Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 25 Chwefror 2016.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19952.
(1)
(2)
“Class H
Permitted Development
H. Development consisting of a change of use of a building to a use falling within Class C3 (dwellinghouses) of the Schedule to the Use Classes Order from a use falling within Class C4 (houses in multiple occupation) of that Schedule.”
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir”).
Mae’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dosbarthau penodol ar ddatblygiadau.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 3 (newidiadau mewn defnydd) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir er mwyn rhoi hawliau datblygu a ganiateir newydd. Mae’r hawliau datblygu a ganiateir hynny yn caniatáu newid defnydd, fel y gellir defnyddio adeiladau a ddefnyddir fel tai amlfeddiannaeth ar raddfa fechan, a rennir gan dri i chwech o bobl, fel tai annedd wedi hynny.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.