Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a rhychwantu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn dod i rym ar 29 Mawrth 2011; a

(b)yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

2.  Mae'r Atodlen, sy'n darparu ar gyfer diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(1), yn cael effaith.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

3.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(2), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”), yn lle “Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff”, rhodder “Erthygl 3(19) a (15) o Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.

Diwygio Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005

4.—(1Mae Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 —

(a)yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1), rhodder—

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff;

(b)yn lle is-baragraff (c) o baragraff (1), rhodder—

(c)mae cyfeiriad at briodweddau peryglus yn gyfeiriad at y priodweddau a osodir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff.;

(c)yn lle is-baragraff (b) o baragraff (2), rhodder—

(b)ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a osodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at ei chyflwyniad (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”)..

(3Yn rheoliad 4—

(a)o flaen “H3 i H8”, mewnosoder “peryglus”;

(b)hepgorer “o Atodiad III”.

(4Hepgorer paragraffau 1 a 2 o Atodlen 2.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(4), ym mharagraff (1) yn lle'r diffiniad o “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) rhodder—

  • ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) yw'r cynllun cenedlaethol ar reoli gwastraff o fewn ystyr Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, a elwir wrth yr enw hwnnw ac a gafodd ei baratoi gan Weinidogion Cymru;.

Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

6.  Yn Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(5), ym mharagraff 3(1), yn lle'r geiriau o “Chyfarwyddeb 2006/12/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Chyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.

Dirymu Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003

7.  Dirymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003(6).

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources