RHAN 2Cyn gwneud cais
Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio8.
(1)
Rhaid i’r ceisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig drwy—
(a)
rhoi hysbysiad gofynnol—
(i)
drwy ei arddangos ar y safle, mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 42 diwrnod;
(ii)
drwy ysgrifennu at berchennog neu feddiannydd unrhyw dir sy’n cydffinio â’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef: a
(iii)
drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a
(b)
cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar wefan a gynhelir gan y ceisydd, am gyfnod o ddim llai na 42 diwrnod sy’n dechrau gyda phob un o’r diwrnodau y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 9(2)—
(i)
y ffurflen gais ddrafft a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 12(1)(a) (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;
(ii)
plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;
(iii)
unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;
(iv)
copi o’r hysbysiad sy’n ofynnol gan erthygl 6 ac nad yw wedi darfod o dan baragraff (3) o’r erthygl honno;
(v)
y datganiad dylunio a mynediad sy’n ofynnol gan erthygl 14;
(vi)
(vii)
pan fo’n gymwys, datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig; ac
(viii)
(2)
Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.
(3)
Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.
(4)
Pan fo’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 42 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.
(5)
Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.