Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);

ystyr “asesiad darparwr” (“provider assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnal gan y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 18;

ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”) mewn perthynas â phlentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal neu wasanaeth llety diogel yw—

(a)

yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol hwnnw;

(b)

yn achos plentyn nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr—

(i)

os yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn gan sefydliad gwirfoddol, y sefydliad gwirfoddol hwnnw;

(ii)

os yw’r plentyn wedi ei letya mewn ysgol gymhwysol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol (pa un ai wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(2) neu fel arall), yr awdurdod lleol hwnnw;

(iii)

mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;

ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “ysgol gymhwysol” (“qualifying school”) yw ysgol sy’n wasanaeth cartref gofal yn rhinwedd cymhwyso paragraff 1(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”)—

(a)

mewn perthynas ag oedolyn, yw’r canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd;

(b)

mewn perthynas â phlentyn, yw—

(i)

y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu

(ii)

y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;

ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol neu’r corff GIG sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â’r darparwr er mwyn i ofal a chymorth gael eu darparu i unigolyn:

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;

ystyr “cynllun personol” (“personal plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 15(1);

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn i weithredu ar ran yr unigolyn;

mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;

ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth wedi ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef(3);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodedig;

(b)

mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig.

At ddiben y diffiniad hwn—

(i)

ystyr “lleoliad penodedig” (“specified location”) yw lleoliad a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo(5);

(ii)

ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

Ond nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys i gyfeiriadau at “y gwasanaeth” (“the service”) yn Rhan 22;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(6) yn gymwys iddo;

ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol(7);

ystyr “rheoleiddiwr y gweithlu” (“the workforce regulator”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru;

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)

personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)

personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr.

At ddiben y diffiniad hwn, mae i “cyflogai” a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(8);

ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni noda’r cyd-destun yn wahanol, yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth;

mae i “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”) yr un ystyr ag yn adran 21(1) o’r Ddeddf;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig(9) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(10), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir o dan Ddeddf Deintyddion 1984(11) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.

(3)

Mae rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo; rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaethau lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohono; rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth cymorth cartref ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

(5)

Mae adran 7(3)(a)(i) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i ganiatáu cais o dan adran 6 o’r Ddeddf fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu’r mannau y mae’r darparwr gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy.

(7)

Mae “swyddogaethau rheoleiddiol” wedi eu diffinio yn adran 3(1)(b) o’r Ddeddf.

(9)

Amnewidiwyd y diffiniad o “registered medical practitioner” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) gan O.S. 2002/3135, Atodlen 1, paragraff 10 ag iddo effaith o 16 Tachwedd 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources