Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Rhagolygol

RHAN 1LL+CCyflwyniad a chyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Dehongli a chwmpasLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/475” (“Directive 82/475”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC sy’n gosod y categorïau o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio at ddibenion labelu bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes(1);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/32” (“Directive 2002/32”) yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/38” (“Directive 2008/38”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol(3);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4);

ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC(5);

ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(6);

ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid(7).

(2Mae gan unrhyw ymadrodd a ddefnyddir y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddo yn y Rheoliad UE o dan sylw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(4Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) of Reoliad 1831/2003, ac eithrio’r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw(8).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CGorfodi Rheoliad 178/2002

Dehongli’r Rhan honLL+C

3.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 178/2002.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 178/2002LL+C

4.—(1Mae person sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu â chydymffurfio â hi yn cyflawni trosedd.

(2Y darpariaethau penodedig yw—

(a)Erthygl 12, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid (amodau ar allforio neu ailallforio i drydydd gwledydd);

(b)Erthygl 15(1) (gwaharddiad ar roi bwyd anifeiliaid anniogel ar y farchnad neu ei fwydo i unrhyw anifail);

(c)Erthygl 16, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid (gwaharddiad ar labelu, hysbysebu neu gyflwyno camarweiniol);

(d)Erthygl 18(2) a (3) (gofynion bod rhaid i weithredwyr gael gwybodaeth olrhain a rhoi gwybodaeth o’r fath ar gael i’r awdurdodau cymwys) i’r graddau y mae’n ymwneud â gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid; ac

(e)Erthygl 20 (cyfrifoldebau gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid o ran bwyd anifeiliaid nad yw’n bodloni gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 178/2002LL+C

5.  Yr awdurdod cymwys—

(a)at ddibenion Erthyglau 15 a 18 yw’r awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal; a

(b)at ddibenion Erthygl 20 yw’r awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal neu’r Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CGorfodi Rheoliad 1829/2003

Dehongli’r Rhan honLL+C

6.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1829/2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1829/2003LL+C

7.—(1Mae person sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu â chydymffurfio â hi yn cyflawni trosedd.

(2Y darpariaethau penodedig yw—

(a)Erthygl 16(2) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad, defnyddio neu brosesu cynnyrch y cyfeirir ato yn Erthygl 15(1)(9) oni bai ei fod wedi ei gwmpasu gan awdurdodiad a’i fod yn bodloni amodau perthnasol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 20(6) (gofyniad bod rhaid i gynhyrchion y mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur o dan yr Erthygl hon mewn perthynas â hwy gael eu tynnu’n ôl o’r farchnad);

(b)Erthygl 21(1) (gofyniad bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad a’r partïon o dan sylw gydymffurfio â’r amodau a osodir ar awdurdodiad ar gyfer y cynnyrch hwnnw, a bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gydymffurfio â gofynion monitro ar ôl i’r cynnyrch gael ei roi ar y farchnad);

(c)Erthygl 21(3) (gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd am gynnyrch a allai effeithio ar y gwerthusiad o ddiogelwch ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, neu am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid mewn trydedd wlad); a

(d)Erthygl 25 (gofyniad am fynegiadau labelu penodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad 1829/2003LL+C

8.  Yr Asiantaeth yw’r awdurdod cymwys cenedlaethol at ddibenion Pennod III o Reoliad 1829/2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CGorfodi Rheoliad 1831/2003

Dehongli’r Rhan honLL+C

9.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1831/2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1831/2003LL+C

10.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n mynd yn groes i ddarpariaeth, neu’n methu cydymffurfio â darpariaeth, a bennir ym mharagraff (2) fel y’i darllenir, yn achos is-baragraff (a) neu (e), gydag Erthygl 2 (darpariaeth drosiannol) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/327 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ynghylch rhoi ar y farchnad ac amodau defnyddio ychwanegion sy’n cynnwys paratoadau(10).

(2Y darpariaethau penodedig yw—

(a)Erthygl 3(1) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad, prosesu neu ddefnyddio ychwanegyn bwyd oni bai ei fod wedi ei gwmpasu gan awdurdodiad a’i fod yn bodloni amodau perthnasol), fel y’i darllenir gyda pharagraff (2) (awdurdodiad cenedlaethol at ddibenion arbrofol gwyddonol), paragraff (4) (amodau ar gymysgu ychwanegion) ac Erthygl 10 (statws cynhyrchion presennol);

(b)Erthygl 3(3) (cyfyngiad ar y personau a gaiff roi ar y farchnad am y tro cyntaf ychwanegion penodol);

(c)Erthygl 12(1) (gofyniad bod rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio neu’n rhoi ar y farchnad ychwanegyn, neu fwyd anifeiliaid y mae’r ychwanegyn wedi ei gynnwys ynddo, neu unrhyw barti arall a chanddo fuddiant, sicrhau bod unrhyw amodau sydd wedi eu gosod yn cael eu parchu);

(d)Erthygl 12(2) (gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn cadw at rwymedigaethau monitro pan fyddant wedi eu gosod, yn hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth newydd am gynnyrch a allai effeithio ar y gwerthusiad o ddiogelwch ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, neu am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid sydd wedi ei osod gan yr awdurdod cymwys mewn trydedd wlad);

(e)Erthygl 16(1), (3) a (4) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rag-gymysgeddau oni bai eu bod wedi eu labelu yn y modd penodedig ac â’r wybodaeth ragnodedig), fel y’i darllenir gyda pharagraff (2) (rhanddirymiad ar gyfer cyfansoddion blasu penodol); ac

(f)Erthygl 16(5) (gofyniad bod rhaid i ychwanegion a rhag-gymysgeddau gael eu marchnata mewn pecynnau neu gynwysyddion caeedig y mae rhaid eu bod wedi eu cau yn y fath ffordd fel bod y sêl yn cael ei difrodi wrth agor y pecynnau neu’r cynwysyddion ac na ellir eu hailddefnyddio).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CGorfodi Rheoliad 767/2009

Dehongli’r Rhan hon ac Atodlen 1LL+C

11.  Yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Atodiad sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 767/2009.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 767/2009LL+C

12.—(1Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae person—

(a)sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth yn Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu sy’n methu â chydymffurfio â hi; neu

(b)sy’n rhoi ar y farchnad neu’n defnyddio bwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8,

yn cyflawni trosedd.

(2Pan ganiateir, yn unol ag Erthygl 17(2)(c), i enw’r categori y mae’r bwyd anifeiliaid yn perthyn iddo gael ei roi yn lle enw deunydd bwyd anifeiliaid penodol, dim ond y categorïau a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475 y caniateir eu nodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 767/2009LL+C

13.—(1Pob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Erthygl 5(3), 13(1)(a) a 17(3) ac Atodiad VII, Pennod 1, paragraff 8; a

(b)Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff ofyn am gadarnhad gwyddonol o honiad ac y mae gan bwrcaswyr yr hawl i ddwyn amheuon ynghylch gwirionedd honiad i’w sylw.

(2Yr Asiantaeth yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Erthygl 26(1)(b); a

(b)Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff gyflwyno i’r Comisiwn amheuon ynghylch cadarnhad gwyddonol o honiad.

(3Mae’r Asiantaeth a phob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei hardal yn awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CGweithredu Cyfarwyddeb 2002/32

Dehongli’r Rhan honLL+C

14.  Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Atodiad sy’n dwyn y rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2002/32; a

(b)ystyr “sylwedd annymunol” (“undesirable substance”) yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw’n asiant pathogenig, sy’n bresennol mewn bwyd anifeiliaid neu arno ac—

(i)sy’n ffurfio perygl posibl i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i’r amgylchedd, neu

(ii)a allai gael effaith andwyol ar gynhyrchu da byw.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Rheoli bwydydd anifeiliaid sy’n cynnwys sylweddau annymunolLL+C

15.—(1Mae person—

(a)sy’n rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I; neu

(b)sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid o’r fath,

yn cyflawni trosedd os yw’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodiad hwnnw yn fwy nag uchafswm y cynnwys perthnasol a bennir yng ngholofn 3.

(2Mae person sy’n rhoi ar y farchnad neu’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn cyflawni trosedd os—

(a)ar ôl ystyried faint ohono yr argymhellir ei ddefnyddio mewn dogn dyddiol, yw’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o Atodiad I yn fwy nag uchafswm y cynnwys a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 mewn perthynas â bwydydd anifeiliaid cyflawn; a

(b)nad oes darpariaeth sy’n ymwneud ag unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Atodiad hwnnw.

(3Mae person sydd at ddiben gwanhau yn cymysgu unrhyw fwyd anifeiliaid â bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I ac sy’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodiad hwnnw yn fwy nag uchafswm y cynnwys a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 yn cyflawni trosedd.

(4Mae person sy’n rhoi ar y farchnad neu’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid nad yw’n gadarn ac yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy yn cyflawni trosedd.

(5At ddibenion paragraff (4) ni thybir bod bwyd anifeiliaid a restrir yng ngholofn 2 o Atodiad I yn gadarn, yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy os yw’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodiad hwnnw yn fwy nag uchafswm y cynnwys a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3.

(6Rhaid i berson sydd ag unrhyw un neu ragor o’r bwydydd anifeiliaid a bennir ym mharagraff (7) yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, at ddiben masnach neu fusnes, os yw arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, gael dadansoddiad a’i roi i’r arolygydd er mwyn dangos bod cynnwys yr arsenig anorganig yn y bwyd anifeiliaid a bennir yn y paragraff hwnnw yn llai na 2 ran y filiwn.

(7Y bwydydd anifeiliaid yw—

(a)soeg cnewyll palmwydd;

(b)bwydydd anifeiliaid a gafwyd drwy brosesu pysgod ac anifeiliaid morol eraill;

(c)blawd gwymon a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n deillio o wymon; a

(d)bwydydd anifeiliaid cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu ffwr.

(8Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (6) yn cyflawni trosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CGweithredu Cyfarwyddeb 2008/38

Dehongli’r Rhan honLL+C

16.  Yn y Rhan hon, ystyr “yr Atodiad” (“the Annex”) yw Rhan B o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2008/38, fel y’i darllenir gyda pharagraffau 1 a 7 o Ran A o’r Atodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Rheoli bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodolLL+C

17.—(1Mae person sy’n rhoi ar y farchnad fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethol penodol yn cyflawni trosedd os nad yw gofynion perthnasol paragraffau (2) i (9) wedi eu bodloni.

(2Mewn perthynas ag unrhyw ddiben maethol penodol a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodiad—

(a)rhaid i’r bwyd anifeiliaid fod wedi ei fwriadu ar gyfer yr anifeiliaid a bennir gyferbyn â’r diben maethol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o’r Atodiad; a

(b)rhaid argymell bod y bwyd anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio am gyfnod o amser sy’n dod o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â’r diben maethol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o’r Atodiad.

(3Pan fo grŵp o ychwanegion wedi ei bennu yng ngholofn 2 neu 4 o’r Atodiad, rhaid i’r ychwanegion a ddefnyddir fod wedi eu hawdurdodi fel rhai sy’n cyfateb i’r nodwedd hanfodol benodedig.

(4Pan fo’n ofynnol rhoi ffynhonnell cynhwysion neu gyfansoddion dadansoddol yng ngholofn 4 o’r Atodiad, rhaid i’r gweithgynhyrchwr wneud datganiad manwl-gywir (er enghraifft enw penodol y cynhwysyn, rhywogaeth yr anifail neu’r rhan o’r anifail) sy’n caniatáu ar gyfer gwerthuso cydymffurfiaeth y bwyd anifeiliaid â’r nodweddion maethol hanfodol cyfatebol.

(5Pan fo’n ofynnol rhoi’r datganiad am sylwedd sydd hefyd wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn yng ngholofn 4 o’r Atodiad a’i fod yn dod gyda’r ymadrodd “total”, rhaid i’r cynnwys a ddatgenir gyfeirio at faint sy’n bresennol yn naturiol pan na chaiff unrhyw swm ei ychwanegu neu, fel y bo’n briodol, at gyfanswm y sylwedd sy’n bresennol yn naturiol a’r swm a ychwanegir fel ychwanegyn.

(6Rhaid darparu’r datganiadau a bennir yng ngholofn 4 o’r Atodiad gyda’r cyfeiriad “if added” pan fo’r cynhwysyn neu’r ychwanegyn wedi ei ymgorffori neu ei gynyddu’n benodol er mwyn gallu cyflawni’r diben maethol penodol.

(7Rhaid i’r datganiadau sydd i gael eu rhoi yn unol â cholofn 4 o’r Atodiad ynghylch cyfansoddion dadansoddol ac ychwanegion fod yn rhai meintiol.

(8Pan fo bwyd anifeiliaid wedi ei fwriadu i gyflawni mwy nag un diben maethol penodol, rhaid iddo gydymffurfio â’r cofnodion cyfatebol yn yr Atodiad.

(9Yn achos bwyd anifeiliaid cydategol a fwriedir at ddiben maethol penodol, rhaid rhoi canllawiau ar gydbwysedd y dogn dyddiol yn y cyfarwyddiadau defnyddio a geir ar y label.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CGweinyddu a gorfodi

Cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hynLL+C

18.—(1Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan reoliad 4(1), 7(1), 10(1), 12(1), 15(1), (2), (3), neu (4) neu 17(1) yn agored ar euogfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na chwe mis neu i ddirwy, neu i’r ddau.

(2Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan reoliad 15(8) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Dyletswyddau i orfodiLL+C

19.  Mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal i weithredu a gorfodi Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1829/2003, Rheoliad 1831/2003, Rheoliad 767/2009 a’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CDiwygio a dirymu

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009LL+C

20.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(11) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

(2Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol)—

(a)hepgorer paragraff (c); a

(b)ym mharagraff (dd), yn lle “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2010” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016”.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

DirymiadauLL+C

21.  Mae’r Rheoliadau a restrir yn y golofn gyntaf o Atodlen 2 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn yr ail golofn.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 12.5.2016, gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2016

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources