- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi adennill unrhyw sancsiwn sifil a osodir o dan y Gorchymyn hwn, ac unrhyw gosb ariannol am dalu'n hwyr sy'n daladwy o dan erthygl 10, fel dyled sifil.
(2) Caiff yr awdurdod gorfodi adennill unrhyw sancsiwn sifil a osodir o dan y Gorchymyn hwn, ac unrhyw gosb ariannol am dalu'n hwyr sy'n daladwy o dan erthygl 10, ar orchymyn gan lys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.
27. Pan fo'r awdurdod gorfodi yn cael unrhyw daliad o dan erthygl 6, rhaid i'r awdurdod ei dalu i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru(1).
28.—(1) Gwneir unrhyw apêl o dan y Gorchymyn hwn i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf(2).
(2) Mewn unrhyw apêl, mae'r baich prawf ar yr awdurdod gorfodi, ac—
(a)os yw'r cwestiwn pa un a gyflawnwyd tramgwydd i'w benderfynu yn yr apêl, rhaid i'r awdurdod gorfodi brofi, y tu hwnt i amheuaeth resymol, y cyflawnwyd y tramgwydd;
(b)mewn perthynas ag unrhyw fater arall sydd i'w benderfynu yn yr apêl, y Tribiwnlys Haen Gyntaf sydd i benderfynu'r safon o brawf.
(3) Atelir hysbysiad sy'n destun apêl, ac unrhyw ofyniad mewn hysbysiad o'r fath hyd nes penderfynir yr apêl honno.
(4) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)tynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;
(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(c)amrywio'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r awdurdod gorfodi eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gofyniad neu'r hysbysiad;
(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at yr awdurdod gorfodi.
29.—(1) Ceir cyflwyno neu roi unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol, neu'r awdurdodir, ei gyflwyno neu'i roi i berson o dan y Gorchymyn hwn drwy unrhyw un o'r dulliau canlynol—
(a)ei danfon yn bersonol;
(b)ei gyfeirio i'r person a'i adael yn y cyfeiriad priodol;
(c)ei gyfeirio i'r person a'i anfon i'r cyfeiriad hwnnw drwy'r post;
(ch)mewn achos pan fo cyfeiriad ar gyfer cyflwyno drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig wedi ei roi gan y person, ei anfon gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, yn unol â'r amod a bennir ym mharagraff (4), at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfeiriad priodol” yw—
(a)yn achos corff corfforedig, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa;
(b)yn achos ffyrm, prif swyddfa'r bartneriaeth;
(c)yn achos corff neu gymdeithas anghorfforedig, prif swyddfa'r corff neu gymdeithas;
(ch)mewn unrhyw achos arall preswylfa arferol y person neu'i breswylfa ddiwethaf sy'n hysbys, neu'i fan busnes diwethaf sy'n hysbys.
(3) Yn achos—
(a)cwmni a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig,
(b)ffyrm sy'n cynnal busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu
(c)corff neu gymdeithas anghorfforedig sydd â'i swyddfeydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig,
mae'r cyfeiriadau ym mharagraff (2) at brif swyddfa yn cynnwys cyfeiriadau at brif swyddfa'r cwmni o fewn y Deyrnas Unedig (os oes un).
(4) Yr amod a grybwyllir ym mharagraff (1)(d) yw fod rhaid i'r hysbysiad fod—
(a)yn un y gall y person a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno gael mynediad iddo,
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, a
(c)mewn ffurf sy'n ddigon parhaol i'w ddefnyddio i gyfeirio ato yn ddiweddarach.
(5) At ddibenion paragraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw i'r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai'r wybodaeth wedi ei chyflwyno neu'i rhoi drwy gyfrwng hysbysiad printiedig.
30.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi, ar unrhyw adeg ar ôl rhoi hysbysiad terfynol—
(a)penderfynu y dylid dadwneud cosb a osodwyd gan yr hysbysiad; neu
(b)yn achos cosb ariannol newidiol, penderfynu lleihau swm y gosb.
(2) Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu o dan baragraff (1)(a) y dylid dadwneud cosb—
(a)rhaid iddo roi hysbysiad i'r person y gosodwyd y gosb arno, i'r perwyl bod yr hysbysiad terfynol wedi ei dynnu'n ôl a'r gosb wedi ei dadwneud; neu
(b)os yw'r hysbysiad terfynol hefyd yn gosod sancsiwn sifil nad yw'r penderfyniad o dan y paragraff hwnnw'n berthynol iddo, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad terfynol diwygiedig sy'n dadwneud y gosb y mae'r penderfyniad o dan y paragraff hwnnw'n berthynol iddi.
(3) Pan fo'r awdurdod gorfodi, o dan baragraff (1)(b), yn penderfynu lleihau swm cosb, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad terfynol diwygiedig i gywiro gwall yn yr hysbysiad a ddyroddwyd o dan erthygl 8(3) neu 17(4).
(4) Caiff yr awdurdod gorfodi, ar unrhyw adeg gyflwyno hysbysiad terfynol diwygiedig i gywiro gwall yn yr hysbysiad a ddyroddwyd o dan erthygl 8(3) neu 17(4).
Sefydlwyd o dan adran 117 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Gweler hefyd baragraff 12(2)(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), sy'n gwneud yn ofynnol bod unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol neu gosb ariannol arall am dalu'n hwyr, sy'n daladwy o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol Cymru.
Neilltuir apelau i Siambr Reoleiddio Gyffredinol Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn rhinwedd erthygl 5B(a) o Orchymyn Tribiwnlys yr Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau) 2010 (O.S 2010/2655). Pennir y rheolau trefniadol mewn perthynas ag apelau o'r fath yn Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: