- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Rhaid i’r ceisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig drwy—
(a)rhoi hysbysiad gofynnol—
(i)drwy ei arddangos ar y safle, mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 42 diwrnod;
(ii)drwy ysgrifennu at berchennog neu feddiannydd unrhyw dir sy’n cydffinio â’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef: a
(iii)drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a
(b)cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar wefan a gynhelir gan y ceisydd, am gyfnod o ddim llai na 42 diwrnod sy’n dechrau gyda phob un o’r diwrnodau y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 9(2)—
(i)y ffurflen gais ddrafft a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 12(1)(a) (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;
(ii)plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;
(iii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;
(iv)copi o’r hysbysiad sy’n ofynnol gan erthygl 6 ac nad yw wedi darfod o dan baragraff (3) o’r erthygl honno;
(v)y datganiad dylunio a mynediad sy’n ofynnol gan erthygl 14;
(vi)yn ddarostyngedig i erthygl 12(3), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(1);
(vii)pan fo’n gymwys, datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig; ac
(viii)datganiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw gydsyniad(2) sy’n gysylltiedig â’r cais arfaethedig (3) ac y tybia’r ceisydd fod penderfyniad ar y cydsyniad hwnnw i gael ei wneud, neu y dylid ei wneud, gan Weinidogion Cymru, ynghyd â’r ffurflen gais ddrafft a’r dogfennau sy’n gysylltiedig â phob cydsyniad o’r fath.
(2) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.
(3) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.
(4) Pan fo’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 42 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.
(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.
Cymhwyswyd adran 62(3) gydag addasiadau gan erthygl 3(1) of o’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau.
Ar gyfer y diffiniad o “secondary consent” (“cydsyniad eilaidd”) gweler adran 62H o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd adran 62H gan adran 20 o Ddeddf 2015. Rhagnodir cydsyniadau eilaidd at ddibenion adran 62H(1) gan y Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig.
Gweler adran 62F(6) o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd adran 62F gan adran 20 o Ddeddf 2015.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: