Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 801 (Cy.110)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Gwnaed

10 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mawrth 2012

Yn dod i rym

30 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 61A, 62, 65, 69, 71, 74, 77, 78, 79(4), 188, 193, 196(4), 293A a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1A, ac Atodlen 4A i'r Ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 88 a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(3), sydd hefyd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(4), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 30 Ebrill 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r holl dir yng Nghymru, ond os yw tir yn destun gorchymyn datblygu arbennig(5), pa un a wnaed y gorchymyn datblygu arbennig cyn neu ar ôl cychwyn y Gorchymyn hwn, bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir hwnnw i'r cyfryw raddau yn unig, ac yn ddarostyngedig i'r cyfryw addasiadau, a bennir yn y gorchymyn datblygu arbennig.

(3Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n gymwys i unrhyw ganiatâd yr ystyrir iddo gael ei roi o dan adran 222 o Ddeddf 1990 (dim angen caniatâd cynllunio ar gyfer hysbysebion sy'n cydymffurfio â rheoliadau).

[F1(4) Nothing in this Order, except for articles 29 and 30, applies where—

(a)an application is made to the Welsh Ministers under section 62D of the 1990 Act (developments of national significance: applications to be made to the Welsh Ministers); or

(b)such an application is proposed to be made.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith ac unrhyw ran o adeilad fel y'i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw'n cynnwys unrhyw beiriannau neu beirianwaith nac unrhyw adeiledd o natur peiriant neu beirianwaith;

ystyr “arwynebedd llawr (“floor space”) yw cyfanswm arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau;

[F2“ystyr “cais adran 73” (“section 73 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio o dan adran 73 o Ddeddf 1990 ar gyfer datblygu tir heb gydymffurfio ag amodau y rhoddwyd caniatâd blaenorol yn ddarostyngedig iddynt]

mae i “cais AEA”, “datblygiad AEA”, “gwybodaeth amgylcheddol” a “datganiad amgylcheddol” yr un ystyron a roddir yn eu trefn i “EIA application”, “EIA development”, “environmental information” ac “environmental statement” yn rheoliad 2(1) o [F3Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016] (6);

[F4ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—

(a)

caniatâd cynllunio ar gyfer estyn, gwella neu addasu tŷ annedd mewn ffordd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(b)

newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhau’r tŷ annedd ond nad yw’n cynnwys—

(i)

unrhyw gais arall am newid defnydd,

(ii)

cais i godi tŷ annedd, neu

(iii)

cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;]

[F5ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu adeilad presennol o ddim mwy na 250 metr sgwâr gros o arwynebedd llawr allanol ar lefel y llawr daear mewn ffordd arall, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn sydd yn gais am—

(a)

newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir un ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;

(b)

newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu

(c)

cyflawni gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;]

ystyr “caniatâd cynllunio amlinellol” (“outline planning permission”) yw caniatâd cynllunio ar gyfer codi adeilad, a roddir yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol yn ddiweddarach mewn perthynas ag un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl;

mae “codi” (“erection”), mewn perthynas ag adeiladau fel y'u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (dehongli cyffredinol)(7);

ystyr “datblygiad gwastraff” (“waste development”) yw (a) unrhyw ddatblygiad gweithredol a fwriadwyd i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff, neu (b) newid defnydd perthnasol i drin, storio, prosesu neu waredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff;

ystyr “datblygiad mawr” (“major development”) yw datblygiad(8) sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)

ennill a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion o weithfeydd mwynau(9);

(b)

datblygiad gwastraff;

(c)

darparu tai annedd—

(i)

pan fo nifer y tai annedd sydd i'w darparu yn 10 neu ragor; neu

(ii)

pan fwriedir cyflawni'r datblygiad ar safle sydd â'i arwynebedd yn 0.5 hectar neu'n fwy ac nad yw'n hysbys a yw'r datblygiad yn dod o fewn is-baragraff (c)(i);

(ch)

darparu adeilad neu adeiladau lle mae'r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu

(d)

datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â'i arwynebedd yn 1 hectar neu'n fwy;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

[F2“ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015](7)

ystyr “drwy arddangos ar y safle” (“by site display”) yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych a leolir ac a arddangosir mewn modd sy'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd weld yr hysbysiad a'i ddarllen yn hawdd;

ystyr “fflat” (“flat”) yw mangre ar wahân a hunangynhwysol, a adeiladwyd neu a addaswyd i'w defnyddio fel annedd, ac sy'n rhan o adeilad ac wedi ei gwahanu'n llorweddol oddi wrth ran arall o'r adeilad hwnnw;

ystyr “graddfa” (“scale”) yw uchder, lled a hyd pob adeilad arfaethedig o fewn y datblygiad, mewn perthynas â'i amgylchoedd;

ystyr “gweithrediadau mwyngloddio” (“mining operations”) yw ennill a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, drwy weithio ar yr wyneb neu'n danddaearol;

ystyr “llunwedd” (“layout”) yw'r ffordd y darperir, y lleolir ac y gogwyddir adeiladau, llwybrau a mannau agored o fewn y datblygiad, mewn perthynas â'i gilydd ac mewn perthynas ag adeiladau a mannau agored y tu allan i'r datblygiad;

ystyr “materion a gedwir yn ôl” a “materion a gadwyd yn ôl” (“reserved matters”) mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol neu gais am ganiatâd o'r fath, yw unrhyw rai o'r materion canlynol, na roddwyd manylion ohonynt yn y cais—

(a)

mynediad;

(b)

ymddangosiad;

(c)

tirlunio;

(ch)

llunwedd; a

(d)

graddfa, o fewn y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a ddatgenir yn y cais am ganiatâd cynllunio yn unol ag erthygl 3(4);

ystyr “mynediad” (“access”), mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl, yw hygyrchedd wrth fynd i mewn ac oddi mewn i safle, ar gyfer cerbydau, beiciau a cherddwyr, o ran lleoli a thrin y llwybrau mynediad a chylchredeg a'r modd y maent yn cydasio â'r rhwydwaith mynediad o amgylch; ac ystyr “safle” (“site”) yw'r safle neu'r rhan o'r safle y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol mewn perthynas ag ef neu hi, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatâd o'r fath mewn perthynas ag ef neu hi;

ystyr “tirlunio” (“landscaping”), mewn perthynas â safle, neu unrhyw ran o safle, y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar ei gyfer neu ar ei chyfer, neu, yn ôl fel y digwydd, y gwnaed cais am ganiatâd o'r fath, yw trin y tir (ac eithrio adeiladau) at y diben o wella neu ddiogelu amwynderau'r safle a'r ardal y'i lleolir ynddi, ac y mae'n cynnwys—

(a)

sgrinio drwy ddefnyddio ffensys, waliau neu ddulliau eraill;

(b)

plannu coed, gwrychoedd, llwyni neu laswellt;

(c)

ffurfio cloddiau, terasau neu gloddweithiau cyffelyb;

(ch)

llunweddu neu ddarparu gerddi, cyrtiau, sgwariau, arweddion dŵr, cerfluniau neu gelfyddyd gyhoeddus; a

(d)

darparu arweddion amwynder eraill;

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad ag ynddo un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat oddi mewn i adeilad o'r fath; ac

[F2“ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i awdurdod lleol]

ystyr “ymddangosiad” (“appearance”) yw'r agweddau ar adeilad neu le o fewn y datblygiad sy'n penderfynu'r argraff weledol a wneir gan yr adeilad neu'r lle, gan gynnwys ffurf adeiledig allanol y datblygiad, ei bensaernïaeth, y deunyddiau, yr addurniad, y goleuo, y lliw a'r gwead.

[F2“ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), pan fo’r datblygiad y mae’r cais arfaethedig am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw;]

[F2ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—

(a)

pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)

pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;]

(2Yn y Gorchymyn hwn ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig neu storio electronig at unrhyw un o ddibenion y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni'n electronig—

(a)mae'r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau neu storio o'r fath ac eithrio, pan fo'r Gorchymyn hwn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, na chyflawnir y rhwymedigaeth oni fydd y person y'i gosodir arno yn darparu cyfeiriad post; a

(b) mae cyfeiriadau at ddogfennau, mapiau, planiau, lluniadau, tystysgrifau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r cyfryw bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.

(3Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y dibenion canlynol—

(a)cyflawni unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn i roi neu anfon unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall i, neu at, unrhyw berson arall; neu

(b)cyflwyno unrhyw gais, tystysgrif neu ddogfen arall, y cyfeirir atynt yn erthygl 22(3), i awdurdod cynllunio lleol,

ac yn y paragraffau hynny, ystyr “y derbynnydd” (“the recipient”) yw'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn neu'r awdurdod cynllunio lleol, yn ôl fel y digwydd.

(4Nid ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni, neu (yn ôl fel y digwydd) bod y cais wedi ei gyflwyno neu ddogfen arall wedi ei chyflwyno onid yw'r ddogfen a drawsyrrir gan y cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)yn ddigon parhaol i'w defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.

(5Ym mharagraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau dim llai nag y byddai pe bai wedi ei rhoi neu'i hanfon ar ffurf dogfen brintiedig.

(6Os yw'r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad ar y diwrnod gwaith dilynol; ac at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(7Mae gofyniad, yn y Gorchymyn hwn, bod unrhyw gais, hysbysiad neu ddogfen arall mewn ysgrifen wedi ei fodloni os yw'r ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.

[F6Datblygiad i gynnwys gweithrediadau mewnol penodolLL+C

2A.  Nid yw is-adran (2) o adran 55 o Ddeddf 1990 yn gymwys i weithrediadau a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno sy’n cael yr effaith o gynyddu arwynebedd llawr yr adeilad mwy na 200 metr sgwâr mewn amgylchiadau pan fo’r adeilad yn cael ei ddefnyddio i fanwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth.]

[F7RHAN 1ALL+CYmgynghoriad cyn-ymgeisio

Gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisioLL+C

2B.(1) Mae datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 61Z(1) o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio).

(2) Mae ceisiadau adran 73 arfaethedig a cheisiadau sydd i’w gwneud o gan adran 73A o Ddeddf 1990 (Caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes)(8) wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(7)(b) o Ddeddf 1990.

Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunioLL+C

2C.(1) Rhaid i’r ceisydd(9) hysbysebu’r cais arfaethedig drwy—

(a)rhoi hysbysiad gofynnol—

(i)drwy ei arddangos ar y safle mewn o leiaf un man, ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am o leiaf 28 diwrnod; a

(ii)mewn ysgrifen i unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig, am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda phob diwrnod y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 2D(2)—

(i)unrhyw ddogfennau a manylion neu dystiolaeth a fyddai’n ofynnol er mwyn i gais dilynol, yn yr un ffurf neu’r un ffurf o ran sylwedd, fod yn gais dilys, ac eithrio’r tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n ofynnol gan erthygl 11;

(ii)plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;

(iii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

(iv)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad; a

(v)yn ddarostyngedig i erthygl 8(2), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990(10).

(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(3) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.

(4) Os yw’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 28 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunioLL+C

2D.(1) Mae’r personau neu ddisgrifiadau o bersonau canlynol wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(4) o Ddeddf 1990—

(a)unrhyw ymgynghorai cymunedol;

(b)unrhyw ymgynghorai arbenigol.

(2) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai cymunedol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai cymunedol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig.

(3) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai arbenigol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai arbenigol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig ac amgáu pob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn erthygl 2C(1)(b) neu ddarparu dolen i wefan lle y gellir gweld y dogfennau hynny.

(4) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) ac wedi rhoi cyfle i’r ymgynghorai arbenigol ymateb yn unol ag erthygl 2E(1) cyn cyflwyno cais.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw—

(a)mewn perthynas ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1B; a

(b)mewn perthynas ag ymgynghorai arbenigol, hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 1C,

neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio: ymgyngoreion arbenigolLL+C

2E.(1) Rhaid i ymgynghorai arbenigol, yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â darpariaethau adran 61Z(4) o Ddeddf 1990, ddarparu ymateb o sylwedd o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2D(3) neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgynghorai arbenigol a’r ceisydd.

(2) At ddibenion yr erthygl hon, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd yn—

(a)datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol unrhyw sylw i’w wneud;

(b)datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai arbenigol ar destun yr ymgynghoriad;

(c)rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(ch)rhoi gwybod i’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai arbenigol bryderon ac y byddai’n gwrthwynebu cais am ganiatâd cynllunio a wneid ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.

Adroddiadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisioLL+C

2F.(1) Pan fu’n ofynnol bod ceisydd yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn unol â darpariaethau adran 61Z o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D, ac yntau wedyn yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio, rhaid cyflwyno’r cais ynghyd ag adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, sy’n rhoi manylion o’r canlynol—

(a)sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 61Z o Ddeddf 1990;

(b)unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad a gafwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan adran 61Z(3) neu (4) o Ddeddf 1990; ac

(c)yr ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion hynny.

(2) Rhaid i’r adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys —

(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i);

(b)datganiad i’r perwyl bod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 2C(1)(a)(i) wedi ei arddangos yn unol â gofynion yr erthygl honno;

(c)rhestr o gyfeiriadau’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r cais arfaethedig iddynt yn unol ag erthygl 2C(1)(a)(ii) a chopi o’r hysbysiad a roddwyd i bersonau o’r fath;

(ch)copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol ac arbenigol yn unol ag erthyglau 2D(2) a 2D(3);

(d)crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw berson a hysbyswyd ynghylch y cais arfaethedig yn unol ag adran 61Z(3) o Ddeddf 1990 ac erthyglau 2C a 2D(2), gan gynnwys cadarnhad a aethpwyd i’r afael â’r materion a godwyd ai peidio, ac os felly, sut; ac

(dd)copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol, ynghyd ag eglurhad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.]

RHAN 2LL+CCeisiadau

Ceisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellolLL+C

3.—(1Pan wneir cais i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio amlinellol, caiff yr awdurdod roi caniatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n pennu materion a gedwir yn ôl, ar gyfer eu cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr awdurdod.

(2Os yw awdurdod cynllunio lleol sydd i benderfynu cais am ganiatâd cynllunio amlinellol, o'r farn, yn amgylchiadau'r achos, na ddylid ystyried y cais ar wahân i'r cyfan neu unrhyw rai o'r materion a gedwir yn ôl, rhaid iddo, o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau pan geir y cais, hysbysu'r ceisydd na all yr awdurdod benderfynu'r cais oni chyflwynir manylion pellach, gan nodi'r manylion pellach sy'n ofynnol ganddo.

(3Pan fo'r llunwedd yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan yn fras leoliad yr adeiladau, y llwybrau a'r mannau agored a gynhwysir yn y datblygid arfaethedig.

(4Pan fo graddfa yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a gynhwysir yn y datblygid arfaethedig.

(5Pan fo mynediad yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan ym mha fan neu fannau y lleolir y pwyntiau mynediad i'r datblygiad arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôlLL+C

4.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl—

(a)cael ei wneud i'r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith);

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(c)cael ei gyflwyno ynghyd â'r cyfryw blaniau a lluniadau sy'n angenrheidiol er mwyn delio â'r materion a gadwyd yn ôl yn y caniatâd cynllunio amlinellol;

(ch)ac eithrio pan wneir y cais drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, cael ei gyflwyno ynghyd â 3 chopi o'r ffurflen; a

(d)ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, cael ei gyflwyno ynghyd â 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth a gyflwynir gyda'r cais.

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae'n ofynnol eu darparu o dan baragraff (1)(c) fod wedi eu lluniadu wrth raddfa ddynodedig, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3Pan wneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, rhaid i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)cael ei wneud i'r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith);

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(c)ac eithrio [F8yn achos cais adran 73 neu pan wneir y cais yn unol ag] adran 73A(2)(c) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes), o Ddeddf 1990(10), cael ei gyflwyno, naill ai'n electronig neu fel arall, ynghyd â'r canlynol—

(i)plan sy'n diffinio'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy'n angenrheidiol er mwyn disgrifio'r datblygiad sy'n destun y cais;

(iii)ac eithrio pan wneir y cais drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, 3 chopi o'r ffurflen; a

(iv)ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth a gyflwynir gyda'r cais.

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae'n ofynnol eu darparu o dan baragraff (1)(c)(i) neu (ii) fod wedi eu lluniadu wrth raddfa ddynodedig, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5) o erthygl 3, yn achos cais am ganiatâd cynllunio amlinellol, nid oes raid rhoi manylion ynghylch unrhyw faterion a gedwir yn ôl.

(4Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion o weithfeydd mwynau—

(a)cael ei wneud ar ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; ac

(c)cydymffurfio â gofynion paragraff (1)(c).

(5Pan wneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau mewn perthynas â thir y GoronLL+C

6.  Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â thir y Goron ynghyd ag—

(a)datganiad i'r perwyl y gwneir y cais mewn perthynas â thir y Goron; a

(b)os gwneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Datganiadau dylunio a mynediadLL+C

[F97.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)ar gyfer datblygiad mawr;

(b)pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—

(i)darparu un neu ragor o dai annedd; neu

(ii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.

(2) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—

(a)cais adran 73;

(b)cais am ganiatâd cynllunio—

(i)ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;

(ii)ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu

(iii)ar gyfer datblygiad gwastraff.

(3) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).

(4) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;

(b)dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;

(c)esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac

(ch)esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.

(5) Ym mharagraff (1) ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw—

(a)ardal gadwraeth; neu

(b)eiddo sy’n ymddangos yn Rhestr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972 (Safle Treftadaeth y Byd).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 7 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â cheisiadauLL+C

8.—(1Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn cael—

[F10(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;]

(b)pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;

[F11(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;]

(c)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F12...;

(ch)mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;

(d)y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (2), y manylion y gofynnir amdanynt, neu'r dystiolaeth y gofynnir amdani, gan yr awdurdod o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(11); ac

(e)unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais,

rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon at y ceisydd i gydnabod y cais yn y termau a bennir yn Atodlen 1 (neu dermau o'r un sylwedd).

(2Nid yw paragraff (1)(dd) yn gymwys ac eithrio—

(a)pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr; a

(b)yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais yn cael ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion erthygl 22(3); ac

(c)y manylion y gofynnir gan yr awdurdod am eu cynnwys yn y cais, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, yn dod o fewn y rhestr honno.

[F13(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu]

[F14(3) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.]

(4Yn yr erthygl hon, mae cais yn annilys os nad yw'n gais dilys o fewn ystyr erthygl 22(3).

Datganiad sydd i'w gyflwyno ynghyd â chais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad cyfathrebiadau electronig penodolLL+C

9.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu ragor o antenau at y diben o weithredu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig.

(2At ddibenion yr erthygl hon mae i “rhwydwaith cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i'r term “electronic communications network” gan adran 32(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (ystyr rhwydweithiau cyfathrebiadau a gwasanaethau electronig)(12).

(3Rhaid i gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad ysgrifenedig i'r perwyl bod y cyfarpar a'r gosodiad y mae'r cais yn ymwneud ag ef wedi ei ddylunio fel y bydd, ar ôl ei adeiladu neu'i osod, o ystyried ei leoliad a'r modd y'i hadeiladwyd neu'i gosodwyd, yn gweithredu mewn modd sy'n cydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydredd nad yw'n Ïoneiddio ar gyffyrddiad y cyhoedd ag amleddau radio, fel y'u mynegir yn argymhelliad Cyngor yr UE ar 12 Gorffennaf 1999, ar gyfyngu ar gyffyrddiad y cyhoedd â meysydd electromagnetig (0 Hz i 300 GHz)(13).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 9 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geisydd am ganiatâd cynllunio roi hysbysiad gofynnol ynglŷn â'r cais i unrhyw berson (ac eithrio'r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, neu'n denant—

(a)drwy gyflwyno'r hysbysiad i bob cyfryw berson y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r ceisydd; a

(b)pan fo'r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddarganfod enwau a chyfeiriadau pob cyfryw berson, ond heb lwyddo i wneud hynny, drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

(2Yn achos cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys ennill a gweithio mwynau drwy weithrediadau tanddaearol, yn hytrach na rhoi hysbysiad yn y modd y darperir ar ei gyfer gan baragraff (1), rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad gofynnol ynglŷn â'r cais i unrhyw berson (ac eithrio'r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, neu'n denant,—

(a)drwy gyflwyno'r hysbysiad i bob cyfryw berson y gŵyr y ceisydd ei fod yn berson o'r fath ac y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r ceisydd;

(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais; ac

(c)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ym mhob cymuned y lleolir ynddi unrhyw ran o'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais, a chan adael yr hysbysiad yn ei le am gyfnod o ddim llai na 7 diwrnod yn ystod y cyfnod o 21 diwrnod yn union cyn gwneud y cais i'r awdurdod cynllunio lleol.

(3Rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff (2)(c) (yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill y mae'n ofynnol eu cynnwys ynddo) enwi man, sydd o fewn ardal yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo, lle gall y cyhoedd archwilio copi o'r cais am ganiatâd cynllunio ac o'r holl blaniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd â'r cais, ar unrhyw oriau rhesymol yn ystod pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o hysbysebu ceisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff (2)(c) (yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill y mae'n ofynnol eu cynnwys ynddo) ddatgan cyfeiriad y wefan lle cyhoeddir copi o'r cais, ac o'r holl blaniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd â'r cais.

(5Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 7 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi dod i ben, a hynny pan nad oes unrhyw fai ar y ceisydd na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw, os cymerodd y ceisydd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.

(6Y dyddiad a ragnodir at ddibenion adran 65(2) o Ddeddf 1990 (hysbysiad etc o geisiadau am ganiatâd cynllunio)(14), a'r “dyddiad rhagnodedig” (“prescribed date”) at ddibenion yr erthygl hon, yw'r diwrnod 21 diwrnod cyn dyddiad y cais.

(7Y ceisiadau a ragnodir at ddibenion paragraff (c) o'r diffiniad o “owner” yn adran 65(8) o Ddeddf 1990 yw ceisiadau mwynau, a'r mwynau a ragnodir at ddibenion y paragraff hwnnw yw unrhyw fwynau ac eithrio olew, nwy, glo, aur neu arian.

(8Yn yr erthygl hon—

ystyr “ceisiadau mwynau” (“minerals applications”) yw ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys ennill a gweithio mwynau;

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 2 neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith, ond ni fydd yn cynnwys hysbysiad a gyflwynir gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig; ac

ystyr “tenant” (“tenant”) yw tenant amaethyddol fel y diffinnir “agricultural tenant” yn adran 65(8) o Ddeddf 1990, o dir y mae unrhyw ran ohono'n gynwysedig yn y tir y mae cais yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Ergl. 10 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

11.—(1Pan wneir cais am ganiatâd cynllunio rhaid i'r ceisydd ardystio, mewn ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith, bod gofynion erthygl 10 wedi eu bodloni.

(2Os bydd gan geisydd achos i ddibynnu ar baragraff (5) o erthygl 10, rhaid i'r dystysgrif ddatgan yr amgylchiadau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 11 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunioLL+C

12.—(1Rhaid i awdurdod cynllunio lleol y gwneir cais iddo am ganiatâd cynllunio roi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.

(2Yn achos cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad—

(a)sy'n gais AEA a gyflwynir ynghyd â datganiad amgylcheddol;

(b)nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais; neu

(c)a fyddai'n effeithio ar hawl tramwy y mae Rhan 3 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (hawliau tramwy cyhoeddus)(15) yn gymwys iddi,

rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a bennir ym mharagraff (3).

(3Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i gais sy'n dod o fewn paragraff (2) (“cais paragraff (2)”) drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; a

(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

(4Yn achos cais am ganiatâd cynllunio nad yw'n gais paragraff (2) [F15nac yn gais sy’n dod o fewn paragraff (4A)], os yw'r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad mawr, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)(i)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu

(ii)drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol; a

(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

[F16(4A) Yn achos cais adran 73 nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2)(a) neu (c), rhaid hysbysebu’r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am o leiaf 21 diwrnod; a

(b)ym mha bynnag fodd arall a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cynllunio lleol.]

(5Mewn achos nad yw paragraff (2) [F17, paragraff (4) na pharagraff (4A)] yn gymwys iddo, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu

(b)drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.

(6Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), (4)(a)(i) [F18, (4A)] neu (5)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd bai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.

(7Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o roi cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol ar y wefan—

(a)cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig;

(b)disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig;

(c)erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid gwneud unrhyw sylwadau, sef dyddiad na chaiff fod yn gynharach na diwrnod olaf y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddir yr wybodaeth;

(ch)ymhle a pha bryd y ceir archwilio'r cais; F19...

(d)sut y gellir gwneud sylwadau ynglŷn â'r cais.

[F20; ac

(dd)yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd apêl sy’n dilyn y weithdrefn hwylusach, y bydd unrhyw sylwadau a wneir ynglŷn â’r cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud sylwadau pellach.]

(8Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi methu â bodloni gofynion yr erthygl hon mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ar yr adeg yr atgyfeirir y cais at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(16) neu y gwneir unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(17), bydd yr erthygl hon yn parhau'n gymwys fel pe na bai'r cyfryw atgyfeiriad neu apêl i Weinidogion Cymru wedi ei wneud.

(9Os yw paragraff (8) yn gymwys, pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi bodloni gofynion yr erthygl hon, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny.

(10Yn yr erthygl hon—

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 3 neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran effaith; ac

ystyr “perchennog neu feddiannydd cyffiniol” (“adjoining owner or occupier”) yw unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol i'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

(11Mae paragraffau (1) i (6) yn gymwys i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(18) fel pe bai'r cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Hysbysiad o atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion CymruLL+C

13.  Wrth atgyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol) yn unol â chyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw, rhaid i awdurdod cynllunio lleol gyflwyno i'r ceisydd hysbysiad sydd—

(a)yn nodi telerau'r cyfarwyddyd ac unrhyw resymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ei ddyroddi;

(b)yn datgan bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru; ac

(c)yn cynnwys datganiad y bydd Gweinidogion Cymru, os yw'r ceisydd yn dymuno hynny, yn rhoi cyfle i'r ceisydd ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael ei glywed ganddo, ac y bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 13 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

RHAN 3LL+CYmgynghori

Ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâdLL+C

14.—(1Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd, ym marn awdurdod cynllunio lleol, yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir mewn perthynas â'r categori hwnnw, oni bai—

(a)mai'r awdurdod cynllunio lleol yw'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly; neu

(b)bod yr awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly wedi rhoi gwybod i'r awdurdod cynllunio lleol nad yw'n dymuno iddo ymgynghori ag ef[F21, neu

(c)mae erthygl 15ZA yn gymwys].

(2Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(b) yn gymwys os yw'r datblygiad, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn dod o fewn paragraff [F22(rh)] o'r Tabl yn Atodlen 4.

(3Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i awdurdod cynllunio lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff a enwir yn y cyfarwyddiadau, mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion a bennir yn y cyfarwyddiadau.

(4Os yw'n ofynnol gan neu, o dan, yr erthygl hon bod awdurdod cynllunio lleol yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—

(a)rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, os nad yw'r ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i'r ymgynghorai, roi hysbysiad o'r cais i'r ymgynghorai; a

(b)rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais tan [F2321 diwrnod] o leiaf ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw'n gynharach, [F2321 diwrnod] ar ôl dyddiad cyflwyno copi o'r cais i'r ymgynghorai gan y ceisydd.

(5Wrth benderfynu'r cais, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan ymgynghorai.

Ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio: datblygiad brys y GoronLL+C

15.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais).

(2Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir mewn perthynas â'r categori hwnnw, ac eithrio—

(a)pan yw'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â'r awdurdod a grybwyllir felly o dan adran 293A(9)(a) o Ddeddf 1990;

(b)pan fo'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru nad yw'n dymuno iddynt ymgynghori ag ef; neu

(c)pan fo'r datblygiad yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor sefydlog, a ddarperir gan yr awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r categori o ddatblygiad.

(3Nid yw'r eithriad ym mharagraff (2)(b) yn gymwys os yw'r datblygiad, ym marn Gweinidogion Cymru, yn dod o fewn paragraff [F24(rh)] o'r Tabl yn Atodlen 4.

(4Nid yw'r eithriad ym mharagraff (2)(c) yn gymwys—

(a)os yw'r datblygiad yn ddatblygiad AEA; neu

(b)os dyroddwyd y cyngor sefydlog fwy na 2 flynedd cyn dyddiad y cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, ac nad yw'r canllawiau wedi eu diwygio na'u cadarnhau fel rhai sydd mewn grym, gan yr awdurdod, corff neu berson o fewn y cyfnod hwnnw.

(5Os yw'n ofynnol, gan, neu o dan, yr erthygl hon, bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, os nad yw'r ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i'r ymgynghorai, roi hysbysiad o'r cais i'r ymgynghorai; a

(b)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu'r cais tan 14 diwrnod o leiaf ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw'n gynharach, 14 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno copi o'r cais i'r ymgynghorai gan y ceisydd.

(6Wrth benderfynu'r cais, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan ymgynghorai.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 15 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

[F25Ymgyngoriadau cyn caniatáu ceisiadau adran 73LL+C

15ZA.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chais adran 73 ac eithrio cais adran 73 sydd yn gais AEA.

(2) Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag awdurdodau neu bersonau sy’n dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4.

(3) Pan fo awdurdod cynllunio lleol, yn rhinwedd neu o dan yr erthygl hon, yn ymgynghori ag unrhyw awdurdod neu berson (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—

(a)rhaid iddo, oni fydd ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i’r ymgynghorai, roi hysbysiad o’r cais i’r ymgynghorai; a

(b)rhaid iddo beidio â phenderfynu’r cais tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw’n gynharach, 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd copi o’r cais i’r ymgynghorai gan y ceisydd.

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu’r cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gaiff gan ymgynghorai.]

[F26Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriadLL+C

15A.(1) Y gofyniad i ymgynghori a ragnodir at ddibenion adran 54(2)(b) o Ddeddf 2004 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad) yw’r hwn sydd wedi ei gynnwys yn erthygl 14 [F27ac erthygl 15ZA].

(2) At ddibenion adran 54(4)(a) o Ddeddf 2004, 21 diwrnod yw’r cyfnod a ragnodir gan ddechrau gyda’r diwrnod—

(a)y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn [F28erthygl 14(4)(a) neu 15ZA(3)(a)]; neu

(b)os yn gynharach, dyddiad cyflwyno copi o’r cais i’r ymgynghorai,

neu gyfnod arall o’r fath fel y cytunir yn ysgrifenedig rhwng yr ymgynghorai a’r ymgynghorwr.

[F29(3) At ddibenion yr erthygl hon ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd—

(a)pan na chynhaliwyd ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio), neu pan fo’r ymgynghorai wedi methu â rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—

(i)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;

(ii)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

(iii)yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(iv)yn rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad; a

(b)pan fo ymgynghoriad wedi ei gynnal at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990, a’r ymgynghorai wedi rhoi ymateb yn unol ag erthygl 2E—

(i)yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai sylw pellach i’w wneud mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig ac yn cadarnhau bod unrhyw sylwadau a wnaed o dan erthygl 2E yn parhau’n berthnasol;

(ii)yn rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon newydd a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig, pam nad oedd y pryderon hynny wedi eu nodi yn yr ymateb yn unol ag erthygl 2E ac—

(aa)sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon; neu

(bb)bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.]

[F30(4) Yn yr erthygl hon ac erthygl 15B, mae cyfeiriadau at ymgynghorai yn cynnwys cyfeiriad at ymgynghorai arbenigol pan fo ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 wedi ei gynnal.]

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddolLL+C

15B.(1) Rhaid i bob ymgynghorai sydd, yn rhinwedd adran 54 o Ddeddf 2004 ac erthygl 15A, o dan ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad roi adroddiad i Weinidogion Cymru ar gydymffurfiad yr ymgynghorai hwnnw ag adran 54(4) o Ddeddf 2004 ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, gan ddechrau gydag 1 Gorffennaf 2017.

[F31(1A) Rhaid i bob ymgynghorai sydd o dan ddyletswydd yn rhinwedd erthygl 2E i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio, gynnwys yn yr adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1), adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai â’r erthygl honno.]

(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol (“y flwyddyn adrodd”).

(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol, mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn adrodd—

(a)nifer yr achlysuron yr ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;

(b)nifer yr achlysuron y darparwyd ymateb o sylwedd;

(c)pa bryd y darparwyd yr ymateb o sylwedd; ac

(ch)nifer yr achlysuron y rhoddodd yr ymgynghorai ymateb o sylwedd y tu allan i’r cyfnod a ragnodwyd at ddibenion adran 54(4) o Ddeddf 2004 [F32neu, yn ôl fel y digwydd, y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn erthygl 2E(1)] a chrynodeb o’r rhesymau dros hynny.]

[F33(4) Yn yr erthygl hon ystyr “ymateb o sylwedd” yw naill ai ymateb o sylwedd i’r ceisydd neu i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthyglau 2E neu 15A.]

[F34Ymgynghori mewn cysylltiad â cheisiadau penodol yn ymwneud â chaniatâd cynllunio: cyfnodau amserLL+C

15C.  Y cyfnod a bennir at ddibenion adran 100A(3)(a) o Ddeddf 1990 yw’r cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ymgynghorai yn cael—

(a)y ddogfen y gofynnir am farn yr ymgyngoreion arni; neu

(b)pan fo mwy nag un o ddogfennau, a anfonir ar wahanol ddiwrnodau, yr olaf o’r dogfennau hynny.

Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod cynllunio lleolLL+C

15D.  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ddarparu’r wybodaeth ganlynol i ymgynghorai statudol at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad—

(a)copi o’r ffurflen gais sy’n ymwneud â chais perthnasol(12);

(b)y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol i’r cais gwreiddiol(13);

(c)unrhyw luniadau sy’n gysylltiedig â’r cais perthnasol; ac

(ch)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â’r cais perthnasol a ddyroddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol.

Ymateb o sylwedd i ymgynghoriadLL+C

15E.  Ymateb o sylwedd at ddibenion adran 100A(2) o Ddeddf 1990 yw ymateb sydd yn—

(a)datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;

(b)datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad, ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

(c)rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig materion sy’n destun yr ymgynghoriad a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(ch)rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.

Adroddiadau blynyddol – cydymffurfiaeth â gofynion ymgynghoriLL+C

15F.(1) Rhaid i bob ymgynghorai statudol yr ymgynghorir ag ef ynghylch cais dilys roi i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn galendr, gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2017, adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai hwnnw ag adrannau 100A(2) a (3) o Ddeddf 1990 ac erthygl 15C.

(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn galendr flaenorol (“y flwyddyn adroddiad”).

(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys, mewn cysylltiad â’r flwyddyn adroddiad o dan sylw, datganiad o’r canlynol—

(a)nifer yr achlysuron pan ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;

(b)nifer yr achlysuron pan ddarparwyd ymateb o sylwedd;

(c)nifer yr achlysuron pan roddwyd ymateb o sylwedd gan yr ymgynghorai y tu allan i’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion 100A(3) o Ddeddf 1990 a chrynodeb o’r rhesymau am hynny.]

Sylwadau gan gynghorau cymuned cyn penderfynu ceisiadauLL+C

16.—(1Pan roddir gwybodaeth ynglŷn â chais i gyngor cymuned yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1990 (dosbarthiad swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol: Cymru)(19), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i'r awdurdod cynllunio lleol sy'n penderfynu'r cais a yw'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau ynghylch y modd y dylid penderfynu'r cais ai peidio, a rhaid iddo gyflwyno unrhyw sylwadau i'r awdurdod hwnnw o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl i'r cyngor cymuned gael ei hysbysu ynglŷn â'r cais.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu unrhyw gais, y mae'n ofynnol rhoi gwybodaeth amdano i gymuned—

(a)cyn bo'r cyngor cymuned yn rhoi gwybod iddo nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw sylwadau;

(b)cyn bo sylwadau wedi eu gwneud gan y cyngor hwnnw; neu

(c)cyn bo'r cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi dod i ben,

pa un bynnag o'r rhain sy'n digwydd gyntaf; ac wrth benderfynu'r cais, rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan gyngor y gymuned.

(3Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol hysbysu'r cyngor cymuned ynghylch telerau'r penderfyniad ar unrhyw gais o'r fath, neu, os atgyfeirir y cais at Weinidogion Cymru, rhaid iddo hysbysu'r cyngor cymuned o'r dyddiad y'i hatgyfeiriwyd felly, a phan ddônt i law, telerau penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Ergl. 16 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Hysbysu ynghylch ceisiadau mwynauLL+C

17.—(1Pan fo hysbysiad wedi ei roi at ddibenion yr erthygl hon i awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â thir sydd o fewn ei ardal, ac os pennwyd yn yr hysbysiad—

(a)gan yr Awdurdod Glo, bod y tir yn cynnwys glo;

(b)gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, bod y tir yn cynnwys nwy neu olew; neu

(c)gan Gomisiynwyr Ystad y Goron, bod y tir yn cynnwys arian neu aur,

rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu unrhyw gais am ganiatâd cynllunio i ennill a gweithio unrhyw fwyn ar y tir hwnnw, heb yn gyntaf hysbysu'r corff neu'r person a roddodd yr hysbysiad, bod cais wedi ei wneud.

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “glo” (“coal”) yw glo ac eithrio—

(a)glo a enillwyd neu a weithiwyd yng nghwrs gweithrediadau a ymgymerir yn unig at y diben o chwilio am lo; neu

(b)glo y mae'n ofynnol ei gloddio neu ei gludo ymaith yng nghwrs gweithrediadau a ymgymerir at ddibenion nad ydynt yn cynnwys caffael glo neu unrhyw gynnyrch glo.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Ergl. 17 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

RHAN 4LL+CPenderfynu

Cyfarwyddiadau gan Weinidogion CymruLL+C

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau sy'n cyfyngu ar roi caniatâd gan awdurdod cynllunio lleol, naill ai am gyfnod amhenodol neu yn ystod pa bynnag gyfnod a bennir yn y cyfarwyddiadau, mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad neu mewn perthynas â datblygiad mewn unrhyw ddosbarth a bennir felly.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau bod datblygiad, sydd o ddisgrifiad a bennir yng Ngholofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2 i [F35Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016] (disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddibenion diffinio “Schedule 2 development”)(20) ac sydd hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd, yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio, ar gyfer datblygiad y mae cyfarwyddyd a roddir o dan yr erthygl hon yn gymwys iddo, mewn modd a fydd yn rhoi effaith i'r cyfarwyddyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Ergl. 18 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Datblygiad sy'n effeithio ar briffyrdd presennol ac arfaethedig penodolLL+C

19.—(1Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o'r canlynol, neu sy'n cynnwys y canlynol—

(a)ffurfio, llunweddu neu addasu unrhyw fynedfa i, neu oddi ar, unrhyw ran o gefnffordd sydd naill ai'n ffordd arbennig neu, os nad yn ffordd arbennig, yn ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder o fwy na 40 milltir yr awr; neu

(b)unrhyw ddatblygiad o dir sydd o fewn 67 metr (neu pa bynnag bellter arall a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr erthygl hon) o ganol—

(i)unrhyw briffordd (ac eithrio cefnffordd) a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru, neu'r awdurdodwyd Gweinidogion Cymru i'w darparu, yn unol â gorchymyn o dan Ran 2 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cefnffyrdd, ffyrdd dosbarthiadol, ffyrdd metropolitanaidd, ffyrdd arbennig)(21) ac nad yw, ar y pryd, wedi ei throsglwyddo i unrhyw awdurdod priffyrdd arall;

(ii)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei gwella o dan Ran 5 o'r Ddeddf honno (gwella priffyrdd) ac y rhoddwyd hysbysiad i'r awdurdod mewn perthynas â hi;

(iii)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud gwelliannau iddi yn unol â gorchymyn o dan Ran 2 o'r Ddeddf honno; neu

(iv)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei hadeiladu, y dangosir ei llwybr ar y cynllun datblygu, neu y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol ynglŷn â hi, ynghyd â mapiau neu blaniau digonol ar gyfer adnabod llwybr y briffordd,

rhaid i'r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru drwy anfon copi o'r cais, ac o unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gyda'r cais, at Weinidogion Cymru.

(2Rhaid peidio â phenderfynu cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oni fydd—

(a)yr awdurdod cynllunio lleol yn cael cyfarwyddyd o dan erthygl 18 (a rhaid i'r awdurdod wedyn benderfynu'r cais yn unol â thelerau'r cyfarwyddyd hwnnw);

(b)yr awdurdod wedi cael hysbysiad gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi unrhyw gyfarwyddyd o'r fath mewn perthynas â'r datblygiad y mae'r cais yn ymwneud ag ef; neu

(c)cyfnod o 28 diwrnod (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr awdurdod a Gweinidogion Cymru) o'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad i Weinidogion Cymru wedi dod i ben heb gael cyfarwyddyd o'r fath.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas ag unrhyw achos neu unrhyw ddosbarth neu ddisgrifiad o achosion, roi cyfarwyddyd sy'n pennu pellter gwahanol at ddibenion paragraff (1)(b).

(4Yn yr erthygl hon—

ystyr “cefnffordd” (“trunk road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sy'n gefnffordd yn rhinwedd adrannau 10(1) (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â chefnffyrdd) neu 19 (ffyrdd arbennig penodol a phriffyrdd eraill i ddod yn gefnffyrdd) o Ddeddf Priffyrdd 1980(22) neu yn rhinwedd gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan adran 10, neu unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw offeryn a wneir o dan unrhyw ddeddfiad;

ystyr “ffordd arbennig” (“special road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sy'n ffordd arbennig yn unol ag adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â ffyrdd arbennig)(23); ac

mae i “priffordd arfaethedig” yr ystyr a roddir i “proposed highway” yn adran 329 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth bellach ynglŷn â dehongli)(24).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Ergl. 19 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Datblygiad nad yw'n cydweddu â'r cynllun datblyguLL+C

20.  Caiff awdurdod cynllunio lleol, yn y cyfryw achosion ac yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ragnodir mewn cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Gorchymyn hwn, roi caniatâd ar gyfer datblygiad nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Ergl. 20 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Sylwadau sydd i'w cymryd i ystyriaethLL+C

21.—(1Rhaid i awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed, pan oedd unrhyw hysbysiad neu wybodaeth ynglŷn â'r cais—

(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, o fewn cyfnod o 21 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;

[F36(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw, ar yr amod y gwneir y sylwadau gan unrhyw berson y maent yn fodlon ei fod yn berchennog, yn denant neu’n feddiannydd o’r fath; neu]

(c)wedi ei gyhoeddi neu'i chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,

a'r sylwadau a'r cyfnodau yn yr erthygl hon yw'r sylwadau a'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(25).

(2Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad i bob person a wnaeth sylwadau yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1)(b)(i), a'r cyfryw hysbysiad yw'r hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(b) o Ddeddf 1990.

(3Mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys i geisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(26) ac i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(27) ac y mae paragraffau (1)(b) a (2) yn gymwys i apelau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(28), fel pe bai cyfeiriadau—

(a)at awdurdod cynllunio lleol, yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)at benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, yn gyfeiriadau at benderfynu cais o'r fath neu apêl, yn ôl fel y digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I21Ergl. 21 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadauLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo cais dilys wedi dod i law awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(29) roi i'r ceisydd hysbysiad o'i benderfyniad neu'i ddyfarniad neu roi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru.

[F37(1A) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at gais dilys yn cynnwys cyfeiriadau at y cais hwnnw fel y’i diwygiwyd cyn i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu’r cais.]

(2Y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw—

(a)y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod cynllunio lleol;

[F38(aa)mewn achos y mae paragraff (1A) yn gymwys iddo, y cyfnod o—

(i)4 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y diwygiad i’r cais; neu

(ii)12 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais y mae’r diwygiad yn ymwneud ag ef

pa un bynnag yw’r diweddaraf;]

(b)ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod; neu

(c)os yw unrhyw ffi sy'n ofynnol mewn perthynas â chais wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, y cyfnod priodol fel a bennir yn is-baragraff [F39(a), (aa) neu (b).] uchod, a gyfrifir gan ddiystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi derbyn swm llawn y ffi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais sy'n cynnwys—

[F40(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;]

(b)pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;

[F41(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;]

(c)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F42...;

(ch)mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;

(d)y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y manylion y gofynnir am eu cynnwys, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(30); ac

(e)unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais, ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo'r cais a'r cyfryw ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu'u cyflwyno ynghyd â'r cais, ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.

[F43(3A) Rhaid cymryd bod diwygiad i gais dilys wedi ei gael pan fo’r diwygiad a’r cyfryw ddogfennau a gynhwysir yn y cais neu sy’n dod gyda’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.]

(4Nid yw paragraff (3)(dd) yn gymwys ac eithrio—

(a)pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais wedi ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion paragraff(3); ac

(c)y manylion neu'r dystiolaeth y mae'n ofynnol gan yr awdurdod eu cynnwys, neu ei chynnwys, yn y cais, yn dod o fewn y rhestr honno.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ddarparu pa bynnag wybodaeth ynghylch ceisiadau a wnaed o dan erthygl 4 neu erthygl 5 (gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y modd yr ymdriniwyd ag unrhyw gais o'r fath) a wneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd. Caiff unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gynnwys darpariaeth ynglŷn â pha bersonau sydd i'w hysbysu a'r modd y darperir yr wybodaeth.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu cais am ganiatâd cynllunio, pan fo unrhyw hysbysiad o'r cais, neu wybodaeth yn ei gylch—

(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;

[F44(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw; neu]

(c)wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,

a'r cyfnodau yn y paragraff hwn yw'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(1) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(31).

(7Os oes mwy nag un o'r cyfnodau rhagnodedig o dan baragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais cyn diwedd y diweddaraf neu'r diweddarach o'r cyfnodau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22Ergl. 22 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau a wneir o dan amod cynllunioLL+C

23. [F45(1)]  [F46Pan fo cais dilys] wedi ei wneud i awdurdod cynllunio lleol am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy'n ofynnol drwy amod neu gyfyngiad a osodwyd wrth roi caniatâd cynllunio (ac eithrio cais F47... am gymeradwyaeth o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (datblygiad gan weithredwyr cod cyfathrebiadau electronig)(32)), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'i benderfyniad ar y cais i'r ceisydd o fewn cyfnod o 8 wythnos sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod, neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod.

[F48(2) At y diben o gyfrifo’r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais wedi ei thalu â siec a’r siec wedi ei dychwelyd yn ddiweddarach, rhaid diystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd a’r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais a gyfansoddir o’r canlynol—

(a)cais sy’n cynnwys yr wybodaeth, ac a gyflwynir ynghyd â’r dogfennau a’r deunyddiau eraill sy’n ofynnol, ar gyfer cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio o dan sylw;

(b)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 pan fo’n gymwys; ac

(c)unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â’r cais, ac at y diben hwn ystyrir bod cyflwyno siec am swm y ffi yn daliad,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo’r cais a’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu ynghyd â’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

(4) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2) a (3)(c) yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.

(5) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.]

Hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad neu ddyfarniad mewn perthynas â chais cynllunioLL+C

24.—(1Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad ar gais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, a chaniatâd neu gymeradwyaeth naill ai'n cael ei roi neu'i rhoi yn ddarostyngedig i amodau, neu'r cais yn cael ei wrthod, rhaid i'r hysbysiad—

(a)datgan yn eglur a manwl y rhesymau llawn am y gwrthodiad neu am unrhyw amod a osodir, gan bennu'r holl bolisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar roi caniatâd ar gyfer y datblygiad y gwneir cais amdano, neu pan fo Gweinidogion Cymru neu Adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynegi'r farn na ddylid rhoi'r caniatâd (naill ai'n gyfangwbl neu'n rhannol) neu y dylid ei roi yn ddarostyngedig i amodau, rhoi manylion o'r cyfarwyddyd a roddwyd neu'r farn a fynegwyd; ac

(c)cael ei gyflwyno ynghyd â hysbysiad yn y termau a bennir yn Atodlen 5 (neu mewn termau o'r un sylwedd).

(2Os yw—

(a)y ceisydd am ganiatâd cynllunio wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol; a

(b)yr awdurdod cynllunio lleol (ar ôl cymryd gwybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth) wedi penderfynu rhoi caniatâd (pa un ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i amodau),

rhaid i'r hysbysiad a roddir i'r ceisydd yn unol ag erthygl 22(1) gynnwys datganiad bod gwybodaeth amgylcheddol wedi ei chymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Ergl. 24 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

[F49Hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunioLL+C

24A.(1) Mae ceiswyr wedi eu pennu at ddibenion adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990.

(2) At ddibenion adran 71ZA(6), y manylion sydd i’w cynnwys yn y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio yw—

(a)y rhif cyfeirnod;

(b)dyddiad ac effaith y penderfyniad;

(c)enw’r corff a wnaeth y penderfyniad; ac

(ch)rhif y diwygiad.

Hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiadLL+C

24B.(1) Mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 71ZB(6) o Ddeddf 1990.

(2) Rhaid i’r hysbysiad sydd i’w roi i awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(1) o Ddeddf 1990, fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5A neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

(3) Rhaid i’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir datblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(2) o Ddeddf 1990 Act fod—

(a)yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith;

(b)wedi ei osod yn gadarn yn ei le a’i arddangos mewn man amlwg yn neu gerllaw’r lle y cyflawnir y datblygiad;

(c)yn ddarllenadwy ac yn weladwy yn rhwydd i aelodau’r cyhoedd, heb iddynt orfod mynd i mewn i’r safle; a

(ch)wedi ei argraffu ar ddeunydd gwydn.

(4) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad na bai ar y person sy’n cyflawni’r datblygiad, wedi cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno, trinnir y person fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (3) os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, ei amnewid.]

RHAN 5LL+CApelau

[F50Apelau yn erbyn hysbysiad o farnu’n annilysLL+C

24C.(1) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—

(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a

(b)cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gopi o’r ffurflen a’r dogfennau a gyflwynir i Weinidogion Cymru.

(2) Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw dwy wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad yn unol ag erthygl 8(3A) neu 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(3) At ddibenion paragraff (1)(a) y dogfennau yw—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio—

(i)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

(ii)copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl; a

(iii)copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth a grybwyllir yn erthyglau 5 ac 8(1) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.

(b)yn achos cais a wnaed o dan erthygl 23—

(i)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

(ii)copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl;

(iii)copi o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio, os oes un, y gwneir y cais yn unol ag ef; a

(iv)copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth (gan gynnwys y cyfryw rai a grybwyllir yn erthygl 4(1) pan fo’n gymwys) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.

(c)Pan fo is-baragraff (b)(iii) yn gymwys a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad wedi ei ddyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid darllen is-baragraff (b)(iii) fel pe bai’n cyfeirio at y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl gan geisydd os na chyflwynir y ffurflen a’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).

(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan sydd i’w defnyddio at ddibenion o’r fath a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru, ac sydd—

(a)yn ymwneud ag apelau o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a

(b)yn ddibenion y gellir eu cyflawni yn electronig.

(6) Pan fo person yn defnyddio cyfathrebiadau electronig i roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.]

Hysbysiad o apêl [F51o dan adran 78 o Ddeddf 1990] LL+C

25.  Mae erthyglau 10 ac 11 yn gymwys i unrhyw apêl a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath) fel y maent yn gymwys i geisiadau am ganiatâd cynllunio.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I25Ergl. 25 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Apelau [F52o dan adran 78 o Ddeddf 1990] LL+C

26.—(1Rhaid i geisydd sy'n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath) roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—

(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, ynghyd â'r cyfryw rai o'r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) sy'n berthnasol i'r apêl; a

(b)cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol gopi o'r ffurflen a grybwyllir ym mharagraff (a), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau perthnasol a grybwyllir ym [F53mharagraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(v)] .

(2Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1) yw F54...—

[F55(a)yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach, deuddeg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl;

(b)yn achos unrhyw apêl arall o dan adran 78(1), chwe mis ar ôl—

(i)dyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl; neu

(ii)mewn achos pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad i’r ceisydd yn unol ag erthygl 3(2) bod arno angen gwybodaeth bellach ac nad yw’r ceisydd wedi darparu’r wybodaeth, dyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwnnw;

neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(3) [F56Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

(a)yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach—

(i)copi o’r cais a anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;

(ii)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill yn ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod cynllunio lleol, ac eithrio unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau yn ymwneud â diwygiadau i’r cais arfaethedig ar ôl i’r awdurdod cynllunio lleol wneud eu penderfyniad; ac

(iii)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad;

(b)yn achos unrhyw apêl arall a wnaed o dan adran 78—

(i)y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;

(ii)yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;

(iii)yr holl ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais;

(iv)unrhyw dystysgrif a ddarparwyd i’r awdurdod o dan erthygl 11;

(v)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill sy’n ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod;

(vi)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un;

(vii)os yw’r apêl yn ymwneud â chais am gymeradwyo materion penodol yn unol ag amod ar ganiatâd cynllunio, y cais am y caniatâd hwnnw, y planiau a gyflwynwyd ynghyd â’r cais hwnnw a’r caniatâd cynllunio a roddwyd.]

[F57(c)pan fo’r paragraff hwn yn pennu’r caniatâd cynllunio a roddwyd, a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio wedi ei dyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid ei ddarllen fel pe bai’n pennu’r fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.]

(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl oddi wrth geisydd os na chyflwynir i Weinidogion Cymru y dogfennau sy'n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).

(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan i'w defnyddio at ba bynnag ddibenion a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru—

(a)sy'n ymwneud ag apelau o dan adran 78 o Ddeddf 1990 a'r erthygl hon, a

(b)y gellir eu cyflawni yn electronig.

(6) Pan fo person yn rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.]

[F58(7) Yn yr erthygl hon—

ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais deiliad tŷ ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais masnachol bach ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.]

[F59Apêl a wnaed [F60o dan adran 78 o Ddeddf 1990]: Swyddogaethau awdurdod cynllunio lleolLL+C

26A.  Y cyfnod ychwanegol a ragnodwyd at ddibenion adran 78A yw pedair wythnos.]

RHAN 6LL+CAmrywiol

Gorchmynion datblygu lleolLL+C

27.—(1Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu gwneud gorchymyn datblygu lleol, rhaid i'r awdurdod yn gyntaf baratoi—

(a)drafft o'r gorchymyn; a

(b)datganiad o resymau'r awdurdod dros wneud y gorchymyn.

(2Rhaid i'r datganiad o resymau gynnwys—

(a)disgrifiad o'r datblygiad y byddai'r gorchymyn yn ei ganiatáu; a

(b)plan neu ddatganiad sy'n galluogi adnabod y tir y byddai'r gorchymyn yn ymwneud ag ef.

(3Pan fo awdurdod cynllunio lleol wedi paratoi gorchymyn datblygu lleol drafft, rhaid i'r awdurdod ymgynghori, yn unol â pharagraff (5), â'r cyfryw rai o'r personau canlynol y byddai'r gorchymyn, pe gwneid ef, ym marn yr awdurdod, yn effeithio ar eu buddiannau—

(a)awdurdod cynllunio lleol neu gyngor cymuned y mae unrhyw ran o'i ardal oddi mewn i ardal yr awdurdod neu'n gyffiniol â hi;

(b)[F61Corff Adnoddau Naturiol Cymru] (33);

(c)F62...(34)

(ch)Gweinidogion Cymru;

(d)unrhyw berson—

(i)y mae'r cod cyfathrebiadau electronig yn gymwys iddo yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 106(3)(a) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (cymhwyso'r cod cyfathrebiadau electronig)(35); a

(ii)sy'n berchen neu sy'n rheoli cyfarpar cyfathrebiadau electronig a leolir mewn unrhyw ran o ardal yr awdurdod;

(dd)unrhyw rai o'r personau canlynol sy'n arfer swyddogaethau mewn unrhyw ran o ardal yr awdurdod—

(i)Bwrdd Iechyd Lleol(36);

(ii)person y rhoddwyd trwydded iddo o dan adran 6(1)(b) ac (c) o Ddeddf Trydan 1989 (trwyddedau i awdurdodi cyflenwi, etc)(37);

(iii)person y rhoddwyd trwydded iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986 (trwyddedu cludwyr nwy)(38);

(iv)ymgymerwr carthffosiaeth;

(v)ymgymerwr dŵr;

(e)cyrff gwirfoddol y mae rhai neu'r cyfan o'u gweithgareddau o fudd i unrhyw ran o ardal yr awdurdod;

(f)cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau hiliol, ethnig neu genedlaethol yn ardal yr awdurdod;

(ff)cyrff sy'n cynrychioli buddiannau gwahanol grwpiau crefyddol yn ardal yr awdurdod;

(g)cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau anabl yn ardal yr awdurdod;

(ng)cyrff sy'n cynrychioli buddiannau personau sy'n cynnal busnesau yn ardal yr awdurdod.

(4Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori hefyd ag unrhyw berson y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod ymgynghori ag ef ynghylch cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y bwriedir ei ganiatáu drwy'r gorchymyn.

(5Wrth ymgynghori yn unol â pharagraffau (3) a (4) rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol—

(a)anfon copi o'r gorchymyn drafft a'r datganiad o resymau at yr ymgyngoreion;

(b)pennu cyfnod ymgynghori o ddim llai na 28 diwrnod; ac

(c)cymryd i ystyriaeth yr holl sylwadau a ddaw i law'r awdurdod yn ystod y cyfnod a bennir.

(6Rhaid i awdurdod cynllunio lleol, yn ystod unrhyw ymgynghoriad o dan baragraffau (3) a (4)—

(a)rhoi copi o'r gorchymyn datblygu lleol drafft [F63, y datganiad o resymau ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol] ar gael i'w harchwilio—

(i)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau gwaith arferol; a

(ii)ym mha bynnag fannau eraill o fewn ei ardal a ystyria'n briodol;

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)y gorchymyn datblygu lleol drafft [F64, y datganiad o resymau ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol] ;

(ii)datganiad bod y dogfennau hynny ar gael i'w harchwilio a'r mannau ac amseroedd lle y gellir eu harchwilio; a

(iii)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i sylwadau ar y gorchymyn datblygu lleol drafft ddod i law, sef dyddiad ddim llai nag 28 diwrnod ar ôl dyddiad y cyhoeddiad cyntaf ar y wefan; ac

(c)rhoi hysbysiad o'r canlynol drwy hysbysebu yn lleol—

(i)y gorchymyn datblygu lleol drafft [F65, y datganiad o resymau ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol] ;

(ii)datganiad bod y dogfennau hynny ar gael i'w harchwilio a'r mannau ac amseroedd lle y gellir eu harchwilio; a

(iii)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i sylwadau ar y gorchymyn datblygu lleol drafft ddod i law, sef dyddiad ddim llai nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad gyntaf.

(7Os byddai'r gorchymyn datblygu lleol drafft yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a bennir yn y gorchymyn, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad hefyd o'r bwriad i wneud y gorchymyn—

(a)drwy arddangos, mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r safle y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef, hysbysiad yn y ffurf a bennir yn Atodlen 6, neu mewn ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith, ac yn ddarostyngedig i baragraff (8), gadael yr hysbysiad yno am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y'i harddangosir gyntaf; a

(b)drwy gyflwyno copi o'r hysbysiad hwnnw i bob person y gŵyr yr awdurdod ei fod yn berchennog neu'n denant unrhyw ran o'r safle, ac y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r awdurdod,

(c)a rhaid iddo, yn yr hysbysiad, bennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i sylwadau ynghylch y gorchymyn datblygu lleol drafft ddod i law, sef dyddiad ddim llai nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr arddangoswyd neu y cyflwynwyd yr hysbysiad, yn ôl fel y digwydd.

(8Os caiff hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(a) ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd bai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw, os cymerodd yr awdurdod gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.

(9Pan fo unrhyw hysbysiad o'r cynnig—

(a)wedi ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod cynllunio lleol neu drwy hysbysebu yn lleol yn unol â pharagraff (6);

(b)wedi ei roi drwy arddangos ar y safle o dan baragraff (7)(a); neu

(c)wedi ei gyflwyno i berchennog y tir neu denant o dan baragraff (7)(b),

rhaid i'r awdurdod wrth ystyried pa addasiadau y dylid eu gwneud i'r gorchymyn datblygu lleol drafft, neu a ddylid mabwysiadu gorchymyn o'r fath ai peidio, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir mewn perthynas â'r gorchymyn hwnnw ac a ddaw i law'r awdurdod erbyn y dyddiad a bennir ar y wefan neu yn yr hysbysiadau yn unol â pharagraff (6) neu (7), yn ôl fel y digwydd, fel y dyddiad erbyn pryd y dylid gwneud sylwadau (neu, os yw'r dyddiadau ar y wefan neu yn yr hysbysiadau yn wahanol i'w gilydd, y diweddaraf o'r cyfryw ddyddiadau).

(10Rhaid i awdurdod cynllunio lleol anfon copi o orchymyn datblygu lleol drafft a'r datganiad o resymau mewn perthynas â'r gorchymyn hwnnw, gan gynnwys unrhyw addasiadau a wnaed i'r gorchymyn neu'r datganiad, at Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg wedi i'r awdurdod gydymffurfio â gofynion paragraff (9).

(11Yn ddarostyngedig i baragraff (12), rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ynglŷn â mabwysiadu gorchymyn datblygu lleol cyn bod naill ai—

(a)Gweinidogion Cymru wedi hysbysu'r awdurdod mewn ysgrifen nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud cyfarwyddyd o dan adran 61B(1) o Ddeddf 1990 (ymyriad gan Weinidogion Cymru)(39); neu

(b)cyfnod o 21 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd y drafft at Weinidogion Cymru wedi dod i ben, a Gweinidogion Cymru heb hysbysu'r awdurdod eu bod yn bwriadu gwneud cyfarwyddyd o'r fath, nac wedi ei hysbysu bod arnynt angen rhagor o amser i gyrraedd penderfyniad.

(12Os yw Gweinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(b), wedi hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol bod arnynt angen rhagor o amser i gyrraedd penderfyniad, rhaid i'r awdurdod beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ynglŷn â mabwysiadu'r gorchymyn oni fydd Gweinidogion Cymru wedi hysbysu'r awdurdod fel a grybwyllir ym mharagraff (11)(a).

(13Rhaid peidio â gwneud gorchymyn datblygu lleol a fyddai'n rhoi caniatâd cynllunio—

(a)ar gyfer datblygiad sy'n effeithio ar adeilad rhestredig; neu

[F66(b)“ar gyfer datblygiad sy’n ddatblygiad Atodlen 1 o fewn ystyr rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016.]

(14Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn dirymu gorchymyn datblygu lleol rhaid i'r awdurdod—

(a)cyhoeddi datganiad ar ei wefan bod y gorchymyn datblygu lleol wedi ei ddirymu;

(b)rhoi hysbysiad o'r dirymiad drwy hysbysebu yn lleol; ac

(c)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r dirymiad i bob person y bu'r awdurdod yn ymgynghori ag ef o dan baragraffau (3) neu (4) cyn gwneud y gorchymyn.

(15Yn yr erthygl hon—

(a)mae gofyniad i roi hysbysiad drwy hysbysebu yn lleol yn ofyniad i gyhoeddi'r hysbysiad mewn cynifer o bapurau newydd ag y bo angen er mwyn sicrhau bod y sylw a roddir yn y wasg (yn ei gyfanrwydd) yn ymestyn i'r cyfan o'r ardal y mae'r gorchymyn datblygu lleol yn ymwneud â hi; a

(b)mae i “adeilad rhestredig” yr ystyr a roddir i “listed building” yn adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig)(40).

Tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiadLL+C

28.—(1Rhaid i gais am dystysgrif o dan adran 191(1) neu 192(1) o Ddeddf 1990 (tystysgrifau cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig)(41) gael ei wneud ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith), ac yn ychwanegol at bennu'r tir a disgrifio'r defnydd, gweithrediadau neu fater arall dan sylw yn unol â'r adrannau hynny, rhaid cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen.

(2Rhaid i gais y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd ag—

(a)plan sy'n galluogi adnabod y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei luniadu wrth raddfa ddynodedig ac sy'n dangos cyfeiriad y gogledd;

(b)pa bynnag dystiolaeth y gall y ceisydd ei darparu ar gyfer gwirio'r wybodaeth a gynhwysir yn y cais; ac

(c)datganiad sy'n nodi buddiant y ceisydd yn y tir, enw a chyfeiriad unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod ganddo fuddiant yn y tir, a pha un a hysbyswyd y person hwnnw o'r cais ai peidio.

(3Pan wneir cais am dystysgrif o dan adran 192(1) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â thir y Goron, rhaid ei gyflwyno ynghyd â'r canlynol, yn ogystal â'r dogfennau sy'n ofynnol gan baragraff (2)—

(a)datganiad y gwneir y cais mewn perthynas â thir y Goron; a

(b)os gwneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw.

(4Pan fo cais o'r fath yn pennu dau neu ragor o fathau o ddefnydd, gweithrediadau neu faterion eraill, rhaid i'r plan a gyflwynir ynghyd â'r cais ddynodi â pha ran o'r tir y mae pob math o ddefnydd, gweithrediad neu fater arall yn ymwneud.

(5Pan wneir cais gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

(6Mae erthyglau 8(1) a 22(5) yn gymwys i gais am dystysgrif y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio.

(7Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol wedi cael cais sy'n cydymffurfio â gofynion paragraffau (1) i (4) ac unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais wedi ei chyflwyno, rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon at y ceisydd i gydnabod y cais yn y termau a bennir yn Atodlen 1 (neu dermau o'r un sylwedd).

(8Os yw'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl anfon cydnabyddiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (7), o'r farn bod y cais yn annilys, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod y cais yn annilys.

(9Caiff yr awdurdod cynllunio lleol drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu pa bynnag wybodaeth bellach a bennir gan yr awdurdod i'w alluogi i ymdrin â'r cais.

(10Pan fo cais dilys wedi dod i law, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i'r ceisydd o fewn—

(a)y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y daeth y cais i law'r awdurdod; neu

(b)oni fydd y ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod.

(11At y diben o gyfrifo'r cyfnod priodol a bennir ym mharagraff (10), pan fo unrhyw ffi sy'n ofynnol wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, rhaid diystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad y mae'r awdurdod cynllunio lleol yn anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(12Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais—

(a)sy'n cydymffurfio â gofynion paragraffau (1) i (4); a

(b)a gyflwynir ynghyd â'r ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael os yw'r cais a'r holl ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4), ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.

(13Os gwrthodir cais, yn gyfan gwbl neu'n rhannol (gan gynnwys achos pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn addasu'r disgrifiad o'r math o ddefnydd, y gweithrediadau neu fater arall yn y cais, neu'n rhoi disgrifiad amgen yn lle'r disgrifiad hwnnw), rhaid i'r hysbysiad o benderfyniad ddatgan yn eglur a manwl y rhesymau llawn dros benderfyniad yr awdurdod a rhaid iddo gynnwys datganiad i'r perwyl y caiff y ceisydd, os tramgwyddir ef gan y penderfyniad, apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthodiad neu fethiant i roi penderfyniad ar gais)(42).

(14Rhaid i dystysgrif o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990 fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 7, neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith.

(15Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu dirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990 yn unol ag adran 193(7) o Ddeddf 1990 (tystysgrifau o dan adrannau 191 a 192: darpariaethau atodol)(43), rhaid iddo, cyn dirymu'r dystysgrif, roi hysbysiad o'r bwriad hwnnw i—

(a)perchennog y tir yr effeithir arno;

(b)meddiannydd y tir yr effeithir arno;

(c)unrhyw berson arall yr effeithir arno gan y dirymiad, ym marn yr awdurdod; ac

(ch)yn achos tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990, Gweinidogion Cymru.

(16Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (15) wahodd y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo i wneud sylwadau i'r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â'r bwriad, o fewn 14 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, a rhaid i'r awdurdod beidio â dirymu'r dystysgrif cyn bod pob cyfnod o'r fath a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau wedi dod i ben.

(17Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw ddirymiad o dan adran 193(7) o Ddeddf 1990 i bob person y cyflwynwyd hysbysiad o'r bwriad i ddirymu iddo o dan baragraff (15).

Gwybodaeth Cychwyn

I28Ergl. 28 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

[F67Ceisiadau am newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunioLL+C

28A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i gais a wneir o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunio).

(2) Rhaid i gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(3) Caniateir rhoi cyhoeddusrwydd i gais am newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunio, gan yr awdurdod cynllunio lleol, drwy roi hysbysiad—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 14 diwrnod; neu

(b)drwy gyflwyno’r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.

(4) Os caiff yr hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu’i ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 14 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn y paragraff hwnnw, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac i’w ailosod pe bai angen.

(5) Cyn penderfynu cais, caiff awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag unrhyw awdurdod, corff neu berson yr ymgynghorwyd ag ef yn unol ag erthygl 14 cyn rhoi’r caniatâd cynllunio.

(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3) neu os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi ymgynghori yn unol â pharagraff (5), rhaid i’r awdurdod, wrth benderfynu cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(7) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad ar y cais i’r ceisydd o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y cais neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod.]

RHAN 7LL+CMonitro

Cofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleolLL+C

29.—(1Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gadw cofrestr, mewn tair Rhan, o bob cais am ganiatâd cynllunio a phob gorchymyn datblygu lleol (os oes un) sy'n ymwneud â'i ardal.

(2Rhaid i'r rhan gyntaf o'r gofrestr (“Rhan 1”) gynnwys, mewn perthynas â phob cais am ganiatâd cynllunio, ac unrhyw gais a wnaed am gymeradwyaeth i faterion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd ynglŷn â chais o'r fath, a wnaed i'r awdurdod cynllunio lleol neu a anfonwyd ato ac nas penderfynwyd yn derfynol—

(a)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o'r cais ynghyd ag unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gydag ef;

(b)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278, arfaethedig neu'r ymunwyd ynddi neu ynddo eisoes, mewn cysylltiad â'r cais;

(c)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall, yr ymunwyd ynddi neu ynddo eisoes, mewn perthynas â'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef ac a ystyrir yn berthnasol gan y ceisydd; ac

(ch)manylion o unrhyw addasiad i unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 a gynhwyswyd yn Rhan 1 yn unol ag is-baragraffau (b) ac (c) uchod.

(3Rhaid i'r ail ran o'r gofrestr (“Rhan 2”) gynnwys, mewn perthynas â phob cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ardal yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o'r cais ac o'r planiau a'r lluniadau a gyflwynwyd mewn perthynas ag ef ac o unrhyw ddatganiad dylunio a mynediad a ddarparwyd ynghyd ag ef yn unol ag erthygl 7;

(b)manylion o unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan Ddeddf 1990 neu'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r cais;

(c)penderfyniad yr awdurdod, os gwnaed un, mewn perthynas â'r cais, gan gynnwys manylion o unrhyw amodau y rhoddwyd caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, dyddiad y cyfryw benderfyniad ac enw'r awdurdod;

[F68(ca)fersiwn ddiwygiedig y penderfyniad, os oes un, a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A;]

(ch)rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r cais, pa un ai ar apêl, ar gais o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(44) neu ar atgyfeiriad o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(45);

(d)dyddiad unrhyw gymeradwyaeth ddilynol (pa un ai cymeradwyaeth i faterion a gadwyd yn ôl neu unrhyw gymeradwyaeth ofynnol arall) a roddwyd mewn perthynas â'r cais;

(dd)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 yr ymunwyd ynddi neu ynddo mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r cais;

(e)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall a gymerwyd i ystyriaeth gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru wrth wneud y penderfyniad; ac

(f)manylion o unrhyw addasiad i unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278, neu unrhyw ryddhad o rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278, a gynhwyswyd yn Rhan 2 yn unol ag is-baragraffau (dd) neu (e) neu baragraff (4).

[F69(3A) Rhaid i Ran 2 gynnwys hefyd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob cais a wneir o dan erthygl 28A mewn perthynas â’i ardal—

(a)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o’r cais ynghyd ag unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gydag ef; a

(b)penderfyniad yr awdurdod, os gwnaed un, mewn perthynas â’r cais, dyddiad y cyfryw benderfyniad ac enw’r awdurdod.]

(4Yn dilyn unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(46), os ystyrir bod yr apelydd wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio a Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd cynllunio, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl cael hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru, gofnodi yn Rhan 2 fanylion o'r datblygiad dan sylw, y tir y cyflawnwyd y datblygiad arno, a dyddiad ac effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghyd â chopi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o—

(a)unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 yr ymunwyd ynddi neu ynddo mewn cysylltiad â'r penderfyniad; a

(b)unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall a gymerwyd i ystyriaeth neu gan Weinidogion Cymru wrth wneud y penderfyniad.

(5Rhaid i drydedd rhan y gofrestr gynnwys dwy adran—

(a)rhaid i'r adran gyntaf gynnwys copïau o orchmynion datblygu lleol drafft sydd wedi eu paratoi ond heb eu mabwysiadu gan yr awdurdod cynllunio lleol; a

(b)rhaid i'r ail adran gynnwys—

(i)copïau o orchmynion datblygu lleol sydd wedi eu mabwysiadu gan yr awdurdod;

(ii)manylion am ddirymu unrhyw orchymyn datblygu lleol a wnaed gan yr awdurdod, gan gynnwys y dyddiad y daeth y dirymiad i rym; a

(iii)manylion am ddiwygio unrhyw orchymyn datblygu lleol, gan gynnwys y dyddiad y daeth y diwygiad i rym.

(6Rhaid gosod copi o bob gorchymyn datblygu lleol drafft ar y gofrestr pan anfonir y drafft ar gyfer ymgynghori yn unol ag erthygl 27.

(7Rhaid gosod copi o bob gorchymyn datblygu lleol ar y gofrestr o fewn 14 diwrnod ar ôl dyddiad ei fabwysiadu.

(8Mae gofyniad i osod copi o orchymyn datblygu lleol drafft neu orchymyn datblygu lleol a fabwysiadwyd ar y gofrestr yn cynnwys gofyniad i osod ar y gofrestr y datganiad o resymau dros wneud y gorchymyn hwnnw.

(9Rhaid i'r gofrestr gynnwys hefyd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob cais am dystysgrif o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990 (tystysgrifau o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig) sy'n ymwneud ag ardal yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)dyddiad y cais;

(c)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef;

(ch)disgrifiad o'r defnydd, gweithrediadau neu fater arall a gynhwysir yn y cais;

(d)penderfyniad, os gwnaed un, yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â'r cais, a dyddiad y cyfryw benderfyniad; ac

(dd)rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru ar apêl mewn perthynas â'r cais.

(10Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol ynghylch cynlluniau parth cynllunio syml yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)manylion cryno am unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1990 neu Atodlen 7 i'r Ddeddf honno (gwneud cynlluniau parthau cynllunio syml etc)(47) i sefydlu neu gymeradwyo unrhyw gynllun parth cynllunio syml, gan gynnwys dyddiad y mabwysiadu neu'r cymeradwyo, y dyddiad y daeth y cynllun neu'r newid yn weithredol, a'r dyddiad y mae'n peidio â bod yn weithredol;

(b)copi o unrhyw gynllun parth cynllunio syml, neu unrhyw newid mewn cynllun presennol, gan gynnwys unrhyw ddiagramau, lluniau, deunydd disgrifiadol neu unrhyw ddeunydd arall a ragnodir sydd wedi ei roi ar gael i'w archwilio o dan Atodlen 7 i Ddeddf 1990; ac

(c)map mynegeiol sy'n dangos ffin unrhyw gynlluniau parth cynllunio syml gweithredol neu arfaethedig, gan gynnwys addasiadau i gynlluniau presennol pan fo'n briodol, ynghyd â chyfeiriad at y cofnodion yn y gofrestr o dan is-baragraffau (a) a (b).

(11Er mwyn galluogi unrhyw berson i olrhain unrhyw gofnod yn y gofrestr, rhaid i bob cofrestr gynnwys mynegai, ynghyd â mynegai ar wahân o geisiadau am ddatblygiad sy'n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu greu dyddodion o weithfeydd mwynau.

(12Yn ddarostyngedig i baragraff (13), rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais, neu ar ôl rhoi neu wneud y cyfarwyddyd perthnasol, y penderfyniad perthnasol neu'r gymeradwyaeth berthnasol, yn ôl fel y digwydd.

(13Rhaid gosod copi o unrhyw gais a wneir o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais), ac o unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd mewn perthynas â'r cais, ar y gofrestr o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ymgynghorir â'r awdurdod cynllunio lleol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r cais.

(14Rhaid cadw'r cyfan o'r gofrestr ym mhrif swyddfa'r awdurdod cynllunio lleol, neu rhaid cadw'r rhan honno o'r gofrestr sy'n ymwneud â thir mewn rhan o ardal yr awdurdod hwnnw, mewn man sydd o fewn y rhan honno o'r ardal, neu sy'n gyfleus ar gyfer y rhan honno o'r ardal.

(15At ddibenion paragraff (2), rhaid peidio â thrin cais fel pe bai wedi ei benderfynu yn derfynol oni fydd—

(a)yr awdurdod cynllunio lleol wedi penderfynu F70... a'r cyfnod F71... a bennir yn erthygl 26(2) wedi dod i ben heb i unrhyw apêl gael ei gwneud i Weinidogion Cymru;

(b)y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol) neu apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(48), Gweinidogion Cymru wedi dyroddi penderfyniad a'r cyfnod o chwe wythnos a bennir yn adran 288 o Ddeddf 1990 (achosion i herio dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddiadau eraill)(49) wedi dod i ben heb i unrhyw gais gael ei wneud i'r Uchel Lys o dan yr adran honno;

(c)cais wedi ei wneud i'r Uchel Lys o dan adran 288 o Ddeddf 1990 a'r mater wedi ei benderfynu yn derfynol, naill ai drwy wrthod y cais yn derfynol gan lys, neu drwy ddiddymu penderfyniad Gweinidogion Cymru a dyroddi penderfyniad newydd (heb unrhyw gais pellach o dan yr adran 288 honno); neu

(ch)y cais wedi ei dynnu'n ôl cyn ei benderfynu gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru, yn ôl fel y digwydd, neu apêl wedi ei thynnu'n ôl cyn bo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi eu penderfyniad.

(16Pan fo'r gofrestr a gedwir gan awdurdod cynllunio lleol o dan yr erthygl hon yn cael ei chadw drwy ddefnyddio storio electronig, caiff yr awdurdod roi'r gofrestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben hwnnw.

(17Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “rhwymedigaeth gynllunio” (“planning obligation”) yw rhwymedigaeth yr ymunir ynddi drwy gytundeb neu fel arall gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir yn unol ag adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)(50); a

(b)ystyr “cytundeb adran 278” (“section 278 agreement”) yw cytundeb yr ymunir ynddo yn unol ag adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cytundebau ynglŷn â chyflawni gwaith)(51).

Cofrestr o hysbysiadau gorfodi ac atalLL+C

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r gofrestr o dan adran 188 o Ddeddf 1990 (cofrestr o hysbysiadau gorfodi ac atal)(52) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob hysbysiad gorfodi a ddyroddir mewn perthynas â thir yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol sy'n cynnal y gofrestr—

(a)cyfeiriad y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu blan y gellir cyfeirio ato i ganfod lleoliad y tir;

(b)enw'r awdurdod dyroddi;

(c)dyddiad dyroddi'r hysbysiad;

(ch)dyddiad cyflwyno copïau o'r hysbysiad;

(d)datganiad neu grynodeb o'r toriad o reolaeth gynllunio a honnir, ac o ofynion yr hysbysiad, gan gynnwys y cyfnod a ganiateir ar gyfer cymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol;

(dd)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yr hysbysiad yn cael effaith;

(e)gwybodaeth am unrhyw ohiriad o'r dyddiad a bennir fel y dyddiad y bydd yr hysbysiad yn cael effaith oherwydd adran 175(4) o Ddeddf 1990 (apelau: darpariaethau atodol)(53) a'r dyddiad y penderfynwyd unrhyw apêl yn derfynol neu'r dyddiad y'i tynnwyd yn ôl;

(f)dyddiad cyflwyno ac, os yw'n gymwys, dyddiad tynnu'n ôl, unrhyw hysbysiad atal gyda chyfeiriad at yr hysbysiad gorfodi, ynghyd â datganiad neu grynodeb o'r gweithgarwch a waherddir gan unrhyw hysbysiad atal o'r fath; ac

(ff)y dyddiad, os oes un, y bodlonir yr awdurdod fod y camau sy'n ofynnol gan yr hysbysiad at ddiben a grybwyllir yn adran 173(4)(b) o Ddeddf 1990 (cynnwys ac effaith yr hysbysiad: unioni unrhyw niwed i amwynder)(54) wedi eu cymryd.

(2Rhaid i'r gofrestr honno gynnwys hefyd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob hysbysiad torri amodau a gyflwynwyd mewn perthynas â thir yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol sy'n cynnal y gofrestr—

(a)cyfeiriad y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu blan y gellir cyfeirio ato i ganfod lleoliad y tir;

(b)enw'r awdurdod cyflwyno;

(c)dyddiad cyflwyno'r hysbysiad;

(ch)manylion o'r caniatâd cynllunio perthnasol sy'n ddigonol i alluogi ei adnabod; a

(d)datganiad neu grynodeb o'r amod y methwyd â chydymffurfio ag ef ac o ofynion yr hysbysiad, gan gynnwys y cyfnod a ganiateir ar gyfer cydymffurfio.

(3Rhaid dileu o'r gofrestr bob cofnod mewn perthynas â hysbysiad gorfodi, hysbysiad atal neu hysbysiad torri amodau—

(a)yn achos hysbysiad gorfodi neu hysbysiad atal, os diddymir yr hysbysiad gorfodi perthnasol gan Weinidogion Cymru;

(b)yn achos hysbysiad torri amodau, os diddymir yr hysbysiad gan lys;

(c)mewn unrhyw achos, os tynnir yr hysbysiad perthnasol yn ôl.

(4Rhaid i bob cofrestr gynnwys mynegai sy'n galluogi person i olrhain unrhyw gofnod yn y gofrestr drwy gyfeirio at gyfeiriad y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(5Rhaid cofnodi'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (1) a (2) yn y gofrestr cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad y mae'n ymwneud ag ef.

(6Rhaid cadw'r cyfan o'r gofrestr ym mhrif swyddfa'r awdurdod cynllunio lleol, neu rhaid cadw'r rhan honno o'r gofrestr sy'n ymwneud â thir mewn rhan o ardal yr awdurdod hwnnw mewn man sydd o fewn y rhan honno o'r ardal, neu sy'n gyfleus ar gyfer y rhan honno o'r ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Ergl. 30 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

RHAN 8LL+CCyffredinol

CyfarwyddiadauLL+C

31.  Mae unrhyw bŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn i roi cyfarwyddyd yn cynnwys y pŵer i ddiddymu neu amrywio'r cyfarwyddyd hwnnw drwy gyfarwyddyd dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Ergl. 31 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Defnyddio cyfathrebiadau electronigLL+C

32.—(1Os gwneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir bod y ceisydd wedi cytuno—

(a)i'r awdurdod ddefnyddio cyfathrebiadau o'r fath at ddibenion y cais;

(b)mai cyfeiriad y ceisydd at y dibenion hynny yw'r cyfeiriad sy'n gynwysedig yn y cais neu sydd, rywfodd arall, yn gysylltiedig yn rhesymegol â'r cais; ac

(c)y bydd cytundeb tybiedig y ceisydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes bo'r ceisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn tynnu'n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig o dan baragraff (2).

(2Os nad yw person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad, mewn ysgrifen, sydd—

(a)yn tynnu'n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol ohono at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymunwyd ynddo, neu y tybiwyd yr ymunwyd ynddo, gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd tynnu'n ôl neu ddirymu felly yn derfynol, ac yn cael effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond nid yn llai na saith diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Ergl. 32 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Dirymiadau, darpariaethau trosiannol ac arbedionLL+C

33.—(1Dirymir yr offerynnau statudol a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 8 i'r graddau a bennir yn y rhes gyfatebol yn nhrydedd golofn y Tabl.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wnaed cyn 1 Tachwedd 2011—

(a)nid yw erthyglau 26 (apelau) a 29 (cofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleol) ac Atodlen 5 (hysbysu pan wrthodir caniatâd cynllunio neu pan roddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau) yn gymwys; a

(b)mae erthyglau 23 (apelau) a 25 (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 a Rhan 2 o Atodlen 1 (hysbysiad sydd i'w anfon i'r ceisydd os gwrthodir caniatâd cynllunio neu os rhoddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau) i'r Gorchymyn hwnnw(55) yn gymwys fel yr oedd y darpariaethau hynny'n gymwys yn union cyn 1 Tachwedd 2011.

(3Mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 30 Ebrill 2012—

(a)nid yw erthygl 12 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) yn gymwys; a

(b)mae erthygl 8 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio)(56) yn gymwys fel yr oedd y ddarpariaeth honno'n gymwys yn union cyn 30 Ebrill 2012.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Ergl. 33 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2012

Erthyglau 8 a 28

ATODLEN 1LL+CF72Cydnabod Cais

Diwygiadau Testunol

F72Atod. 1: yn y Cydnabod Cais mae'r geiriau “Os byddwch yn apelio, rhaid ichi apelio o fewn y cyfnod o 6 mis” hyd at “(“y dyddiad perthnasol”)]………..” wedi eu hepgor (22.6.2015) yn rhinwedd gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330). erglau. 1(1), 11(1) (gyda ergl. 12)

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 2(1)

[F73ATODLEN 1ALL+CDefnydd Datblygiad Masnachol Bach

SiopauLL+C

1.  Defnydd ar gyfer pob un o’r dibenion canlynol neu unrhyw un neu ragor ohonynt—

(a)ar gyfer manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,

(b)fel swyddfa bost,

(c)ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel asiantaeth deithio,

(ch)ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre,

(d)ar gyfer trin gwallt,

(dd)ar gyfer trefnu angladdau,

(e)ar gyfer arddangos nwyddau sydd ar werth,

(f)ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,

(ff)ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,

(g)ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,

pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynolLL+C

2.  Defnydd ar gyfer darparu—

(a)gwasanaethau ariannol,

(b)gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu

(c)unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,

pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Bwyd a diodLL+C

3.  Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.]

Erthyglau 2C a 2D

[F74ATODLEN 1BLL+CCYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Erthygl 2D]

ATODLEN 1CLL+CYMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Erthyglau 10 a 25

ATODLEN 2LL+CF75F76Hysbysiadau o dan Erthyglau 10 a 25

Diwygiadau Testunol

F75Geiriau yn Atod. 2 a fewnosodwyd cyn y diffiniad o "perchennog" yn yr Hysbysiad o dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio (22.6.2015) gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 11(3)(a) (gyda ergl. 12)

F76Geiriau yn Atod. 2 a fewnosodwyd cyn y diffiniad o "perchennog" yn yr Hysbysiad Apêl o dan Erthyglau 10 a 25 (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 11(3)(b) (gydag ergl. 12)

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 2 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 12

ATODLEN 3LL+CF77Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 3 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthyglau 14 a 15

[F78ATODLEN 4LL+CYmgyngoriadau cyn Rhoi Caniatâd

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 4 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

TABL

ParagraffDisgrifiad o’r DatblygiadYmgynghorai
(a)Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar dir yn ardal awdurdod cynllunio lleol arallYr awdurdod cynllunio lleol perthnasol
(b)Datblygiad y gwnaed cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ef i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais), pan fo’r datblygiad hwnnw’n debygol o effeithio ar dir yn ardal cyngor cymunedY cyngor cymuned
(c)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau (ac eithrio ar safle niwclear perthnasol), a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250metr sgwâro arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgwâro arwynebedd llawr swyddfa; neu

(iv) mwy na 750 metr sgwâro arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
(d)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau ar safle niwclear perthnasol, a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250 metr sgwâro arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgwâro arwynebedd llawr swyddfa; neu

(iv) mwy na 750 metr sgwâro arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
(e)Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig—
(i) sy’n ymuno neu’n ymadael â chefnffordd; neuGweinidogion Cymru
(ii) yn defnyddio croesfan dros reilfforddGweithredwr y rhwydwaith sy’n cynnwys y rheilffordd o dan sylw, a Gweinidogion Cymru
(f)Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig sy’n ymuno neu’n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(g)Datblygiad sy’n debygol o amharu ar wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(h)Datblygiad sy’n ymwneud â—
(i) ffurfio, gosod neu addasu unrhyw fynedfa i briffordd (ac eithrio cefnffordd); neuYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(ii) adeiladu priffordd neu fynedfa breifat i fangre, sy’n darparu mynediad i ffordd sydd â gorchymyn tollau mewn grym arni.Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol, ac yn achos ffordd sy’n ddarostyngedig i gonsesiwn, y consesiynydd
(i)Datblygiad sydd at y diben o osod neu adeiladu stryd newydd neu sy’n cynnwys gwaith o’r fathYr awdurdod priffyrdd lleol
(j)Datblygiad, ac eithrio datblygiad gan ddeiliad tŷ, o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Glo at ddiben y ddarpariaeth hon, oherwydd y risg o ansefydlogrwydd a achosir gan fwyngloddio.Yr Awdurdod Glo
(k)Datblygiad sy’n ymwneud â, neu’n cynnwys, gweithrediadau mwyngloddioCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(l)

(i) Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig.

(ii) Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r criteria canlynol—

a) bod o fewn pellter o 0.5 cilometr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig;

b) bod o fewn pellter o 1 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 15 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.2 hectar neu fwy;

c) bod o fewn pellter o 2 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 50 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.5 hectar neu fwy;

d) bod o fewn pellter o 3 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 75 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy; neu

e) bod o fewn pellter o 5 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 100 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy.

(iii) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar barc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad parc neu ardd o’r fath;

(iv) Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig pan fo Asesiad Effaith Amgylcheddol yn ofynnol; neu

(v) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar werth cyffredinol eithriadol Safle Treftadaeth y Byd.

Gweinidogion Cymru
(m)Datblygiad sy’n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau ar wely neu ar lannau afon neu ffrwdCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(n)Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a’u deilliadauCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(o)Datblygiad sy’n ymwneud â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachol, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu tai pwmpio mewn llinell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion neu garthbyllau sy’n gwasanaethu tai annedd sengl neu garafanau sengl neu adeiladau sengl lle na fydd mwy na deg o bobl fel arfer yn preswylio, gweithio neu ymgynnull, a gwaith sy’n ategol i hynny)Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(p)Datblygiad sy’n ymwneud â defnyddio tir fel mynwent

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

(q)

Datblygiad sydd—

(i) mewn neu’n debygol o effeithio ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu

(ii) mewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y rhoddwyd hysbysiad ohoni, neu sy’n cael effaith fel pe bai hysbysiad ohoni wedi ei roi i’r awdurdod cynllunio lleol gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) fel y’i cymhwysir yng Nghymru gan adran 27AA o’r Ddeddf honno

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(r)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

(i) unrhyw dir sydd â theatr arno;

(ii) datblygiad preswyl (ac eithrio datblygiad gan ddeiliad tŷ) o fewn 50 metr i theatr (nad yw’n dod o fewn paragraff (i)); neu

(iii) theatr arfaethedig.

Yr Ymddiriedolaeth Theatrau
(s)

Datblygiad nad yw at ddibenion amaethyddol, nad yw’n unol â darpariaethau cynllun datblygu, ac sy’n golygu—

(i) colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu

(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a fyddai’n peri bod y golled gronnus o dir amaethyddol yn 20 hectar neu’n fwy.

Gweinidogion Cymru
(t)

Datblygiad sydd o fewn 250 metr i dir—

(i) a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff ; a

(ii) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion y ddarpariaeth hon

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(u)

Datblygiad—

(i) sy’n debygol o amharu ar ddefnyddio tir, neu arwain at golli’r defnydd o dir, a ddefnyddir fel maes chwarae; neu

(ii) sydd ar dir—

(aa) a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol ac sy’n parhau heb ei ddatblygu; neu

(bb) a ddyrannwyd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o’r fath neu ar gyfer ei addasu neu ei amnewid; neu

(iii) sy’n golygu gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o wneuthuriad dynol neu arwyneb cyfansawdd ar lain chwarae yn lle arwyneb o laswellt

Cyngor Chwaraeon Cymru
(v)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar—

(i) unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy’n eiddo i’r Canal and River Trust neu a reolir ganddi; neu

(ii) unrhyw sianel gyflenwi, cwrs dŵr, dihangfa dŵr neu gwlfert ar gyfer camlas, sydd o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch at ddibenion y ddarpariaeth hon gan y Canal and River Trust.

The Canal and River Trust
(w)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â lleoli sefydliadau newydd;

(ii) sydd at y diben o addasu sefydliadau presennol sydd o fewn cwmpas Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU; neu

(iii) sydd yn newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle y gallai lleoli neu ddatblygu achosi neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr, neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr.

Yr awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd â rheolaeth o’r tir y lleolir arno unrhyw sefydliad presennol o dan sylw, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015
(x)

Datblygiad—

(i) ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2;

(ii) sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(y)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â datblygiad preswyl newydd (gan gynnwys unedau sengl); a

(ii) sy’n ddatblygiad mawr nad yw’n dod o fewn paragraff (i).

Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

Dehongli’r TablLL+C

Yn y Tabl uchod—

(a)ym mharagraffau (c)(iv) a (d)(iv), ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer neu sy’n ategu unrhyw un o’r dibenion canlynol—

(i)gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

(ii)newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu ddymchwel unrhyw wrthrych; neu

(iii)cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes ac eithrio amaethyddiaeth, a chan eithrio proses a gyflawnir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd, neu sy’n cydffinio ac yn cael ei feddiannu ar y cyd â mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio ynddo);

(b)ym mharagraffau (c) a (d) ystyr “safle niwclear perthnasol” (“relevant nuclear site”) yw safle sydd yn —

(i)safle niwclear Prydain Fawr (o fewn yr ystyr a roddir i “GB nuclear site” gan adran 68 o Ddeddf Ynni 2013) ;

(ii)safle amddiffyn awdurdodedig ( yn yr ystyr a roddir i “authorised defence site” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi)1998); neu

(iii)safle niwclear newydd-adeiledig (yn yr ystyr a roddir i “new nuclear build site” gan reoliad 2A(1) o’r Rheoliadau hynny).

(c)ym mharagraff (e), mae i “rhwydwaith” a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network” ac i “operator” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd);

(d)ym mharagraffau (f) ac (g), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sydd—

(i)yn ffordd ddosbarthiadol neu’n brif ffordd yn yr ystyron, yn eu trefn, o “classified road” neu “principal road” at ddibenion adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol); neu

(ii)yn ddosbarthiadol at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf honno;

(e)ym mharagraff (h), mae i “consesiynydd”, “ffordd sy’n ddarostyngedig i gonsesiwn” a “gorchymyn tollau”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “concessionaire”, “road subject to a concession” a “toll order” yn Rhan I o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (ffyrdd newydd yng Nghymru a Lloegr);

(f)ym mharagraff (i), mae i “stryd” yr ystyr a roddir i “street” yn adran 48(1 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (strydoedd, gwaith stryd ac ymgymerwyr), ac mae “stryd newydd” (“new street”) yn cynnwys estyniad o stryd bresennol;

(g)ym mharagraff (j), ystyr “datblygiad gan ddeiliad tŷ” (“householder development”) yw—

(i)ehangu neu wella tŷ annedd neu ei addasu rywfodd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(ii)newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhad o’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(aa)unrhyw newid defnydd arall,

(bb)codi tŷ annedd, neu

(cc)newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

(h)ym mharagraff (l)—

(i)mae i “heneb gofrestredig” yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion);

(ii)rhaid dehongli cyfeiriad at uchder datblygiad fel cyfeiriad at ei uchder a fesurir o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad o dan sylw neu, os nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno, neu y bwriedir ei leoli arno, yn wastad, lefel y rhan uchaf o arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad;

(iii)mae “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yn golygu bod y parc, yr ardd neu’r dirwedd yn gynwysedig yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru;

(iv)ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd, a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972;

(i)ym mharagraff (o)—

(i)ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr ai peidio ar gyfer ei drin), a

(ii)mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 29(1) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafanau);

(j)ym mharagraff (q), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) y gymwys iddo;

(k)ym mharagraff (r), mae i “theatr” yr ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli) a mae i “datblygiad gan ddeiliad tŷ” (“householder development”) yr un ystyr ag ym mharagraff (j);

(l)ym mharagraff (u)—

(i)ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o safle sy’n cynnwys o leiaf un llain chwarae;

(ii)ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw arwynebedd wedi ei amlinellu yn benodol sydd, ynghyd ag unrhyw arwynebedd ymylol, yn 0.2 hectar neu’n fwy, ac a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed y gymdeithas, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Gwyddelig, bando, hyrli, polo neu polo beic;

(m)ym mharagraff (w)—

(i)mae i’r ymadroddion sy’n ymddangos yn y paragraff hwnnw ac y mae eu cyfystyron Saesneg yn ymddangos yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyron ag y sydd i’r cyfystyron Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)ystyr “awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr” (“control of major accident hazards competent authority”) yw—

(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd;

(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd; ac

(n)ym mharagraff (x)—

ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o’r orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w amddiffyn rhag llifogydd;

ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd; ac

mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012]

Erthygl 24

ATODLEN 5LL+CHysbysiad pan wrthodir caniatâd cynllunio neu pan roddir caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 5 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

Hysbysiad sydd i'w anfon at geisydd pan fo awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod caniatâd cynllunio neu'n rhoi caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau (sydd i'w harnodi ar hysbysiadau o benderfyniad)

Apelau i Weinidogion CymruLL+C

  • Os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd ar gyfer y datblygiad arfaethedig neu i roi'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, yna gellwch apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

  • Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol, rhaid ichi wneud hynny o fewn cyfnod o 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

  • Rhaid gwneud apelau drwy ddefnyddio ffurflen y gellwch ei chael gan Weinidogion Cymru, yn yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu ar-lein yn www.planningportal.gov.uk/pcs

  • Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl, ond fel rheol, nid ydynt yn fodlon defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig sy'n esgusodi'r oedi cyn rhoi hysbysiad o apêl.

  • Nid oes raid i Weinidogion Cymru ystyried apêl os yw'n ymddangos iddynt na fyddai wedi bod yn bosibl i'r awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu na fyddai wedi bod yn bosibl iddo ei roi heb yr amodau a osodwyd, o ystyried y gofynion statudol, darpariaethau unrhyw orchymyn datblygu ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd o dan orchymyn datblygu.

  • Yn ymarferol, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod ystyried apelau oherwydd, yn unig, fod yr awdurdod cynllunio lleol wedi seilio ei benderfyniad ar gyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau PrynuLL+C

  • Os yw naill ai'r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru wedi gwrthod caniatâd i ddatblygu tir, neu wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, caiff y perchennog hawlio nad oes modd i'r perchennog ddefnyddio'r tir yn ei gyflwr presennol mewn ffordd sy'n rhesymol fuddiol, nac ychwaith roi'r tir mewn cyflwr a fyddai'n galluogi ei ddefnyddio mewn ffordd resymol fuddiol, drwy gyflawni unrhyw ddatblygiad sydd wedi ei ganiatáu neu y byddid yn ei ganiatáu.

  • Yn yr amgylchiadau hyn, caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i awdurdod cynllunio lleol yr ardal y lleolir y tir ynddi. Bydd yr hysbysiad hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod cynllunio lleol yn prynu buddiant y perchennog yn y tir, yn unol â darpariaethau Rhan VI o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. (Caiff awdurdod cynllunio lleol dderbyn yr hysbysiad a mynd ymlaen i gaffael y tir; neu wrthod yr hysbysiad ac os yw'n gwrthod, rhaid iddo atgyfeirio'r hysbysiad at Weinidogion Cymru.)

Erthygl 24B(2)

[F79ATODLEN 5ALL+C

Erthygl 24B(3)]

ATODLEN 5BLL+C

Erthygl 27

ATODLEN 6LL+CHysbysiad o dan Erthygl 27

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 6 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 28

ATODLEN 7LL+CTystysgrif o Gyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 7 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 33

ATODLEN 8LL+COFFERYNNAU STATUDOL A DDIRYMIIR

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 8 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Enw'r OfferynCyfeirnodGraddau'r dirymiad
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995(57)OS 1995/419Y Gorchymyn cyfan(58)
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Ffurflenni Cymraeg) 1995OS 1995/3336Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995OS 1995/2803Paragraff 21 o Atodlen 5 ac erthygl 18 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) 1996(59)OS 1996/1817Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 1996OS 1996/525Paragraff 20 o'r Atodlen ac erthygl 3 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) 1997(60)OS 1997/858Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002OS 2002/1877 (Cy.186)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004OS 2004/1434 (Cy.147)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004OS 2004/3156 (Cy.273)Erthygl 11 ac Atodlen 1
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006OS 2006/3390 (Cy.310)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006OS 2006/1386 (Cy.136)Erthygl 4
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008OS 2008/2336 (Cy.199)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2009OS 2009/1024 (Cy.87)Y Gorchymyn cyfan

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cydgrynhoi gydag addasiadau ddarpariaethau Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (“Gorchymyn 1995”) ac offerynnau diwygio dilynol, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'n cynnwys hefyd ddarpariaethau mewn perthynas â chymhwyso'r Gorchymyn hwn i'r Goron, sef darpariaethau tebyg i'r rheini yn erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) a oedd yn addasu Gorchymyn 1995. O ganlyniad, dirymir erthygl 4 o Orchymyn 2006.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweithdrefnau mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio, ymgyngoriadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio, penderfynu ceisiadau cynllunio, apelau, gorchmynion datblygu lleol, tystysgrifau cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad, cynnal cofrestri o geisiadau cynllunio a materion cysylltiedig.

Y prif newidiadau yw:

  • diweddaru neu ddileu cyfeiriadau at gyrff nad ydynt bellach yn bodoli, neu gyrff y trosglwyddwyd eu swyddogaethau i gyrff eraill cyn gwneud y Gorchymyn hwn (erthygl 14 a'r Tabl yn Atodlen 4).

  • mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf a chynnwys ffurflenni cais am ganiatâd cynllunio. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar ffurflen safonol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

  • mae erthygl 11 yn darparu bod tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio i'w gwneud mewn ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

  • mae erthygl 14 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4. Mae paragraff (v) o'r Tabl yn pennu, yn achos datblygiad sy'n cynnwys gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o waith llaw, neu arwyneb cyfansawdd yn lle arwyneb o laswellt ar lain chwarae mewn maes chwarae, mai'r ymgynghorai priodol yw Cyngor Chwaraeon Cymru. Diwygir y diffiniad o “llain chwarae”.

  • mae erthygl 22, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y cyfnodau o amser a ganiateir i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer penderfynu ceisiadau am ganiatâd cynllunio, yn pennu'r hyn sy'n cyfansoddi cais dilys. Mae'r cyfnod o amser a ganiateir i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer penderfynu cais yn dechrau gyda'r diwrnod y ceir y cais.

  • mae erthygl 27 yn darparu ar gyfer paratoi, gwneud a dirymu gorchmynion datblygu lleol gan awdurdodau cynllunio lleol, ac yn pennu'r math o ddatblygu na chaiff gorchmynion datblygu lleol roi caniatâd datblygu ar ei gyfer. Mae erthygl 29 yn darparu ar gyfer cofrestri o orchmynion datblygu lleol.

Ceir darpariaethau trosiannol ac arbedion (erthygl 33) yn ogystal â mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio.

Paratowyd asesiad effaith mewn cysylltiad â'r offeryn hwn. Gellir cael copïau ohono gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1990 p.8. Mewnosodwyd adran 61A(5) gan adran 40(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) (“Deddf 2004”). Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004. Amnewidiwyd adran 65 gan adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) (“Deddf 1991”) a diwygiwyd hi gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p.8) a pharagraff 35 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno. Amnewidiwyd adran 69 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno a diwygiwyd hi gan adran 190 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29) (“Deddf 2008”) (gweler adran 69(9) am y diffiniad o “prescribed”); diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf 1991 a pharagraff 15 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno (gweler adran 71(4) am y diffiniad o “prescribed”). Diwygiwyd adran 74 gan adrannau 19(1) ac 84(6) o Ddeddf 1991a pharagraff 17 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 19 i'r Ddeddf honno, diwygiwyd adran 77(4) gan adran 32 o Ddeddf 1991 a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf 1991, adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004 ac adran 196(4) o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno (diwygiadau mewn grym at ddibenion penodol ac i ddod i rym at y dibenion sy'n weddill ar ddyddiad sydd i'w bennu, gweler O.S. 2009/400) ac adran 197 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 79(4) gan adran 32 o Ddeddf 1991 a pharagraff 19 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 188 gan adran 84 o Ddeddf 1991 a pharagraff 30 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 19 i'r Ddeddf honno. Amnewidiwyd adran 193 gan adran 10(1) o Ddeddf 1991, diwygiwyd adran 196(4) gan adran 32 o Ddeddf 1991 a pharagraff 33 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004, mewnosodwyd paragraffau 1 a 2 o Atodlen 1A gan adran 18(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd Atodlen 4A gan adran 40(4) o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a gweler adran 118(3) o Ddeddf 2004.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(5)

Ystyr “gorchymyn datblygu arbennig” yw gorchymyn a wnaed o dan adran 59(3)(b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

(6)

O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/3099; mae offerynnau eraill sy'n diwygio ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(7)

2000 p.7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i'r Ddeddf honno.

(8)

Ar gyfer y diffiniad o “development”, gweler adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)

(9)

Ar gyfer y diffiniad o “mineral-working deposit”, gweler adran 336 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).

(10)

Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2), 51(3) a 120 o Ddeddf 2004, ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 16 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

(11)

Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004.

(12)

2003 p.21.

(13)

OJ L Rhif 199/59, 30.7.1999.

(14)

Amnewidiwyd adran 65 gan adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a diwygiwyd hi gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p.8) a pharagraff 35 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno.

(15)

1981 p.69; gweler adran 66. Ceir diwygiadau i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(16)

Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.

(17)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.

(18)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

(19)

1990 p.8. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).

(20)

O.S.1999/293, diwygiwyd Colofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2 gan O.S. 2006/3099 a 2007/2610.

(21)

1980 p.66.

(22)

Diwygiwyd adran 19 gan adran 21 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22).

(23)

Diwygiwyd adran 16 gan adran 36 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29) a pharagraffau 21 a 24 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

(24)

1980 p.66.

(25)

Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 15 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

(26)

Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.

(27)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

(28)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.

(29)

Mae O.S. 1999/293 yn estyn y cyfnod amser ar gyfer dyfarnu ceisiadau am ddatblygiad AEA.

(30)

Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004.

(31)

Amnewidiwyd adran 71(1) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34).

(32)

O.S. 1995/418. Amnewidiwyd Rhan 24 o Atodlen 2 gan O.S. 2002/1878 (Cy.187).

(33)

Gweler adran 128(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43).

(34)

Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25).

(35)

2003 p.21.

(37)

1989 p. 29. Amnewidiwyd adran 6 gan adran 30 o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), amnewidiwyd is-adran (1)(b) gan adran 136(1) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) a diwygiwyd is-adran (1)(c) gan adran 197(9) o Ddeddf Ynni 2004 a Rhan 1 o Atodlen 23 i'r Ddeddf honno.

(38)

1986 p. 44; amnewidiwyd adran 7 gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p. 45) a diwygiwyd is-adran (2) gan adrannau 3(2) a 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000, a pharagraffau 1 a 4 o Ran I o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(39)

Mewnosodwyd adran 61B gan adran 40(1) o Ddeddf 2004.

(40)

1990 p.9.

(41)

Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34), adran 10(1).

(42)

Diwygiwyd adran 195 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 32 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(43)

Amnewidiwyd adran 193 gan adran 10(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991.

(44)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

(45)

Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.

(46)

Diwygiwyd adran 174 gan adran 6 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac O.S. 2004/3156 (Cy.273).

(47)

Gwnaed diwygiadau i adran 83 ac Atodlen 7 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(48)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.

(49)

Diwygiwyd 288 gan adran 18 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.53), a pharagraff 25 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno.

(50)

Diwygiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) ac adran 174 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29). Ni fwriedir ar hyn o bryd ddwyn i rym y diddymiad o adran 106 gan adran 120 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno.

(51)

Amnewidiwyd adran 278 gan adran 23 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).

(52)

Diwygiwyd adran 188 gan adran 84(6) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 a pharagraff 30 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 19 i'r Ddeddf honno. Ceir diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(53)

Ceir diwygiad i adran 175(4) nad yw'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(54)

Amnewidiwyd adran 173 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34).

(55)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1996/525, 2004/1434, 2004/3156, 2006/1386, 2006/3390 a 2009/1024.

(56)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1999/293 a 2006/1386.

(57)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

(58)

Gweler erthygl 33 am arbedion.

(59)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

(60)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources