Search Legislation

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 924 (Cy.133)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

LLYGRU MOROL, CYMRU

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2011

Gwnaed

22 Mawrth 2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 93, 95 a 316(1)(b) o'r Ddeddf honno a pharagraffau 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9(1) ac 11(1) a (4) o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(d) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2011.

Cymhwyso

2.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru yn—

(a)awdurdod trwyddedu priodol(2) ar ei gyfer (a dylid darllen y cyfeiriad yn erthygl 25(2) at “yr awdurdod trwyddedu” yn unol â hynny);

(b)yn awdurdod gorfodi(3) ar ei gyfer (a dylid darllen cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod gorfodi” yn unol â hynny).

Dehongli

3.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;

  • mae i “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”)—

    (a)

    mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yr ystyr a roddir gan erthygl 5(1);

    (b)

    mewn perthynas â chosb ariannol newidiol, yr ystyr a roddir gan erthygl 14(1);

  • mae i “hysbysiad terfynol” (“final notice”)—

    (a)

    mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yr ystyr a roddir gan erthygl 8(3);

    (b)

    mewn perthynas â chosb ariannol newidiol, yr ystyr a roddir gan erthygl 17(4);

  • ystyr “sancsiwn sifil” (“civil sanction”) yw cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol newidiol(4).

RHAN 2Cosbau ariannol penodedig

Pŵer i osod cosb ariannol penodedig

4.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi, drwy hysbysiad, osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 85(1) o'r Ddeddf (torri gofyniad i gael trwydded, neu dorri ei hamodau).

(2Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, rhaid i'r awdurdod gorfodi fod wedi ei fodloni tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.

(3Swm y gosb ariannol benodedig yw £100 yn achos unigolyn, neu £300 ym mhob achos arall.

Hysbysiad o fwriad

5.—(1Pan fo'r awdurdod gorfodi'n bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn y bwriedir ei wneud (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i'r hysbysiad gynnig cyfle i'r person gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'n cael yr hysbysiad o fwriad.

(3Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth hefyd am—

(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;

(b)swm y gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod;

(c)effaith talu'r swm y cyfeirir ato yn erthygl 6;

(ch)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau;

(d)yr amgylchiadau pan na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol benodedig;

(dd)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 6, y ceir cyflawni'r rhwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig ynddo;

(e)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 7(1), y ceir gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynddo.

(4Ond ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith pan fo—

(a)cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw;

(b)hysbysiad stop(5) wedi ei gyflwyno i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.

Cyflawni rhwymedigaeth

6.  Caiff person sy'n cael hysbysiad o fwriad gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu i'r awdurdod gorfodi 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law.

Sylwadau a gwrthwynebiadau

7.—(1Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law.

(2Nid yw'r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi cyflawni ei rwymedigaeth o dan erthygl 6.

Gosod cosb ariannol benodedig

8.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod y gosb ariannol benodedig.

(2Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, os bodlonir yr awdurdod na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.

(3Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth fel a ganlyn—

(a)y seiliau dros osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)sut y gellir talu;

(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;

(d)unrhyw ddisgowntiau am dalu'n gynnar neu gosbau am dalu'n hwyr;

(dd)hawliau i apelio; ac

(e)canlyniadau peidio â thalu.

(4Nid yw'r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi cyflawni ei rwymedigaeth o dan erthygl 6.

(5Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30 (diwygio neu dynnu'n ôl hysbysiadau terfynol i ddadwneud neu leihau cosb neu gywiro gwallau).

Disgownt am dalu'n gynnar

9.  Caiff person sy'n gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau yn unol ag erthygl 7 gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu i'r awdurdod gorfodi 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad terfynol i law.

Dyddiadau talu a chosbau am dalu'n hwyr

10.—(1Os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad i osod cosb ariannol benodedig, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 56 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, os na thelir cosb ariannol benodedig o fewn y cyfnod o 56 diwrnod, bydd y person sy'n atebol i dalu'r gosb ariannol benodedig yn atebol hefyd i dalu, i'r awdurdod gorfodi, gosb am dalu'n hwyr o 50% o swm y gosb ariannol benodedig.

(3Pan fo apêl wedi ei gwneud, ond y gosb ariannol benodedig yn parhau'n daladwy ar ôl yr apêl honno, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y penderfynwyd yr apêl.

(4Pan fo paragraff (3) yn gymwys, os na thelir cosb ariannol benodedig o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, bydd y person sy'n atebol i dalu'r gosb ariannol benodedig yn atebol hefyd i dalu, i'r awdurdod gorfodi, gosb am dalu'n hwyr o 50% o swm y gosb ariannol benodedig.

Cyfyngiadau ar sancsiynau eraill

11.—(1Pan fo hysbysiad o fwriad wedi ei gyflwyno i berson—

(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol ynglŷn â'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, yn erbyn y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ef cyn diwedd cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law; a

(b)os yw'r person hwnnw yn cyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig yn unol ag erthygl 6, ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad o fwriad yn ymwneud ag ef mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.

(2Pan osodir cosb ariannol benodedig ar berson—

(a)ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y gosodwyd y gosb mewn cysylltiad ag ef, mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb;

(b)ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio na hysbysiad adfer(6) i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb.

(3Ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith—

(a)pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw; neu

(b)pan fo'r person wedi cyflawni ei rwymedigaeth am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw, yn unol ag erthygl 6.

Apelau yn erbyn cosbau ariannol penodedig

12.—(1Caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod(7).

(2Y seiliau apelio yw—

(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(ch)unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

RHAN 3Cosbau ariannol newidiol

Pŵer i osod cosb ariannol newidiol

13.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad osod cosb ariannol newidiol ar berson mewn perthynas ag—

(a)tramgwydd o dan adran 85(1) o'r Ddeddf (torri gofyniad i gael, neu dorri amodau, trwydded);

(b)tramgwydd o dan adran 89(1) o'r Ddeddf (gwybodaeth);

(c)tramgwydd o dan adran 92(3)(b) o'r Ddeddf (methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer).

(2Ond cyn gwneud hynny rhaid i'r awdurdod gorfodi fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.

Hysbysiad o fwriad

14.—(1Pan fo'r awdurdod gorfodi'n bwriadu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth fel a ganlyn—

(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol newidiol;

(b)swm y gosb ariannol newidiol a fwriedir;

(c)yr amgylchiadau pan na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol newidiol; ac

(ch)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 15, y ceir gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynddo.

(3Ond ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith pan fo—

(a)cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw; neu

(b)pan fo'r person wedi cyflawni ei rwymedigaeth am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw, yn unol ag erthygl 6.

Sylwadau a gwrthwynebiadau

15.  Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb.

Ymrwymiadau i weithredu er budd personau yr effeithir arnynt

16.—(1Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymrwymiad y cymerir camau gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi naill ai dderbyn neu wrthod ymrwymiad o'r fath.

Gosod cosb ariannol newidiol

17.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod cosb ariannol newidiol, ac os felly, swm y gosb.

(2Wrth benderfynu felly, rhaid i'r awdurdod gorfodi gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad a dderbyniwyd ganddo o dan erthygl 16(2).

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad a godir gan y person hwnnw, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.

(4Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)y seiliau dros osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)sut y gellir talu;

(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;

(d)hawliau i apelio; ac

(dd)canlyniadau peidio â thalu.

(5Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30.

Dyddiadau talu

18.—(1Os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad i osod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 56 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law, neu ba bynnag gyfnod diweddarach a gytunir gan yr awdurdod gorfodi mewn ysgrifen.

(2Pan fo apêl wedi ei gwneud, ond y gosb ariannol newidiol yn parhau'n daladwy ar ôl yr apêl honno, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y penderfynwyd yr apêl.

Cyfyngiadau ar sancsiynau eraill

19.  Pan fo cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar berson—

(a)ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y gosodwyd y gosb mewn cysylltiad ag ef, mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb;

(b)ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb.

Apelau yn erbyn cosbau ariannol newidiol

20.—(1Caiff y person y gosodir cosb ariannol newidiol arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod neu yn erbyn swm y gosb.

(2Y seiliau apelio yw—

(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

(c)bod swm y gosb yn afresymol;

(ch)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(d)unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Hysbysiadau adennill costau gorfodi

21.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad wneud yn ofynnol bod person y gosodwyd cosb ariannol newidiol arno yn talu'r costau a achoswyd i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â gosod y gost, hyd at yr amser y'i gosodwyd.

(2Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu.

(3Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo wneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n darparu dadansoddiad manwl o'r swm a bennir yn yr hysbysiad.

(4Nid yw'r person y mae'n ofynnol ei fod yn talu costau dan rwymedigaeth i dalu unrhyw gostau a ddangosir, gan y person hwnnw, eu bod yn gostau a achoswyd yn ddiangen.

(5Yn yr erthygl hon, mae “costau” yn cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau caffael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill costau gorfodi

22.  Caiff y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau o dan erthygl 21 apelio yn erbyn y penderfyniad—

(a)i osod y gofyniad i dalu costau;

(b)ynglŷn â swm y costau hynny.

RHAN 4Canllawiau a chyhoeddi camau gorfodi

Canllawiau ynghylch defnyddio sancsiynau sifil

23.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau ynghylch y modd mae'n defnyddio sancsiynau sifil.

(2Rhaid i'r canllawiau gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag—

(a)yr amgylchiadau y mae'n debygol y gosodir sancsiwn sifil o danynt;

(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei gosod o danynt;

(c)mewn perthynas â chosb ariannol benodedig—

(i)swm y gosb; a

(ii)sut y gall y rhwymedigaeth am y gosb gael ei chyflawni ac effaith ei chyflawni;

(ch)yn achos cosb ariannol newidiol, y materion sy'n debyg o gael eu cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu ar swm y gosb (gan gynnwys pan fo'n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am ddiffyg cydymffurfio);

(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau; ac

(dd)hawliau i apelio.

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddiwygio'r canllawiau pan fo'n briodol.

(4Rhaid i'r awdurdod gorfodi ymgynghori â pha bynnag bersonau yr ystyria'n briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.

(5Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.

Canllawiau ynghylch y gofyniad i dalu costau

24.  Rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau ynglŷn â'r modd y bydd yn arfer y pŵer a roddir gan erthygl 21.

Cyhoeddi camau gorfodi

25.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi, o bryd i'w gilydd, gyhoeddi adroddiadau sy'n nodi—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt (ond nid yw hyn yn cynnwys achosion pan osodwyd sancsiwn a wrth-drowyd wedyn mewn apêl);

(b)os cosb ariannol benodedig oedd y sancsiwn sifil, yr achosion pan gyflawnwyd y rhwymedigaeth am y gosb yn unol ag erthygl 6; ac

(c)os cosb ariannol newidiol oedd y sancsiwn sifil, yr achosion pan dderbyniwyd ymrwymiad y cyfeirir ato yn erthygl 16.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn achosion pan fo'r awdurdod trwyddedu o'r farn y byddai'n amhriodol nodi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw.

RHAN 5Darpariaethau cyffredinol

Adennill taliadau

26.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi adennill unrhyw sancsiwn sifil a osodir o dan y Gorchymyn hwn, ac unrhyw gosb ariannol am dalu'n hwyr sy'n daladwy o dan erthygl 10, fel dyled sifil.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi adennill unrhyw sancsiwn sifil a osodir o dan y Gorchymyn hwn, ac unrhyw gosb ariannol am dalu'n hwyr sy'n daladwy o dan erthygl 10, ar orchymyn gan lys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.

Talu rhai taliadau cyflawni rhwymedigaeth i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru

27.  Pan fo'r awdurdod gorfodi yn cael unrhyw daliad o dan erthygl 6, rhaid i'r awdurdod ei dalu i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru(8).

Apelau — darpariaethau pellach

28.—(1Gwneir unrhyw apêl o dan y Gorchymyn hwn i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf(9).

(2Mewn unrhyw apêl, mae'r baich prawf ar yr awdurdod gorfodi, ac—

(a)os yw'r cwestiwn pa un a gyflawnwyd tramgwydd i'w benderfynu yn yr apêl, rhaid i'r awdurdod gorfodi brofi, y tu hwnt i amheuaeth resymol, y cyflawnwyd y tramgwydd;

(b)mewn perthynas ag unrhyw fater arall sydd i'w benderfynu yn yr apêl, y Tribiwnlys Haen Gyntaf sydd i benderfynu'r safon o brawf.

(3Atelir hysbysiad sy'n destun apêl, ac unrhyw ofyniad mewn hysbysiad o'r fath hyd nes penderfynir yr apêl honno.

(4Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)tynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;

(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(c)amrywio'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r awdurdod gorfodi eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gofyniad neu'r hysbysiad;

(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at yr awdurdod gorfodi.

Cyflwyno hysbysiadau

29.—(1Ceir cyflwyno neu roi unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol, neu'r awdurdodir, ei gyflwyno neu'i roi i berson o dan y Gorchymyn hwn drwy unrhyw un o'r dulliau canlynol—

(a)ei danfon yn bersonol;

(b)ei gyfeirio i'r person a'i adael yn y cyfeiriad priodol;

(c)ei gyfeirio i'r person a'i anfon i'r cyfeiriad hwnnw drwy'r post;

(ch)mewn achos pan fo cyfeiriad ar gyfer cyflwyno drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig wedi ei roi gan y person, ei anfon gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, yn unol â'r amod a bennir ym mharagraff (4), at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfeiriad priodol” yw—

(a)yn achos corff corfforedig, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa;

(b)yn achos ffyrm, prif swyddfa'r bartneriaeth;

(c)yn achos corff neu gymdeithas anghorfforedig, prif swyddfa'r corff neu gymdeithas;

(ch)mewn unrhyw achos arall preswylfa arferol y person neu'i breswylfa ddiwethaf sy'n hysbys, neu'i fan busnes diwethaf sy'n hysbys.

(3Yn achos—

(a)cwmni a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig,

(b)ffyrm sy'n cynnal busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu

(c)corff neu gymdeithas anghorfforedig sydd â'i swyddfeydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig,

mae'r cyfeiriadau ym mharagraff (2) at brif swyddfa yn cynnwys cyfeiriadau at brif swyddfa'r cwmni o fewn y Deyrnas Unedig (os oes un).

(4Yr amod a grybwyllir ym mharagraff (1)(d) yw fod rhaid i'r hysbysiad fod—

(a)yn un y gall y person a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno gael mynediad iddo,

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, a

(c)mewn ffurf sy'n ddigon parhaol i'w ddefnyddio i gyfeirio ato yn ddiweddarach.

(5At ddibenion paragraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw i'r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai'r wybodaeth wedi ei chyflwyno neu'i rhoi drwy gyfrwng hysbysiad printiedig.

Diwygio neu dynnu'n ôl hysbysiadau terfynol i ddadwneud neu leihau cosb neu gywiro gwallau

30.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi, ar unrhyw adeg ar ôl rhoi hysbysiad terfynol—

(a)penderfynu y dylid dadwneud cosb a osodwyd gan yr hysbysiad; neu

(b)yn achos cosb ariannol newidiol, penderfynu lleihau swm y gosb.

(2Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu o dan baragraff (1)(a) y dylid dadwneud cosb—

(a)rhaid iddo roi hysbysiad i'r person y gosodwyd y gosb arno, i'r perwyl bod yr hysbysiad terfynol wedi ei dynnu'n ôl a'r gosb wedi ei dadwneud; neu

(b)os yw'r hysbysiad terfynol hefyd yn gosod sancsiwn sifil nad yw'r penderfyniad o dan y paragraff hwnnw'n berthynol iddo, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad terfynol diwygiedig sy'n dadwneud y gosb y mae'r penderfyniad o dan y paragraff hwnnw'n berthynol iddi.

(3Pan fo'r awdurdod gorfodi, o dan baragraff (1)(b), yn penderfynu lleihau swm cosb, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad terfynol diwygiedig i gywiro gwall yn yr hysbysiad a ddyroddwyd o dan erthygl 8(3) neu 17(4).

(4Caiff yr awdurdod gorfodi, ar unrhyw adeg gyflwyno hysbysiad terfynol diwygiedig i gywiro gwall yn yr hysbysiad a ddyroddwyd o dan erthygl 8(3) neu 17(4).

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, fel awdurdod gorfodi o dan adran 114(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“y Ddeddf”), i osod cosbau ariannol penodedig a chosbau ariannol newidiol mewn perthynas â rhai tramgwyddau o dan y Ddeddf.

Mae Rhan 1 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau (gweler adran 115(1) o'r Ddeddf am ddiffiniadau perthnasol eraill).

Mae Rhan 2 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chosbau ariannol penodedig. Yn erthygl 4 rhoddir pŵer i'r awdurdod gorfodi i osod cosb o'r fath mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 85(1) o'r Ddeddf (torri gofyniad i gael, neu dorri amodau, trwydded). Mae erthygl 5 yn ymdrin â hysbysiadau o fwriad ac erthygl 6 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau i gyflawni rhwymedigaeth ar ôl i hysbysiad o'r fath gael ei gyflwyno. Mae erthyglau 7 ac 8 yn ymdrin â gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau a rhoi hysbysiadau terfynol sy'n gosod cosbau. Mae erthyglau 9 a 10 yn darparu ar gyfer disgownt am dalu'n gynnar, dyddiadau talu a chosbau am dalu'n hwyr. Mae erthygl 11 yn cynnwys darpariaethau sy'n cyfyngu ar gyfuno cosb ariannol benodedig gyda sancsiynau eraill sydd ar gael o dan y Ddeddf, ac y mae erthygl 12 yn pennu hawliau apelio.

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chosbau ariannol newidiol. Mae erthygl 13 yn rhoi pŵer i awdurdod gorfodi osod cosb ariannol newidiol mewn perthynas â thramgwyddau o dan adrannau 85(1) (torri gofyniad i gael, neu dorri amodau, trwydded), 89(1) (gwybodaeth) a 92(3)(b) (methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer) o'r Ddeddf. Mae erthygl 14 yn ymdrin â hysbysiadau o fwriad, erthygl 15 yn ymdrin â gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, ac erthygl 16 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chynnig a derbyn ymrwymiadau. Gwneir darpariaethau ar gyfer rhoi hysbysiadau terfynol sy'n gosod cosbau (erthygl 17), pennu dyddiadau talu (erthygl 18) a chyfyngu ar gyfuno cosb ariannol newidiol gyda sancsiynau eraill (erthygl 19). Mae erthygl 20 yn pennu hawliau apelio yn erbyn gosod cosb ariannol newidiol. Mae erthygl 21 yn rhoi hawl i'r awdurdod gorfodi wneud yn ofynnol bod person y gosodwyd cosb ariannol newidiol arno yn talu'r costau a achosir felly i'r awdurdod gorfodi, ac y mae erthygl 22 yn rhoi hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i osod costau.

Yn Rhan 4, pennir gofynion mewn perthynas â chyhoeddi canllawiau (erthyglau 23 a 24) a chamau gorfodi (erthygl 25). Mae paragraff 10 o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn pennu gofynion cyhoeddi pellach ar gyfer canllawiau ar orfodi, mewn perthynas â thramgwyddau y gellir gosod sancsiynau sifil am eu cyflawni. Mae copïau o'r canllawiau y cyfeirir atynt ar gael o Uned Caniatadau Morol Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y cyfeiriad isod.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol. Mae erthyglau 26 a 27 yn ymdrin ag adennill taliadau a thalu rhai symiau arian i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru. Mae erthygl 28 yn cynnwys darpariaethau pellach ynglŷn ag apelau (gwneir pob apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf). Mae erthygl 29 yn cynnwys darpariaethau ynghylch cyflwyno hysbysiadau, ac erthygl 30 yn cynnwys darpariaethau ynghylch tynnu'n ôl neu ddiwygio hysbysiadau terfynol neu leihau'r swm taladwy.

Mae asesiad llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(2)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adrannau 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.

(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardaloedd y mae Gweinidogion Cymru yn Awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer. at ddibenion y Gorchymyn hwn (gweler adran 114(2) o'r Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

(4)

Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffinad o'r termau hyn.

(5)

Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer y diffiniad o'r term hwn.

(6)

Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffinad o'r termau hyn.

(7)

Gweler erthygl 28 am ddarpariaethau pellach ynglŷn ag apelau.

(8)

Sefydlwyd o dan adran 117 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Gweler hefyd baragraff 12(2)(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), sy'n gwneud yn ofynnol bod unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol neu gosb ariannol arall am dalu'n hwyr, sy'n daladwy o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

(9)

Neilltuir apelau i Siambr Reoleiddio Gyffredinol Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn rhinwedd erthygl 5B(a) o Orchymyn Tribiwnlys yr Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau) 2010 (O.S 2010/2655). Pennir y rheolau trefniadol mewn perthynas ag apelau o'r fath yn Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources