Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012.
(2)
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 20012.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
hepgorer y geiriau “neu Loegr” yn y diffiniad o “gorchymyn disgyblu”.
(b)
“ystyr “gorchymyn gwahardd” (“prohibition order”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn Lloegr yw gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 20025;”.
(c)
hepgorer y geiriau “neu Loegr” yn y diffiniad o “achos disgyblu”.
(ch)
“mae i “tramgwydd perthnasol”, o ran Cymru, yr un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998, ac o ran Lloegr mae iddo'r un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn adran 141B(4) o Ddeddf Addysg 2002;”.
(3)
“neu fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002”.
(4)
“Gorchmynion gwahardd25
Bydd gorchymyn gwahardd yn gymwys o ran Cymru fel y mae'n gymwys o ran Lloegr.”.
Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 (“Rheoliadau 2001”) yn darparu ynglŷn â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011, sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr (“y CACLl”) ac yn gwneud darpariaethau newydd o ran gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu.
Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ddarpariaeth o ddiffiniadau yn Rheoliadau 2001 er mwyn cymryd i ystyriaeth ddiddymiad CACLl a'r darpariaethau newydd a fewnosodwyd yn Neddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) sy'n darparu bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i wneud gorchymyn gwahardd sy'n gwahardd person rhag cyflawni gwaith addysgu.
Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9(1)(b) o Reoliadau 2001. Mae'r diwygiad yn ychwanegu darpariaeth yn ôl yr hon nid oes gan Bwyllgor Ymchwilio o'r Cyngor, fel y'i sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau 2001, unrhyw swyddogaethau o ran ymchwilio i athro neu athrawes gofrestredig, o dan amgylchiadau lle mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda golwg ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002.
Mae rheoliad 2(4) o'r Rheoliadau hyn yn rhoi darpariaeth newydd yn lle rheoliad 25 o Reoliadau 2001, sy'n darparu y bydd gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002 yn gymwys o ran Cymru fel y mae'n gymwys o ran Lloegr. Yr oedd y geiriad blaenorol sydd wedi ei ddiddymu yn rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth gyffelyb o ran gorchymyn disgyblu a oedd wedi'i wneud gan CACLl.