Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2012.
Dehongli2.
(1)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2012 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at—
(a)
“personau A” (“persons A”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sydd wedi cael ac wedi derbyn cyn y dyddiad hwnnw gynnig i gael eu cyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru;
(b)
“personau B” (“persons B”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sydd wedi cael ac wedi derbyn cyn y dyddiad hwnnw gynnig i gael eu cyflogi gan y Comisiynydd;
(c)
“personau C” (“persons C”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael neu sydd wedi cael eu cyflogi gan y Bwrdd ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo ac nad yw eu cyflogaeth yn trosglwyddo i'r Comisiynydd nac i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn;
(d)
“cofnodion” (“records”) yn cynnwys cofnodion ysgrifenedig a chofnodion sy'n cyfleu gwybodaeth drwy unrhyw ddull arall.
Trosglwyddo Staff3.
(1)
Ar y dyddiad trosglwyddo bydd personau A yn trosglwyddo i gael eu cyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
(2)
Ar y dyddiad trosglwyddo bydd personau B yn trosglwyddo i gael eu cyflogi gan y Comisiynydd.
Trosglwyddo, yn gyffredinol, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd4.
(1)
Ar y dyddiad trosglwyddo caiff yr eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau a bennir yn yr Atodlen ac yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2)
Yn ddarostyngedig i erthygl 5, ar y dyddiad trosglwyddo caiff pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw, eu trosglwyddo i'r Comisiynydd.
Hawliau a rhwymedigaethau arall sy'n trosglwyddo etc.5.
(1)
Ar y dyddiad trosglwyddo caiff yr hawliau a'r rhwymedigaethau o dan gontractau cyflogaeth personau C neu mewn cysylltiad â'r contractau hynny ac yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2)
Mae unrhyw beth sy'n cael ei wneud cyn y dyddiad trosglwyddo gan y Bwrdd neu mewn perthynas â'r Bwrdd o ran unrhyw berson C neu ei gontract cyflogaeth i'w drin o'r dyddiad hwnnw fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.
Mynediad at gofnodion6.
(1)
Pan fo cofnodion yr oedd y Bwrdd yn berchen arnynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo wedi eu trosglwyddo i'r Comisiynydd o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol—
(a)
edrych ar y cofnodion hynny; a
(b)
cymryd copïau o'r cofnodion hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu caniateir i'r copïau neu'r rhannau hynny gael eu darparu iddynt.
(2)
Nid yw pŵer Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i gofnodion sy'n ymwneud â chyflogaeth personau B.
(3)
Pan fo cofnodion yr oedd y Bwrdd yn berchen arnynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol—
(a)
edrych ar y cofnodion hynny; a
(b)
cymryd copïau o'r cofnodion hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu caniateir i'r copïau neu'r rhannau hynny gael eu darparu iddo.
(4)
Nid yw pŵer y Comisiynydd o dan baragraff (3) yn gymwys i gofnodion sy'n ymwneud â chyflogaeth personau A neu C.
(5)
Rhaid i'r pwerau a roddwyd gan yr erthygl hon gael eu harfer yn ystod oriau gwaith arferol.
Darpariaeth gyffredinol7.
Nid effeithir ar drosglwyddiadau o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, y rhoddir effaith iddynt gan y Gorchymyn hwn, gan unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag y bo) a fyddai fel arall yn atal y trosglwyddiadau hynny neu'n cyfyngu arnynt.
YR ATODLENEiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd sy'n trosglwyddo i Weinidogion Cymru
RHAN 1Eiddo
1.
(a)
Y gadair Enigma S21 sy'n dwyn y rhif model E760MF a'r rhif cyfresol 101562;
(b)
eiddo sy'n ymwneud yn unig â phrosiect Bwrdd perthnasol; ac
(c)
pob cofnod ac eithrio cofnodion sy'n ymwneud yn unig â—
(i)
cytundebau grant a gytunwyd rhwng y Bwrdd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru;
(ii)
cytundebau grant a gytunwyd rhwng y Bwrdd a Phrifysgol Bangor;
(iii)
cyflogi personau B gan y Bwrdd;
(iv)
gwaith ymchwil a chasglu data a wnaed, neu a gomisiynwyd, gan y Bwrdd mewn cysylltiad â'r defnydd o'r Gymraeg;
(v)
prosiectau canlynol y Bwrdd—
(aa)
'Cymraeg yn y gweithle';
(bb)
'Iaith Gwaith';
(cc)
'Mae gen ti ddewis';
(dd)
'Enwau Lleoedd';
(ee)
'Estyn Llaw';
(ff)
safoni terminoleg yn y Gymraeg;
(gg)
datblygu a hybu'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg (gan gynnwys geiriaduron ar-lein);
(hh)
cydlynu a rheoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau cyfieithu;
(vi)
gwaith a wnaed gan y Bwrdd i hybu manteision defnyddio'r Gymraeg ymysg y sector gwirfoddol a busnesau;
(vii)
cynlluniau iaith Gymraeg perthnasol;
(viii)
gwaith a wnaed gan y Bwrdd gan ddisgwyl y câi swydd y Comisiynydd ei sefydlu; a
(ix)
Dehongli
2.
Yn y Rhan hon—
mae i “cais am wybodaeth” yr un ystyr ag a briodolir i “request for information” yn adran 8 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
ystyr “cynllun addysg Gymraeg” (“Welsh education scheme”) yw unrhyw gynllun a baratowyd neu a fabwysiadwyd yn unol â Rhan 2 2 o Ddeddf 1993 ac sy'n ymwneud yn unig â darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg;
ystyr “cynllun iaith Gymraeg perthnasol” (“relevant Welsh language scheme”) yw unrhyw gynllun a baratowyd neu a fabwysiadwyd yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 1993 nad yw'n gynllun addysg Gymraeg; a
ystyr “prosiect Bwrdd perthnasol” (“relevant Board project”) yw—
(a)
“Twf”;
(b)
“Mae dy Gymraeg di'n grêt”;
(c)
“Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan bobl ifanc”;
(d)
“Cefnogi partneriaid cymunedol y Bwrdd”;
(e)
“Cefnogi'r Gymraeg mewn cymunedau sydd angen cymorth”; ac
(f)
Cerddoriaeth Gymraeg Gymunedol.
RHAN 2Hawliau a Rhwymedigaethau
3.
Hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi mewn cysylltiad ag—
(a)
unrhyw eiddo sy'n trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;
(b)
unrhyw brosiect Bwrdd perthnasol; ac
(c)
unrhyw gytundeb grant perthnasol.
Dehongli
4.
Yn y Rhan hon—
mae i “prosiect Bwrdd perthnasol” (“relevant Board project”) yr un ystyr ag yn Rhan 1; ac
ystyr “cytundeb grant perthnasol” (“relevant grant agreement”) yw unrhyw gytundeb grant sydd wedi cael ei gytuno gan y Bwrdd er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac nad yw'n disgyn o fewn unrhyw un neu rai o'r categorïau canlynol o gytundeb—
(a)
cytundebau sy'n ymwneud yn unig â phrosiect 'Estyn Llaw';
(b)
cytundebau â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru;
(c)
cytundebau â Phrifysgol Bangor.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn darparu ar gyfer diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg (“y Bwrdd”) a sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Ar ôl ei ddiddymu bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau cyfredol y Bwrdd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn trosglwyddo i'r Comisiynydd o dan y Mesur. Bydd swyddogaeth y Bwrdd o ran hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg o dan adran 3 o Ddeddf 1993 yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn ogystal ag i'r Comisiynydd. Rhoddir effaith i drosglwyddo'r swyddogaeth i Weinidogion Cymru yn rhinwedd gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 154 o'r Mesur.
O ganlyniad i ddiddymu'r Bwrdd a throsglwyddo'i swyddogaethau, mae angen darpariaeth ddeddfwriaethol benodol i ddelio â throsglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd. I'r perwyl hwnnw, mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 12 i'r Mesur yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth, drwy orchymyn, sy'n ymwneud â throsglwyddo staff y Bwrdd i'w cyflogi naill ai gan y Comisiynydd neu gan Lywodraeth Cymru a throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd naill ai i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn gan ddibynnu ar y pwerau a ddarperir gan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 12 i'r Mesur.
Caiff swydd y Comisiynydd ei sefydlu ar 1 Ebrill 2012 (fe'i diffinnir yn y Gorchymyn fel “y dyddiad trosglwyddo”). Bydd yr aelodau hynny o staff y Bwrdd sydd wedi derbyn cynnig i gael eu cyflogi naill ai gan y Comisiynydd neu gan Lywodraeth Cymru cyn y dyddiad trosglwyddo yn trosglwyddo, ar y dyddiad hwnnw, i'w cyflogwr newydd o ganlyniad i erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Bydd y mwyafrif o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd yn trosglwyddo naill ai i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru o dan erthygl 4. Mae erthygl 4(1) yn cyflwyno'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn sy'n pennu'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, ac a fyddant yn dod yn eiddo, yn hawliau ac yn rhwymedigaethau i Weinidogion Cymru o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Yn ddarostyngedig i erthygl 5 bydd pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall y mae gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt cyn y dyddiad trosglwyddo, yn trosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r Comisiynydd.
Mae erthygl 5 yn gymwys mewn perthynas â chontractau cyflogaeth personau sydd neu sydd wedi bod, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gyflogeion y Bwrdd ac na fydd yn trosglwyddo i gyflogwr newydd o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn. Bydd unrhyw hawliau a rhwymedigaethau i'r Bwrdd mewn perthynas â'r cyflogeion a'r cyn-gyflogeion hyn yn trosglwyddo dan erthygl 5(1) i Weinidogion Cymru. Mae erthygl 5(2) yn sicrhau bod unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd neu mewn perthynas â'r Bwrdd mewn cysylltiad â'r person neu â chontract cyflogaeth y person hwnnw i'w drin, ar ôl y dyddiad trosglwyddo, fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.
Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth am hawliau mynediad at gofnodion y Bwrdd a fydd, o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, yn trosglwyddo i berchnogaeth naill ai'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru ar y dyddiad trosglwyddo.
Mae erthygl 7 yn sicrhau nad effeithir ar drosglwyddiadau o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, y rhoddir effaith iddynt gan y Gorchymyn hwn, gan unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag y bo) a fyddai fel arall yn gweithredu i atal y trosglwyddiadau hynny neu gyfyngu arnynt.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn a gellir cael copi gan yr Uned Iaith Gymraeg, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.