- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn lle erthygl 7 rhodder—
“7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—
(a)ar gyfer datblygiad mawr;
(b)pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—
(i)darparu un neu ragor o dai annedd; neu
(ii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.
(2) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—
(a)cais adran 73;
(b)cais am ganiatâd cynllunio—
(i)ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;
(ii)ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu
(iii)ar gyfer datblygiad gwastraff.
(3) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).
(4) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—
(a)esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;
(b)dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;
(c)esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac
(ch)esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.
(5) Ym mharagraff (1) ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw—
(a)ardal gadwraeth(1); neu
(b)eiddo sy’n ymddangos yn Rhestr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972 (Safle Treftadaeth y Byd)(2).”
(2) Yn erthygl 8(1)(c) hepgorer “neu’r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.
(3) Yn erthygl 22(3)(c) hepgorer “neu’r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.
Diffinnir “conservation area” (“ardal gadwraeth”) yn adran 91 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 p. 9) fel ardal ddynodedig o dan adran 69 o’r Ddeddf honno.
Gweler http:/whc.unesco.org/en/list
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: