- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
53.—(1) Hyd nes bo digwyddiad cyfamserol yn digwydd, ni fydd rheoliad 27 yn gymwys i berson cofrestredig mewn cysylltiad ag ysbyty annibynnol nac i geisydd am gofrestriad fel rheolwr, os caniatawyd cofrestriad y darparwr cofrestredig cyn 5 Ebrill 2011.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cyfamserol” (“intervening event”) yw—
(a)cais a ddaw i law'r awdurdod cofrestru o dan adran 12 o'r Ddeddf oddi wrth ddarparwr newydd yr ysbyty annibynnol; neu
(b)cais a ddaw i law'r awdurdod cofrestru o dan adran 15(1)(a) o'r Ddeddf oddi wrth berson cofrestredig, pan fyddai effaith caniatáu'r cais fel a bennir ym mharagraff (3).
(3) Bydd cynnydd yn nifer y lleoedd cymeradwy y gall person cofrestredig eu darparu i gleifion sydd ag anabledd dysgu a ddiagnoswyd.
(4) Yn achos digwyddiad cyfamserol o dan baragraff (2)(b), ni fydd rheoliad 52 yn gymwys i reoliad 27 hyd nes mae'r cais yn cael ei benderfynu'n derfynol neu y'i tynnir yn ôl.
(5) At ddibenion paragraff (4) ystyr “cael ei benderfynu'n derfynol” (“finally disposed of”) yw caniatáu'r cais o dan adran 15(4) neu, os gwrthodir y cais, y dyddiad ymhen 28 diwrnod ar ôl gwrthod y cais, ac os gwneir apêl, y dyddiad y penderfynir yr apêl yn derfynol neu y rhoddir y gorau iddi.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys i bersonau a gofrestrwyd mewn perthynas â sefydliad cyn 5 Ebrill 2011, pan fo—
(a)rheoliad 3 yn gymwys mewn modd sy'n peri nad yw'r ysbyty annibynnol bellach yn ysbyty annibynnol; a
(b)rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw.
(7) Caiff personau y mae paragraff (6) yn gymwys iddynt—
(a)parhau i redeg neu reoli'r sefydliad heb fod wedi eu cofrestru o dan y Ddeddf—
(i)yn ystod cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar 5 Ebrill 2011; a
(ii)os gwneir cais am gofrestriad o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes mae'r cais yn cael ei benderfynu'n derfynol neu y'i tynnir yn ôl;
(b)eu heithrio rhag talu ffi cofrestru o dan reoliad 3 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2011(1).
(8) At ddibenion paragraff (7)(a)(ii) ystyr “cael ei benderfynu'n derfynol” (“finally disposed of”) yw'r dyddiad ymhen 28 diwrnod ar ôl caniatáu neu wrthod y cofrestriad ac os gwneir apêl, y dyddiad y penderfynir yr apêl yn derfynol neu y rhoddir y gorau iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: