- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
8 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2011
Yn dod i rym
31 Mawrth 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus;
mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yr ystyr a roddir yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(3);
ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Weinidogion Cymru;
ystyr “cwrs addysg uwch” (“course of higher education”) yw cwrs sy'n dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4);
mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf;
ystyr “cwrs blaenorol” (“preceding course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2011 neu gwrs ar gyfer gradd sylfaen neu gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae person (a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn rhoi'r gorau i'w fynychu yn union cyn dechrau mynychu cwrs penben;
mae i “cwrs penben” (“end-on course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011;
ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2011 yn gymwys iddo ac sy'n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;
ystyr “cymhwyster cyfwerth neu is” (“equivalent or lower qualification”) yw cymhwyster a benderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfwerth neu is;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004; ac
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011(5).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfwerth neu is—
(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; a
(b)os yw'r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ar lefel academaidd sy'n gyfwerth i gymhwyster neu'n uwch na chymhwyster y mae'r cwrs cyfredol yn arwain ato.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Dyma yw cwrs cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 28 o'r Ddeddf:
(a)cwrs addysg uwch;
(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cwrs wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6) ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn ystod cyfnod y grant; ac
(c)a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr y cyfeiriad at sefydliad yng Nghymru yw sefydliad y mae ei weithgareddau'n cael eu cyflawni yng Nghymru.
(3) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os nad oedd y sefydliad sy'n darparu'r cwrs yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ar yr adeg pan gafodd y person cymhwysol gynnig lle ar y cwrs hwnnw.
(4) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012.
(5) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol—
(a)os yw'n gwrs penben; a
(b)os nad oedd y cwrs blaenorol yn gwrs cymhwysol oherwydd paragraff (4).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Person sy'n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn ystod y cyfnod grant yw person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 28 o'r Ddeddf ac eithrio—
(a)person nad oes ganddo hawl i gymorth o dan Reoliadau 2011 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (ch), (d) neu (dd) o'r Rheoliadau hynny; neu
(b)person a grybwyllir ym mharagraff (2), (3), (6) neu (7).
(2) Yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (4), (5), (6) a (7), nid yw person yn berson cymhwysol—
(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch; a
(b)os yw'r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster sy'n gymhwyster cyfwerth neu is.
(3) Nid yw person yn berson cymhwysol—
(a)os yw'r person yn rhoi'r gorau i gwrs (“y cwrs cyntaf”) nad yw'n gwrs cymhwysol;
(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, os yw'r person yn mynychu ar unwaith gwrs arall sy'n gwrs cymhwysol; ac
(c)os nad oedd y cwrs cyntaf yn gwrs cymhwysol oherwydd rheoliad 3(4).
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os yw'r cwrs cymhwysol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(b)os nad yw hyd y cwrs yn fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan—amser fel hyd y cwrs llawnamser cyfatebol); ac
(c)os nad yw'r person cymhwysol yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ran o gwrs sengl—
(a)os yw'r cwrs sengl yn arwain at radd anrhydedd yn cael ei rhoi i'r person cymhwysol gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig cyn y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol; a
(b)os yw'r unig radd anrhydedd sydd gan y person cymhwysol wedi ei derbyn fel rhan o'r cwrs sengl hwnnw.
(6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r cwrs cymhwysol yn radd sylfaen.
(7) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.
(8) Os yw person, o ganlyniad i ddigwyddiad yn ystod blwyddyn academaidd, yn dod o fewn yr Atodlen yn ystod blwyddyn academaidd, nid yw'r person hwnnw'n berson cymhwysol mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi neu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2011
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—LL+C
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—
mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol ffin yr AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw—
priod neu bartner sifil y person hwnnw;
disgynyddion uniongyrchol y person neu briod neu bartner sifil y person—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion y person neu briod neu bartner sifil y person; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
priod neu bartner sifil y person; neu
plentyn y person neu blentyn i briod neu bartner sifil y person;
o ran gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn;
mewn perthynas â gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—
priod neu bartner sifil y gwladolyn;
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;
o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(7);
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser;
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(8) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(9) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(10);
ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—
sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—
sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a
sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;
ystyr “gwladolyn o'r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd;
ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Atodlen 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—
sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE(11) ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n weithiwr hunangyflogedig, ac eithrio gweithiwr hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person” (“P”)—
a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur;
a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu fod y cyfnod wedi cael ei adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu o ran y caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros bod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(12); ac
sydd wedi bob yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd P ganiatâd i ddod i mewn neu i aros;
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(13);
ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd; ac
ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn y diffiniad hwn) i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor pe byddai P wedi bod yn preswylio felly oni bai—
(a)bod P;
(b)bod priod neu bartner sifil P;
(c)bod rhiant P; neu
(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b)sydd ar unrhyw adeg cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym neu wedi hynny wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn neu o'r ddwy ohonynt,
i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, am ei fod wedi symud o un o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
(a)y cwrs presennol; neu
(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn y lle y mae'r person wedi symud ohono.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 1 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), person na fu ei breswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 2 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs;
(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 3 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Person—
(a)sy'n ffoadur;
(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y person ei gydnabod fel ffoadur; ac
(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;
(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sydd yn blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b)a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 4 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros; a
(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad pan wnaeth y person hwnnw gais am loches; ac
(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sydd yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros gais am loches; ac
(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 5 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
6.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn weithiwr mudol AEE neu yn berson hunangyflogedig AEE;
(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;
(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o'r is-baragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 6 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Person—
(a)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(14), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. para. 7 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;
(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi arfer hawl i breswylio:
(a)pan fo A yn wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol, bod A wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu
(b)pan fo A wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac mae ganddo hawl i breswylio'n barhaol, bod A yn mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae A yn wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae A yn aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. para. 8 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn wladolyn o'r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs; neu
(ii)yn aelod o deulu'r cyfryw berson;
(b)sy'n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs; ac
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel un sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn unol â pharagraff 1(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. para. 9 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Person—
(a)sy'n wladolyn o'r UE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor yn union cyn cyfnod y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r UE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. para. 10 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
11. Person—
(a)sy'n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 11 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
12. Person—
(a)sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(b)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor drwy'r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. para. 12 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cyrsiau cymhwysol a'r personau cymhwysol at ddibenion adran 28 o Deddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”).
Mae adran 27 o Ddeddf 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amod ar grantiau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“y Cyngor”), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor osod amod o dan adran 28 o Ddeddf 2004 ar gymorth ariannol a roddir i gyrff llywodraethu sefydliadau perthnasol. Ceir amod o dan adran 28 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad perthnasol i sicrhau nad yw'r ffioedd sy'n daladwy o ran unrhyw gwrs cymhwysol gan berson cymhwysol yn uwch na symiau'r ffi sylfaenol neu uwch sy'n gymwys i'r cwrs hwnnw. Rhagnodir symiau ffi sylfaenol ac uwch gan Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011.
Y cyrsiau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 3 yw'r cyrsiau hynny a ddynodir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a ddarperir gan sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru pan fo blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae eithriad ar gyfer “cyrsiau penben” os oedd y cwrs gwreiddiol wedi dechrau cyn 1 Medi 2012.
Y personau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 4 yw'r personau hynny sydd, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd berthnasol, yn dod o fewn i'r Atodlen, ac eithrio'r personau hynny nad oes ganddynt hawl i gymorth o dan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/148 (Cy.32)) oherwydd paragraffau penodol yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hynny, neu'r personau y mae ganddynt eisoes radd anrhydedd o unrhyw sefydliad yn y DU. Mae eithriad i'r myfyrwyr hynny sy'n trosglwyddo i gwrs cymhwysol o gwrs a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012. Mae eithriadau mewn perthynas â gradd anrhydedd flaenorol ar gyfer personau sy'n ymgymryd â chyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd wedi ennill y radd anrhydedd yn unig fel rhan o gwrs sengl y maent yn ymgymryd ag ef yn gyfredol neu pan fo'r cwrs yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2004 p.8. Mae diwygiadau i adran 28 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
1998 p.30. Diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.
Cm. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t.6.
Cmnd. 9171.
Cmnd. 3906, (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).
Diffinir “EEA State” yn Neddf Dehongli 1978 (p.30).
2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4; gan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), a chan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo 2010 (O.S. 2010/21), Atodlen 1.
1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).
OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: