- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
18 Mehefin 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mehefin 2014
Yn dod i rym
16 Gorffennaf 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “awdurdodau statudol” (“statutory authorities”) yw’r heddlu a’r awdurdodau lleol y mae’r ysgol wedi’i lleoli yn eu hardaloedd;
ystyr “cyfnod pontio’r ffederasiwn (“federation transition period”) yw’r cyfnod o amser ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i fwrw ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffederasiwn o dan reoliadau 7(1), 10(2) neu 12(2) o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 ond cyn y dyddiad ffedereiddio;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(5);
mae “ffederasiwn” (“federation”) ac “ysgol ffederal” (“federated school”) i’w dehongli yn unol ag adran 21 o Fesur Addysg (Cymru) 2011(6); ac
ystyr “niwed” (“harm”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol neu emosiynol;.”.
(3) Yn rheoliad 7 hepgorer paragraffau (3), (4) a (6).
(4) Ar ôl rheoliad 7 mewnosoder—
7A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person a gyflogir o dan gontract cyflogaeth i weithio yn yr ysgol yn destun honiad sy’n dod o fewn paragraff (2).
(2) Mae honiad yn dod o fewn y rheoliad hwn os honnir bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi achosi niwed i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.
(3) Os yw’r pennaeth yn ymwybodol o unrhyw honiadau o’r fath rhaid i’r pennaeth—
(a)hysbysu’r corff llywodraethu am bob honiad o’r fath; a
(b)ymgynghori â’r person a benodir gan yr awdurdod lleol yn unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (os oes rhai) sydd â chyfrifoldeb am amddiffyn plant.
(4) Os hysbysir y corff llywodraethu am unrhyw honiad o’r fath, rhaid iddo benodi person annibynnol i ymchwilio i’r honiad ac eithrio pan fo paragraff (7) yn gymwys.
(5) Rhaid i’r corff llywodraethu beidio â gwneud penderfyniad ynghylch p’un ai i benodi person annibynnol ai peidio hyd nes—
(a)bod yr awdurdod lleol y mae’r ysgol wedi’i lleoli ynddo wedi hysbysu’r corff llywodraethu ei fod wedi trafod yr honiad gyda phob person o’r fath y mae’n credu ei fod yn briodol yn unol â chanllawiau(7) a ddyroddwyd o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(8); a
(b)bod yr awdurdodau statudol wedi hysbysu’r corff llywodraethu—
(i)bod pob un ohonynt wedi cwblhau ei ymchwiliad (os oes un); a
(ii)bod unrhyw achosion troseddol (os oes rhai) sy’n deillio o unrhyw ymchwiliad o’r fath gan yr awdurdodau statudol ac sy’n ymwneud â’r honiad wedi’u terfynu neu wedi’u cwblhau fel arall; ac
(c)bod y corff llywodraethu wedi ymgynghori â’r canlynol—
(i)y person a benodir gan yr awdurdod lleol yn unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (os oes rhai) sydd â chyfrifoldeb dros faterion amddiffyn plant; a
(ii)y pennaeth oni bai y gwneir yr honiad yn erbyn y pennaeth.
(6) Rhaid i’r corff llywodraethu sicrhau y gwneir cofnod ysgrifenedig o ganlyniad unrhyw ymgynghoriad a gynhelir yn unol â pharagraff (5).
(7) Nid oes rhaid i’r corff llywodraethu benodi ymchwiliwr annibynnol yn unol â pharagraff (4) pan fo wedi’i fodloni—
(a)y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw’r honiad yn wir;
(b)y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oes tystiolaeth i ategu’r honiad;
(c)bod y person y gwnaed yr honiad yn ei erbyn wedi cyfaddef ei fod wedi gwneud yr hyn yr honnir iddo ei wneud; neu
(ch)bod y person y gwnaed yr honiad yn ei erbyn wedi’i gollfarnu ar ôl hynny o drosedd yn dilyn achosion troseddol o fath y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (5)(b)(ii).
(8) Pan fo person annibynnol wedi’i benodi yn unol â pharagraff (4), rhaid i’r corff llywodraethu ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu i’r corff llywodraethu adroddiad ysgrifenedig ar ei ganfyddiadau mewn cysylltiad â’r honiad.
(9) Rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu copi o adroddiad y person annibynnol i’r pennaeth oni bai bod yr honiad wedi’i wneud yn erbyn y pennaeth.
(10) Ar ôl cael adroddiad y person annibynnol rhaid i’r corff llywodraethu benderfynu, yn unol â rheoliad 17 neu 29, yn ôl y digwydd, p’un a ddylai’r person y gwneir yr honiad yn ei erbyn beidio â gweithio yn yr ysgol.
(11) Nid yw person i’w ystyried yn annibynnol at ddibenion paragraff (4) os yw’r person—
(a)yn aelod o’r corff llywodraethu sy’n gwneud y penodiad;
(b)yn rhiant i ddisgybl cofrestredig presennol yn yr ysgol neu i gyn-ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(c)yn aelod o staff presennol yr ysgol neu’n gyn-aelod o staff yr ysgol;
(ch)yn aelod o’r awdurdod lleol neu’n gyflogai i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
(d)yn ymddiriedolwr yn yr ysgol;
(dd)yn aelod o’r awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer yr ysgol; neu
(e)yn penodi’r llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ysgol.”.
(5) Yn rheoliad 10—
(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion sy’n ffedereiddio hysbysu’r awdurdod am swydd wag pennaeth neu ddirprwy bennaeth cyn cymryd unrhyw un o’r camau sydd wedi’u crybwyll ym mharagraffau (2) i (19).
(1B) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn rhwystro cyrff llywodraethu’r ysgolion sy’n bwriadu ffedereiddio rhag ffurfio panel dewis ar y cyd.”;
(b)ym mharagraff (8) yn lle “baragraff (8A)” rhodder “baragraffau (8A) i (8CH)”;
(c)yn lle paragraff (8A) rhodder—
“(8A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (8) swydd wag pennaeth pan fo’r swydd wag mewn ysgol sydd wedi’i henwi mewn cynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013 fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau ei mynychu (“yr ysgol sy’n derbyn”) ac—
(a)mae person a gyflogir fel pennaeth yn yr ysgol sydd i’w chau wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag pennaeth; neu
(b)nid oes person o’r fath a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ond mae person yn cael ei gyflogi fel pennaeth mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai’n mynd i gael ei chau yn unol â chynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013, neu sydd wedi’i henwi mewn cynigion o’r fath fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau fynychu ac sydd wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag pennaeth.
(8B) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (8) swydd wag dirprwy bennaeth pan fo’r swydd wag mewn ysgol sydd wedi’i henwi mewn cynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau ei mynychu (“yr ysgol sy’n derbyn”) ac—
(a)mae person a gyflogir fel dirprwy bennaeth yn yr ysgol sydd i’w chau wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag dirprwy bennaeth; neu
(b)nid oes person o’r fath a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ond mae person yn cael ei gyflogi fel dirprwy bennaeth mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai’n mynd i gael ei chau yn unol â chynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013, neu sydd wedi’i henwi mewn cynigion o’r fath fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau fynychu ac sydd wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag dirprwy bennaeth.
(8C) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (8) swydd wag pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo’r swydd wag mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn ac—
(a)mae person a gyflogir fel pennaeth mewn unrhyw ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn; a
(b)mae un neu ragor o’r personau hynny wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i’r corff llywodraethu i wneud cais am swydd wag pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.
(8CH) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (8) swydd wag dirprwy bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo’r swydd wag mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn ac—
(a)mae person a gyflogir fel dirprwy bennaeth mewn unrhyw ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn; a
(b)mae un neu ragor o’r personau hynny wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i’r corff llywodraethu i wneud cais am swydd wag dirprwy bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.”;
(d)ym mharagraff (9) yn lle “baragraff (13)” rhodder “baragraffau (13) i (13B)”; ac
(e)ar ôl paragraff (13) mewnosoder—
“(13A) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn caniateir i aelodaeth y panel dewis gynnwys personau o’r ysgolion sy’n ffedereiddio.
(13B) Rhaid i’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (13A) fod â hawl i bleidleisio.”.
(6) Yn rheoliad 24—
(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion sy’n ffedereiddio hysbysu’r awdurdod am swydd wag pennaeth neu ddirprwy bennaeth cyn cymryd unrhyw un o’r camau sydd wedi’u crybwyll ym mharagraffau (2) i (18).
(1B) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn rhwystro cyrff llywodraethu’r ysgolion sy’n bwriadu ffedereiddio rhag ffurfio panel dewis ar y cyd.”;
(b)ym mharagraff (7) yn lle “baragraff (7A)” rhodder “baragraffau (7A) i (7CH)”;
(c)yn lle paragraff (7A) rhodder—
“(7A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (7) swydd wag pennaeth pan fo’r swydd wag mewn ysgol sydd wedi’i henwi mewn cynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013 fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau ei mynychu (“yr ysgol sy’n derbyn”) ac—
(a)mae person a gyflogir fel pennaeth yn yr ysgol sydd i’w chau wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag pennaeth; neu
(b)nid oes person o’r fath a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ond mae person yn cael ei gyflogi fel pennaeth mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai’n mynd i gael ei chau yn unol â chynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013, neu sydd wedi’i henwi mewn cynigion o’r fath fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau ei mynychu ac sydd wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag pennaeth.
(7B) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (7) swydd wag dirprwy bennaeth pan fo’r swydd mewn ysgol sydd wedi’i henwi mewn cynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013 fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau ei mynychu (“yr ysgol sy’n derbyn”) ac—
(a)mae person a gyflogir fel dirprwy bennaeth yn yr ysgol sydd i’w chau wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag dirprwy bennaeth; neu
(b)nid oes person o’r fath a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ond mae person yn cael ei gyflogi fel dirprwy bennaeth mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai’n mynd i gael ei chau yn unol â chynigion a wnaed o dan adrannau 43, 44, 80 neu 81 o Ddeddf 2013, neu sydd wedi’i henwi mewn cynigion o’r fath fel un lle y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i’w chau ei mynychu ac sydd wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n derbyn i wneud cais am swydd wag dirprwy bennaeth.
(7C) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (7) swydd wag pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo’r swydd wag mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn ac—
(a)mae person a gyflogir fel pennaeth mewn unrhyw ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn; a
(b)mae un neu ragor o’r personau hynny wedi mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i’r corff llywodraethu i wneud cais am swydd wag pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.
(7CH) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu yn unol â pharagraff (7) swydd wag dirprwy bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo’r swydd wag mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn ac—
(a)mae person a gyflogir fel dirprwy bennaeth mewn unrhyw ysgol ffederal o fewn y ffederasiwn; a
(b)mae un neu ragor o’r personau hynny sy’n mynegi dymuniad yn ysgrifenedig i’r corff llywodraethu i wneud cais am swydd wag dirprwy bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.”.
(d)ym mharagraff (8) ar ôl “Yn ddarostyngedig” mewnosoder “i baragraffau (12) i (12B)”; ac
(e)ar ôl paragraff (12) mewnosoder—
“(12A) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn caniateir i aelodaeth y panel dewis gynnwys personau o’r ysgolion sy’n ffedereiddio.
(12B) Rhaid i’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12A) fod â hawl i bleidleisio.”.
3.—(1) Mae rheoliad 55 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Rhaid i’r pwyllgor disgyblu staff gynnwys dim llai na thri llywodraethwr, ond pan fo’r honiadau’n cael eu gwneud yn erbyn aelod o staff bod yr aelod hwnnw o’r staff wedi achosi niwed i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol rhaid i’r pwyllgor gynnwys dim llai na dau lywodraethwr ac un person annibynnol nad yw’n llywodraethwr.
(3A) At ddibenion paragraff (3) ystyr “niwed” (“harm”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol neu emosiynol.”.
(3) Yn lle paragraff (4A) rhodder—
“(4A) Nid yw person i’w ystyried yn annibynnol at ddibenion paragraffau (3) a (4) os yw’r person—
(a)yn aelod o’r corff llywodraethu sy’n gwneud y penodiad;
(b)yn rhiant i ddisgybl cofrestredig presennol yn yr ysgol neu i gyn-ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(c)yn aelod o staff presennol yr ysgol neu’n gyn-aelod o staff yr ysgol;
(ch)yn aelod o’r awdurdod lleol neu’n gyflogai i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
(d)yn ymddiriedolwr yn yr ysgol;
(dd)yn aelod o’r awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer yr ysgol; neu
(e)yn penodi’r llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ysgol.”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 8—
(a)cyn paragraff 1 mewnosoder—
“A1. Yn rheoliad 3(1) yn y diffiniad o “awdurdodau statudol” yn lle “ysgol” rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.”;
(b)ym mharagraff 4 yn lle “7(1), (2)(a) i (c) a (4)(c)” rhodder “7(1), (2)(a) i (c), 7A(1), (2), (10), ac (11)(c)”;
(c)hepgorer paragraffau 5 a 6; a
(d)yn lle paragraff 7 rhodder—
“7. Yn rheoliad 7A(5)(a), (11)(b), (ch), (d) ac (dd) yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal”.”.
5. Yn lle is-baragraff (5) o baragraff 14 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007(11) rhodder—
“(5) Hepgorer paragraff (5) o reoliad 7 a pharagraff (5)(c)(i) o reoliad 7A.”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer staffio ysgolion a gynhelir.
Mae rheoliad 7(3) a (4) o Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymchwilio’n annibynnol i honiadau o natur amddiffyn plant yn erbyn aelodau o staff ysgol. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r darpariaethau hynny (rheoliad 2(2) a (3)) ac yn diwygio ymhellach Reoliadau 2006 er mwyn gwneud darpariaeth newydd ar gyfer ymchwilio’n annibynnol i honiadau o achosi niwed i ddisgybl cofrestredig yn erbyn aelodau o staff ysgol (rheoliad 2(4)).
Mae rheoliad 10 o Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodi penaethiaid a dirprwyon mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir. Mae rheoliad 2(5) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r darpariaethau hynny i adlewyrchu dyfodiad i rym Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau Ffedereiddio”).
Yn yr un modd, mae rheoliad 24 o Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodi penaethiaid a dirprwyon mewn ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig. Mae rheoliad 2(6) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r darpariaethau hynny oherwydd dyfodiad i rym y Rheoliadau Ffedereiddio.
Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfansoddiad cyrff llywodraethu a’u gweithdrefnau. Mae rheoliad 55 o Reoliadau 2005 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhai swyddogaethau disgyblu penodol o gyrff llywodraethu yn cael eu dirprwyo i bwyllgor disgyblu a diswyddo staff ac i bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo. Yn benodol, mae rheoliad 55(3) o Reoliadau 2005 yn darparu, pan fo honiad yn ymwneud â materion sydd o natur amddiffyn plant rhaid i aelodaeth y pwyllgor gynnwys person annibynnol. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 55(3) o Reoliadau 2005 er mwyn hepgor cyfeiriad at “materion amddiffyn plant” ac mewnosod rheoliad newydd 55(3) a (3A) sy’n adlewyrchu’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2006 gan reoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 55(4A) o Reoliadau 2005 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo person i gael ei ystyried yn annibynnol at ddibenion rheoliad 55(3) o Reoliadau 2005. Mae rheoliad 3(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd (4A) i mewn i Reoliadau 2005 er mwyn adlewyrchu’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2006 gan reoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Rhoddwyd y swyddogaethau yn yr adran hon ac Atodlen 1 i’r Ysgrifennydd Gwladol ac fe’u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
2002 p. 32. Rhoddwyd y swyddogaethau yn yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 2006/873 (Cy. 81), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/944 (Cy. 80), O.S. 2009/2544 (Cy. 206), O.S. 2009/2708 (Cy. 226), O.S. 2009/3161 (Cy. 275) ac O.S. 2010/1142 (Cy. 101).
Enw’r canllawiau cyfredol yw “Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004” ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Medi 2006 (ISBN Rhif 0 7504 8911 1). Gellir cael copi ar www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/safeguardingunder2004act/?lang=cy.
O.S. 2005/2914 (Cy. 211) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3200 (Cy. 236), O.S. 2006/873 (Cy. 81), O.S. 2007/944 (Cy. 80), O.S. 2009/2544 (Cy. 206), O.S. 2010/638 (Cy. 64), O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2010/2582 (Cy. 216), O.S. 2013/2124 (Cy. 207) ac fel y’i haddaswyd gan O.S. 2012/1643 (Cy. 212).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: