Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 691 (Cy.103)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011

Gwnaed

8 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfwerth neu is—

(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; a

(b)os yw'r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ar lefel academaidd sy'n gyfwerth i gymhwyster neu'n uwch na chymhwyster y mae'r cwrs cyfredol yn arwain ato.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Disgrifiad rhagnodedig o gwrs cymhwysolLL+C

3.—(1Dyma yw cwrs cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 28 o'r Ddeddf:

(a)cwrs addysg uwch;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cwrs wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6) ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn ystod cyfnod y grant; ac

(c)a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru.

(2At ddibenion paragraff (1) ystyr y cyfeiriad at sefydliad yng Nghymru yw sefydliad y mae ei weithgareddau'n cael eu cyflawni yng Nghymru.

(3Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os nad oedd y sefydliad sy'n darparu'r cwrs yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ar yr adeg pan gafodd y person cymhwysol gynnig lle ar y cwrs hwnnw.

(4Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(5Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol—

(a)os yw'n gwrs penben; a

(b)os nad oedd y cwrs blaenorol yn gwrs cymhwysol oherwydd paragraff (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysolLL+C

4.—(1Person sy'n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn ystod y cyfnod grant yw person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 28 o'r Ddeddf ac eithrio—

(a)person nad oes ganddo hawl i gymorth o dan Reoliadau 2011 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (ch), (d) neu (dd) o'r Rheoliadau hynny; neu

(b)person a grybwyllir ym mharagraff (2), (3), (6) neu (7).

(2Yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (4), (5), (6) a (7), nid yw person yn berson cymhwysol—

(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch; a

(b)os yw'r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster sy'n gymhwyster cyfwerth neu is.

(3Nid yw person yn berson cymhwysol—

(a)os yw'r person yn rhoi'r gorau i gwrs (“y cwrs cyntaf”) nad yw'n gwrs cymhwysol;

(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, os yw'r person yn mynychu ar unwaith gwrs arall sy'n gwrs cymhwysol; ac

(c)os nad oedd y cwrs cyntaf yn gwrs cymhwysol oherwydd rheoliad 3(4).

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw'r cwrs cymhwysol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs yn fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan—amser fel hyd y cwrs llawnamser cyfatebol); ac

(c)os nad yw'r person cymhwysol yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(5Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ran o gwrs sengl—

(a)os yw'r cwrs sengl yn arwain at radd anrhydedd yn cael ei rhoi i'r person cymhwysol gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig cyn y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol; a

(b)os yw'r unig radd anrhydedd sydd gan y person cymhwysol wedi ei derbyn fel rhan o'r cwrs sengl hwnnw.

(6Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r cwrs cymhwysol yn radd sylfaen.

(7Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.

(8Os yw person, o ganlyniad i ddigwyddiad yn ystod blwyddyn academaidd, yn dod o fewn yr Atodlen yn ystod blwyddyn academaidd, nid yw'r person hwnnw'n berson cymhwysol mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi neu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2011

YR ATODLENLL+C

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—LL+C

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn y diffiniad hwn) i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor pe byddai P wedi bod yn preswylio felly oni bai—

(a)bod P;

(b)bod priod neu bartner sifil P;

(c)bod rhiant P; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

(4At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(5At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym neu wedi hynny wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn neu o'r ddwy ohonynt,

i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(6At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, am ei fod wedi symud o un o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

(a)y cwrs presennol; neu

(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,

i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn y lle y mae'r person wedi symud ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 1 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas UnedigLL+C

2.—(1Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), person na fu ei breswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 2 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 3 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluLL+C

4.—(1Person—

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y person ei gydnabod fel ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 4 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluLL+C

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros; a

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sydd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad pan wnaeth y person hwnnw gais am loches; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sydd yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros gais am loches; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. para. 5 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluLL+C

6.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol AEE neu yn berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o'r is-baragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 6 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Person—

(a)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(14), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 7 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arallLL+C

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi arfer hawl i breswylio:

(a)pan fo A yn wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol, bod A wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu

(b)pan fo A wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac mae ganddo hawl i breswylio'n barhaol, bod A yn mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae A yn wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae A yn aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. para. 8 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwladolion o'r UELL+C

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn o'r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu'r cyfryw berson;

(b)sy'n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel un sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn unol â pharagraff 1(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. para. 9 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

10.—(1Person—

(a)sy'n wladolyn o'r UE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor yn union cyn cyfnod y preswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r UE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. para. 10 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Plant Gwladolion SwisaiddLL+C

11.  Person—

(a)sy'n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. para. 11 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Plant gweithwyr TwrcaiddLL+C

12.  Person—

(a)sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor drwy'r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. para. 12 mewn grym ar 31.3.2011, gweler rhl. 1(1)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cyrsiau cymhwysol a'r personau cymhwysol at ddibenion adran 28 o Deddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”).

Mae adran 27 o Ddeddf 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amod ar grantiau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“y Cyngor”), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor osod amod o dan adran 28 o Ddeddf 2004 ar gymorth ariannol a roddir i gyrff llywodraethu sefydliadau perthnasol. Ceir amod o dan adran 28 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad perthnasol i sicrhau nad yw'r ffioedd sy'n daladwy o ran unrhyw gwrs cymhwysol gan berson cymhwysol yn uwch na symiau'r ffi sylfaenol neu uwch sy'n gymwys i'r cwrs hwnnw. Rhagnodir symiau ffi sylfaenol ac uwch gan Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011.

Y cyrsiau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 3 yw'r cyrsiau hynny a ddynodir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a ddarperir gan sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru pan fo blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae eithriad ar gyfer “cyrsiau penben” os oedd y cwrs gwreiddiol wedi dechrau cyn 1 Medi 2012.

Y personau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 4 yw'r personau hynny sydd, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd berthnasol, yn dod o fewn i'r Atodlen, ac eithrio'r personau hynny nad oes ganddynt hawl i gymorth o dan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/148 (Cy.32)) oherwydd paragraffau penodol yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hynny, neu'r personau y mae ganddynt eisoes radd anrhydedd o unrhyw sefydliad yn y DU. Mae eithriad i'r myfyrwyr hynny sy'n trosglwyddo i gwrs cymhwysol o gwrs a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012. Mae eithriadau mewn perthynas â gradd anrhydedd flaenorol ar gyfer personau sy'n ymgymryd â chyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd wedi ennill y radd anrhydedd yn unig fel rhan o gwrs sengl y maent yn ymgymryd ag ef yn gyfredol neu pan fo'r cwrs yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2004 p.8. Mae diwygiadau i adran 28 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(6)

1998 p.30. Diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(8)

Cm. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t.6.

(9)

Cmnd. 9171.

(10)

Cmnd. 3906, (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(11)

Diffinir “EEA State” yn Neddf Dehongli 1978 (p.30).

(12)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4; gan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), a chan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo 2010 (O.S. 2010/21), Atodlen 1.

(13)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

(14)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).