Search Legislation

Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 412 (Cy. 130) (C. 21)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2016

Gwnaed

19 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 199(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2016.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2016

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau o’r Ddeddf ddod i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yw 6 Ebrill 2016.

Arbedion a darpariaethau trosiannol

3.  Mae’r Atodlenni (sy’n cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol) yn cael effaith.

4.  Oni nodir fel arall, nid oes dim byd a wneir yn yr Atodlenni yn effeithio ar weithredu adrannau 16, 17 a 23 o Ddeddf Dehongli 1978(2).

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Mawrth 2016

Erthygl 3

ATODLEN 1Arbedion a darpariaeth drosiannol ac eithrio mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Deddf 1948” (“the 1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948(3);

ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(4);

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw, mewn perthynas â pherson, y dyddiad y mae’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw yn rhinwedd paragraff 2.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phersonau sy’n cael gwasanaethau

2.—(1Er gwaethaf cychwyn darpariaethau’r Ddeddf gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn, nid yw’r Ddeddf yn gymwys yn achos person y mae, yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym—

(a)cymorth neu wasanaethau yn cael eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef,

(b)taliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau yn cael eu gwneud iddo neu mewn perthynas ag ef.

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae darparu cymorth neu wasanaethau yn cynnwys darparu cynhorthwy o dan adran 17(6) o Ddeddf Plant 1989.

(3Ond bydd y Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad ag achos y person hwnnw o’r adeg pan fo’r awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad o achos y person hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) neu (4).

(4Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i oedolyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos yr oedolyn cyn 1 Ebrill 2017.

(5Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i blentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos y plentyn cyn 1 Hydref 2016.

(6Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (3), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos yr oedolyn hwnnw o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

(7Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (4), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos y plentyn hwnnw o 1 Hydref 2016 ymlaen.

(8Mewn cysylltiad â pherson y mae is-baragraff (5) neu (6) yn gymwys iddo, mae’r person i gael ei drin fel—

(a)un y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu gymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra o dan adran 32(4) o’r Ddeddf neu y mae’r awdurdod lleol fel arall o dan ddyletswydd i’w diwallu yn dilyn penderfyniad o dan adran 32(1)(b);

(b)un sydd â’r hawl i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu o dan y Ddeddf; ac

(c)un sydd wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion yn y Ddeddf neu odani i alluogi’r person i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu,

hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos y person hwnnw.

(9Mae awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos person—

(a)pan ddaw i’r casgliad nad oes ar y person anghenion am ofal a chymorth neu am gymorth (yn ôl y digwydd) yn unol â’r Ddeddf;

(b)ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath a’i fod yn mynd i ddiwallu rhai neu bob un o’r anghenion hynny, pan yw’n dechrau gwneud hynny; neu

(c)pan ddaw i’r casgliad, ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath, nad yw’n mynd i ddiwallu unrhyw un o’r anghenion hynny (pa un ai oherwydd nad yw’r anghenion hynny yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu am ryw reswm arall).

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â chofrestrau o bobl â nam ar eu golwg

3.  Mae oedolyn sydd wedi ei gofrestru fel un sy’n ddall neu sy’n rhannol ddall mewn cofrestr a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ar ei ran o dan adran 29 o Ddeddf 1948 (gwasanaethau lles) yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym i gael ei drin ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny fel, yn eu trefn, berson sydd â nam difrifol ar ei olwg neu berson sydd â nam ar ei olwg yn y gofrestr a gynhelir gan yr awdurdod lleol hwnnw neu ar ei ran o dan adran 18 o’r Ddeddf (cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill).

Addasiadau trosiannol mewn cysylltiad â thaliadau gohiriedig

4.  Pan fo cytundeb ar daliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf 2001 (pŵer i awdurdodau lleol i gymryd pridiannau ar dir yn lle cyfraniadau) mewn grym mewn cysylltiad â pherson nad yw’r Ddeddf yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2, mae’r cytundeb ar daliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf 2001 i barhau i fod yn gymwys ar y telerau a’r amodau a oedd yn ymwneud ag ef yn union cyn i’r Ddeddf ddod i rym, ac eithrio o’r dyddiad perthnasol mewn perthynas â’r person o dan sylw, rhaid darllen cyfeiriadau yn y cytundeb hwnnw at—

(a)llety a ddarperir o dan Ran 3 o Ddeddf 1948 fel rhai sy’n cynnwys llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 35 neu 36 (dyletswydd neu bŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn) o’r Ddeddf (gan gynnwys unrhyw beth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw), a

(b)cyfraniadau perthnasol fel rhai sy’n cynnwys y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol gan y person o dan adran 59 o’r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, yn unol â rheoliadau o dan adran 57(2) o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phenodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol

5.—(1Mae cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi cael ei benodi gan awdurdod lleol o dan adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 ac sydd yn y swydd yn union cyn i’r Ddeddf ddod i rym i gael ei drin fel pe bai wedi ei benodi o dan adran 144(1) o’r Ddeddf.

(2Nid yw adran 144(2) o’r Ddeddf yn gymwys i benodiad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo.

Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â phreswylfa arferol person

6.  Mae unrhyw oedolyn sydd, yn union cyn y dyddiad perthnasol mewn perthynas â’r oedolyn hwnnw, yn cael ei ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yn rhinwedd adran 24(5) neu (6) o Ddeddf 1948 (awdurdod sy’n atebol am ddarparu llety) i gael ei drin, ar y dyddiad hwnnw, fel pe bai’n preswylio fel arfer yn yr ardal honno at ddibenion y Ddeddf.

Erthygl 3

ATODLEN 2Arbedion a darpariaethau trosiannol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(5);

ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw 6 Ebrill 2016;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015;

ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” yw rhiant maeth awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local authority foster parent” yn adran 105 o Ddeddf 1989.

(2Mae i gyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi yr un ystyr ag sydd iddynt yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf 1989.

(3Mae i gyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan Ran 6 o’r Ddeddf yr un ystyr ag sydd iddynt yn adran 74 o’r Ddeddf.

(4Mae i gyfeiriadau at blentyn sydd mewn gofal yr un ystyr ag sydd iddynt yn y diffiniad o “care order” yn adran 105 o Ddeddf 1989.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant sydd yng ngofal awdurdod lleol o dan adran 31 o Ddeddf 1989

2.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo plentyn yng ngofal awdurdod lleol yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 31 o Ddeddf 1989.

(2Pan oedd awdurdod lleol yn union cyn y diwrnod perthnasol wedi gwneud trefniadau, yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi, i’r plentyn fyw—

(a)gyda pherson sy’n rhiant i’r plentyn,

(b)gyda pherson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(c)gyda rhiant maeth awdurdod lleol,

(d)mewn cartref plant,

(e)mewn llety diogel o fewn ystyr “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf 1989, neu

(f)mewn unrhyw lety arall a drefnir gan yr awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraffau (a) i (e),

ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl hynny mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gymwys fel pe bai’r trefniadau wedi eu gwneud yn unol â’r Rhan honno.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant sy’n cael llety o dan adran 20 o Ddeddf 1989

3.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo plentyn yn union cyn y diwrnod perthnasol yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn cael llety gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 20 o Ddeddf 1989.

(2Bydd plentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn cael ei drin, ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny, at ddibenion y Ddeddf fel plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan Ran 6 o’r Ddeddf ac sy’n cael llety gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 76 o’r Ddeddf (ond bydd yn peidio â chael ei drin felly ar ôl iddo beidio â chael llety o dan adran 76).

(3Pan oedd awdurdod lleol yn union cyn y diwrnod perthnasol wedi gwneud trefniadau i blentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo fyw—

(a)gyda pherson sy’n rhiant i’r plentyn,

(b)gyda pherson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(c)gyda rhiant maeth awdurdod lleol,

(d)mewn cartref plant,

(e)mewn llety diogel o fewn ystyr “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf 1989, neu

(f)mewn unrhyw lety arall a drefnir gan yr awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraffau (a) i (e),

ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl hynny mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gymwys fel pe bai’r trefniadau hynny wedi eu gwneud yn unol â’r Rhan honno.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal

4.  Wrth gyfrifo, at ddibenion adran 104(2) o’r Ddeddf, y cyfnod y mae plentyn wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, mae unrhyw ran o’r cyfnod hwnnw sy’n bodloni’r amodau a bennir yn y diffiniad o “person ifanc categori 1” yn adran 104(2) o’r Ddeddf sy’n digwydd cyn y diwrnod perthnasol i gael ei chynnwys.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant y mae adran 24(1B) o Ddeddf 1989 yn gymwys iddynt

5.—(1Wrth gyfrifo, at ddibenion adran 104(2) o’r Ddeddf, y cyfnod y mae plentyn 16 oed neu drosodd wedi bod yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu, mae unrhyw gyfnod sy’n digwydd cyn y diwrnod perthnasol i gael ei gynnwys.

(2Yn y paragraff hwn mae i “yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu” yr ystyr a bennir yn adran 104(3) o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â seibiannau byr

6.—(1Ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny wrth gyfrifo’r cyfnod y mae plentyn wedi ei leoli gan awdurdod lleol mewn llety sy’n gyfystyr â seibiant byr, mae unrhyw gyfnod, yn y 12 mis yn union cyn y diwrnod perthnasol, y mae’r plentyn wedi ei dreulio mewn trefniant sy’n gyfystyr â lleoliad tymor byr i gael ei gyfrif.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “lleoliad tymor byr” (“short-term placement”) yw lleoliad tymor byr o fewn ystyr rheoliad 14 o Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(6) (cymhwyso’r rheoliadau i leoliadau tymor byr);

ystyr “seibiant byr” (“short break”) yw seibiant byr o fewn ystyr rheoliad 62 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(7) (cymhwyso’r rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i seibiannau byr).

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phenderfyniadau i wrthod cyswllt â phlentyn mewn gofal

7.  Bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 22(3)(a) o Ddeddf 1989 i wrthod cyswllt â phlentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol, y byddai fel arall yn ofynnol iddo ei ganiatáu yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf 1989, ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny yn cael ei drin fe pe bai’r penderfyniad wedi ei wneud yn unol ag adran 78(1)(a) o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag adolygu achosion

8.—(1Pan fo plentyn, yn union cyn y diwrnod perthnasol—

(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu

(b)wedi ei leoli gan awdurdod lleol mewn lleoliad tymor byr, ac

(c)yn y naill achos neu’r llall, ni fu adolygiad cyntaf o achos y plentyn, neu nid yw’r adolygiad cyntaf wedi ei gyflawni yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf 1989(8),

rhaid adolygu achos y plentyn hwnnw heb fod yn hwyrach nag 20 diwrnod gwaith o’r diwrnod perthnasol a rhaid i unrhyw adolygiadau dilynol ddigwydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 o’r Ddeddf(9).

(2Pan fo plentyn yn union cyn y diwrnod perthnasol yn derbyn gofal gan awdurdod lleol a bod adolygiad o’i achos wedi cael ei gynnal cyn y diwrnod hwnnw ac nad oes adolygiad pellach i fod i gael ei gyflawni yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf 1989 tan ar ôl y diwrnod perthnasol, rhaid cynnal yr adolygiad nesaf o’r achos—

(a)pan oedd yr adolygiad yn adolygiad cyntaf, o fewn 3 mis i ddyddiad yr adolygiad hwnnw; neu

(b)pan oedd yr adolygiad diwethaf yn ail adolygiad neu’n adolygiad dilynol, 6 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; ac

yn y naill achos neu’r llall rhaid cynnal adolygiadau dilynol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 o’r Ddeddf.

(3Pan fo plentyn yn union cyn y diwrnod perthnasol wedi ei leoli mewn lleoliad tymor byr a bod adolygiad o achos y plentyn wedi cael ei gynnal cyn y diwrnod hwnnw ac nad oes adolygiad pellach i fod i gael ei gyflawni yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf 1989 tan ar ôl y diwrnod perthnasol, rhaid cynnal yr adolygiad nesaf o achos y plentyn—

(a)pan oedd yr adolygiad yn adolygiad cyntaf, o fewn 6 mis i ddyddiad yr adolygiad hwnnw; neu

(b)pan oedd yr adolygiad diwethaf yn ail adolygiad neu’n adolygiad dilynol, 6 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; ac

yn y naill achos neu’r llall rhaid cynnal adolygiadau dilynol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â swyddogion adolygu annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

9.  Pan fo person ar y diwrnod perthnasol wedi cael ei benodi’n swyddog adolygu annibynnol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf 1989(10) ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn unol â Rhan 3 o’r Ddeddf honno, ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl hynny ystyrir bod y person wedi ei benodi’n swyddog adolygu annibynnol y plentyn hwnnw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 99 o’r Ddeddf(11).

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

10.  Pan fo person ar y diwrnod perthnasol wedi cael ei benodi’n ymwelydd annibynnol yn unol â rheoliadau a wneir o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989(12) ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn unol â Rhan 3 o’r Ddeddf honno, ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl hynny ystyrir bod y person wedi ei benodi’n ymwelydd annibynnol y plentyn hwnnw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 98 o’r Ddeddf(13).

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â hawlogaeth ar gyfer plant a fu gynt yn derbyn gofal

11.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson y mae ganddo hawlogaeth yn union cyn y diwrnod perthnasol i gael cyngor, cynhorthwy a chymorth oddi wrth awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi yn rhinwedd bod yn berson a fu, ond nid yw bellach, yn blentyn a fu’n derbyn gofal.

(2Ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny mae gan berson y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo hawlogaeth i gael cyngor a chymorth arall sy’n briodol i’w amgylchiadau yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn adrannau 103 i 118 o’r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â threfniadau byw pan fydda i’n barod

12.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo gan gyn-blentyn perthnasol yn union cyn y diwrnod perthnasol drefniant byw pan fydda i’n barod a wneir yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys bydd y trefniant byw pan fydda i’n barod yn cael ei ystyried ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny yn drefniant byw ôl-18 a wneir mewn perthynas â pherson ifanc categori 3 yn unol â Rhan 6 o’r Ddeddf.

(3Yn y paragraff hwn—

mae i “cyn-blentyn perthnasol” yr ystyr a roddir i “former relevant child” yn adran 23C(1) o Ddeddf 1989;

mae i “cyn-riant maeth” a “trefniant byw ôl-18” yr ystyron a roddir yn adran 108 o’r Ddeddf;

ystyr “person ifanc categori 3” (“category 3 young person”) yw person ifanc categori 3 o fewn ystyr adran 104 o’r Ddeddf;

ystyr “trefniant byw pan fydda i’n barod” (“when I’m ready living arrangement”) yw trefniant byw a therfyn amser iddo a hwylusir gan awdurdod lleol pan fo cyn-blentyn perthnasol yn parhau i fyw gyda ei gyn-riant maeth ar ôl i’r cyn-blentyn perthnasol beidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Arbediad a darpariaeth drosiannol mewn perthynas â gorchmynion ac achosion o dan Ran 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi

13.—(1Nid yw cychwyn Rhan 6 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi a’r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau 57 a 107 o Reoliadau 2015 yn effeithio ar—

(a)unrhyw weithred a wneir, unrhyw hysbysiad a anfonir, unrhyw gais a wneir, neu unrhyw benderfyniad a wneir;

(b)unrhyw ofynion neu gyfyngiadau o ran amser;

(c)unrhyw achosion cyfreithiol sydd wedi cychwyn; neu

(d)unrhyw orchymyn a wneir gan lys,

o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi neu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(2At ddibenion y paragraff hwn mae unrhyw gyfeiriad at orchymyn gan y llys i gael ei ddehongli fel pe bai’n cynnwys gorchymyn a wneir ar ôl y diwrnod perthnasol mewn achosion a oedd yn yr arfaeth cyn y diwrnod hwnnw.

(3Pan fo person wedi apelio i lys o dan achosion yn Rhan 3 o Ddeddf 1989 neu Atodlen 2 iddi neu mewn perthynas ag achosion o’r fath nad ydynt wedi eu penderfynu’n derfynol yn union cyn y diwrnod perthnasol, er gwaethaf cychwyn Rhan 6 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi a’r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau 57 a 107 o Reoliadau 2015 mae’r apêl i gael ei phenderfynu yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi a chaniateir i unrhyw rwymedïau neu gosbau gael eu gorfodi neu eu gosod mewn perthynas â gweithredoedd a wneir o dan y darpariaethau hynny, neu mewn perthynas â hwy, neu yn groes iddynt.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 6 Ebrill 2016.

Mae erthygl 3 yn cyflwyno’r Atodlenni, sy’n gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 13221 Hydref 20152015/1744 (Cy. 240) (C. 107)
Adran 13321 Hydref 20152015/1744 (Cy. 240) (C. 107)
Adran 1701 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)
Adran 1791 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)
Adran 1801 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)
Atodlen 31 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)

Gweler hefyd adran 199(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 2 Mai 2014 (y diwrnod ar ôl dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

(8)

Gweler Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 (O.S. 2007/307 (Cy. 26)).

(9)

Gweler Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)).

(10)

Gweler Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007.

(11)

Gweler Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)).

(12)

Gweler Rheoliadau Diffinio Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991 (O.S. 1991/892).

(13)

Gweler Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources