- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
2 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a)adran 38(3) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a
(b)adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) at bob diben sy’n weddill.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Awst 2016—
(a)adran 38(1) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a
(b)adran 40 (cyhoeddi etc hysbysiad) at bob diben sy’n weddill.
4. Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Medi 2016—
(a)adran 27(1) (dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi cod) at bob diben sy’n weddill;
(b)adran 27(5) a (6) at bob diben; ac
(c)adran 30 (y weithdrefn os cymeradwyir cod drafft gan Weinidogion Cymru) at bob diben.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn adran 38(3) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. Mae adran 38(3) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 38(2)(b). Mae adran 38(3) yn darparu y caiff rheoliadau o dan adran 38(2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44 o Ddeddf 2015.
Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn adran 52(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. O dan adran 52(1), rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd (fel y’u disgrifir yn adran 52(5)).
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 38(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Awst 2016. Mae adran 38(1) yn darparu, os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3) o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan adran 38 i gorff llywodraethu’r sefydliad.
Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn adran 40 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Awst 2016. Mae adran 40(1) yn darparu, os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad.
Mae erthygl 4 yn dwyn adran 27(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(1) yn darparu bod rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig.
Mae erthygl 4 hefyd yn dwyn adrannau 27(5) a (6) a 30 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(5) yn darparu y caiff CCAUC gyhoeddi’r cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef. O dan adran 27(6), rhaid i CCAUC adolygu’r cod yn gyson a llunio a chyhoeddi cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef. Cyn cyhoeddi’r cod cyntaf neu god diwygiedig, rhaid i CCAUC lunio drafft o’r cod a chyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae adran 30 o Ddeddf 2015 yn darparu, os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r cod a gyflwynir iddynt, fod rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”). Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft. Os na chaiff penderfyniad ei basio gan y Cynulliad o fewn y cyfnod o 40 niwrnod, rhaid i CCAUC gyhoeddi’r cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
| Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adran 2(1) i (3) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 2(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 3(1) i (3) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 3(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 4(1) a (2) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 4(3) a (4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 4(5) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 5(1) a (2)(a) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 5(2)(b) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 5(2)(c) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 5(3) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 5(4) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 5(5) i (9) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 6(1) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 6(2) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 6(3) i (6) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 6(7) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 7(1) a (2) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 7(3) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 7(4) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 7(5) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 7(6) a (7) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adrannau 8 a 9 | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 10 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 11(1) i (4) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 11(5) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 11(6) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 12 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 14 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 15(1)(a) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 16 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 17(1) i (3) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 17(4)(a) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 17(4)(b) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adrannau 18 i 25 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 27(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio cod) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 27(2), (3), (7) ac (8) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 27(9) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adrannau 28 a 29 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 37(7) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 38(2) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 39(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 40(2) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 41(1)(a) | 1 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 41(1)(b), (d) a (2) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 42(1) a (2)(a) i (c) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 42(2)(d) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 42(3) a (4) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 43(a) a (b) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 43(c) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 44(1) a (2) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 44(3) a (4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adrannau 45 a 46 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adrannau 47 i 49 | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 51(1)(a), (e) a (2) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 52(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio datganiad) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 52(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad ag adran 52(5)(a), (c) a (d)) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 52(2) a (3) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 52(4) | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 52(5) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 53 | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 54(1) | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 54(3) a (4) | 25 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 58(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraff 1 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2), paragraff 2 a pharagraffau 7 i 26 o’r Atodlen | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraffau 27, 28(a) i (f) a pharagraff 29 o’r Atodlen | 1 Awst 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraffau 28(g) a 30 o’r Atodlen | 20 Mai 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
| Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 31 o’r Atodlen) a pharagraff 31 o’r Atodlen | 1 Medi 2015 | O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: