2014 Rhif 2603 (Cy. 257)
Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(3) a (5), 172(4), 185(2) a (3) a 215(2) o Ddeddf Tai 19961, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 31 Hydref 2014.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

F1ystyr “y Confensiwn Hawliau Dynol” (“the Human Rights Convention”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950 fel y mae’n cael effaith am y tro mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig;

ystyr “y Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid” (“the Refugee Convention”) yw’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hymestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996;

ystyr “noddwr” (“sponsor”) yw person sydd wedi rhoi ymgymeriad ysgrifenedig at ddibenion y Rheolau Mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety person arall;

ystyr “y Rheolau Mewnfudo” (“the Immigration Rules”) yw’r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 19713 (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth);

F2...

ystyr “Rheoliadau yr AEE” (“the EEA Regulations”) yw F3Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 ac mae cyfeiriadau at Reoliadau yr AEE i'w darllen gydag Atodlen 4 i Reoliadau Deddf Mewnfudo a Chydlynu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â'r UE) 2020 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Arbed, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Darfodol) 2020.

(2)

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)

mae i “ceisiwr gwaith”, “person hunangyflogedig”, a “gweithiwr” yr un ystyr ag a roddir i “jobseeker”, “self-employed person” a “worker”, yn y drefn honno, at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o Reoliadau yr AEE6; a

F4(ab)

ystyr “gweithiwr trawsffiniol” yw person sy'n weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â'r UE) 2020;

(b)

yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae cyfeiriadau at aelod o deulu ceisiwr gwaith, person hunangyflogedig F5, gweithiwr neu weithiwr trawsffiniol i’w dehongli yn unol â rheoliad 7 F6o Reoliadau yr AEE.

(3)

At ddibenion rheoliadau 4(2)(d) F7ac (h) a 6(2)(d) F7ac (h) nid yw “aelod o deulu” (“family member”) yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel aelod o deulu yn rhinwedd rheoliad 7(3) o Reoliadau yr AEE.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai3.

Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ganlyn sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)

Dosbarth A – person a gofnodir fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)

Dosbarth B – person—

(i)

sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)

nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)

Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)

sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu’r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)

Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo; F8...

(e)

Dosbarth E – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo ; F9...

F10(f)

Dosbarth F – person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus F11; F12...

F13(g)

Dosbarth G – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; F14...

(h)

Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd Calais iddo i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo F15; F16...

F17(i)

Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo F18;

F19(j)

Dosbarth J – person—

(i)

sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;

(ii)

nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(iii)

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; F20...

(k)

Dosbarth K – person—

(i)

y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—

(aa)

Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu

(bb)

y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu

(ii)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—

(aa)

sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu

(bb)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw F21; F22...

F23(l)

Dosbarth L – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo F24; F25...

F26(m)

Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth F27; F28...

F29(n)

Dosbarth N – person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023;

(ii)

a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan;

(iii)

sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)

nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gynnal a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)

nad yw’n berson (P)—

(aa)

sydd wedi cael caniatâd yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)

a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw F30; F31...

F32(o)

Dosbarth O – person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;

(iii)

sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)

nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)

nad yw’n berson (P)—

(aa)

y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)

a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.

F33(p)

Dosbarth P – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; F34...

(q)

Dosbarth Q – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth F na Dosbarth J yn y rheoliad hwn F35; ac

F36(r)

Dosbarth R – person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;

(iii)

sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)

nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(v)

nad yw’n berson (P)—

(aa)

y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)

a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac

(cc)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a

(vi)

o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai4.

(1)

Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)

yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)

os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)

yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu

(ii)

yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE7; neu

(iii)

yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan F37reoliad 16(1) o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn F38rheoliad 16(5) o’r Rheoliadau hynny8; neu

F39(iv)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F40(c)

os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn hawl sy'n gyfwerth ag un o'r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i),(ii) neu (iii)

F41(1A)

At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) neu (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd

F42(a)

caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i'r rheolau mewnfudo; neu

(b)

caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn rhinwedd cliriad i ddod i mewn a roddwyd o dan Atodiad EU (Hawlen Deuluol) i'r rheolau mewnfudo,

i'w ddiystyru.

(2)

Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)

gweithiwr;

(b)

person hunangyflogedig;

F43(c)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)

person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau F44(a) neu (b);

(e)

person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac

(f)

person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.

F45(g)

gweithiwr trawsffiniol; F46...

(h)

person—

(i)

sy'n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraff (g); a

(ii)

sydd â hawl i breswylio oherwydd bod caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodlen EU i'r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3 o'r Ddeddf honno F47; F48...

F49(i)

person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021 F50; F51...

F52(j)

person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 F53; F54...

F55(k)

person a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan F56; F57...

F58(l)

person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad F59; ac

F60(m)

person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a

(iii)

o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai5.

(1)

Mae’r dosbarthiadau canlynol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—

(a)

Dosbarth A – person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)

Dosbarth B – person—

(i)

sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)

nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)

Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)

sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu ar y dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)

Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo;

F61(e)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(f)

Dosbarth F – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo ; F62...

F63(g)

Dosbarth G - person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddusF64; F65...

F66(h)

Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; F67...

(i)

Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd Calais i aros o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo F68; F69...

F70(j)

“Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo F71;

F72(k)

Dosbarth K – person—

(i)

sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;

(ii)

nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(iii)

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; F73...

(l)

Dosbarth L – person—

(i)

y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—

(aa)

Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu

(bb)

y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu

(ii)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn paragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—

(aa)

sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu

(bb)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw F74; F75...

F76(m)

Dosbarth M – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo F77; F78...

F79(n)

Dosbarth N – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth F80; F81...

F82(o)

Dosbarth O – person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023;

(ii)

a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan;

(iii)

sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)

nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gynnal a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)

nad yw’n berson (P)—

(aa)

sydd wedi cael caniatâd yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)

a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw F83; F84...

F85(p)

Dosbarth P – person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;

(iii)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)

nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(v)

nad yw’n berson (P)—

(aa)

y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)

a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac

(cc)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.

F86(q)

Dosbarth Q – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; F87...

(r)

Dosbarth R – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth G na Dosbarth K yn y rheoliad hwn F88; ac

F89(s)

Dosbarth S – person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;

(iii)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;

(iv)

nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(v)

nad yw’n berson (P)—

(aa)

y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;

(bb)

a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac

(cc)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a

(vi)

o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.

F90(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F90(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai6.

(1)

Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—

(a)

yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)

os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)

yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu

(ii)

yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE; neu

(iii)

yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan F91reoliad 16(1) o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn F92rheoliad 16(5) o’r Rheoliadau hynny; neu

F93(iv)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F94(c)

os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn hawl sy'n gyfwerth ag un o'r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i),(ii) neu (iii)

F95(1A)

At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) ac (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd

F96(a)

caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i'r rheolau mewnfudo; neu

(b)

caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn rhinwedd cliriad i ddod i mewn a roddwyd o dan Atodiad EU (Hawlen Deuluol) i'r rheolau mewnfudo,

i'w ddiystyru.

(2)

Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael F97cymorth tai yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)

gweithiwr;

(b)

person hunangyflogedig;

F98(c)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)

person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau F99(a) neu (b);

(e)

person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac

(f)

person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.

F100(g)

gweithiwr trawsffiniol; F101...

(h)

person—

(i)

sy'n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraff (g); a

(ii)

sydd â hawl i breswylio oherwydd bod caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi ei roi iddo o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodlen EU i'r rheolau mewmfudo a wnaed o dan adran 3 o'r Ddeddf honno F102; F103...

F104(i)

person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021 F105;F106...

F107(j)

person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 F108; F109...

F110(k)

person a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023 ac a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan F111; F112...

F113(l)

person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad F114; ac

F115(m)

person—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a

(iii)

o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.

Dirymiadau7.

Yn ddarostyngedig i reoliad 8, mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)

rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 200313;

(b)

Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 200614;

(c)

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 200615; a

(d)

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 200916.
Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Darpariaethau trosiannol8.

Nid yw’r dirymiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisydd y gwnaed ei gais am—

(a)

dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996; neu

(b)

cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996,

cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.10.2014, gweler rhl. 1(1)

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bersonau o dramor a fydd yn gymwys neu’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“y Ddeddf”) a chymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf”. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Yn rhinwedd adran 160A(1) a (3) o’r Ddeddf”, ni chaiff awdurdod tai lleol ddyrannu llety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf” i bersonau o dramor sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p.49)) oni bai eu bod o ddosbarth a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Yn yr un modd, mae adran 185(2) o’r Ddeddf” yn darparu nad yw personau o’r fath yn gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf” oni bai eu bod o ddosbarth a ragnodir felly gan Weinidogion Cymru, neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Yn rhinwedd adran 160A(1) a (5) o’r Ddeddf”, caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthiadau eraill o bersonau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf”, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Yn yr un modd, mae adran 185(3) o’r Ddeddf” yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, neu’r Ysgrifennydd Gwladol, wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y disgrifiadau o bersonau sydd i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf”, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Yn rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarthiadau hynny o berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn y drefn honno.

Yn rheoliadau 4 a 6 o’r Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarthiadau o berson sydd i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn y drefn honno, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Mae rheoliad 7 yn dirymu’r darpariaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn eu disodli, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â cheisiadau am ddyraniad o lety tai neu gymorth tai a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.