 74 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaethLL+C

75.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

(a)am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;

(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;

(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

(2Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Rhl. 75 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Ymgysylltu ag unigolion ac eraillLL+C

76.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth,

(b)unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny,

(c)yn achos plentyn y darperir llety iddo, yr awdurdod lleoli,

(d)comisiynwyr gwasanaethau, ac

(e)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

(2Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Rhl. 76 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 18LL+CGofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynionLL+C

77.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliadau 60 i 62 a 84.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Rhl. 77 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodionLL+C

78.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw gan reoliad 59 yn gywir ac yn gyflawn.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Rhl. 78 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredolLL+C

79.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Rhl. 79 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 19LL+CGofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth rheoleiddiedig

Adolygiad o ansawdd y gofalLL+C

80.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gofal a’r cymorth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.

(3Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer—

(a)ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 76;

(b)dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;

(c)adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;

(d)ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

(4Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gofal a’r cymorth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a

(b)argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

(5Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Rhl. 80 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorthLL+C

81.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.

(2Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 80(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I81Rhl. 81 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 20LL+CGofynion eraill ar unigolion cyfrifol

Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderonLL+C

82.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi unrhyw bryderon yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Rhl. 82 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd gonestrwyddLL+C

83.  Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—

(a)ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth;

(b)ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny;

(c)yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Rhl. 83 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

HysbysiadauLL+C

84.—(1Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.

(2Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(4Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Rhl. 84 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 21LL+CTroseddau

Troseddau – darparwyr gwasanaethauLL+C

85.—(1Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(23).

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 7(3), 7(5), 11(3), 12(1), 12(2), 19(1), 19(2), 19(3), 20(1), 35(1), 38(1), 59(1), 59(2), 59(3), 60(1), 60(2), 60(4), 61(3) a 62(3).

(3Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—

(a)niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,

(b)unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu

(c)yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

(4Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 6, 7(1), 12(5), 14(1), 14(3), 15(1), 15(3), 15(5), 16(1), 16(5), 18(1), 18(6), 18(7), 21(1), 21(2), 22, 26, [F4533(2)] , 34(1), 34(2) a 34(3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I85Rhl. 85 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Troseddau – unigolion cyfrifolLL+C

86.—(1Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)(24).

(2Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 67(1), 68(1), 71(1), 71(2), 73(1), 73(2), 73(3), 74(1), 74(2), 75(1), 80(4), 81(1), 84(1) a 84(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I86Rhl. 86 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 22LL+CDarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Penodi datodwyr etc.LL+C

87.—(1Rhaid i berson a benodir—

(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i fwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu;

mae i “person a benodir” (“appointed person”) yr un ystyr ag yn adran 30 o’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Rhl. 87 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Marwolaeth darparwr gwasanaethLL+C

88.—(1Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)yn ddi-oed, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’u bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.

(3Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig yr oedd y darparwr gwasanaeth sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu ar adeg ei farwolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Rhl. 88 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 23LL+CRheoliadau o dan adran 21(5) o’r Ddeddf

Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion CymruLL+C

89.  Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr gwasanaeth wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o’r Ddeddf;

(b)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(i)na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a

(ii)y rhesymau dros hyn;

(c)bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

(i)nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,

(ii)y rhesymau dros hyn, a

(iii)nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Rhl. 89 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Huw Irranca-Davies

Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, odan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Rheoliad 35

ATODLEN 1LL+C

RHAN 1LL+CGwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.  Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(25), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys(26) a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys(27) a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—LL+C

(a)os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 34(3) neu (6), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 59

ATODLEN 2LL+CCofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig

RHAN 1LL+CCofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—LL+C

(a)o bob asesiad perthnasol;

(b)o gynlluniau personol;

(c)o adolygiadau o gynlluniau personol;

(d)o gynlluniau gofal a chymorth;

(e)o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;

(f)o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;

(g)o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—LL+C

(a)y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(b)y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—

(i)eu dychwelyd at yr unigolyn, neu

(ii)eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;

(c)pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(d)cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—LL+C

(a)unrhyw ddamwain [F46neu anaf] difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;

(b)achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;

(c)unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;

(d)unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;

(e)achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(f)achosion o [F47niwed] pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(g)dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.

6.  Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—LL+C

(a)enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;

(b)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(c)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(d)y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;

(e)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;

(f)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(g)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CCofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

10.  Cofnod o unrhyw ddodrefn y mae unigolyn yn dod â hwy i’r ystafell y mae’n ei meddiannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

11.  Cofnod o unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—LL+C

(a)unrhyw dân;

(b)absenoldeb heb esboniad neu absenoldeb anawdurdodedig;

(c)marwolaeth unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

12.  Cofnod o’r holl ymwelwyr â’r gwasanaeth, gan gynnwys enwau ymwelwyr a’r personau y maent yn ymweld â hwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 60

ATODLEN 3LL+CHysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

RHAN 1LL+CHysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth

1.  Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F483.  Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff corfforaethol, unrhyw newid i—LL+C

(a)cyfarwyddwyr,

(b)ymddiriedolwyr, neu

(c)aelodau pwyllgor rheoli,

y corff corfforaethol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F483A.  Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.]LL+C

4.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r [F49corff corfforaethol] hwnnw neu’r bartneriaeth honno.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

10.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

11.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol..LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

12.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

13.  Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff [F50a/neu wirfoddolwr] .LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

14.  Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

15.  Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

16.  Unrhyw [F51niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

17.  Bod unigolyn yn cael damwain [F52neu anaf] difrifol.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

18.  Achos o unrhyw glefyd heintus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

19.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

20.  Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

21.  Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

22.  Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

23.  Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu bwriedir gwneud hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I135Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

24.  Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu bwriedir gwneud hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

25.  Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CHysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

26.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

27.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(28), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I139Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

28.  Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

29.  Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I141Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

30.  [F53Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

31.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CHysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

32.  Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

33.  Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain [F54neu anaf] difrifol.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I145Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

34.  Unrhyw [F55niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 3 para. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

35.  Achos o unrhyw glefyd heintus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I147Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

36.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I148Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

37.  Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I149Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

38.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

39.  Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I151Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

40.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I152Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

41.  Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I153Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

42.  [F56Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 3 para. 42 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CHysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

43.  Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I155Atod. 3 para. 43 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F5744.   Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I156Atod. 3 para. 44 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

45.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 3 para. 45 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CHysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

46.  [F58Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I158Atod. 3 para. 46 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CHysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

47.  Achos o unrhyw glefyd heintus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I159Atod. 3 para. 47 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

48.  Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I160Atod. 3 para. 48 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 84

ATODLEN 4LL+CHysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1.  Penodi rheolwr (gweler rheoliad 7(1)).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I161Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I162Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I163Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I164Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I166Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I167Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I168Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf Safonau Gofal”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cysyniad newydd o “gwasanaethau rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf.

Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru (wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol), gan bennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu. Cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth”.

Rhaid i’r cais i gofrestru bennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy. Rhaid i’r cais i gofrestru hefyd ddynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod yr unigolyn yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol a’i fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol.

Yn unol â’r pwerau yn adran 27 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig, gan gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu.

Yn unol â’r pwerau yn adran 28 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer troseddau os bydd darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol yn methu â chydymffurfio â gofynion penodedig.

Mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ynghylch sut y caiff darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig) ac mae adran 29 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i’r canllawiau hyn.

Yn ogystal â gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gofynion ar bersonau eraill: ar y “person a benodir” os bydd y darparwr gwasanaeth yn mynd yn ansolfent ac ar gynrychiolwyr personol yr ymadawedig os bydd darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn marw.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau. Yn benodol, mae’r diffiniad o “y gwasanaeth” yn golygu, mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, fod cyfeiriad at “y gwasanaeth” yn gyfeiriad at y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodol; mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, mae cyfeiriad at “y gwasanaeth” yn gyfeiriad at y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn cwmpasu eithriadau. Mae’r rheoliadau yn Rhan 2 wedi eu gwneud o dan y pwerau yn adran 2(3) o’r Ddeddf sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1 i’r Ddeddf (sy’n nodi diffiniadau gwasanaethau rheoleiddiedig), i gael eu trin yn wasanaethau rheoleiddiedig. Mae rheoliadau 2 a 4 yn nodi’r sefyllfaoedd pan na fo’r ddarpariaeth o lety i gael ei thrin yn wasanaeth cartref gofal neu’n wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd yn y drefn honno. Mae rheoliad 3 yn nodi’r sefyllfaoedd pan na fo’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i gael ei thrin yn wasanaeth cymorth cartref.

Mae Rhan 3 yn cwmpasu gofynion cyffredinol ar y darparwr gwasanaeth o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, y trefniadau ar gyfer monitro a gwella, y cymorth sydd i gael ei ddarparu i’r unigolyn cyfrifol, y camau sydd i gael eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth a’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.

Mae Rhan 4 yn cwmpasu’r gofynion o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn i’r darparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Ni chaiff darparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth oni bai ei fod yn gyntaf wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae rheoliad 14 yn nodi’r camau y mae rhaid iddynt gael eu cymryd a’r materion y mae rhaid iddynt gael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwn. Pan na fo cynllun gofal a chymorth awdurdod lleol yn ei le, mae’r camau sydd i gael eu cymryd yn cynnwys cynnal asesiad o anghenion yr unigolyn.

Mae Rhan 5 yn cwmpasu’r gofynion o ran y camau sydd i gael eu cymryd unwaith y bydd y darparwr gwasanaeth wedi cytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Cyn i ddarpariaeth o’r fath gychwyn, rhaid i’r darparwr lunio cynllun personol cychwynnol sydd, ymhlith pethau eraill, yn nodi sut y bydd anghenion yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd. O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth gychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal asesiad manwl o sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau ac mae’r asesiad hwn wedyn yn sbarduno adolygiad o’r cynllun personol cychwynnol, a fydd fel arfer yn arwain at lunio cynllun mwy cynhwysfawr.

Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu cynlluniau personol a chadw a rhannu cofnodion o’r cynllun personol.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â’r gofynion o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth. Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r wybodaeth hon fod ar ffurf canllaw ysgrifenedig ac yn nodi gofynion manwl am y canllaw, gan gynnwys ei gynnwys a’i fformat. Mae rhagor o fanylion am yr wybodaeth y disgwylir i’r canllaw ei chynnwys fel arfer i’w cael yn y canllawiau a ddyroddir o dan adran 29 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 7 yn cynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cyffredinol yn ogystal â gofynion mwy manwl yn ymwneud â pharhad gofal, darparu gwybodaeth, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn a thrin unigolion â pharch a sensitifrwydd.

Mae Rhan 8 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas â sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu ac mewn perthynas â’r defnydd priodol o reolaeth ac ataliaeth, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i gael eu cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth.

Mae Rhan 9 yn nodi gofynion ychwanegol o ran safonau gofal a chymorth nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety wedi ei ddarparu. Mae hyn pan fo’r gwasanaeth rheoleiddiedig yn wasanaeth cartref gofal, yn wasanaeth llety diogel neu’n wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd. Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â threfniadau i unigolion gael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill a, phan fo llety yn cael ei ddarparu i blant, â dynodi gweithiwr cyswllt.

Mae Rhan 10 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff ynghyd â gofynion penodol o ran defnyddio nyrsys cofrestredig i weithio mewn gwasanaeth cartref gofal o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 10 yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a fyddai’n cynnwys staff asiantaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth benodol a dogfennau penodol fod ar gael, fel y’u nodir yn Atodlen 1. Rhaid i bersonau a gyflogir i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig fod wedi eu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, sef rheoleiddiwr y gweithlu, ond nid oes gofyniad mwyach, fel yr oedd o dan y Ddeddf Safonau Gofal, i reolwyr gael eu cofrestru â Gweinidogion Cymru, fel y rheoleiddiwr gwasanaethau. Rhaid i gategorïau penodol o bersonau a gyflogir i weithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig penodol sy’n darparu llety i blant hefyd fod wedi eu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i ddechrau eu cyflogaeth.

Ymhlith gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 10 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd yn sail dros achos disgyblu.

Mae Rhan 11 yn cynnwys gofynion penodol sy’n gymwys i ddarparwyr mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref. Mae hyn yn cynnwys gofyniad bod “amserlen ymweliadau” yn cael ei llunio sy’n amlinellu’r amser a ganiateir ar gyfer pob ymweliad a’r amser a ganiateir ar gyfer teithio rhwng pob ymweliad. Mae gofyniad hefyd i’r darparwr gynnig dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantu.

Mae Rhan 12 yn cwmpasu gofynion o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar. Nid yw’r gofynion o ran mangreoedd yn rheoliadau 44 i 46 ond yn gymwys pan fo llety wedi ei ddarparu, tra bo’r gofynion yn rheoliad 47 yn gymwys ym mhob achos.

Mae’r gofynion yn Rhan 12 yn gymwys i bob darparwr gwasanaethau cartref gofal, gwasanaethau llety diogel neu wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd. Yn benodol, mae rheoliadau 45 a 46 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas ag ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir, ar gyfer oedolion a phlant, yn y drefn honno.

Mae Rhan 13 yn nodi gofynion ychwanegol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ond dim ond os yw’r mangreoedd sydd i gael eu defnyddio ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o dri chategori: adeilad newydd neu adeilad sydd wedi cael ei addasu; estyniad i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth presennol; adeilad a oedd yn cael ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru gan ddarparwr gwasanaeth arall ond sydd heb ei feddiannu ar adeg cofrestriad y darparwr gwasanaeth.

Mae’r gofynion ychwanegol yn Rhan 13 yn nodi safonau amgylcheddol mwy penodol, gan gynnwys safonau o ran ystafelloedd ymolchi en-suite, maint ystafelloedd a faint o le cymunedol sydd ar gael.

Mae Rhan 14 yn nodi gofynion o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau. Bydd y gofynion hyn yn gymwys i bob gwasanaeth rheoleiddiedig, pa un a yw’n rhoi llety ai peidio.

Mae Rhan 15 yn cynnwys gofynion amrywiol ar ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys gofynion o ran cadw cofnodion a gwneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ac i gyrff eraill. Mae Atodlen 2 yn nodi’r cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw ac mae Atodlen 3 yn nodi’r hysbysiadau penodol y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud.

Mae Rhan 15 yn cynnwys gofynion hysbysu penodol sy’n gymwys i wasanaethau llety diogel a gwasanaethau cartrefi gofal sy’n darparu llety i blant.

Mae Rhan 15 hefyd yn cynnwys gofynion ar y darparwr gwasanaeth i gael polisi cwyno a pholisi chwythu’r chwiban yn eu lle.

Mae Rhannau 16 i 20 yn cynnwys y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol. Mae’r rheoliadau yn y Rhannau hyn wedi eu gwneud o dan adran 28 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 16 yn nodi’r gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau y caiff y gwasanaeth ei reoli’n effeithiol. Mae dyletswydd gyffredinol ar yr unigolyn cyfrifol i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth (rheoliad 66) ac mae arno ddyletswyddau penodol i benodi person addas i reoli’r gwasanaeth (rheoliadau 67 ac 68), i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth pan fo’r rheolwr yn absennol (rheoliad 72) ac i ymweld â’r mannau lle y darperir y gwasanaeth (rheoliad 73).

Mae Rhan 17 yn cynnwys gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Drwy osod y gofynion hyn ar yr unigolyn cyfrifol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uchel yn y sefydliad yn atebol am ansawdd a chydymffurfedd y gwasanaeth. Mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd adnoddau (rheoliad 74) ac ar faterion eraill (rheoliad 75). Mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion ac eraill er mwyn i’w safbwyntiau ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth (rheoliad 76).

Mae Rhan 18 yn nodi’r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion eraill, gan gynnwys gofynion o ran hysbysu am ddigwyddiadau a chwynion (rheoliad 77) a chadw cofnodion (rheoliad 78). Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr yn cael eu cadw’n gyfredol (rheoliad 79).

Mae Rhan 19 yn nodi’r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir, gan gynnwys gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 20 yn nodi gofynion eraill ar yr unigolyn cyfrifol, gan gynnwys gofynion i wneud hysbysiadau penodol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a gynhwysir yn Atodlen 4.

Mae Rhan 21 yn ymdrin â throseddau. Mae rheoliad 85 wedi ei wneud o dan y pwerau yn adran 45 o’r Ddeddf ac yn darparu bod methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mae amod pellach sy’n gymwys yn achos methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion penodol. Yn yr achosion hyn, mae’r rheoliad yn darparu nad yw hon ond yn drosedd os yw methu â chydymffurfio yn arwain at wneud unigolion yn agored i niwed y gellir ei osgoi, neu’n agored i risg sylweddol o niwed o’r fath neu’n agored i golli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi.

Mae rheoliad 86 yn darparu ei bod yn drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 46 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 22 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn ansolfent neu pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod dyletswyddau hysbysu penodol ar y person a benodir (yn achos ansolfedd) neu ar y cynrychiolwyr personol (yn achos marwolaeth darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn). Mae rheoliad 88 yn galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth ac mae’r Ddeddf wedi ei haddasu fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru a gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man lle y darperir y gwasanaeth.

Mae Rhan 23 (rheoliad 89) yn pennu’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion cymhwystra adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 21(5) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(5)

Mae adran 7(3)(a)(i) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i ganiatáu cais o dan adran 6 o’r Ddeddf fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu’r mannau y mae’r darparwr gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy.

(7)

Mae “swyddogaethau rheoleiddiol” wedi eu diffinio yn adran 3(1)(b) o’r Ddeddf.

(9)

Amnewidiwyd y diffiniad o “registered medical practitioner” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) gan O.S. 2002/3135, Atodlen 1, paragraff 10 ag iddo effaith o 16 Tachwedd 2009.

(16)

Mae “ysbyty” wedi ei ddiffinio ym mharagraff 9 o Atodlen 1 i’r Ddeddf ac yn cynnwys clinig annibynnol.

(18)

2005 p. 9.

(19)

2014 p. 6 .

(20)

Mae gwasanaeth llety diogel yn wasanaeth rheoleiddiedig o dan y Ddeddf (gweler adran 2(1)(b) o’r Ddeddf). Mae paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “gwasanaeth llety diogel” fel y ddarpariaeth o lety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant mewn mangreoedd preswyl yng Nghymru lle y darperir gofal a chymorth i’r plant hynny.

(21)

Gweler Atodlen 1 i’r Ddeddf i gael darpariaeth bellach ynghylch ystyr gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

(22)

Gweler adran 2(1) o’r Ddeddf ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi eu cynnwys o fewn y diffiniad o “gwasanaeth rheoleiddiedig”.

(23)

Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o’r Ddeddf.

(24)

Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o’r Ddeddf

(26)

I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

(27)

I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources