Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 35

ATODLEN 1

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.  Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys(2) a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys(3) a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.

5.  Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7.  Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.

RHAN 2Dehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

(a)os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 34(3) neu (6), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Rheoliad 59

ATODLEN 2Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig

RHAN 1Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—

(a)o bob asesiad perthnasol;

(b)o gynlluniau personol;

(c)o adolygiadau o gynlluniau personol;

(d)o gynlluniau gofal a chymorth;

(e)o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;

(f)o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;

(g)o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.

3.  Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.

4.  Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—

(a)y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(b)y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—

(i)eu dychwelyd at yr unigolyn, neu

(ii)eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;

(c)pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(d)cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.

5.  Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—

(a)unrhyw ddamwain, anaf, neu salwch difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;

(b)achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;

(c)unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;

(d)unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;

(e)achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(f)achosion o wlserau pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(g)dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.

6.  Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.

7.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.

8.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;

(b)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(c)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(d)y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;

(e)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;

(f)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(g)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

9.  Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.

RHAN 2Cofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

10.  Cofnod o unrhyw ddodrefn y mae unigolyn yn dod â hwy i’r ystafell y mae’n ei meddiannu.

11.  Cofnod o unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—

(a)unrhyw dân;

(b)absenoldeb heb esboniad neu absenoldeb anawdurdodedig;

(c)marwolaeth unigolyn.

12.  Cofnod o’r holl ymwelwyr â’r gwasanaeth, gan gynnwys enwau ymwelwyr a’r personau y maent yn ymweld â hwy.

Rheoliad 60

ATODLEN 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

RHAN 1Hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth

1.  Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

2.  Y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

3.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.

4.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

5.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

6.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

7.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

8.  Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

9.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

10.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

11.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol..

12.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth.

13.  Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff.

14.  Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

15.  Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

16.  Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.

17.  Bod unigolyn yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.

18.  Achos o unrhyw glefyd heintus.

19.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

20.  Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.

21.  Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.

22.  Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS).

23.  Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu bwriedir gwneud hynny.

24.  Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu bwriedir gwneud hynny.

25.  Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

RHAN 2Hysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

26.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

27.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(4), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.

28.  Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

29.  Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

30.  Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

31.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

RHAN 3Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

32.  Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.

33.  Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.

34.  Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.

35.  Achos o unrhyw glefyd heintus.

36.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

37.  Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.

38.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

39.  Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

40.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

41.  Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

42.  Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

RHAN 4Hysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

43.  Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

44.  Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

45.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

RHAN 5Hysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

46.  Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

RHAN 6Hysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

47.  Achos o unrhyw glefyd heintus.

48.  Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

Rheoliad 84

ATODLEN 4Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1.  Penodi rheolwr (gweler rheoliad 7(1)).

2.  Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

3.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

4.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

5.  Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

6.  Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

7.  Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.

8.  Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.

(2)

I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

(3)

I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources