- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Deddf 1948” (“the 1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948(1);
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(2);
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw, mewn perthynas â pherson, y dyddiad y mae’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw yn rhinwedd paragraff 2.
2.—(1) Er gwaethaf cychwyn darpariaethau’r Ddeddf gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn, nid yw’r Ddeddf yn gymwys yn achos person y mae, yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym—
(a)cymorth neu wasanaethau yn cael eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef,
(b)taliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau yn cael eu gwneud iddo neu mewn perthynas ag ef.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae darparu cymorth neu wasanaethau yn cynnwys darparu cynhorthwy o dan adran 17(6) o Ddeddf Plant 1989.
(3) Ond bydd y Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad ag achos y person hwnnw o’r adeg pan fo’r awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad o achos y person hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) neu (4).
(4) Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i oedolyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos yr oedolyn cyn 1 Ebrill 2017.
(5) Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i blentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos y plentyn cyn 1 Hydref 2016.
(6) Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (3), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos yr oedolyn hwnnw o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
(7) Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (4), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos y plentyn hwnnw o 1 Hydref 2016 ymlaen.
(8) Mewn cysylltiad â pherson y mae is-baragraff (5) neu (6) yn gymwys iddo, mae’r person i gael ei drin fel—
(a)un y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu gymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra o dan adran 32(4) o’r Ddeddf neu y mae’r awdurdod lleol fel arall o dan ddyletswydd i’w diwallu yn dilyn penderfyniad o dan adran 32(1)(b);
(b)un sydd â’r hawl i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu o dan y Ddeddf; ac
(c)un sydd wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion yn y Ddeddf neu odani i alluogi’r person i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu,
hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos y person hwnnw.
(9) Mae awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos person—
(a)pan ddaw i’r casgliad nad oes ar y person anghenion am ofal a chymorth neu am gymorth (yn ôl y digwydd) yn unol â’r Ddeddf;
(b)ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath a’i fod yn mynd i ddiwallu rhai neu bob un o’r anghenion hynny, pan yw’n dechrau gwneud hynny; neu
(c)pan ddaw i’r casgliad, ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath, nad yw’n mynd i ddiwallu unrhyw un o’r anghenion hynny (pa un ai oherwydd nad yw’r anghenion hynny yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu am ryw reswm arall).
3. Mae oedolyn sydd wedi ei gofrestru fel un sy’n ddall neu sy’n rhannol ddall mewn cofrestr a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ar ei ran o dan adran 29 o Ddeddf 1948 (gwasanaethau lles) yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym i gael ei drin ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny fel, yn eu trefn, berson sydd â nam difrifol ar ei olwg neu berson sydd â nam ar ei olwg yn y gofrestr a gynhelir gan yr awdurdod lleol hwnnw neu ar ei ran o dan adran 18 o’r Ddeddf (cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill).
4. Pan fo cytundeb ar daliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf 2001 (pŵer i awdurdodau lleol i gymryd pridiannau ar dir yn lle cyfraniadau) mewn grym mewn cysylltiad â pherson nad yw’r Ddeddf yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2, mae’r cytundeb ar daliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf 2001 i barhau i fod yn gymwys ar y telerau a’r amodau a oedd yn ymwneud ag ef yn union cyn i’r Ddeddf ddod i rym, ac eithrio o’r dyddiad perthnasol mewn perthynas â’r person o dan sylw, rhaid darllen cyfeiriadau yn y cytundeb hwnnw at—
(a)llety a ddarperir o dan Ran 3 o Ddeddf 1948 fel rhai sy’n cynnwys llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 35 neu 36 (dyletswydd neu bŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn) o’r Ddeddf (gan gynnwys unrhyw beth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw), a
(b)cyfraniadau perthnasol fel rhai sy’n cynnwys y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol gan y person o dan adran 59 o’r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, yn unol â rheoliadau o dan adran 57(2) o’r Ddeddf.
5.—(1) Mae cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi cael ei benodi gan awdurdod lleol o dan adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 ac sydd yn y swydd yn union cyn i’r Ddeddf ddod i rym i gael ei drin fel pe bai wedi ei benodi o dan adran 144(1) o’r Ddeddf.
(2) Nid yw adran 144(2) o’r Ddeddf yn gymwys i benodiad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo.
6. Mae unrhyw oedolyn sydd, yn union cyn y dyddiad perthnasol mewn perthynas â’r oedolyn hwnnw, yn cael ei ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yn rhinwedd adran 24(5) neu (6) o Ddeddf 1948 (awdurdod sy’n atebol am ddarparu llety) i gael ei drin, ar y dyddiad hwnnw, fel pe bai’n preswylio fel arfer yn yr ardal honno at ddibenion y Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: