NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (O.S. 1992/656) ac offerynnau diwygio dilynol i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â’r cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y DCSP”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu’r agweddau defnydd tir yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus (O.J. Rhif L 197, 24.7.2012, t. 1) (“Cyfarwyddeb Seveso III”). Mae’r Gyfarwyddeb honno yn diwygio ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC. Er mwyn gweithredu’r gofynion hynny yn llawn, mae rhannau o reoliadau 24 a 26 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 2015 (O.S. 2015/627) yn gymwys i Gymru. Maent yn gymwys i’r graddau y maent yn ymwneud â materion cynllunio seilwaith nad ydynt wedi eu datganoli. Gweithredir yr agweddau nad ydynt yn ymwneud â chynllunio yng Nghyfarwyddeb Seveso III drwy Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (O.S. 2015/483).

O ganlyniad mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru:

(1)

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992;

(2)

Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 (O.S. 1999/981);

(3)

Rheoliad 10 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006 (O.S. 2006/1282);

(4)

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/450 (Cy. 48));

(5)

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/375 (Cy. 43)); a

(6)

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2777 (Cy. 283)).

Mae’r prif newidiadau yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn—

(1)

mae’r esemptiadau sydd eisoes yn bodoli i’r gofyniad i gael cydsyniad sylweddau peryglus wedi eu hestyn yn rheoliad 4 ac Atodlen 2;

(2)

darperir ar gyfer esemptiad newydd i’r gofyniad ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus yn achos mân newidiadau penodol yn rheoliad 4 a pharagraffau 16 a 17 o Atodlen 2;

(3)

mae rhestr o wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 5 yn disodli’r ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud cais am gydsyniad;

(4)

mae rheoliadau 6, 7, 10 ac 11(2) yn gwella cyfranogiad cyhoeddus yn y broses cydsyniad sylweddau peryglus;

(5)

mae rheoliad 13 yn darparu mai dim ond ar gyfer apelau o dan adran 21(1) y mae terfyn amser o 6 mis i apelio o dan adran 21 o’r DCSP yn gymwys;

(6)

mae gofyniad ar Weinidogion Cymru yn rheoliad 26 i ystyried, wrth lunio eu polisïau cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth a harbyrau pysgodfeydd cenedlaethol, amcanion penodol ac ystyriaethau eraill sy’n ymwneud ag atal peryglon damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd;

(7)

mae gofynion ymgynghori cyhoeddus yn rheoliad 27 ar gyfer cynlluniau a rhaglenni cyffredinol sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer sefydliadau sylweddau peryglus newydd, pan allai’r lleoliad neu’r datblygiad gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr. Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni sy’n ddarostyngedig i gyfranogiad cyhoeddus o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1656 (Cy. 70));

(8)

mae gofynion newydd ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd cyn y gwneir penderfyniadau ar ddatblygu o amgylch sefydliadau sylweddau peryglus yn rheoliad 28 pan allai’r lleoliad neu’r datblygiad achosi damwain fawr neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain o’r fath;

(9)

mae’r rhestr o’r sylweddau sydd dan reolaeth wedi newid yn Atodlen 1 ac mae’r maintioli sydd dan reolaeth yn Atodlen 1 wedi ei alinio gyda’r sefydliadau hynny y cyfeirir atynt fel “haen 1” yng Nghyfarwyddeb Seveso III, (ac eithrio’r maintioli ar gyfer hydrogen a nwyon fflamadwy hylifedig penodol); a

(10)

yn Rhan 3 o Atodlen 1 mae rheolaeth ar sylweddau y gellid eu cynhyrchu wrth golli rheolaeth ar broses ddiwydiannol pan fo’n rhesymol rhag-weld y gallai sylwedd peryglus gael ei gynhyrchu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac yn nodi—

(1)

yn Rhan 2 ac Atodlen 1, y sylweddau sy’n sylweddau peryglus at ddibenion y Ddeddf, y maintioli o’r sylweddau hynny sydd dan reolaeth;

(2)

yn Rhan 2 ac Atodlen 2, yr esemptiadau o’r angen am gydsyniad sylweddau peryglus;

(3)

yn Rhan 3 ac Atodlen 3, y gweithdrefnau i’w dilyn ar gyfer cais am gydsyniad sylweddau peryglus;

(4)

yn Rhan 4 ac Atodlen 4, ddarpariaethau sy’n ymwneud â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, gan gynnwys apelau yn eu herbyn, eu heffaith a gofyniad ar awdurdodau sylweddau peryglus i gynnal a chadw cofrestr ohonynt;

(5)

yn Rhan 5, faterion eraill sy’n ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus, gan gynnwys yr wybodaeth i’w chadw mewn cofrestr cydsyniadau, y ffioedd sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais am gydsyniad sylweddau peryglus a cheisiadau tybiedig, sut mae rheoli sylweddau peryglus yn gymwys i awdurdodau sylweddau peryglus a gofynion hysbysu ar awdurdodau sylweddau peryglus a’r awdurdod COMAH cymwys (sef naill ai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru) sy’n ymwneud â hawliadau am esemptiad ar gyfer presenoldeb sylweddau sefydledig;

(6)

yn Rhan 6, y rhwymedigaeth i ystyried materion penodol yng Nghyfarwyddeb Seveso III wrth lunio polisïau cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth a harbyrau pysgodfeydd; rhwymedigaethau o ran ymgyngoriadau a chyfranogiad cyhoeddus mewn perthynas â chynlluniau, rhaglenni a phrosiectau penodol; ac

(7)

yn Rhan 7 ac Atodlen 5, ddirymiadau, diwygiadau, arbedion, darpariaethau trosiannol a chymhwyso i’r Goron.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Cynllunio, Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.llyw.cymru.