Search Legislation

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1041 (Cy. 270)

Dŵr, Cymru

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

Gwnaed

25 Hydref 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Hydref 2017

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2017

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn nodi’r gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(4).

RHAN 1Safonau dŵr

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2017.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad risg” (“risk assessment”) yw asesiad risg a gyflawnir o dan reoliad 6;

ystyr “crynodiad neu werth rhagnodedig” (“prescribed concentration or value”) mewn perthynas ag unrhyw baramedr, yw’r crynodiad neu’r gwerth uchaf neu isaf a bennir mewn perthynas â’r paramedr hwnnw yn y Tablau yn Atodlen 1 fel y’u mesurir drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly, ac a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;

ystyr “cyflenwad dŵr preifat” (“private water supply”) yw cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr(5) neu drwyddedai cyflenwi dŵr(6), ac sy’n cynnwys yr holl asedau ffisegol o’r man tynnu dŵr i’r man defnyddio, gan gynnwys yr holl bibellau, ffitiadau a thanciau cysylltiedig;

ystyr “defnyddiwr” (“consumer”) yw person y darperir cyflenwad dŵr preifat iddo at ddibenion yfed y dŵr gan bobl;

ystyr “diheintio” (“disinfection”) yw proses o drin dŵr er mwyn dileu pob micro-organedd pathogenig a phob paraseit pathogenig a fyddai fel arall yn bresennol yn y dŵr, neu eu gwneud yn anniweidiol i iechyd dynol;

ystyr “dos dangosol” (“indicative dose”) yw’r dos effeithiol cyflawnedig ar gyfer 1 flwyddyn o amlyncu o ganlyniad i’r holl radioniwclidau o darddiad naturiol ac artiffisial y canfyddwyd eu bod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon byrhoedlog;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991;

mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” (“monitoring for Group A parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” (“monitoring for Group B parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;

ystyr “NTU” (“NTU”) yw Uned Cymylogrwydd Neffelomedrig;

ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodoledd, elfen, organedd neu sylwedd a restrir yng ngholofn gyntaf y Tablau yn Atodlen 1 wedi eu darllen, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

(a)

perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) mangreoedd y cyflenwir dŵr iddynt drwy gyflenwad dŵr preifat at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd;

(b)

perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) tir y mae unrhyw ran o’r cyflenwad wedi ei leoli arno;

(c)

unrhyw berson arall sy’n arfer pwerau rheoli neu reolaeth mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw;

ystyr “y Prif Arolygydd Dŵr Yfed” (“the Chief Inspector of Drinking Water”) yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86(1B) o’r Ddeddf (aseswyr ar gyfer gorfodi ansawdd dŵr)(7);

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(8);

mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (ystyr y prif dermau)(9).

Cwmpas

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a fwriedir i’w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl” yw—

(a)pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo’i darddiad a pha un ai y’i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;

(b)pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl oni bai, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch hylendid bwyd(10), bod yr awdurdod cymwys(11) wedi ei fodloni nad yw ansawdd y dŵr yn gallu effeithio ar iachusrwydd y bwyd yn ei ffurf orffenedig.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â—

(a)dŵr y mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015(12) yn gymwys iddo;

(b)dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968(13);

(c)dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy’n tarddu o’r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.

Iachusrwydd

4.—(1Mae cyflenwad dŵr preifat i’w ystyried yn iachus os bodlonir yr holl amodau a ganlyn—

(a)nad yw’n cynnwys unrhyw ficro-organedd, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn peri perygl posibl i iechyd dynol;

(b)ei fod yn cydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer pob paramedr; ac

(c)bod y dŵr yn bodloni’r fformiwla “[nitrad]/50 + [nitraid]/3 ≤ 1”, pan fo’r bachau petryal yn dynodi’r crynodiadau mewn mg/1 ar gyfer nitrad (NO3) a nitraid (NO2).

(2Ystyr cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddŵr afiachus yw nad yw’r gofyniadau ym mharagraff (1) wedi eu bodloni.

Defnyddio cynhyrchion neu sylweddau mewn cyflenwadau dŵr preifat a threfniadau diheintio

5.—(1Ni chaiff unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir wrth baratoi neu ddosbarthu cyflenwad dŵr preifat, neu amhurdebau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion neu sylweddau o’r fath, fod yn bresennol mewn dŵr yn y man defnyddio ar lefelau a fyddai’n ei wneud yn afiachus neu’n peri perygl posibl i iechyd dynol.

(2Pan fo diheintio yn rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i’r person perthnasol—

(a)cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y broses ddiheintio;

(b)sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio;

(c)cadw cofnodion o’r gwaith cynnal a monitro a gyflawnir er mwyn gwirhau effeithiolrwydd y broses ddiheintio; a

(d)cadw copïau o’r cofnodion hynny ar gael i’r awdurdod lleol edrych arnynt, am gyfnod o 5 mlynedd.

Gofyniad i gynnal asesiad risg

6.—(1Rhaid i awdurdod lleol(14) gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal, ac adolygu a diweddaru’r asesiad risg hwnnw bob 5 mlynedd (neu’n gynharach os yw o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol).

(2Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys ond pan fo’r cyflenwad hwnnw’n cael ei ddarparu fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus, neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.

(3Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl nad yw’n dod o fewn paragraff (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.

(4Rhaid i asesiad risg—

(a)cadarnhau a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai’n peri perygl posibl i iechyd dynol;

(b)bodloni gofynion y Canllawiau Diogelwch Cyflenwadau Dŵr Yfed ar gyfer Rheoli Risgiau ac Argyfyngau(15); ac

(c)ystyried canlyniadau’r rhaglenni monitro a sefydlwyd gan ail baragraff Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(16).

(5Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 12 mis o gynnal yr asesiad risg, ddarparu crynodeb o ganlyniadau’r asesiad hwnnw i Weinidogion Cymru.

RHAN 2Monitro

Monitro

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol fonitro’r holl gyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal yn unol â’r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o’r Ddeddf (swyddogaethau cyffredinol awdurdodau lleol mewn perthynas ag ansawdd dŵr).

(2Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) drwy sefydlu rhaglen fonitro ar ffurf naill ai—

(a)casglu a dadansoddi samplau dŵr ar wahân;

(b)mesuriadau a gofnodir drwy broses fonitro barhaus; neu

(c)cyfuniad o’r dulliau yn is-baragraffau (a) a (b).

(3Caiff rhaglenni monitro gynnwys y naill neu’r llall o’r dulliau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)edrych ar gofnodion o weithrediad yr offer a’i statws o ran cynnal a chadw;

(b)arolygu’r dalgylch, a’r seilwaith tynnu, trin, storio a dosbarthu dŵr.

Dosbarthu ymhellach gyflenwadau a geir oddi wrth ymgymerwyr dŵr neu drwyddedeion cyflenwi dŵr

8.  Pan fo dŵr yn cael ei gyflenwi gan ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr ac yna’n cael ei ddosbarthu ymhellach gan berson ac eithrio ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr, rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni unrhyw waith monitro y mae’r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Cyflenwadau mawr a chyflenwadau fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat, ac eithrio fel a bennir yn rheoliad 8—

(a)sy’n cyflenwi cyfaint dŵr dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor; neu

(b)sy’n cyflenwi dŵr fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol fonitro cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn y rheoliad hwn yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw waith monitro ychwanegol y mae’r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Cyflenwadau i anheddau sengl

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat i annedd sengl nas defnyddir fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus (os felly mae rheoliad 9 yn gymwys) neu fel rhan o denantiaeth ddomestig (os felly mae rheoliad 11 yn gymwys).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)caiff yr awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad yn unol â’r gofynion yn rheoliad 11(1); a

(b)rhaid i’r awdurdod lleol wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.

Cyflenwadau preifat eraill gan gynnwys cyflenwadau fel rhan o denantiaeth ddomestig

11.—(1Yn achos cyflenwad dŵr preifat nad yw rheoliadau 8, 9 neu 10 yn ei gwmpasu, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—–

(a)dargludedd;

(b)enterococi;

(c)Escherichia coli (E. coli);

(d)crynodiad ïonau hydrogen;

(e)cymylogrwydd;

(f)unrhyw baramedr yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 y nodir yn yr asesiad risg bod risg y gallai fethu â chydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno; ac

(g)unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg y gallai beri perygl posibl i iechyd dynol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni’r gwaith monitro sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn bob 5 mlynedd o leiaf, ac yn amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.

Monitro sylweddau ymbelydrol: cyffredinol

12.—(1Rhaid i awdurdod lleol fonitro pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad y mae rheoliad 13 yn gymwys iddo) ar gyfer y paramedrau sydd wedi eu cynnwys yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 3.

(2Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 3, ystyr “y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol” yw Tabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1.

(3Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw paramedr yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal mewn crynodiadau a allai fod yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer y paramedr perthnasol yn y tabl hwnnw, caiff yr awdurdod lleol, am ba gyfnod bynnag ag y gwêl yn briodol, benderfynu eithrio’r paramedr dan sylw o’r ddyletswydd fonitro ym mharagraff (1).

(4Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) gael ei wneud—

(a)ar sail arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall (gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6); a

(b)gan ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru sail ei benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad (gan gynnwys canfyddiadau unrhyw arolygon, gwaith monitro neu asesiadau a gyflawnir yn unol â pharagraff (4)(a)).

(6Rhaid i Weinidogion Cymru gyfleu i’r Comisiwn Ewropeaidd sail y penderfyniad o dan baragraff (3) ynghyd â’r ddogfennaeth a ddarperir o dan baragraff (5) sy’n ategu’r penderfyniad.

(7Pan—

(a)fo penderfyniad wedi ei wneud yn flaenorol o dan baragraff (3), a

(b)na fo’r awdurdod lleol yn fodlon mwyach bod sail y penderfyniad yn bodoli,

ni fydd yr eithriad rhag monitro o dan baragraff (3) yn gymwys mwyach a rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig yn unol â hynny.

(8Yn achos radioniwclidau sy’n digwydd yn naturiol, pan fo canlyniadau blaenorol (gan gynnwys arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall) yn dangos bod y crynodiad o radioniwclidau mewn cyflenwad yn ardal awdurdod lleol yn sefydlog, mae amlder gofynnol gwaith samplu a dadansoddi i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol, a’i gadarnhau drwy hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, gan ystyried y risg i iechyd dynol.

Monitro sylweddau ymbelydrol: cyflenwadau i anheddau sengl penodedig

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat i annedd sengl nas darperir fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.

(2Caiff awdurdod lleol fonitro cyflenwad sy’n dod o fewn paragraff (1) ar gyfer y paramedrau sydd wedi eu cynnwys yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1 yn unol ag Atodlen 3 a Rhan 3 o Atodlen 4, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan y perchennog neu’r meddiannydd.

Samplu a dadansoddi

14.—(1Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad dŵr preifat, rhaid iddo gymryd sampl—

(a)os yw’r dŵr wedi ei gyflenwi at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel arfer i gyflenwi dŵr i’w yfed gan bobl, ac sydd, os oes mwy nag un tap, yn gynrychioliadol o’r dŵr a gyflenwir i’r fangre;

(b)os defnyddir y dŵr mewn menter cynhyrchu bwyd, yn y man y’i defnyddir yn y fenter;

(c)os cyflenwir y dŵr o dancer, yn y man y daw allan o’r tancer;

(d)mewn man addas yn unrhyw achos arall.

(2Rhaid cymryd hapsampl yn ystod y dydd o un litr o gyfaint o dap y defnyddiwr, heb ei lifolchi ymlaen llaw, at ddiben samplu ar gyfer y paramedrau copr, plwm a nicel.

(3O ran samplu o dan y rheoliad hwn—

(a)ar gyfer paramedrau cemegol yn y rhwydwaith dosbarthu, rhaid ei gyflawni yn unol ag ISO 5667-5, ac eithrio pan fo’r sampl yn cael ei chymryd o dap defnyddiwr;

(b)ar gyfer paramedrau microbiolegol, rhaid ei gyflawni yn unol ag—

(i)EN ISO 19458 diben samplu A yn y rhwydwaith dosbarthu; a

(ii)EN ISO 19458 diben samplu B wrth dap y defnyddiwr.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y sampl yn cael ei dadansoddi yn unol ag Atodlen 4.

Cyflenwadau newydd

15.—(1Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol o gyflenwad dŵr preifat sydd i’w ddefnyddio am y tro cyntaf (neu am y tro cyntaf ar ôl peidio â chael ei ddefnyddio am gyfnod o 12 mis neu ragor), neu sy’n cael ei ddefnyddio felly, rhaid cydymffurfio â gofynion rheoliadau 6 i 14 ac 16 i 19 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(2Ni chaniateir dechrau defnyddio neu ddefnyddio cyflenwad dŵr preifat hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw’r cyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol.

Cofnodion

16.—(1Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn cysylltiad â phob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 5.

(2Erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, rhaid i awdurdod lleol—

(a)anfon copi o’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed; a

(b)anfon copi o’r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt.

RHAN 3Gweithredu yn dilyn methiant

Darparu gwybodaeth

17.  Os yw awdurdod lleol o’r farn bod cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol yn brydlon i sicrhau bod y bobl sy’n debygol o yfed dŵr ohono—

(a)yn cael gwybod bod y cyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol;

(b)pan fo modd, yn cael gwybod am natur a graddau’r perygl posibl; ac

(c)yn cael cyngor i’w caniatáu i leihau unrhyw berygl posibl o’r fath.

Ymchwilio

18.—(1Pan fo awdurdod lleol yn amau bod cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio ag—

(a)gofynion rheoliad 4, neu

(b)y crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Rhan 2 neu Ran 3 o Atodlen 1 ar gyfer paramedr dangosydd,

rhaid iddo gynnal ymchwiliad i gadarnhau’r hyn a achosodd y methiant hwnnw.

(2Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi cadarnhau’r hyn a achosodd y methiant, rhaid iddo weithredu yn unol â pharagraffau (3) i (5).

(3Os achoswyd y methiant o ganlyniad i’r system ddosbarthu o fewn mangre ddomestig (pa un a yw’r dŵr ar gael i’r cyhoedd yn y fangre honno ai peidio) rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r bobl sy’n debygol o gael eu heffeithio yn brydlon a chynnig cyngor iddynt ar y mesurau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd dynol.

(4Yn ogystal â’r ddyletswydd ym mharagraff (3) (pan fo’n gymwys), rhaid i’r awdurdod lleol weithredu yn unol â pharagraff (5) os achoswyd y methiant o ganlyniad i—

(a)y system ddosbarthu mewn mangre ddomestig pan fo’r dŵr ar gael i’r cyhoedd; neu

(b)system ddosbarthu nad yw mewn mangre ddomestig.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)os yw’r dŵr yn peri perygl posibl i iechyd dynol a bod yr amodau yn rheoliad 20 wedi eu bodloni, gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw; neu

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau o gadarnhau’r hyn a achosodd y methiant, ac os nad yw camau unioni priodol wedi eu cymryd, gyflwyno hysbysiad yn unol ag adran 80 o’r Ddeddf (pwerau unioni awdurdodau lleol mewn perthynas â chyflenwadau preifat) oni bai bod yr awdurdod lleol yn rhoi awdurdodiad yn unol â rheoliad 19(2).

(6Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys a bod rhwymedigaethau monitro awdurdod lleol mewn cysylltiad â’r cyflenwad wedi eu lleihau (neu eu hamrywio fel arall) yn flaenorol o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, rhaid i’r fath amrywiad ddod i ben ar unwaith, a rhaid adfer yr amlderau safonol a amlinellir yn Nhablau 2 a 3 yn Atodlen 2.

Awdurdodi safonau gwahanol

19.—(1Caiff unrhyw berson perthnasol wneud cais i awdurdod lleol am awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(2Caiff awdurdod lleol roi awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn—

(a)os yr unig beth sy’n achosi i’r dŵr fod yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);

(b)os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â’r holl ddefnyddwyr dŵr y bydd yr awdurdodiad yn effeithio arnynt a chydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wedi ystyried eu safbwyntiau;

(c)os nad yw rhoi’r awdurdodiad yn achosi perygl posibl i iechyd dynol; a

(d)oni ellir cynnal y cyflenwad dŵr preifat drwy unrhyw ddulliau rhesymol eraill.

(3Rhaid i awdurdodiad ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gymryd camau dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â’r paramedrau angenrheidiol, a rhaid i’r awdurdodiad bennu—

(a)y person y rhoddir yr awdurdodiad iddo;

(b)y cyflenwad dŵr preifat dan sylw;

(c)y sail ar gyfer rhoi’r awdurdodiad;

(d)y paramedrau dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol, a’r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;

(e)yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint o ddŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;

(f)cynllun monitro priodol, gan fonitro’n amlach pan fo angen;

(g)crynodeb o’r cynllun i weithredu’r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith, ac amcangyfrif o’r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; a

(h)hyd yr awdurdodiad.

(4Os yw awdurdod lleol yn rhoi awdurdodiad, ac os yw’r person y’i rhoddir iddo yn gweithredu yn unol â’r amserlen a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf ynghylch y materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu’r awdurdodiad.

(5Rhaid i hyd yr awdurdodiad fod mor fyr â phosibl, a pha un bynnag ni chaiff fod yn hwy na 3 blynedd.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a gyflenwir yn cael gwybod yn brydlon am yr awdurdodiad a’i amodau a sicrhau, pan fo’n angenrheidiol, y rhoddir cyngor i grwpiau penodol y gallai’r awdurdodiad beri risg arbennig iddynt.

(7Os yw’r cyflenwad dŵr preifat yn fwy na 1,000 m3 y diwrnod ar gyfartaledd neu os yw’n gwasanaethu mwy na 5,000 o bobl rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o’r awdurdodiad at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed a Gweinidogion Cymru o fewn 1 mis.

(8Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynnydd y camau unioni yn barhaus.

(9Os oes angen, gyda chydsyniad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol roi ail awdurdodiad am hyd at 3 blynedd ychwanegol, ond os yw’n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon copi o’r awdurdodiad ynghyd â sail ei benderfyniad at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed a Gweinidogion Cymru.

(10Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio’r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei ddiwygio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.

RHAN 4Gweithdrefn hysbysu

Hysbysiadau

20.—(1Os yw cyflenwad dŵr preifat yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwn i’r person perthnasol yn hytrach na chyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r cyflenwad dŵr preifat y mae’n ymwneud ag ef;

(b)pennu’r sail dros gyflwyno’r hysbysiad;

(c)gwahardd defnyddio’r cyflenwad hwnnw neu gyfyngu ar y defnydd ohono;

(d)pennu pa gamau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn—

(i)diogelu iechyd dynol;

(ii)adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr preifat;

(iii)cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad dŵr preifat ar ôl ei adfer; ac

(e)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau sy’n ofynnol.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn brydlon, a darparu unrhyw gyngor sydd ei angen.

(4Caiff yr hysbysiad fod yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r hysbysiad cyn gynted ag y bydd yn dod yn ymwybodol nad oes perygl posibl i iechyd dynol mwyach.

(6Mae’n drosedd i berson perthnasol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw.

(7Pan fo person perthnasol (“P”) yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1), caiff yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad gymryd y fath gamau ei hun.

(8Pan fo unrhyw gamau yn cael eu cymryd gan awdurdod lleol o dan baragraff (7) mewn perthynas ag unrhyw fangre—

(a)caiff yr awdurdod lleol adennill oddi wrth P unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth gymryd y camau hynny; a

(b)pan fo person, ac eithrio’r awdurdod lleol, yn atebol i wneud taliadau i P, bernir bod symiau a delir yn rhinwedd is-baragraff (a) yn dreuliau yr eir iddynt wrth gymryd y camau gan P.

Apelau

21.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad.

(2Mae’r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(17) yn gymwys i’r achosion.

(3Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.

(4Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiadau neu heb addasiadau.

Cosbau

22.—(1Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan reoliad 20 yn atebol—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 3 mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(2Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw yn euog o’r drosedd yn ogystal â’r corff corfforaethol.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

RHAN 5Amrywiol

Ffioedd

23.  Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.

Dirymiadau

24.—(1Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau 2010;

(b)Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010(18);

(c)Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010(19); a

(d)Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016(20).

(2Mae paragraff 142 o Atodlen 2 i Orchymyn yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Triniaethau (Dileu) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2013(21) wedi ei ddirymu.

Diwygiad canlyniadol

25.  Yn rheoliad 21(7)(b) o Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010(22), yn lle “regulation 15 or 16 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2010” rhodder “regulation 18 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2017”.

Darpariaethau trosiannol

26.—(1Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)mae awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(2) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(2) o’r Rheoliadau hyn;

(b)mae ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(9) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(9) o’r Rheoliadau hyn;

(c)mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (“hysbysiad presennol”) i’w gymryd i fod yn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hyn.

(2Caniateir gwneud apêl o dan reoliad 21(1) o’r Rheoliadau hyn yn erbyn hysbysiad presennol os nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 19(1) o Reoliadau 2010 wedi dod i ben ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3O ran awdurdod lleol sydd wedi—

(a)lleihau amlder samplu ar gyfer paramedr o dan baragraff 2(2) yn Rhan 1 o Atodlen 2 (monitro) i Reoliadau 2010, neu

(b)eithrio paramedr o waith monitro archwilio o dan baragraff 3(3) yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010,

rhaid iddo, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, ddod ag unrhyw leihad neu eithriad o’r fath i ben, ac yn lle hynny rhaid iddo ddechrau monitro yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4Caiff awdurdod lleol ddibynnu ar unrhyw ddata a gesglir yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym i gyfiawnhau unrhyw amrywiad o ran monitro o dan Ran 4 o Atodlen 2.

(5Mae Tabl 2 (nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi) yn Atodlen 4 yn parhau mewn grym hyd 23:59 ar 31 Rhagfyr 2019, a chaiff ei ddirymu at bob diben ar ôl hynny.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2017

Rheoliadau 2, 11, 12, 13, 18 a 19

ATODLEN 1Crynodiadau neu Werthoedd

RHAN 1Iachusrwydd

TABL A:

PARAMEDRAU MICROBIOLEGOL

Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Escherichia coli (E. coli)0Nifer/100ml
Enterococi0Nifer/100ml
Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion:
Escherichia coli (E.coli)0Nifer/250ml
EnterocociNifer/250ml
Pseudomonas aeruginosa0Nifer/250ml
Cyfrifiad cytrefi 22ºC100Nifer/ml

TABL B:

PARAMEDRAU CEMEGOL

Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

(1)

Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomerau gweddillol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn ôl manylebau uchafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol mewn cyffyrddiad â’r dŵr. Rheolir hyn drwy fanylebau cynnyrch.

(2)

Gweler hefyd y fformiwla nitrad-nitraid yn rheoliad 4(1)(c).

(3)

At y dibenion hyn, ystyr “plaleiddiaid” yw:

  • pryfleiddiaid organig

  • chwynleiddiaid organig

  • ffyngleiddiaid organig

  • nematoleiddiaid organig

  • gwiddonleiddiaid organig

  • algaleiddiaid organig

  • llygodleiddiaid organig

  • llysnafeddleiddiaid organig

  • cynhyrchion cysylltiedig (ymhlith eraill, rheoleiddwyr tyfiant) a’u metabolion a’u cynhyrchion diraddio ac adweithio perthnasol. Dim ond y plaleiddiaid hynny sy’n debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad penodol sydd angen eu monitro.

(4)

Ystyr “cyfanswm plaleiddiaid” yw swm y crynodiadau o’r plaleiddiaid unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

(5)

Y cyfansoddion penodedig yw:

  • benso(b)fflworanthen

  • benso(k)fflworanthen

  • benso(ghi)perylen

  • indeno(1,2,3-cd)pyren.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.
(6)

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

(7)

Y cyfansoddion penodedig yw:

  • clorofform

  • bromofform

  • dibromocloromethan

  • bromodicloromethan.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.
Acrylamid (1)0.10µg/1
Antimoni5.0µg/1
Arsenig10µg/1
Bensen1.0µg/1
Benso(a)pyren0.010µg/1
Boron1.0mg/1
Bromad10µg/1
Cadmiwm5.0µg/1
Cromiwm50µg/1
Copr2.0mg/1
Cyanid50µg/1
1.2 dicloroethan3.0µg/1
Epichlorohydrin(1)0.10µg/1
Fflworid1.5mg/1
Plwm10µg/1
µg/1
Mercwri1.0µg/1
Nicel20µg/1
Nitrad (2)50mg/l
Nitraid (2)0.5 (neu 0.1 yn achos gweithfeydd trin)mg/l
Plaleiddiaid (3)Aldrin0.030µg/1
Dieldrin0.030µg/1
Heptaclor0.030µg/1
Heptaclor epocsid0.030µg/1
Plaleiddiaid eraill0.10µg/1
Cyfanswm plaleiddiaid (4)0.50µg/1
Hydrocarbonau polysyclig aromatig (5)0.10µg/1
Seleniwm10µg/1
Tetracloroethen a Thricloroethen(6)10µg/1
Trihalomethanau: Cyfanswm(7)100µg/1
Finyl clorid(1)0.50µg/1

Gofynion cenedlaethol - Crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig

Paramedrau

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

Alwminiwm200µg/1
Lliw20mg/l Pt/Co
Haearn200µg/1
Manganîs50µg/1
AroglDerbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal
Sodiwm200mg/l
BlasDerbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal
Tetracloromethan3µg/1
Cymylogrwydd4NTU

RHAN 2Paramedrau Dangosyddion

TABL C:

Crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig

Paramedrau

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

(1)

Ni ddylai’r dŵr fod yn ymosodol.

(2)

Yn achos dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb yn unig.

Amoniwm0.50mg/l
Clorid(1)250mg/l
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)0Nifer/100ml
Bacteria colifform0Nifer/100ml (Nifer/250ml yn achos dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion)
Cyfrifau cytrefiDim newid annormalNifer/ml ar 22°C
Dargludedd(1)2500µS/cm ar 20ºC
Ïonau hydrogen9.5 (gwerth uchaf)Gwerth pH

6.5 (gwerth isaf) (yn achos

dŵr llonydd a roddir mewn poteli neu gynwysyddion y gwerth isaf yw 4.5)

Gwerth pH
Sylffad(1)250mg/l
Cyfanswm carbon organig (CCO)Dim newid annormalmgC/l
Cymylogrwydd(2)1NTU

RHAN 3Paramedrau sylweddau ymbelydrol

TABL D:

Gwerthoedd rhagnodedig ar gyfer radon, tritiwm a dos dangosol dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl

Paramedrau

Crynodiad neu werth uchaf

Unedau Mesur

(1)

Bernir bod camau gorfodi gan yr awdurdod lleol wedi eu cyfiawnhau ar sail diogelwch radiolegol heb unrhyw ystyriaeth bellach pan fo’r crynodiadau radon yn uwch na 1,000 Bq/1.

(2)

Os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’i werth paramedrig, rhaid cynnal ymchwiliad (a gaiff gynnwys dadansoddiad) i bresenoldeb radioniwclidau artiffisial.

Dos dangosol (ar gyfer ymbelydredd)0.10mSv
Radon(1)100Bq/l
Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd)(2)100Bq/l

Rheoliadau 2 , 9, 18 a 26

ATODLEN 2Monitro

RHAN 1Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A

Samplu

1.—(1Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yn unol â’r Rhan hon.

(2Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o dan yr amgylchiadau a restrir yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y paramedr hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw er mwyn—

(a)canfod pa un a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Atodlen 1 ai peidio;

(b)darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac

(c)cadarnhau pa mor effeithiol fu’r driniaeth a roddwyd i’r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1
Paramedrau Grŵp A

Paramedrau

Amgylchiadau

AlwminiwmOs y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr
AmoniwmOs defnyddir cloramineiddio
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Bacteria colifformYm mhob cyflenwad
Cyfrifau cytrefiYm mhob cyflenwad
LliwYm mhob cyflenwad
DargludeddYm mhob cyflenwad
Escherichia coli (E. coli)Ym mhob cyflenwad
Crynodiad ïonau hydrogenYm mhob cyflenwad
HaearnOs y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr
ManganîsPan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
NitradOs defnyddir cloramineiddio
NitraidOs defnyddir cloramineiddio
AroglYm mhob cyflenwad
Pseudomonas aeruginosaYn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig
BlasYm mhob cyflenwad
CymylogrwyddYm mhob cyflenwad

Amlder samplu

2.  Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A mor aml ag a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2
Amlder samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A
Cyfaint m3/diwrnodAmlder samplu fesul blwyddyn
≤ 101
˃ 10 ≤ 1002
˃ 100 ≤ 1,0004
˃ 1,000 ≤ 2,00010
˃ 2,000 ≤ 3,00013
˃ 3,000 ≤ 4,00016
˃ 4,000 ≤ 5,00019
˃ 5,000 ≤ 6,00022
˃ 6,000 ≤ 7,00025
˃ 7,000 ≤ 8,00028
˃ 8,000 ≤ 9,00031
˃ 9,000 ≤ 10,00034
˃ 10,0004 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod)

RHAN 2Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B

Samplu

3.—(1Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B yn unol â’r Rhan hon.

(2Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 (ac eithrio paramedrau Grŵp A sydd eisoes yn cael eu samplu o dan Ran 1 o’r Atodlen hon)—

(a)er mwyn darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganfod pa un a yw’r cyflenwad dŵr preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny o’r Atodlen honno ai peidio; a

(b)os defnyddir diheintio, rhaid gwirio bod cyn lleied o sgil-gynhyrchion diheintio â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio.

Amlder samplu

4.  Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B mor aml ag a bennir yn Nhabl 3.

Tabl 3
Amlder samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B
Cyfaint m3/diwrnodAmlder samplu fesul blwyddyn
≤ 101
˃ 10 ≤ 3,3002
˃ 3,300 ≤ 6,6003
˃ 6,600 ≤ 100,0004
˃ 10,000 ≤ 100,0003 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod)
˃ 100,000

10 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r

lluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod)

RHAN 3Amlderau lleiaf monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B ar gyfer dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion

Cyfainta y dŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion bob dydd (m3)Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: nifer y samplau fesul blwyddynMonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: nifer y samplau fesul blwyddyn
≤ 1011
˃ 10 ≤ 60121
˃ 601 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod)1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod)
a Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr.

RHAN 4Amrywio gofynion monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A a Grŵp B

Amrywio amlder samplu

5.—(1Caiff awdurdod lleol leihau’r amlderau samplu sy’n ofynnol ar gyfer paramedr (ac eithrio ar gyfer Escheria coli (E. coli)) o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—

(a)bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 60% o’r gwerth paramedrig;

(b)bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl;

(c)bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried; a

(d)bod o leiaf un sampl yn cael ei chymryd fesul blwyddyn.

(2Caiff awdurdod lleol bennu amlder samplu uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.

Amrywio paramedrau

6.—(1Caiff awdurdod lleol beidio â monitro paramedr (ac eithrio Escheria coli (E. coli)) y mae fel arall yn ofynnol ei fonitro o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—

(a)bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 30% o’r gwerth paramedrig;

(b)bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl; ac

(c)bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried.

(2Caiff awdurdod lleol fonitro ar gyfer priodoleddau, elfennau, organebau neu sylweddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys fel paramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.

Rheoliadau 12 a 13

ATODLEN 3Monitro sylweddau ymbelydrol

Radon

1.—(1Mewn perthynas â’r paramedr radon yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—

(a)sicrhau y cynhelir arolwg cynrychioliadol yn unol ag is-baragraff (2) i ganfod pa mor debygol ydyw y bydd cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a

(b)cynnal gwaith monitro pan fo rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, y gall y gwerth paramedrig ar gyfer y paramedr radon fod yn uwch na’r hyn a nodir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.

(2Rhaid llunio arolwg cynrychioliadol yn y fath fodd—

(a)er mwyn gallu canfod maint a natur y tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â radon mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl sy’n dod o fathau gwahanol o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn ardaloedd daearegol gwahanol; a

(b)y gellir nodi’r paramedrau sylfaenol, yn enwedig daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y creigiau neu’r pridd, a’r math o ffynnon, a defnyddio’r wybodaeth honno i gyfeirio camau gweithredu pellach i ardaloedd sy’n debygol o ddod i gysylltiad â lefel uchel o radon.

Tritiwm

2.—(1Mewn perthynas â’r paramedr tritiwm yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—

(a)cyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclidau artiffisial eraill yn bresennol yn y dalgylch, ac ni ellir dangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a

(b)cynnal ymchwiliad mewn perthynas â phresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.

(2Pan fo monitro yn ofynnol o dan is-baragraff (1)—

(a)rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu

(b)rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg y cyfeirir ato o dan is-baragraff (1)(a) yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.

Dos Dangosol

3.—(1Mewn perthynas â’r paramedr dos dangosol yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol gyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell ymbelydredd artiffisial neu lefel uwch o ymbelydredd naturiol yn bresennol ac ni ellir dangos, ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.

(2Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â radioniwclidau artiffisial—

(a)rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu

(b)rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.

(3Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â ffynhonnell lefel uwch o ymbelydredd naturiol—

(a)o ran yr awdurdod lleol—

(i)caiff benderfynu pa mor aml y dylid monitro yn ei ardal yn dibynnu ar y strategaeth sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod; a

(ii)rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan is-baragraff (i); a

(b)caniateir i’r amlder monitro a benderfynir o dan baragraff (a)(i) amrywio o un mesuriad gwirio i’r amlderau a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(4Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan is-baragraff (3) bod un mesuriad gwirio ar gyfer ymbelydredd naturiol yn briodol, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal gwiriad pellach os oes unrhyw newid yn digwydd mewn perthynas â’r cyflenwad dŵr preifat sy’n debygol o ddylanwadu ar y crynodiadau o radioniwclidau yn y cyflenwad.

Trin dŵr

4.  Pan fo cyflenwad dŵr preifat wedi ei drin i leihau lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer cyfanswm y dos dangosol, radon a thritiwm yn unol â darpariaethau’r Rhan hon ac mor aml ag a nodir ar gyfer monitro paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i wirhau effeithiolrwydd parhaus y driniaeth honno.

Gwerthoedd cyfartalog

5.  Pan fo gwerth sampl benodol a gymerir gan awdurdod lleol yn uwch na’r gwerth paramedrig yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i Weinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod lleol, raddau’r gwaith ailsamplu sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gwerthoedd a fesurir yn gynrychioliadol o grynodiad gweithgarwch cyfartalog ar gyfer blwyddyn lawn.

Rheoliadau 13 a 14

ATODLEN 4Samplu a dadansoddi

RHAN 1Cyffredinol

Samplau: cyffredinol

1.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod y gofynion priodol wedi eu bodloni wrth—

(a)cymryd, trin, cludo a storio sampl y mae’n ofynnol ei chymryd yn unol â’r Atodlen hon;

(b)dadansoddi sampl o’r fath; neu

(c)achosi i unrhyw sampl o’r fath gael ei chymryd, ei thrin, ei chludo, ei storio neu ei dadansoddi.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “y gofynion priodol” yw unrhyw rai o’r canlynol sy’n gymwys—

(a)bod y sampl yn gynrychioliadol o ansawdd y dŵr ar yr adeg y cymerir y sampl;

(b)bod y person sy’n cymryd y sampl yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas;

(c)nad yw’r sampl yn cael ei halogi wrth ei chymryd;

(d)bod y sampl yn cael ei chadw ar y fath dymheredd ac o dan y fath amodau sy’n sicrhau nad oes unrhyw newid perthnasol o ran y crynodiad neu’r gwerth ar gyfer y mesur neu’r arsylwi y mae’r sampl wedi ei bwriadu ar ei gyfer;

(e)bod y sampl yn cael ei dadansoddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei chymryd—

(i)gan berson sy’n gymwys i wneud hynny, neu o dan oruchwyliaeth person o’r fath; a

(ii)gan ddefnyddio unrhyw gyfarpar sy’n addas ar gyfer y diben;

(f)rhaid i’r broses o gasglu a chludo samplau, neu fesuriadau a gofnodir drwy fonitro parhaus, fod yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas.

(3Wrth ymgymryd â’r gweithgarwch a ddisgrifir yn—

(a)is-baragraff (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o EN ISO/IEC 17024, EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol;

(b)is-baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol.

(4Caniateir gohirio gweithredu’r gofyniad yn is-baragraff (3)(a) am gyfnod o ddim mwy na 24 mis gan ddechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(5Yn y paragraff hwn, ystyr “corff achrededig addas” yw unrhyw berson sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig(23).

Dadansoddi samplau: paramedrau microbiolegol

2.  Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi wedi ei bennu yn ail golofn y tabl hwnnw.

Dadansoddi samplau: paramedrau cemegol a dangosyddion

3.—(1Ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny, caiff yr awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn naill ai is-baragraff (3) neu is-baragraff (4).

(2Ar ôl 31 Rhagfyr 2019, rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn is-baragraff (4).

(3Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu—

(a)mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r gwiredd a’r trachywiredd a bennir yn ail golofn a thrydedd golofn y tabl hwnnw, a

(b)canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.

(4Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu mesur crynodiadau sy’n hafal â’r—

(a)gwerth paramedrig gyda therfyn meintioliad o 30% neu lai o’r gwerth paramedrig perthnasol (fel sydd wedi ei gynnwys yn Atodlen 1), a

(b)yr ansicrwydd mesuriadau yn ail golofn y tabl hwnnw.

(5Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas allu mesur gwerthoedd sy’n hafal â’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanediad ar 25°C.

(6At y dibenion hyn—

(a)y “terfyn canfod” yw—

(i)tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r paramedr; neu

(ii)pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl wag;

(b)“trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr. Trachywiredd derbyniol yw dwywaith y gwyriad safonol cymharol. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;

(c)“gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r gwir werth. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;

(d)mae “ansicrwydd mesuriadau” yn baramedr annegyddol sy’n nodweddu gwasgariad y gwerthoedd nifer sy’n cael eu mesur, ar sail yr wybodaeth a ddefnyddir.

Awdurdodi dulliau dadansoddi eraill

4.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi dull sy’n wahanol i’r rheini a nodir ym mharagraff 3(2) neu 3(3) os ydynt yn fodlon ei fod o leiaf yr un mor ddibynadwy.

(2Caiff awdurdodiad fod am gyfnod cyfyngedig, a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.

Samplu a dadansoddi gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol

5.—(1Caiff awdurdod lleol ymrwymo i drefniant i unrhyw berson gymryd samplau a’u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymrwymo i drefniant o dan is-baragraff (1) oni fydd—

(a)yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w chyflawni, a

(b)wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith am unrhyw doriad o’r Rheoliadau hyn, ac am unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.

RHAN 2Dulliau dadansoddi

Tabl 1

Dulliau dadansoddi rhagnodedig ar gyfer paramedrau microbiolegol

ParamedrDull
Escherichia coli (E. coli)EN ISO 9308-1 neu EN ISO 9308-2
EnterocociEN ISO 7899-2
Pseudomonas aeruginosaEN-ISO 16266
Cyfrifiad cytrefi 22ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwyEN ISO 6222
Cyfrifiad cytrefi 36ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwyEN ISO 6222
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau)EN ISO 14189

Tabl 2

Nodweddion perfformiad rhagnodedig dulliau dadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion: gwiredd, trachywiredd a therfyn canfod (ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny)

Paramedr

Gwiredd fel % o’r crynodiad

neu werth neu fanyleb ragnodedig

(ac eithrio pH)

Trachywiredd fel % o’r crynodiad

neu werth neu fanyleb ragnodedig

(ac eithrio pH)

Terfyn canfod fel %

o’r crynodiad neu

werth neu

fanyleb ragnodedig

(ac eithrio pH)

(1)

Dylai’r dull dadansoddi ganfod cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf.

(2)

EN ISO 8476.

(3)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw. Gellir cyflawni gwerthoedd ar gyfer ansicrwydd mesuriadau mor isel â 30% ar gyfer nifer o blaleiddiaid, a chaniateir gwerthoedd uwch hyd at 80% ar gyfer nifer o blaleiddiaid.

(4)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(5)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(6)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r gwerth rhagnodedig o 4 NTU.

(7)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r fanyleb o 1 NTU ar gyfer dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwedir arno gan ddŵr wyneb.

Alwminiwm101010
Amoniwm101010
Antimoni252525
Arsenig101010
Bensen252525
Benso(a)pyren252525
Boron101010
Bromad252525
Cadmiwm101010
Clorid101010
Cromiwm101010
Lliw101010
Dargludedd101010
Copr101010
Cyanid(1)101010
1.2-dicloroethan252510
Fflworid101010
pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH)0.20.2
Haearn101010
Plwm101010
Manganîs101010
Mercwri201020
Nicel101010
Nitrad101010
Nitraid101010
Ocsideiddrwydd(2)
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol(3)252525
Hydrocarbonau polysyclig aromatig(4)252525
Seleniwm101010
Sodiwm101010
Sylffad101010
Tetracloroethen(5)252510
Tetracloromethan202020
Tricloroethen(5)252510

Trihalomethanau:

Cyfanswm(4)

252510
Cymylogrwydd(6)101010
Cymylogrwydd(7)252525

Tabl 3

Dull dadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion: ansicrwydd mesuriadau(1)

Paramedr

Ansicrwydd mesuriadau fel

% o’r gwerth paramedrig

(ac eithrio pH)

(1)

Ni chaniateir defnyddio ansicrwydd mesuriadau fel goddefiant ychwanegol i’r gwerthoedd paramedrig a nodir yn Atodlen 1.

(2)

Os na ellir cyflawni gwerth yr ansicrwydd mesuriadau, dylid dewis y dechneg orau sydd ar gael (hyd at 60%).

(3)

Dylai’r dull dadansoddi ganfod cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf.

(4)

EN ISO 8476.

(5)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw. Gellir cyflawni gwerthoedd ar gyfer ansicrwydd mesuriadau mor isel â 30% ar gyfer nifer o blaleiddiaid, a chaniateir gwerthoedd uwch hyd at 80% ar gyfer nifer o blaleiddiaid.

(6)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(7)

Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1.

(8)

Rhaid amcangyfrif yr ansicrwydd mesuriadau ar lefel 3mg/l o’r CCO. Rhaid defnyddio’r Canllawiau CEN 1484 ar gyfer canfod CCO a charbon organig tawdd.

(9)

Rhaid amcangyfrif yr ansicrwydd mesuriadau ar lefel 1,0 NTU yn unol ag EN ISO 7027.

Alwminiwm25
Amoniwm40
Antimoni40
Arsenig30
Bensen40
Benso(a)pyren(2)50
Boron25
Bromad40
Cadmiwm25
Clorid15
Cromiwm30
Dargludedd20
Copr25
Cyanid(3)30
1,2-dicloroethan40
Fflworid20
pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH)0.2
Haearn30
Plwm25
Manganîs30
Mercwri30
Nicel25
Nitrad15
Nitraid20
Ocsideiddrwydd(4)50
Plaleiddiaid(5)30
Hydrocarbonau polysyclig aromatig(6)50
Seleniwm40
Sodiwm15
Sylffad15
Tetracloroethen(7)30
Tricloroethen(7)40
Trihalomethanau: cyfanswm(6)40
Cyfanswm carbon organig (CCO)(8)30
Cymylogrwydd(9)30

RHAN 3Monitro ar gyfer y dos dangosol a nodweddion perfformiad dadansoddol

6.  Caiff awdurdod lleol ddefnyddio strategaethau sgrinio dibynadwy i ddangos bod ymbelydredd yn bresennol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.

7.  Caiff y strategaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 gynnwys sgrinio ar gyfer—

(a)radioniwclidau penodol neu radioniwclid unigol; neu

(b)gweithgarwch alffa gros neu weithgarwch beta gros (pan fo’n briodol caniateir disodli gweithgarwch beta gros gan weithgarwch beta gweddilliol ar ôl didynnu’r crynodiad gweithgarwch K-40).

Sgrinio ar gyfer radioniwclidau penodol neu sgrinio ar gyfer radioniwclid unigol

8.  Os yw un o’r crynodiadau gweithgarwch yn uwch nag 20% o’r gwerth deilliedig cyfatebol neu os yw’r crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’n ofynnol dadansoddi’r radioniwclidau ychwanegol.

9.  Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa radioniwclidau y mae’n ofynnol eu mesur ar gyfer pob cyflenwad, ystyried yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol o ymbelydredd.

Strategaethau sgrinio ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros

10.  Yn ddarostyngedig i baragraff 11 y lefelau sgrinio a argymhellir yw—

(a)0,1Bq/l ar gyfer gweithgarwch alffa gros; a

(b)1,0Bq/l ar gyfer gweithgarwch beta gros.

11.  Os yw’r gweithgarwch alffa gros yn uwch na 0,1Bq/l neu os yw’r gweithgarwch beta gros yn uwch na 1,0Bq/l, mae’n ofynnol dadansoddi ar gyfer radioniwclidau penodol.

12.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu lefelau sgrinio gwahanol ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros pan fo’r awdurdod lleol yn gallu dangos bod y lefelau gwahanol yn cydymffurfio â dos dangosol o 0,1 mSv.

Cyfrifo’r dos dangosol

13.  Rhaid cyfrifo’r dos dangosol o—

(a)y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos a nodwyd yn Atodiad III, Tabl A o Gyfarwyddeb 96/29/Euratom(24) ; neu

(b)gwybodaeth ddiweddarach a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru, ar sail y cymeriant dŵr blynyddol (730 l ar gyfer oedolion).

14.  Pan fo’r fformiwla a ganlyn wedi ei bodloni, gellir tybio bod y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig o 0,1mSv ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw ymchwiliadau pellach—

Crynodiadau deilliedig ar gyfer ymbelydredd mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl(1)

Tarddiad

Niwclid

Crynodiad deilliedig

(1)

Mae’r tabl hwn yn caniatáu ar gyfer priodoleddau radiolegol wraniwm yn unig, nid ei wenwyndra cemegol.

NaturiolU-23833,0 Bq/l
U-23432,8 Bq/l
Ra-2260,5 Bq/l
Ra-2280,2 Bq/l
Pb-2100,2 Bq/l
Po-2100,1 Bq/l
ArtiffisialC-14240 Bq/l
Sr-904,9 Bq/l
Pu-239/Pu-2400,6 Bq/l
Am-2410,7 Bq/l
Co-6040 Bq/l
Cs-1347,2 Bq/l
Cs-13711 Bq/l
1-1316,2 Bq/l

Nodweddion perfformiad a dulliau dadansoddi

15.  Ar gyfer y paramedrau a’r radioniwclidau a ganlyn, rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir, o leiaf, allu mesur crynodiadau gweithgarwch gyda’r terfyn canfod a bennir isod:

Paramedrau a radioniwclidau

Terfyn canfod (Nodiadau 1,2)

Nodiadau

Tritiwm10 Bq/lNodyn 3
Radon10 Bq/lNodyn 3
alffa gros0,04 Bq/lNodyn 4
beta gros0,4 Bq/lNodyn 4
U-2380,02 Bq/l
U-2340,02 Bq/l
Ra-2260,04 Bq/l
Ra-2280,02 Bq/lNodyn 5
Pb-2100,02 Bq/l
Po-2100,01 Bq/l
C-1420 Bq/l
Sr-900,4 Bq/l
Pu-239/Pu-2400,04 Bq/1
Am-2410,06 Bq/l
Co-600,5 Bq/1
Cs-1340,5 Bq/l
C2-1370,5 Bq/l
1-1310,5 Bq/1

Nodyn 1: Rhaid cyfrifo’r terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Pennu terfynau nodweddion (trothwy penderfyniad, terfyn canfod a therfynau’r cyfwng hyder) ar gyfer mesur ymbelydredd ïoneiddio — Hanfodion a chymhwyso, gyda thebygolrwydd gwallau o’r math cyntaf a’r ail fath o 0,05 yr un.

Nodyn 2: Rhaid cyfrifo ansicrwydd mesuriadau, a chyflwyno adroddiadau arnynt, fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd estynedig gyda ffactor ehangu o 1,96 yn unol â Chanllaw yr ISO sef ‘Guide for the Expression of Uncertainty in Measurement’.

Nodyn 3: Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/1.

Nodyn 4: Y terfyn canfod ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0,1 a 1,0 Bq/1 yn y drefn honno.

Nodyn 5: Nid yw’r terfyn canfod ond yn gymwys i’r sgrinio cychwynnol ar gyfer dos dangosol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd; os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod lefel yr Ra-228 yn uwch nag 20% o’r crynodiad deilliedig, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0,08 Bq/1 ar gyfer mesuriadau penodol arferol ar gyfer niwclidau Ra-228, nes y bydd yn ofynnol cynnal ail-wiriad dilynol.

Rheoliad 16

ATODLEN 5Cofnodion

Cofnodion cychwynnol

1.—(1Rhaid i awdurdod lleol gofnodi nifer y cyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal, ac ar gyfer pob cyflenwad rhaid iddo gofnodi—

(a)enw’r cyflenwad, ynghyd â nod adnabod unigryw;

(b)y math o ffynhonnell;

(c)y lleoliad daearyddol gan ddefnyddio cyfeirnod grid;

(d)amcangyfrif o nifer y bobl a gyflenwir;

(e)amcangyfrif o’r cyfaint cyfartalog dyddiol o ddŵr a gyflenwir mewn metrau ciwbig;

(f)y math o fangreoedd a gyflenwir;

(g)manylion unrhyw broses drin, ynghyd â’r lleoliad.

(2Rhaid iddo adolygu a diweddaru’r cofnodion o leiaf unwaith y flwyddyn.

(3Rhaid iddo gadw’r cofnod am o leiaf 30 mlynedd.

Cofnodion ychwanegol

2.—(1Ar gyfer pob cyflenwad y cyfeirir ato ym mharagraff 1(1), rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi pob un o’r canlynol o fewn 28 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd—

(a)plan a disgrifiad o’r cyflenwad;

(b)rhaglen fonitro’r cyflenwad;

(c)yr asesiad risg;

(d)crynodeb o ganlyniadau’r asesiad risg;

(e)crynodeb o’r rhesymau dros wneud penderfyniad i leihau monitro paramedr penodol o dan Ran 4 o Atodlen 2, neu ei eithrio yn llwyr;

(f)dyddiad, canlyniadau a lleoliad unrhyw samplu a dadansoddi mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw, a’r rheswm dros gymryd y sampl;

(g)canlyniadau unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

(h)unrhyw awdurdodiad;

(i)unrhyw hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 80 o’r Ddeddf, neu reoliad 20;

(j)unrhyw gamau gweithredu y cytunir sydd i’w cymryd gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn;

(k)unrhyw gais a wneir i’r awdurdod lleol i gyflawni gwaith samplu a dadansoddi, cynnal asesiad risg neu roi cyngor;

(l)crynodeb o unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r cyflenwad.

(2Rhaid iddo gadw’r asesiad risg a’r cofnodion samplu a dadansoddi am o leiaf 30 mlynedd, a chadw pob cofnod arall o dan y paragraff hwn am o leiaf 5 mlynedd.

Rheoliad 23

ATODLEN 6Ffioedd

Ffi

1.  Caiff yr awdurdod lleol godi ffi, sy’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am y gweithgarwch a nodir yn y tabl a ganlyn, a swm y ffi fydd cost resymol darparu’r gwasanaeth, yn ddarostyngedig i’r uchafsymiau a ganlyn.

Gwasanaeth

Uchafswm y ffi (£)

(1)

Nid oes ffi’n daladwy pan gymerir ac y dadansoddir sampl dim ond er mwyn cadarnhau canlyniadau dadansoddi sampl flaenorol neu eu hegluro.

Asesiad risg (pob asesiad):
cyflenwad rheoliad 9700
cyflenwadau rheoliadau 10 ac 11300
Samplu (am bob ymweliad) (1):100
Ymchwiliad (am bob ymchwiliad):250
Rhoi awdurdodiad (am bob awdurdodiad):100
Dadansoddi sampl—
a gymerir o dan reoliad 10 neu 11:25
a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A:110
a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B:600

Y personau sy’n atebol i dalu

2.—(1Mae unrhyw berson sy’n gofyn am unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn atebol am y gost.

(2Ac eithrio pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae ffioedd yn daladwy, fel a bennir yn yr anfoneb, gan y person perthnasol.

(3Pan fo mwy nag un person yn atebol, wrth benderfynu pwy ddylai wneud taliad i’r awdurdod lleol—

(a)caiff yr awdurdod lleol rannu’r tâl rhyngddynt; a

(b)rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw gytundeb neu ddogfen arall a ddangosir iddo ynglŷn â’r telerau y cyflenwir y dŵr oddi tanynt.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, (OJ Rhif L 330, 5.12.1998, t. 32) mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a Chyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/Euratom sy’n nodi’r gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl (OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t. 12). Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 (O.S. 2010/66 (Cy. 16)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyflenwadau dŵr preifat (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2) a fwriedir i’w yfed gan bobl. Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau amrywiol mewn perthynas â safonau dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat. Mae’n diffinio o dan ba amgylchiadau y mae dŵr i’w ystyried yn “iachus” (rheoliad 4 a Rhan 1 o Atodlen 1). Mae hefyd yn nodi’r gofynion sy’n gymwys pan ddiheintir dŵr (rheoliad 5) ac yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (rheoliad 6).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro cyflenwadau dŵr preifat (rheoliadau 7 i 13 ac Atodlen 2) ac i sicrhau bod pob sampl a gymerir yn cael ei dadansoddi yn y ffyrdd a nodir yn Atodlen 4 (rheoliad 14). Mae’n nodi’r gofynion monitro penodol ar gyfer sylweddau ymbelydrol (dos dynodol, radon a thritiwm) (rheoliadau 12 a 13 ac Atodlen 3). Nodir y paramedrau dangosyddion ar gyfer sylweddau ymbelydrol yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (rheoliad 16 ac Atodlen 5) ac i anfon copi o’r cofnodion i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed ac, ar gais, at Weinidogion Cymru (rheoliad 16).

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn os nad yw’r dŵr yn iachus neu os yw’n peri perygl posibl i iechyd dynol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i’r bobl hynny sy’n debygol o yfed y dŵr (rheoliad 17) ac i gynnal ymchwiliad (rheoliad 18). Os yw’r dŵr yn afiachus oherwydd y pibwaith o fewn mangre ddomestig, rhaid i awdurdodau lleol gynnig cyngor ar y mesurau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd dynol. Caiff awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau diffiniedig, awdurdodi safonau gwahanol am gyfnod cyfyngedig (rheoliad 19).

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno hysbysiad i’r “person perthnasol” (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2) os yw unrhyw gyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol (rheoliad 20) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau a chosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau o’r fath (rheoliadau 21 a 22).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd (rheoliad 23 ac Atodlen 6), dirymiadau (rheoliad 24) a diwygiadau canlyniadol (rheoliad 25). Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliad 26).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

O.S. 2004/3328, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/850, O.S. 2007/1349, O.S. 2008/301, O.S. 2012/1759 ac O.S. 2014/1362. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r Gorchymyn hwnnw bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 (OJ Rhif L 189, 27.6.14, t. 1).

(4)

1991 p. 56. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 67 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) (a) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, mewn perthynas â system gyflenwi unrhyw ymgymerwr dŵr sydd â’i ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru a (b) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir ac eithrio drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, o ran Cymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn 1999”); trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 77 o’r Ddeddf honno i’r Cynulliad o ran Cymru gan yr un darpariaethau yng Ngorchymyn 1999; yr oedd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 213 (fel y’i diwygiwyd gan baragraff 28 o Atodlen 1 i Ddeddf Cystadleuaeth a Gwasanaeth (Cyfleustodau) 1992 (p. 43), gan adran 36(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) a pharagraff 49(3) o Atodlen 8 iddi a chan adran 56 o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) a pharagraff 119(4) o Atodlen 7 iddi) o’r Ddeddf honno yn arferadwy gan y Cynulliad i’r un graddau ag y gwnaed y pwerau y mae’r adran honno’n gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad, yn rhinwedd yr un ddarpariaeth yng Ngorchymyn 1999: gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Orchymyn 1999 ar gyfer y Ddeddf fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff (e) o Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac fel y’i diwygiwyd gan adran 100(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Mae adran 100(6) o Ddeddf Dŵr 2003 yn trin y cyfeiriadau yn Atodlen 1 i Orchymyn 1999 at adrannau penodol o’r Ddeddf fel pe baent yn gyfeiriadau at yr adrannau hynny fel y’u diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003. Gweler adran 219(4A) o’r Ddeddf, fel y’i mewnosodwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003, a pharagraffau 2 a 50 o Atodlen 8 iddi, am ddiffiniad o “supply system”. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(5)

Gweler adran 6 o’r Ddeddf am ystyr “water undertaker”.

(6)

Gweler adran 17A o’r Ddeddf am ystyr “water supply licensee”. Amnewidiwyd adran 17A gan adran 1(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21).

(7)

Mewnosodwyd adran 86(1B) gan adran 57(3) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(10)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L 87, 31.3.2009, t. 109).

(11)

Yr awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad hwn yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd; gweler O.S. 2006/31 (Cy. 5).

(14)

Gweler adran 219 o’r Ddeddf (fel y’i diwygiwyd gan baragraff 2(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)) am ystyr “local authority”.

(15)

EN 15975-2.

(16)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32).

(23)

Gweler O.S. 2009/3155 ynglŷn â phenodi Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig yn gorff achredu cenedlaethol.

(24)

OJ Rhif. L 159, 29.6.1996, t. 1, caiff hwn ei ddirymu a’i ddisodli’n rhagolygol gan Gyfarwyddeb 2013/59 Euratom (OJ L 13, 17.1.2014, t. 1) gydag effaith o 6 Chwefror 2018.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources