Search Legislation

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2603 (Cy. 257)

Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

Gwnaed

24 Medi 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2014

Yn dod i rym

31 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(3) a (5), 172(4), 185(2) a (3) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 31 Hydref 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

[F1ystyr “y Confensiwn Hawliau Dynol” (“the Human Rights Convention”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950 fel y mae’n cael effaith am y tro mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig;]

ystyr “y Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid” (“the Refugee Convention”) yw’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hymestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996;

ystyr “noddwr” (“sponsor”) yw person sydd wedi rhoi ymgymeriad ysgrifenedig at ddibenion y Rheolau Mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety person arall;

ystyr “y Rheolau Mewnfudo” (“the Immigration Rules”) yw’r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(3) (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth);

F2...

ystyr “Rheoliadau yr AEE” (“the EEA Regulations”) yw [F3Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 ac mae cyfeiriadau at Reoliadau yr AEE i'w darllen gydag Atodlen 4 i Reoliadau Deddf Mewnfudo a Chydlynu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â'r UE) 2020 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Arbed, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Darfodol) 2020].

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae i “ceisiwr gwaith”, “person hunangyflogedig”, a “gweithiwr” yr un ystyr ag a roddir i “jobseeker”, “self-employed person” a “worker”, yn y drefn honno, at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o Reoliadau yr AEE(4); a

[F4(ab)ystyr “gweithiwr trawsffiniol” yw person sy'n weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â'r UE) 2020;]

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae cyfeiriadau at aelod o deulu ceisiwr gwaith, person hunangyflogedig [F5, gweithiwr neu weithiwr trawsffiniol] i’w dehongli yn unol â rheoliad 7 [F6o Reoliadau yr AEE].

(3) At ddibenion rheoliadau 4(2)(d) [F7ac (h)] a 6(2)(d) [F7ac (h)] nid yw “aelod o deulu” (“family member”) yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel aelod o deulu yn rhinwedd rheoliad 7(3) o Reoliadau yr AEE.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety taiLL+C

3.  Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ganlyn sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)Dosbarth A – person a gofnodir fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)Dosbarth B – person—

(i)sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu’r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo; F8...

(e)Dosbarth E – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo ; F9...

[F10(f)Dosbarth F – person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus [F11; F12...]]

[F13(g)Dosbarth G – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; F14...

(h)Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd Calais iddo i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo [F15; F16...]]

[F17(i)Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo [F18;]]

[F19(j)Dosbarth J – person—

(i)sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(iii)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; F20...

(k)Dosbarth K – person—

(i)y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—

(aa)Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu

(bb)y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—

(aa)sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu

(bb)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw [F21; F22...]]

[F23(l)Dosbarth L – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo [F24; F25...]]

[F26(m)Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth [F27; F28...]]

[F29(n)Dosbarth N – person—

(i)a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023;

(ii)a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan;

(iii)sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gynnal a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)nad yw’n berson (P)—

(aa)sydd wedi cael caniatâd yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw [F30; F31...]]

[F32(o)Dosbarth O – person—

(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;

(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;

(iii)sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)nad yw’n berson (P)—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.]

[F33(p)Dosbarth P – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; F34...

(q)Dosbarth Q – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth F na Dosbarth J yn y rheoliad hwn [F35; ac]]

[F36(r)Dosbarth R – person—

(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;

(iii)sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(v)nad yw’n berson (P)—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac

(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a

(vi)o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.]

Diwygiadau Testunol

F35Gair yn rhl. 3(q) ac hanner colon wedi ei amnewid ar gyfer atalnod llawn (18.7.2025) gan Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 (O.S. 2025/894), rhlau. 1, 3(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety taiLL+C

4.—(1) Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu

(ii)yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE(5); neu

(iii)yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan [F37reoliad 16(1)] o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn [F38rheoliad 16(5)] o’r Rheoliadau hynny(6); neu

F39(iv). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F40(c)os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn hawl sy'n gyfwerth ag un o'r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i),(ii) neu (iii)]

[F41(1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) neu (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd

[F42(a)caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i'r rheolau mewnfudo; neu

(b)caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn rhinwedd cliriad i ddod i mewn a roddwyd o dan Atodiad EU (Hawlen Deuluol) i'r rheolau mewnfudo,

i'w ddiystyru.]]

(2) Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)gweithiwr;

(b)person hunangyflogedig;

F43(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau [F44(a) neu (b)];

(e)person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac

(f)person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.

[F45(g)gweithiwr trawsffiniol; F46...

(h)person—

(i)sy'n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraff (g); a

(ii)sydd â hawl i breswylio oherwydd bod caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodlen EU i'r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3 o'r Ddeddf honno [F47; F48...]]

[F49(i)person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021 [F50; F51...]]

[F52(j)person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 [F53; F54...]]

[F55(k)person a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan [F56; F57...]]

[F58(l)person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad [F59; ac]]

[F60(m)person—

(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a

(iii)o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.]

Diwygiadau Testunol

F42Geiriau yn rhl. 4(1A) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union ar ol y diwrnod ymadael) gan The Immigration (Citizens' Rights etc.) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1372), rhlau. 1(2)(a)(3)(d), 26(2)(b)

F59Gair yn rhl. 4(2)(l) ac hanner colon wedi ei amnewid ar gyfer atalnod llawn (18.7.2025) gan Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 (O.S. 2025/894), rhlau. 1, 4(b)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth taiLL+C

5.—(1) Mae’r dosbarthiadau canlynol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—

(a)Dosbarth A – person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)Dosbarth B – person—

(i)sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu ar y dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo;

F61(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(f)Dosbarth F – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo ; F62...

[F63(g)Dosbarth G - person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus[F64; F65...]]

[F66(h)Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; F67...

(i)Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd Calais i aros o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo [F68; F69...]]

[F70(j)“Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo [F71;]]

[F72(k)Dosbarth K – person—

(i)sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(iii)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; F73...

(l)Dosbarth L – person—

(i)y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—

(aa)Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu

(bb)y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn paragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—

(aa)sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu

(bb)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw [F74; F75...]]

[F76(m)Dosbarth M – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo [F77; F78...]]

[F79(n)Dosbarth N – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth [F80; F81...]]

[F82(o)Dosbarth O – person—

(i)a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023;

(ii)a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan;

(iii)sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gynnal a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)nad yw’n berson (P)—

(aa)sydd wedi cael caniatâd yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw [F83; F84...]]

[F85(p)Dosbarth P – person—

(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;

(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;

(iii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)nad yw’n berson (P)—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.]

[F86(q)Dosbarth Q – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; F87...

(r)Dosbarth R – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth G na Dosbarth K yn y rheoliad hwn [F88; ac]]

[F89(s)Dosbarth S – person—

(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;

(iii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(v)nad yw’n berson (P)—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac

(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a

(vi)o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.]

F90(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F90(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F88Gair yn rhl. 5(1)(r) ac hanner colon wedi ei amnewid ar gyfer atalnod llawn (18.7.2025) gan Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 (O.S. 2025/894), rhlau. 1, 5(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth taiLL+C

6.—(1) Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu

(ii)yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE; neu

(iii)yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan [F91reoliad 16(1)] o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn [F92rheoliad 16(5)] o’r Rheoliadau hynny; neu

F93(iv). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F94(c)os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn hawl sy'n gyfwerth ag un o'r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i),(ii) neu (iii)]

[F95(1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) ac (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd

[F96(a)caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i'r rheolau mewnfudo; neu

(b)caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn rhinwedd cliriad i ddod i mewn a roddwyd o dan Atodiad EU (Hawlen Deuluol) i'r rheolau mewnfudo,

i'w ddiystyru.]]

(2) Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael [F97cymorth tai] yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)gweithiwr;

(b)person hunangyflogedig;

F98(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau [F99(a) neu (b)];

(e)person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac

(f)person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.

[F100(g)gweithiwr trawsffiniol; F101...

(h)person—

(i)sy'n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraff (g); a

(ii)sydd â hawl i breswylio oherwydd bod caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodlen EU i'r rheolau mewmfudo a wnaed o dan adran 3 o'r Ddeddf honno [F102; F103...]]

[F104(i)person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021 [F105;F106...]]

[F107(j)person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 [F108; F109...]]

[F110(k)person a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan [F111; F112...]]

[F113(l)person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad [F114; ac]]

[F115(m)person—

(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a

(iii)o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.]

Diwygiadau Testunol

F96Geiriau yn rhl. 6(1A) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union ar ol y diwrnod ymadael) gan The Immigration (Citizens' Rights etc.) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1372), rhlau. 1(2)(a)(3)(d), 26(2)(b)

F114Gair yn rhl. 6(2)(l) ac hanner colon wedi ei amnewid ar gyfer atalnod llawn (18.7.2025) gan Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 (O.S. 2025/894), rhlau. 1, 6(b)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

DirymiadauLL+C

7.  Yn ddarostyngedig i reoliad 8, mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003(7);

(b)Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006(8);

(c)Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006(9); a

(d)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2009(10).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Darpariaethau trosiannolLL+C

8.  Nid yw’r dirymiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisydd y gwnaed ei gais am—

(a)dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996; neu

(b)cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996,

cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bersonau o dramor a fydd yn gymwys neu’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“y Ddeddf”) a chymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf”. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Yn rhinwedd adran 160A(1) a (3) o’r Ddeddf”, ni chaiff awdurdod tai lleol ddyrannu llety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf” i bersonau o dramor sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p.49)) oni bai eu bod o ddosbarth a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Yn yr un modd, mae adran 185(2) o’r Ddeddf” yn darparu nad yw personau o’r fath yn gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf” oni bai eu bod o ddosbarth a ragnodir felly gan Weinidogion Cymru, neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Yn rhinwedd adran 160A(1) a (5) o’r Ddeddf”, caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthiadau eraill o bersonau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf”, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Yn yr un modd, mae adran 185(3) o’r Ddeddf” yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, neu’r Ysgrifennydd Gwladol, wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y disgrifiadau o bersonau sydd i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf”, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Yn rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarthiadau hynny o berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn y drefn honno.

Yn rheoliadau 4 a 6 o’r Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarthiadau o berson sydd i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn y drefn honno, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Mae rheoliad 7 yn dirymu’r darpariaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn eu disodli, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â cheisiadau am ddyraniad o lety tai neu gymorth tai a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1996 p. 52. Ychwanegwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p. 7) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Diwygiwyd adran 185 gan adran 18(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002 a pharagraffau 2 a 7(1) o Atodlen 1 iddi, a chan adran 314 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 15 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 6 a Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, ac adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Mae’r swyddogaethau o dan adran 185 yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol.

(4)

Gweler rheoliad 4 a rheoliad 6(2) i (4) o Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006.

(5)

Diwygiwyd rheoliad 13 gan O.S. 2012/1547.

(6)

Ychwanegwyd rheoliad 15A gan O.S. 2012/1547 ac fe’i diwygiwyd gan reoliad 2 o O.S. 2012/2560, a’r Atodlen iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources