- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
29 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4)(b) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym, yw 5 Hydref 2015—
(a)adran 4 (dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu paneli cynllunio strategol); a
(b)Rhan 1 o Atodlen 1 (cyfansoddiad a threfniadau ariannol paneli).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 4 o’r Ddeddf i rym ar 5 Hydref 2015 i’r graddau nad yw’r adran honno eisoes mewn grym. O dan adran 58(2)(b) o’r Ddeddf, daeth Rhan 3 o’r Ddeddf i rym ar 6 Medi 2015 (2 fis ar ôl y dyddiad pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015) i’r graddau y mae’n angenrheidiol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf.
Mae adran 4 yn ymwneud â’r broses ar gyfer dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu paneli cynllunio strategol. Mae adran 4(1) o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 60D i 60G yn Rhan 6 (Cymru) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”).
Mae adran 60D o Ddeddf 2004 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddynodi ardal gynllunio strategol ac i sefydlu panel cynllunio strategol ar gyfer yr ardal honno.
Mae adran 60E o Ddeddf 2004 yn nodi’r broses y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd drwyddi i un neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynnig i Weinidogion Cymru ar gyfer dynodi ardal yn ardal gynllunio strategol.
Mae adran 60F o Ddeddf 2004 yn gosod dyletswydd i ymgynghori ar Weinidogion Cymru.
Mae adran 60G o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru os cânt gais i wneud hynny.
Mae adran 4(2) o’r Ddeddf yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn mewnosod Atodlen 2A yn Neddf 2004 ac yn darparu ar gyfer trefniadau cyfansoddiadol, ariannol a gweinyddol y paneli.
Mae paragraff 28 o Atodlen 1 yn caniatáu i’r Atodlen gael ei diwygio drwy reoliadau.
Gweler adran 58 (dod i rym) o’r Ddeddf am ddarpariaethau sy’n dod i rym ar ôl pasio’r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: