- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), a pharagraff 1(1) a (4) o Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 2011(3) i rym.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(4) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)hepgorer y geiriau “neu Loegr” yn y diffiniad o “gorchymyn disgyblu”.
(b)mewnosoder, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “gorchymyn gwahardd” (“prohibition order”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn Lloegr yw gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002(5);”.
(c)hepgorer y geiriau “neu Loegr” yn y diffiniad o “achos disgyblu”.
(ch)rhodder y canlynol yn lle'r diffiniad o “tramgwydd perthnasol”—
“mae i “tramgwydd perthnasol”, o ran Cymru, yr un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998, ac o ran Lloegr mae iddo'r un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn adran 141B(4) o Ddeddf Addysg 2002;”.
(3) Yn rheoliad 9(1)(b) hepgorer y geiriau “neu'r Ysgrifennydd Gwladol” ar yr achlysur cyntaf y maent yn ymddangos, ac ychwaneger y canlynol ar ôl y geiriau “o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002”—
“neu fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002”.
(4) Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 25—
25 Bydd gorchymyn gwahardd yn gymwys o ran Cymru fel y mae'n gymwys o ran Lloegr.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 (“Rheoliadau 2001”) yn darparu ynglŷn â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011, sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr (“y CACLl”) ac yn gwneud darpariaethau newydd o ran gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu.
Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ddarpariaeth o ddiffiniadau yn Rheoliadau 2001 er mwyn cymryd i ystyriaeth ddiddymiad CACLl a'r darpariaethau newydd a fewnosodwyd yn Neddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) sy'n darparu bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i wneud gorchymyn gwahardd sy'n gwahardd person rhag cyflawni gwaith addysgu.
Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9(1)(b) o Reoliadau 2001. Mae'r diwygiad yn ychwanegu darpariaeth yn ôl yr hon nid oes gan Bwyllgor Ymchwilio o'r Cyngor, fel y'i sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau 2001, unrhyw swyddogaethau o ran ymchwilio i athro neu athrawes gofrestredig, o dan amgylchiadau lle mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda golwg ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002.
Mae rheoliad 2(4) o'r Rheoliadau hyn yn rhoi darpariaeth newydd yn lle rheoliad 25 o Reoliadau 2001, sy'n darparu y bydd gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002 yn gymwys o ran Cymru fel y mae'n gymwys o ran Lloegr. Yr oedd y geiriad blaenorol sydd wedi ei ddiddymu yn rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth gyffelyb o ran gorchymyn disgyblu a oedd wedi'i wneud gan CACLl.
1998 p. 30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys o ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Cafodd paragraff 1(4) o Atodlen 2 ei ddiwygio gan baragraff 86(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a'i ddiwygio ymhellach gan baragraffau 2 a 7 o Atodlen 9 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47). Am ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2001/1424 (Cy. 99) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/503 (Cy. 71), O.S. 2003/542 (Cy. 76), adran 81(5) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (2009 p. 26), O.S. 2009/1354 (Cy. 130), O.S. 2009/2161 (Cy. 184) ac O.S. 2010/1142 (Cy. 101).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: