- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
13 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Ionawr 2016
Yn dod i rym
25 Chwefror 2016
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 25 Chwefror 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 3 o Atodlen 2, ar ôl dosbarth G mewnosoder—
Permitted Development
H. Development consisting of a change of use of a building to a use falling within Class C3 (dwellinghouses) of the Schedule to the Use Classes Order from a use falling within Class C4 (houses in multiple occupation) of that Schedule.”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir”).
Mae’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dosbarthau penodol ar ddatblygiadau.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 3 (newidiadau mewn defnydd) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir er mwyn rhoi hawliau datblygu a ganiateir newydd. Mae’r hawliau datblygu a ganiateir hynny yn caniatáu newid defnydd, fel y gellir defnyddio adeiladau a ddefnyddir fel tai amlfeddiannaeth ar raddfa fechan, a rennir gan dri i chwech o bobl, fel tai annedd wedi hynny.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
1990 p. 8. Diwygiwyd adran 59 gan adrannau 27 a 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a pharagraff 3 o Atodlen 4 a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler yr eitemau priodol yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1995/418 a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/592 (Cy. 69). Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: