Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw i rym ar 16 Mawrth 2016.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r holl dir yng Nghymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2.  Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(1) wedi ei ddiwygio yn unol â’r darpariaethau canlynol.

Diwygiadau mewn perthynas â dehongli

3.  Yn erthygl 2(1) yn y mannau priodol mewnosoder—

“ystyr “cais adran 73” (“section 73 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio o dan adran 73 o Ddeddf 1990 ar gyfer datblygu tir heb gydymffurfio ag amodau y rhoddwyd caniatâd blaenorol yn ddarostyngedig iddynt;

“ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015(2);

“ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i awdurdod lleol;

“ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), pan fo’r datblygiad y mae’r cais arfaethedig am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw;;

ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—

(a)

pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)

pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;.

Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio

4.—(1Ar ôl Rhan 1 mewnosoder—

RHAN 1AYmgynghoriad cyn-ymgeisio

Gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio

2B.(1) Mae datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 61Z(1) o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio).

(2) Mae ceisiadau adran 73 arfaethedig a cheisiadau sydd i’w gwneud o gan adran 73A o Ddeddf 1990 (Caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes)(3) wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(7)(b) o Ddeddf 1990.

Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

2C.(1) Rhaid i’r ceisydd(4) hysbysebu’r cais arfaethedig drwy—

(a)rhoi hysbysiad gofynnol—

(i)drwy ei arddangos ar y safle mewn o leiaf un man, ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am o leiaf 28 diwrnod; a

(ii)mewn ysgrifen i unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig, am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda phob diwrnod y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 2D(2)—

(i)unrhyw ddogfennau a manylion neu dystiolaeth a fyddai’n ofynnol er mwyn i gais dilynol, yn yr un ffurf neu’r un ffurf o ran sylwedd, fod yn gais dilys, ac eithrio’r tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n ofynnol gan erthygl 11;

(ii)plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;

(iii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

(iv)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad; a

(v)yn ddarostyngedig i erthygl 8(2), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990(5).

(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(3) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.

(4) Os yw’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 28 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

2D.(1) Mae’r personau neu ddisgrifiadau o bersonau canlynol wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(4) o Ddeddf 1990—

(a)unrhyw ymgynghorai cymunedol;

(b)unrhyw ymgynghorai arbenigol.

(2) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai cymunedol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai cymunedol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig.

(3) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai arbenigol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai arbenigol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig ac amgáu pob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn erthygl 2C(1)(b) neu ddarparu dolen i wefan lle y gellir gweld y dogfennau hynny.

(4) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) ac wedi rhoi cyfle i’r ymgynghorai arbenigol ymateb yn unol ag erthygl 2E(1) cyn cyflwyno cais.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw—

(a)mewn perthynas ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1B; a

(b)mewn perthynas ag ymgynghorai arbenigol, hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 1C,

neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio: ymgyngoreion arbenigol

2E.(1) Rhaid i ymgynghorai arbenigol, yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â darpariaethau adran 61Z(4) o Ddeddf 1990, ddarparu ymateb o sylwedd o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2D(3) neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgynghorai arbenigol a’r ceisydd.

(2) At ddibenion yr erthygl hon, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd yn—

(a)datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol unrhyw sylw i’w wneud;

(b)datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai arbenigol ar destun yr ymgynghoriad;

(c)rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(ch)rhoi gwybod i’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai arbenigol bryderon ac y byddai’n gwrthwynebu cais am ganiatâd cynllunio a wneid ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.

Adroddiadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio

2F.(1) Pan fu’n ofynnol bod ceisydd yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn unol â darpariaethau adran 61Z o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D, ac yntau wedyn yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio, rhaid cyflwyno’r cais ynghyd ag adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, sy’n rhoi manylion o’r canlynol—

(a)sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 61Z o Ddeddf 1990;

(b)unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad a gafwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan adran 61Z(3) neu (4) o Ddeddf 1990; ac

(c)yr ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion hynny.

(2) Rhaid i’r adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys —

(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i);

(b)datganiad i’r perwyl bod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i) wedi ei arddangos yn unol â gofynion yr erthygl honno;

(c)rhestr o gyfeiriadau’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r cais arfaethedig iddynt yn unol ag erthygl 2C(1)(a)(ii) a chopi o’r hysbysiad a roddwyd i bersonau o’r fath;

(ch)copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol ac arbenigol yn unol ag erthyglau 2D(2) a 2D(3);

(d)crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw berson a hysbyswyd ynghylch y cais arfaethedig yn unol ag adran 61Z(3) o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D(2), gan gynnwys cadarnhad a aethpwyd i’r afael â’r materion a godwyd ai peidio, ac os felly, sut; ac

(dd)copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol, ynghyd ag eglurhad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.

(2Yn erthygl 8 ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—

(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;

(3Yn erthygl 22 ar ôl paragraff (3)(b) mewnosoder—

(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;

(4Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder yr Atodlenni 1B a 1C sy’n gynwysedig yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau mewn perthynas ag ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd

5.—(1Yn erthygl 14(2) yn lle “(s)” rhodder “(rh)”.

(2Yn erthygl 15(3) yn lle “(s)” rhodder “(rh)”.

(3Yn lle Atodlen 4 rhodder yr Atodlen 4 fel y’i nodir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau mewn perthynas â dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

6.  Yn erthygl 15A(6)

(a)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion yr erthygl hon ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd—

(a)pan na chynhaliwyd ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio), neu pan fo’r ymgynghorai wedi methu â rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—

(i)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;

(ii)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

(iii)yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(iv)yn rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad; a

(b)pan fo ymgynghoriad wedi ei gynnal at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990, a’r ymgynghorai wedi rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—

(i)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai sylw pellach i’w wneud mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig ac yn cadarnhau bod unrhyw sylwadau a wnaed o dan erthygl 2E yn parhau’n berthnasol;

(ii)yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon newydd a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig, pam nad oedd y pryderon hynny wedi eu nodi yn yr ymateb yn unol ag erthygl 2E ac—

(aa)sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon; neu

(bb)bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn yr erthygl hon ac erthygl 15B, mae cyfeiriadau at ymgynghorai yn cynnwys cyfeiriad at ymgynghorai arbenigol pan fo ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 wedi ei gynnal.

Diwygiadau mewn perthynas â dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol

7.  Yn erthygl 15B(7)

(a)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Rhaid i bob ymgynghorai sydd o dan ddyletswydd yn rhinwedd erthygl 2E i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio, gynnwys yn yr adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1), adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai â’r erthygl honno.;

(b)ym mharagraff (3)(ch) ar ôl “at ddibenion adran 54(4) o Ddeddf 2004” mewnosoder “neu, yn ôl fel y digwydd, y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn erthygl 2E(1)”;

(c)ar ôl paragraff 3(ch) mewnosoder—

(4) Yn yr erthygl hon ystyr “ymateb o sylwedd” yw naill ai ymateb o sylwedd i’r ceisydd neu i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthyglau 2E neu 15A.

Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau penodol

8.  Ar ôl erthygl 15B, mewnosoder—

Ymgynghori mewn cysylltiad â cheisiadau penodol yn ymwneud â chaniatâd cynllunio: cyfnodau amser

15C.  Y cyfnod a bennir at ddibenion adran 100A(3)(a) o Ddeddf 1990 yw’r cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ymgynghorai yn cael—

(a)y ddogfen y gofynnir am farn yr ymgyngoreion arni; neu

(b)pan fo mwy nag un o ddogfennau, a anfonir ar wahanol ddiwrnodau, yr olaf o’r dogfennau hynny.

Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod cynllunio lleol

15D.  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ddarparu’r wybodaeth ganlynol i ymgynghorai statudol at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad—

(a)copi o’r ffurflen gais sy’n ymwneud â chais perthnasol(8);

(b)y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol i’r cais gwreiddiol(9);

(c)unrhyw luniadau sy’n gysylltiedig â’r cais perthnasol; ac

(ch)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â’r cais perthnasol a ddyroddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol.

Ymateb o sylwedd i ymgynghoriad

15E.  Ymateb o sylwedd at ddibenion adran 100A(2) o Ddeddf 1990 yw ymateb sydd yn—

(a)datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;

(b)datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad, ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

(c)rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig materion sy’n destun yr ymgynghoriad a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(ch)rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.

Adroddiadau blynyddol – cydymffurfiaeth â gofynion ymgynghori

15F.(1) Rhaid i bob ymgynghorai statudol yr ymgynghorir ag ef ynghylch cais dilys roi i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn galendr, gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2017, adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai hwnnw ag adrannau 100A(2) a (3) o Ddeddf 1990 ac erthygl 15C.

(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn galendr flaenorol (“y flwyddyn adroddiad”).

(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys, mewn cysylltiad â’r flwyddyn adroddiad o dan sylw, datganiad o’r canlynol—

(a)nifer yr achlysuron pan ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;

(b)nifer yr achlysuron pan ddarparwyd ymateb o sylwedd;

(c)nifer yr achlysuron pan roddwyd ymateb o sylwedd gan yr ymgynghorai y tu allan i’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion 100A(3) o Ddeddf 1990 a chrynodeb o’r rhesymau am hynny.

Diwygiadau mewn perthynas â datganiadau dylunio a mynediad

9.—(1Yn lle erthygl 7 rhodder—

7.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)ar gyfer datblygiad mawr;

(b)pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—

(i)darparu un neu ragor o dai annedd; neu

(ii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.

(2) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—

(a)cais adran 73;

(b)cais am ganiatâd cynllunio—

(i)ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;

(ii)ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu

(iii)ar gyfer datblygiad gwastraff.

(3) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).

(4) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;

(b)dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;

(c)esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac

(ch)esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.

(5) Ym mharagraff (1) ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw—

(a)ardal gadwraeth(10); neu

(b)eiddo sy’n ymddangos yn Rhestr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972 (Safle Treftadaeth y Byd)(11).

(2Yn erthygl 8(1)(c) hepgorer “neu’r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.

(3Yn erthygl 22(3)(c) hepgorer “neu’r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.

Diwygiadau mewn perthynas â cheisiadau adran 73

10.—(1Yn erthygl 5(1)(c) yn lle “pan wneir y cais yn unol ag adran 73 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a atodwyd yn gynharach), neu” rhodder “yn achos cais adran 73 neu pan wneir y cais yn unol ag”.

(2Yn erthygl 12—

(a)ym mharagraff (4), ar ôl y geiriau “nad yw’n gais paragraff (2)” mewnosoder “nac yn gais sy’n dod o fewn paragraff (4A)”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn achos cais adran 73 nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2)(a) neu (c), rhaid hysbysebu’r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am o leiaf 21 diwrnod; a

(b)ym mha bynnag fodd arall a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cynllunio lleol.

(c)ym mharagraff (5) yn lle “na pharagraff (4)” rhodder “, paragraff (4) na pharagraff (4A)”.

(d)ym mharagraff (6) ar ôl “(4)(a)(i)” mewnosoder “, (4A)”.

(3Yn erthygl 14(1) ar ôl paragraff (b) a chyn yr atalnod llawn mewnosoder—

, neu

(c)mae erthygl 15ZA yn gymwys.

(4Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—

Ymgyngoriadau cyn caniatáu ceisiadau adran 73

15ZA.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chais adran 73 ac eithrio cais adran 73 sydd yn gais AEA.

(2) Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag awdurdodau neu bersonau sy’n dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4.

(3) Pan fo awdurdod cynllunio lleol, yn rhinwedd neu o dan yr erthygl hon, yn ymgynghori ag unrhyw awdurdod neu berson (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—

(a)rhaid iddo, oni fydd ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i’r ymgynghorai, roi hysbysiad o’r cais i’r ymgynghorai; a

(b)rhaid iddo beidio â phenderfynu’r cais tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw’n gynharach, 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd copi o’r cais i’r ymgynghorai gan y ceisydd.

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu’r cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gaiff gan ymgynghorai.

(5Yn erthygl 15A—

(a)ym mharagraff (1) ar ôl “erthygl 14” mewnosoder “ac erthygl 15ZA”;

(b)ym mharagraff (2)(a) yn lle “14(4)(a)” rhodder “erthygl 14(4)(a) neu 15ZA(3)(a)”.

(6Yn lle erthygl 21(1)(b), rhodder—

(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw, ar yr amod y gwneir y sylwadau gan unrhyw berson y maent yn fodlon ei fod yn berchennog, yn denant neu’n feddiannydd o’r fath; neu

(7Yn lle erthygl 22(6)(b) rhodder—

(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw; neu

(8Yn Atodlen 3 ar ôl “12(4)” mewnosoder “, 12(4A)”.

Diwygiadau mewn perthynas ag erthygl 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau): diwygiadau ar ôl cyflwyno

11.  Yn erthygl 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau)—

(a)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at gais dilys yn cynnwys cyfeiriadau at y cais hwnnw fel y’i diwygiwyd cyn i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu’r cais.

(b)ar ôl is-baragraff (2)(a), mewnosoder—

(aa)mewn achos y mae paragraff (1A) yn gymwys iddo, y cyfnod o—

(i)4 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y diwygiad i’r cais; neu

(ii)12 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais y mae’r diwygiad yn ymwneud ag ef

pa un bynnag yw’r diweddaraf;

(c)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “(a) neu (b)”, rhodder “ (a), (aa) neu (b).”

(d)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Rhaid cymryd bod diwygiad i gais dilys wedi ei gael pan fo’r diwygiad a’r cyfryw ddogfennau a gynhwysir yn y cais neu sy’n dod gyda’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

Diwygiadau mewn perthynas â hysbysiadau penderfynu, hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

12.—(1Ar ôl erthygl 24, mewnosoder—

Hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio

24A.(1) Mae ceiswyr wedi eu pennu at ddibenion adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990.

(2) At ddibenion adran 71ZA(6), y manylion sydd i’w cynnwys yn y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio yw—

(a)y rhif cyfeirnod;

(b)dyddiad ac effaith y penderfyniad;

(c)enw’r corff a wnaeth y penderfyniad; ac

(ch)rhif y diwygiad.

Hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

24B.(1) Mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 71ZB(6) o Ddeddf 1990.

(2) Rhaid i’r hysbysiad sydd i’w roi i awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(1) o Ddeddf 1990, fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5A neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

(3) Rhaid i’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir datblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(2) o Ddeddf 1990 Act fod—

(a)yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith;

(b)wedi ei osod yn gadarn yn ei le a’i arddangos mewn man amlwg yn neu gerllaw’r lle y cyflawnir y datblygiad;

(c)yn ddarllenadwy ac yn weladwy yn rhwydd i aelodau’r cyhoedd, heb iddynt orfod mynd i mewn i’r safle; a

(ch)wedi ei argraffu ar ddeunydd gwydn.

(4) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad na bai ar y person sy’n cyflawni’r datblygiad, wedi cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno, trinnir y person fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (3) os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, ei amnewid.

(2Yn erthygl 26(12) ar ôl paragraff (3)(b) mewnosoder—

(c)pan fo’r paragraff hwn yn pennu’r caniatâd cynllunio a roddwyd, a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio wedi ei dyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid ei ddarllen fel pe bai’n pennu’r fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.

(3Yn erthygl 29(13) ar ôl paragraff 3(c) mewnosoder—

(ca)fersiwn ddiwygiedig y penderfyniad, os oes un, a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A;

(4Ar ôl Atodlen 5 mewnosoder Atodlenni 5A a 5B fel y’u nodir yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau mewn perthynas â dilysu

13.—(1Yn erthygl 8—

(a)ym mharagraff (1) yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.

(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.

(2Yn erthygl 22 ym mharagraff (3) yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;

(3Yn erthygl 23—

(a)yn lle “Pan fo cais” rhodder “Pan fo cais dilys”;

(b)hepgorer “am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl neu gais”;

(c)mae’r ddarpariaeth yn erthygl 23 fel y’i diwygiwyd gan is-baragraffau (a) a (b) yn dod yn baragraff (1) o’r erthygl; a

(d)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(2) At y diben o gyfrifo’r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais wedi ei thalu â siec a’r siec wedi ei dychwelyd yn ddiweddarach, rhaid diystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd a’r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais a gyfansoddir o’r canlynol—

(a)cais sy’n cynnwys yr wybodaeth, ac a gyflwynir ynghyd â’r dogfennau a’r deunyddiau eraill sy’n ofynnol, ar gyfer cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio o dan sylw;

(b)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 pan fo’n gymwys; ac

(c)unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â’r cais, ac at y diben hwn ystyrir bod cyflwyno siec am swm y ffi yn daliad,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo’r cais a’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu ynghyd â’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

(4) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2) a (3)(c) yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.

(5) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.

(4Yn Rhan 5, o flaen erthygl 25, mewnosoder—

Apelau yn erbyn hysbysiad o farnu’n annilys

24C.(1) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—

(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a

(b)cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gopi o’r ffurflen a’r dogfennau a gyflwynir i Weinidogion Cymru.

(2) Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw dwy wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad yn unol ag erthygl 8(3A) neu 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(3) At ddibenion paragraff (1)(a) y dogfennau yw—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio—

(i)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

(ii)copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl; a

(iii)copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth a grybwyllir yn erthyglau 5 ac 8(1) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.

(b)yn achos cais a wnaed o dan erthygl 23—

(i)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

(ii)copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl;

(iii)copi o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio, os oes un, y gwneir y cais yn unol ag ef; a

(iv)copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth (gan gynnwys y cyfryw rai a grybwyllir yn erthygl 4(1) pan fo’n gymwys) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.

(c)Pan fo is-baragraff (b)(iii) yn gymwys a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad wedi ei ddyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid darllen is-baragraff (b)(iii) fel pe bai’n cyfeirio at y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl gan geisydd os na chyflwynir y ffurflen a’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).

(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan sydd i’w defnyddio at ddibenion o’r fath a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru, ac sydd—

(a)yn ymwneud ag apelau o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a

(b)yn ddibenion y gellir eu cyflawni yn electronig.

(6) Pan fo person yn defnyddio cyfathrebiadau electronig i roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

(5Yn y pennawd i erthygl 25, ar ôl “Hysbysiad o apêl” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.

(6Yn y pennawd i erthygl 26, ar ôl “Apelau” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.

(7Yn y pennawd i erthygl 26A(14), ar ôl “Apelau a wnaed” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.

Diwygiadau mewn perthynas â gorchmynion datblygu lleol

14.  Yn lle erthygl 27(13)(b), rhodder—

(b)“ar gyfer datblygiad sy’n ddatblygiad Atodlen 1 o fewn ystyr rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016.

Darpariaethau trosiannol

15.—(1Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 4 yn gymwys mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr a wnaed cyn 1 Awst 2016.

(2Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 9 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(3Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 10 yn gymwys mewn perthynas â chais adran 73 a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(4Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 12(1) yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddwyd cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(5Nid yw’r darpariaethau yn erthygl 13(1) i (4) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources