Search Legislation

Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 752 (Cy.102)

Y GYMRAEG, CYMRU

Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012

Gwnaed

7 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 146 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 12 iddo, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2012.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2012 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at—

(a)“personau A” (“persons A”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sydd wedi cael ac wedi derbyn cyn y dyddiad hwnnw gynnig i gael eu cyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru;

(b)“personau B” (“persons B”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sydd wedi cael ac wedi derbyn cyn y dyddiad hwnnw gynnig i gael eu cyflogi gan y Comisiynydd;

(c)“personau C” (“persons C”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael neu sydd wedi cael eu cyflogi gan y Bwrdd ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo ac nad yw eu cyflogaeth yn trosglwyddo i'r Comisiynydd nac i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn;

(d)“cofnodion” (“records”) yn cynnwys cofnodion ysgrifenedig a chofnodion sy'n cyfleu gwybodaeth drwy unrhyw ddull arall.

Trosglwyddo Staff

3.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo bydd personau A yn trosglwyddo i gael eu cyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

(2Ar y dyddiad trosglwyddo bydd personau B yn trosglwyddo i gael eu cyflogi gan y Comisiynydd.

Trosglwyddo, yn gyffredinol, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd

4.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo caiff yr eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau a bennir yn yr Atodlen ac yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 5, ar y dyddiad trosglwyddo caiff pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw, eu trosglwyddo i'r Comisiynydd.

Hawliau a rhwymedigaethau arall sy'n trosglwyddo etc.

5.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo caiff yr hawliau a'r rhwymedigaethau o dan gontractau cyflogaeth personau C neu mewn cysylltiad â'r contractau hynny ac yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(2Mae unrhyw beth sy'n cael ei wneud cyn y dyddiad trosglwyddo gan y Bwrdd neu mewn perthynas â'r Bwrdd o ran unrhyw berson C neu ei gontract cyflogaeth i'w drin o'r dyddiad hwnnw fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.

Mynediad at gofnodion

6.—(1Pan fo cofnodion yr oedd y Bwrdd yn berchen arnynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo wedi eu trosglwyddo i'r Comisiynydd o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol—

(a)edrych ar y cofnodion hynny; a

(b)cymryd copïau o'r cofnodion hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu caniateir i'r copïau neu'r rhannau hynny gael eu darparu iddynt.

(2Nid yw pŵer Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i gofnodion sy'n ymwneud â chyflogaeth personau B.

(3Pan fo cofnodion yr oedd y Bwrdd yn berchen arnynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol—

(a)edrych ar y cofnodion hynny; a

(b)cymryd copïau o'r cofnodion hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu caniateir i'r copïau neu'r rhannau hynny gael eu darparu iddo.

(4Nid yw pŵer y Comisiynydd o dan baragraff (3) yn gymwys i gofnodion sy'n ymwneud â chyflogaeth personau A neu C.

(5Rhaid i'r pwerau a roddwyd gan yr erthygl hon gael eu harfer yn ystod oriau gwaith arferol.

Darpariaeth gyffredinol

7.  Nid effeithir ar drosglwyddiadau o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, y rhoddir effaith iddynt gan y Gorchymyn hwn, gan unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag y bo) a fyddai fel arall yn atal y trosglwyddiadau hynny neu'n cyfyngu arnynt.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2012

Erthygl 4

YR ATODLENEiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd sy'n trosglwyddo i Weinidogion Cymru

RHAN 1Eiddo

1.—(aY gadair Enigma S21 sy'n dwyn y rhif model E760MF a'r rhif cyfresol 101562;

(b)eiddo sy'n ymwneud yn unig â phrosiect Bwrdd perthnasol; ac

(c)pob cofnod ac eithrio cofnodion sy'n ymwneud yn unig â—

(i)cytundebau grant a gytunwyd rhwng y Bwrdd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru;

(ii)cytundebau grant a gytunwyd rhwng y Bwrdd a Phrifysgol Bangor;

(iii)cyflogi personau B gan y Bwrdd;

(iv)gwaith ymchwil a chasglu data a wnaed, neu a gomisiynwyd, gan y Bwrdd mewn cysylltiad â'r defnydd o'r Gymraeg;

(v)prosiectau canlynol y Bwrdd—

(aa)'Cymraeg yn y gweithle';

(bb)'Iaith Gwaith';

(cc)'Mae gen ti ddewis';

(dd)'Enwau Lleoedd';

(ee)'Estyn Llaw';

(ff)safoni terminoleg yn y Gymraeg;

(gg)datblygu a hybu'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg (gan gynnwys geiriaduron ar-lein);

(hh)cydlynu a rheoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau cyfieithu;

(vi)gwaith a wnaed gan y Bwrdd i hybu manteision defnyddio'r Gymraeg ymysg y sector gwirfoddol a busnesau;

(vii)cynlluniau iaith Gymraeg perthnasol;

(viii)gwaith a wnaed gan y Bwrdd gan ddisgwyl y câi swydd y Comisiynydd ei sefydlu; a

(ix)ceisiadau am wybodaeth ynghylch unrhyw un neu rai o'r materion a ddisgrifir ym Mharagraffau (i) i (viii), uchod, sy'n geisiadau y mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(2) yn gymwys iddynt.

Dehongli

2.  Yn y Rhan hon—

mae i “cais am wybodaeth” yr un ystyr ag a briodolir i “request for information” yn adran 8 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;

ystyr “cynllun addysg Gymraeg” (“Welsh education scheme”) yw unrhyw gynllun a baratowyd neu a fabwysiadwyd yn unol â Rhan 2 2 o Ddeddf 1993 ac sy'n ymwneud yn unig â darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg;

ystyr “cynllun iaith Gymraeg perthnasol” (“relevant Welsh language scheme”) yw unrhyw gynllun a baratowyd neu a fabwysiadwyd yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 1993 nad yw'n gynllun addysg Gymraeg; a

ystyr “prosiect Bwrdd perthnasol” (“relevant Board project”) yw—

(a)

“Twf”;

(b)

“Mae dy Gymraeg di'n grêt”;

(c)

“Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan bobl ifanc”;

(d)

“Cefnogi partneriaid cymunedol y Bwrdd”;

(e)

“Cefnogi'r Gymraeg mewn cymunedau sydd angen cymorth”; ac

(f)

Cerddoriaeth Gymraeg Gymunedol.

RHAN 2Hawliau a Rhwymedigaethau

3.  Hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw eiddo sy'n trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;

(b)unrhyw brosiect Bwrdd perthnasol; ac

(c)unrhyw gytundeb grant perthnasol.

Dehongli

4.  Yn y Rhan hon—

mae i “prosiect Bwrdd perthnasol” (“relevant Board project”) yr un ystyr ag yn Rhan 1; ac

ystyr “cytundeb grant perthnasol” (“relevant grant agreement”) yw unrhyw gytundeb grant sydd wedi cael ei gytuno gan y Bwrdd er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac nad yw'n disgyn o fewn unrhyw un neu rai o'r categorïau canlynol o gytundeb—

(a)

cytundebau sy'n ymwneud yn unig â phrosiect 'Estyn Llaw';

(b)

cytundebau â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru;

(c)

cytundebau â Phrifysgol Bangor.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn darparu ar gyfer diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg (“y Bwrdd”) a sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Ar ôl ei ddiddymu bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau cyfredol y Bwrdd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn trosglwyddo i'r Comisiynydd o dan y Mesur. Bydd swyddogaeth y Bwrdd o ran hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg o dan adran 3 o Ddeddf 1993 yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn ogystal ag i'r Comisiynydd. Rhoddir effaith i drosglwyddo'r swyddogaeth i Weinidogion Cymru yn rhinwedd gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 154 o'r Mesur.

O ganlyniad i ddiddymu'r Bwrdd a throsglwyddo'i swyddogaethau, mae angen darpariaeth ddeddfwriaethol benodol i ddelio â throsglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd. I'r perwyl hwnnw, mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 12 i'r Mesur yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth, drwy orchymyn, sy'n ymwneud â throsglwyddo staff y Bwrdd i'w cyflogi naill ai gan y Comisiynydd neu gan Lywodraeth Cymru a throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd naill ai i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn gan ddibynnu ar y pwerau a ddarperir gan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 12 i'r Mesur.

Caiff swydd y Comisiynydd ei sefydlu ar 1 Ebrill 2012 (fe'i diffinnir yn y Gorchymyn fel “y dyddiad trosglwyddo”). Bydd yr aelodau hynny o staff y Bwrdd sydd wedi derbyn cynnig i gael eu cyflogi naill ai gan y Comisiynydd neu gan Lywodraeth Cymru cyn y dyddiad trosglwyddo yn trosglwyddo, ar y dyddiad hwnnw, i'w cyflogwr newydd o ganlyniad i erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

Bydd y mwyafrif o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd yn trosglwyddo naill ai i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru o dan erthygl 4. Mae erthygl 4(1) yn cyflwyno'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn sy'n pennu'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, ac a fyddant yn dod yn eiddo, yn hawliau ac yn rhwymedigaethau i Weinidogion Cymru o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Yn ddarostyngedig i erthygl 5 bydd pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall y mae gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt cyn y dyddiad trosglwyddo, yn trosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r Comisiynydd.

Mae erthygl 5 yn gymwys mewn perthynas â chontractau cyflogaeth personau sydd neu sydd wedi bod, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gyflogeion y Bwrdd ac na fydd yn trosglwyddo i gyflogwr newydd o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn. Bydd unrhyw hawliau a rhwymedigaethau i'r Bwrdd mewn perthynas â'r cyflogeion a'r cyn-gyflogeion hyn yn trosglwyddo dan erthygl 5(1) i Weinidogion Cymru. Mae erthygl 5(2) yn sicrhau bod unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd neu mewn perthynas â'r Bwrdd mewn cysylltiad â'r person neu â chontract cyflogaeth y person hwnnw i'w drin, ar ôl y dyddiad trosglwyddo, fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.

Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth am hawliau mynediad at gofnodion y Bwrdd a fydd, o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, yn trosglwyddo i berchnogaeth naill ai'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru ar y dyddiad trosglwyddo.

Mae erthygl 7 yn sicrhau nad effeithir ar drosglwyddiadau o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, y rhoddir effaith iddynt gan y Gorchymyn hwn, gan unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag y bo) a fyddai fel arall yn gweithredu i atal y trosglwyddiadau hynny neu gyfyngu arnynt.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn a gellir cael copi gan yr Uned Iaith Gymraeg, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources