Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (O.S. 1992/656) ac offerynnau diwygio dilynol i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â’r cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y DCSP”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu’r agweddau defnydd tir yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus (O.J. Rhif L 197, 24.7.2012, t. 1) (“Cyfarwyddeb Seveso III”). Mae’r Gyfarwyddeb honno yn diwygio ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC. Er mwyn gweithredu’r gofynion hynny yn llawn, mae rhannau o reoliadau 24 a 26 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 2015 (O.S. 2015/627) yn gymwys i Gymru. Maent yn gymwys i’r graddau y maent yn ymwneud â materion cynllunio seilwaith nad ydynt wedi eu datganoli. Gweithredir yr agweddau nad ydynt yn ymwneud â chynllunio yng Nghyfarwyddeb Seveso III drwy Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (O.S. 2015/483).

O ganlyniad mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru:

(1Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992;

(2Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 (O.S. 1999/981);

(3Rheoliad 10 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006 (O.S. 2006/1282);

(4Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/450 (Cy. 48));

(5Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/375 (Cy. 43)); a

(6Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2777 (Cy. 283)).

Mae’r prif newidiadau yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn—

(1mae’r esemptiadau sydd eisoes yn bodoli i’r gofyniad i gael cydsyniad sylweddau peryglus wedi eu hestyn yn rheoliad 4 ac Atodlen 2;

(2darperir ar gyfer esemptiad newydd i’r gofyniad ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus yn achos mân newidiadau penodol yn rheoliad 4 a pharagraffau 16 a 17 o Atodlen 2;

(3mae rhestr o wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 5 yn disodli’r ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud cais am gydsyniad;

(4mae rheoliadau 6, 7, 10 ac 11(2) yn gwella cyfranogiad cyhoeddus yn y broses cydsyniad sylweddau peryglus;

(5mae rheoliad 13 yn darparu mai dim ond ar gyfer apelau o dan adran 21(1) y mae terfyn amser o 6 mis i apelio o dan adran 21 o’r DCSP yn gymwys;

(6mae gofyniad ar Weinidogion Cymru yn rheoliad 26 i ystyried, wrth lunio eu polisïau cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth a harbyrau pysgodfeydd cenedlaethol, amcanion penodol ac ystyriaethau eraill sy’n ymwneud ag atal peryglon damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd;

(7mae gofynion ymgynghori cyhoeddus yn rheoliad 27 ar gyfer cynlluniau a rhaglenni cyffredinol sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer sefydliadau sylweddau peryglus newydd, pan allai’r lleoliad neu’r datblygiad gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr. Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni sy’n ddarostyngedig i gyfranogiad cyhoeddus o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1656 (Cy. 70));

(8mae gofynion newydd ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd cyn y gwneir penderfyniadau ar ddatblygu o amgylch sefydliadau sylweddau peryglus yn rheoliad 28 pan allai’r lleoliad neu’r datblygiad achosi damwain fawr neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain o’r fath;

(9mae’r rhestr o’r sylweddau sydd dan reolaeth wedi newid yn Atodlen 1 ac mae’r maintioli sydd dan reolaeth yn Atodlen 1 wedi ei alinio gyda’r sefydliadau hynny y cyfeirir atynt fel “haen 1” yng Nghyfarwyddeb Seveso III, (ac eithrio’r maintioli ar gyfer hydrogen a nwyon fflamadwy hylifedig penodol); a

(10yn Rhan 3 o Atodlen 1 mae rheolaeth ar sylweddau y gellid eu cynhyrchu wrth golli rheolaeth ar broses ddiwydiannol pan fo’n rhesymol rhag-weld y gallai sylwedd peryglus gael ei gynhyrchu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac yn nodi—

(1yn Rhan 2 ac Atodlen 1, y sylweddau sy’n sylweddau peryglus at ddibenion y Ddeddf, y maintioli o’r sylweddau hynny sydd dan reolaeth;

(2yn Rhan 2 ac Atodlen 2, yr esemptiadau o’r angen am gydsyniad sylweddau peryglus;

(3yn Rhan 3 ac Atodlen 3, y gweithdrefnau i’w dilyn ar gyfer cais am gydsyniad sylweddau peryglus;

(4yn Rhan 4 ac Atodlen 4, ddarpariaethau sy’n ymwneud â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, gan gynnwys apelau yn eu herbyn, eu heffaith a gofyniad ar awdurdodau sylweddau peryglus i gynnal a chadw cofrestr ohonynt;

(5yn Rhan 5, faterion eraill sy’n ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus, gan gynnwys yr wybodaeth i’w chadw mewn cofrestr cydsyniadau, y ffioedd sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais am gydsyniad sylweddau peryglus a cheisiadau tybiedig, sut mae rheoli sylweddau peryglus yn gymwys i awdurdodau sylweddau peryglus a gofynion hysbysu ar awdurdodau sylweddau peryglus a’r awdurdod COMAH cymwys (sef naill ai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru) sy’n ymwneud â hawliadau am esemptiad ar gyfer presenoldeb sylweddau sefydledig;

(6yn Rhan 6, y rhwymedigaeth i ystyried materion penodol yng Nghyfarwyddeb Seveso III wrth lunio polisïau cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth a harbyrau pysgodfeydd; rhwymedigaethau o ran ymgyngoriadau a chyfranogiad cyhoeddus mewn perthynas â chynlluniau, rhaglenni a phrosiectau penodol; ac

(7yn Rhan 7 ac Atodlen 5, ddirymiadau, diwygiadau, arbedion, darpariaethau trosiannol a chymhwyso i’r Goron.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Cynllunio, Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources