Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1367 (Cy. 135)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015

Gwnaed

5 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 14(1) a (2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016 ac yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “adroddiad asesiad poblogaeth” (“population assessment report”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5;

ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;

ystyr “y cyrff cyfrifol” (“the responsible bodies”) yw’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal asesiad poblogaeth;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu ragor o’r dibenion yn adran 15(2) o’r Ddeddf.

Sicrhau canlyniadau llesiant

2.  Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol roi sylw i’r canlyniadau a’r mesurau a bennir yn y datganiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 o’r Ddeddf (dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhau).

Ymgysylltu â dinasyddion

3.—(1Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol gymryd camu rhesymol i ymgysylltu â’r canlynol—

(a)pobl yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth(2),

(b)pobl yn ardal yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blant y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth, ac

(c)gofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am gymorth.

(2Rhaid i’r cyrff cyfrifol sefydlu gweithdrefn ar gyfer yr ymgysylltu sy’n ofynnol gan baragraff (1).

Ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector

4.—(1Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol ymgysylltu ag unrhyw sefydliad sector preifat neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn, darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol(3) i’r boblogaeth leol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “sefydliad trydydd sector” yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.

Adroddiad asesiad poblogaeth

5.—(1Rhaid i’r cyrff cyfrifol lunio ar y cyd adroddiad ar ganlyniad yr asesiad poblogaeth sydd wedi ei gynnal ganddynt.

Cyhoeddi adroddiad asesiad poblogaeth

6.—(1Rhaid llunio’r adroddiad asesiad poblogaeth cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.

(2Rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi ar ei wefan yr adroddiad asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ei ardal.

(3Rhaid i bob Bwrdd Iechyd lleol gyhoeddi ar ei wefan yr adroddiadau asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ardaloedd yr awdurdodau lleol sydd o fewn ei ardal.

(4Rhaid i bob awdurdod lleol gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi o’r adroddiad asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ei ardal.

Adolygu adroddiadau asesiad poblogaeth

7.  Rhaid i’r cyrff cyfrifol gydadolygu’n gyson yr adroddiad asesiad poblogaeth a chaniateir iddynt ddyroddi adendwm i’r adroddiad pryd bynnag y byddant o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 14(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff cyfrifol”) i asesu ar y cyd y materion a bennir yn adran 14(1)(a) i (f) o’r Ddeddf. Mae’r materion hyn yn cynnwys i ba raddau y mae pobl yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae gofalwyr yn yr ardal y mae arnynt angen cymorth. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal yr asesiadau hyn (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “asesiadau poblogaeth”).

Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff cyfrifol roi sylw i’r datganiad o ganlyniadau llesiant (a ddyroddir o dan adran 8 o’r Ddeddf) wrth gynnal asesiadau poblogaeth.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y personau a’r cyrff y mae’n rhaid i’r cyrff cyfrifol ymgysylltu â hwy wrth gynnal asesiadau poblogaeth.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff cyfrifol lunio ar y cyd adroddiad ar ganlyniad yr asesiad poblogaeth (adroddiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel “adroddiad asesiad poblogaeth”).

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyhoeddi adroddiadau asesiad poblogaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i adroddiadau asesiad poblogaeth gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygu adroddiadau asesiad poblogaeth.

(2)

Gweler adran 4 o’r Ddeddf i gael ystyr “gofal a chymorth”

(3)

Ystyr “gwasanaethau ataliol” yw gwasanaethau a ddarperir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ddisgrifir yn adran 15(2) o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources