2016 Rhif 110 (Cy. 54) (C. 9)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20151, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn2.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—

(a)

adran 38(3) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a

(b)

adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) at bob diben sy’n weddill.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 20163.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Awst 2016—

(a)

adran 38(1) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a

(b)

adran 40 (cyhoeddi etc hysbysiad) at bob diben sy’n weddill.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 20164.

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Medi 2016—

(a)

adran 27(1) (dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi cod) at bob diben sy’n weddill;

(b)

adran 27(5) a (6) at bob diben; ac

(c)

adran 30 (y weithdrefn os cymeradwyir cod drafft gan Weinidogion Cymru) at bob diben.

Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Mae erthygl 2 yn dwyn adran 38(3) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. Mae adran 38(3) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 38(2)(b). Mae adran 38(3) yn darparu y caiff rheoliadau o dan adran 38(2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44 o Ddeddf 2015.

Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn adran 52(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. O dan adran 52(1), rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd (fel y’u disgrifir yn adran 52(5)).

Mae erthygl 3 yn dwyn adran 38(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Awst 2016. Mae adran 38(1) yn darparu, os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3) o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan adran 38 i gorff llywodraethu’r sefydliad.

Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn adran 40 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Awst 2016. Mae adran 40(1) yn darparu, os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad.

Mae erthygl 4 yn dwyn adran 27(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(1) yn darparu bod rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig.

Mae erthygl 4 hefyd yn dwyn adrannau 27(5) a (6) a 30 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(5) yn darparu y caiff CCAUC gyhoeddi’r cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef. O dan adran 27(6), rhaid i CCAUC adolygu’r cod yn gyson a llunio a chyhoeddi cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef. Cyn cyhoeddi’r cod cyntaf neu god diwygiedig, rhaid i CCAUC lunio drafft o’r cod a chyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae adran 30 o Ddeddf 2015 yn darparu, os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r cod a gyflwynir iddynt, fod rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”). Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft. Os na chaiff penderfyniad ei basio gan y Cynulliad o fewn y cyfnod o 40 niwrnod, rhaid i CCAUC gyhoeddi’r cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 2(1) i (3)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 2(4)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 3(1) i (3)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 3(4)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 4(1) a (2)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 4(3) a (4)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 4(5)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 5(1) a (2)(a)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 5(2)(b)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 5(2)(c)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 5(3)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 5(4)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 5(5) i (9)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 6(1)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 6(2)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 6(3) i (6)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 6(7)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 7(1) a (2)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 7(3)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 7(4)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 7(5)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 7(6) a (7)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adrannau 8 a 9

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 10

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 11(1) i (4)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 11(5)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 11(6)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 12

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 14

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 15(1)(a)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 16

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 17(1) i (3)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 17(4)(a)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 17(4)(b)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adrannau 18 i 25

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 27(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio cod)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 27(2), (3), (7) ac (8)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 27(9)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adrannau 28 a 29

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 37(7)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 38(2)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 39(4)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 40(2)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 41(1)(a)

1 Ionawr 2016

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 41(1)(b), (d) a (2)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 42(1) a (2)(a) i (c)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 42(2)(d)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 42(3) a (4)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 43(a) a (b)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 43(c)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 44(1) a (2)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 44(3) a (4)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adrannau 45 a 46

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adrannau 47 i 49

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 51(1)(a), (e) a (2)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 52(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â llunio datganiad)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 52(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad ag adran 52(5)(a), (c) a (d))

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 52(2) a (3)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 52(4)

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 52(5)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 53

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 54(1)

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 54(3) a (4)

25 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 58(1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraff 1 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2), paragraff 2 a pharagraffau 7 i 26 o’r Atodlen

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraffau 27, 28(a) i (f) a pharagraff 29 o’r Atodlen

1 Awst 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen) a pharagraffau 28(g) a 30 o’r Atodlen

20 Mai 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)

Adran 58(2) (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 31 o’r Atodlen) a pharagraff 31 o’r Atodlen

1 Medi 2015

O.S. 2015/1327 (Cy. 122) (C. 74)